Asesiadau o amonia: asesiadau sgrinio a chasglu tystiolaeth cychwynnol

Y cam cyntaf yw casglu tystiolaeth er mwyn cynnal eich asesiad. Rydym yn cynghori eich bod yn defnyddio offeryn o'r enw SCAIL Agriculture  ar gyfer cynnal yr asesiad sgrinio cychwynnol. 

Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch er mwyn defnyddio SCAIL Agriculture, ac, os yw'n ofynnol, ar gyfer gwneud gwaith modelu manwl pellach: 

Sylwer:

  • Dylid defnyddio SCAIL Agriculture yn unig i asesu effeithiau mwy na 250 metr o’r datblygiad, ac eithrio pan fydd y math o ddatblygiad a gynigwyd yn waith storio slyri neu wrtaith heb fod yn ddwys, lle gellir defnyddio SCAIL Agriculture i asesu effeithiau dros 50 m o’r datblygiad.
  • Nid yw’r trothwy o 50 m yn berthnasol i unrhyw waith storio slyri neu wrtaith dwys sy’n gysylltiedig â magu dofednod neu foch yn ddwys (fel y diffinnir gan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016).
  • Dylid defnyddio SCAIL Agriculture yn unig o dan y dewis ‘Hybrid MET’
  • Ni ellir defnyddio SCAIL Agriculture ar gyfer cynnal asesiadau cyfunol
  • Dylid argraffu'r canlyniadau fel dogfen PDF fel tystiolaeth

Y pellterau sgrinio i'w defnyddio

Dylid defnyddio'r pellter sgrinio o 5 cilometr oni bai fod math eich datblygiad chi wedi'i restru isod. Os yw math eich datblygiad chi wedi'i restru, gofynnwn i chi ddefnyddio'r pellter sgrinio priodol. Ar gyfer datblygiadau sy'n cynnig defnyddio sgwrwyr, 5 km yw'r pellter sgrinio mwyaf sydd ei angen.

  • Ar gyfer 32,000 neu lai o ddodwyr wyau buarth lle symudir tail gyda belt cludo tail: 3 chilometr
  • Ar gyfer 140 neu lai o wartheg eidion: 3 chilometr
  • Ar gyfer 32,000 o ddodwyr wyau mewn cewyll: 10 cilometr
  • Ar gyfer 100,000 neu fwy o ddodwyr wyau buarth: 10 cilometr
  • Ar gyfer 200,000 o frwyliaid: 10 cilometr
  • Ar gyfer 400 neu fwy o wartheg godro: 10 cilometr
  • Ar gyfer 32,000 neu fwy o fathau eraill o ddofednod (nad ydynt yn ieir): 10 cilometr
  • Ar gyfer 1,500 neu fwy o foch: 10 cilometr

Ar gyfer gweithgareddau treulio anaerobig lle bo cyfaint storio'r storfa porthiant a/neu weddillion treuliad anaerobig yn 1,000 metrau ciwbig neu fwy: 10 cilometr

Yn eich asesiad, bydd angen i chi ystyried y safleoedd sensitif a geir o fewn y pellter sgrinio priodol. 

Safleoedd sensitif 

Rydym yn ystyried bod safle sensitif yn ardal sy'n cynnwys cynefin lle mae rhywogaethau na allant oddef lefelau uchel o nitrogen yn hanfodol bwysig i weithrediad y cynefin/ecosystem. Dim ond lefel benodol o amonia y gall y safleoedd sensitif ei goddef, ac adnabyddir y lefel hon fel y lefel gritigol (Cle).

Bydd gan rai o'r safleoedd mwyaf sensitif lefel gritigol o 1 µg/m3 a bydd gan safleoedd eraill lefelau critigol o 3 µg/m3. Mae pob un o'r safleoedd sensitif yr ydym am i ymgeiswyr eu hasesu i'w gweld ar haen fap y gallwch ei chyrchu isod.

Y map

Gweld ardaloedd yr ystyrir eu bod yn sensitif ar ein map data agored.

Dilynwch y ddolen, dadgliciwch ‘NRW operational assets’, dewiswch y tab ‘Air Quality’, dewiswch eich ardal chi ar y map rhyngweithiol a chwyddwch i mewn i lefel briodol. Dewiswch y rhestr haenau, dewiswch ‘designations and access’ ac yna dewiswch ‘Habitat Air Quality’ a dewiswch yr holl haenau o fewn yr adran honno. Bydd hyn yn dangos yr ardaloedd yr ydym yn poeni amdanynt, sef y rhai sy'n rhagori ar y lefel gritigol a lle ceir effaith andwyol ar gynefinoedd a rhywogaethau yr ardaloedd hynny. Dyma'r lefel gritigol briodol y dylech ei defnyddio yn eich asesiad, a bydd naill ai'n 1 µg/m3 neu 3 µg/m3.

Mae'n bosibl y caiff y fersiwn hon o'r map ei diweddaru yn y dyfodol wrth i dystiolaeth o'r angen i ddiogelu ardaloedd pellach ddod i'r amlwg. Caiff unrhyw newidiadau eu hysbysebu tri mis ymlaen llaw, a sicrheir y bydd y dystiolaeth ar gael i'w chraffu'n gyhoeddus.  Mewn rhai achosion mae ffiniau SoDdGAau ychydig yn wahanol i ffiniau'r ACAau cysylltiedig, rydym felly yn cynghori bod ymgeiswyr yn gwirio lleoliad y SACau sylfaenol ac yn cynnwys unrhyw asesiad o ardaloedd ACA nad ydynt wedi'u cwmpasu gan SoDdGAau.

Ffynonellau amonia eraill

Gall amonia o ffynonellau eraill sy’n bodoli eisoes ac amonia o'ch ffynonellau arfaethedig weithredu ar y cyd mewn safleoedd sensitif lle maen nhw’n gorgyffwrdd. Rhaid i'ch asesiad ystyried y ffynonellau amonia eraill hyn nad ydynt wedi'u cynnwys yn y lefel gefndirol.

Gallwch ddod o hyd i werthoedd cefndirol yng ngwefan y Gwasanaeth Gwybodaeth Llygredd Aer (APIS).

Mae’r crynhoad cefndirol o amonia yn cael ei roi gan y System Gwybodaeth Llygredd Aer (APIS) fel cyfartaledd dros dair blynedd. Mae ffynonellau eraill o amonia yn cynnwys safleoedd arfaethedig a safleoedd cyfredol a ddechreuodd weithredu ar ôl 31 Rhagfyr ail flwyddyn y cyfartaledd APIS tair blynedd. Ceir manylion ffynonellau eraill o amonia ar y Porth Cynllunio Lleol.

Dewch o hyd i wybodaeth am ffynonellau eraill o allyriadau amonia ar wefan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.

Rhaid adio cyfraniadau amonia o'ch cynnig, o’r cefndir cyfredol, ac o unrhyw ffynonellau eraill at ei gilydd. Caiff y cyfanswm ei asesu yn erbyn y lefel gritigol ym mhob safle cynefin yn eich asesiad.

Er enghraifft, yn ystod eich asesiad ar gyfer fferm ieir maes sy’n cynnwys 50,000 o adar rydych yn dod o hyd i ardal o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) o fewn eich pellter sgrinio 5km. Yn dilyn chwiliad o'ch Porth Cynllunio Lleol canfyddir fferm frwyliaid sy’n cynnwys 200,000 o adar nad yw wedi'i chynnwys yn y cefndir APIS. Mae pellter sgrinio 10km y ffynhonnell hon yn gorgyffwrdd â'r ardal SoDdGA sydd y tu mewn i'ch pellter sgrinio 5km. Rhaid adio effeithiau amonia eich cynnig at yr amonia o'r fferm frwyliaid a nodwyd a lefel yr amonia cefndirol yn y SoDdGA lle maent yn gorgyffwrdd.

Dewch o hyd i wybodaeth am ffynonellau eraill o allyriadau amonia ar wefan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.

Darllenwch Sut i wneud gwaith modelu manwl.

Diweddarwyd ddiwethaf