Datganiad preifatrwydd y wefan
Pa wybodaeth ydyn ni’n ei chasglu amdanoch chi?
Rydyn ni’n defnyddio cwcis er mwyn dilyn sut rydych chi’n defnyddio naturalresources.wales / cyfoethnaturiol.cymru. Mae hyn yn cynnwys:
- pa dudalennau rydych chi’n ymweld â nhw
- am ba mor hir rydych chi’n defnyddio’r safle
- sut y cyrhaeddoch chi’r safle ac ar ba ddolenni y gwnaethoch chi glicio
Nid ydyn ni’n casglu na storio eich gwybodaeth bersonol (e.e. enw a chyfeiriad) wrth i chi bori. Mae hyn yn golygu na allwn ni chi eich adnabod chi’n bersonol.
- Defnyddio cyfrifon ein cwsmeriaid
- Cludyddion a broceriaid gwastraff
- Y gofrestr gyhoeddus
Rhagor am cwcis a sut i’w rheoli.
Sut fydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio?
Rydyn ni’n defnyddio meddalwedd Google Analytics i fesur sut rydych chi’n defnyddio’r wefan er mwyn ei diweddaru a’i gwella’n seiliedig ar eich anghenion.
Nid ydyn ni’n gadael i Google rannu’r data hwn ag unrhyw un arall.
Datgelu eich gwybodaeth
Efallai y byddwn ni’n pasio eich gwybodaeth bersonol ymlaen os oes rheidrwydd cyfreithlon arnon ni i wneud hynny, neu os oes raid inni orfodi neu gymhwyso ein telerau defnyddio a chytundebau eraill. Mae hyn yn cynnwys cyfnewid gwybodaeth ag adrannau eraill y llywodraeth am resymau cyfreithiol.
Ni fyddwn ni’n rhannu eich gwybodaeth ag unrhyw sefydliadau eraill er dibenion marchnata, masnachol neu ymchwil y farchnad, ac nid ydyn ni’n pasio eich manylion ymlaen at wefannau eraill.
Cadw eich gwybodaeth yn ddiogel
Fel arfer byddwch chi’n gweld neges ar y safle cyn inni storio cwci ar eich cyfrifiadur.
Pwy sy’n gweld yr wybodaeth hon?
Gall pobl awdurdodedig yn Cyfoeth Naturiol Cymru a’i gyflenwyr weld y data er mwyn:
- gwella’r safle drwy fonitro sut rydych chi’n ei ddefnyddio
- casglu adborth er mwyn gwella ein gwasanaethau
- ymateb i adborth rydych chi’n ei anfon aton ni, os ydych chi wedi gofyn inni wneud hynny
Eich hawliau
Gallwch chi ddarganfod pa wybodaeth sydd gennyn ni amdanoch chi a gofyn inni beidio â defnyddio unrhyw wybodaeth rydyn ni’n ei chasglu.
Dolenni at wefannau eraill
Mae dolenni at wefannau eraill ar gael ar cyfoethnaturiol.cymru.
Dim ond i cyfoethnaturiol.cymru mae’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol, ac nid yw’n cynnwys y gwasanaethau y mae gennyn ni ddolenni atyn nhw.
Dilyn dolen at wefan arall
Os ydych chi’n mynd at wefan arall o hon, darllenwch y polisi preifatrwydd ar y wefan honno er mwyn darganfod beth mae’n ei wneud â’ch gwybodaeth.
Dilyn dolen at cyfoethnaturiol.cymru o wefan arall
Os ydych chi’n dod i cyfoethnaturiol.cymru o wefan arall, efallai y byddwn ni’n derbyn gwybodaeth gan y wefan arall. Nid ydyn ni’n defnyddio’r data hwn. Dylech chi ddarllen polisi preifatrwydd y wefan y daethoch chi ohoni er mwyn darganfod rhagor am hyn.
Manylion cysylltu’r Rheolwr Data a phwy yw ef/hi
Cyfoeth Naturiol Cymru Swyddog (CNC) yw’r Rheolwr Data ac mae wedi ymrwymo i ddiogelu hawliau’r unigolyn yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol Diogelu Data.
Manylion cysylltu’r Swyddog Diogelu Data
Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru Swyddog Diogelu Data a gellir cysylltu ag ef/hi ar dataprotection@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu 0300 065 3000