Hysbysiad preifatrwydd Gwasanaeth Gwybodaeth Rhybuddion Llifogydd Cymru

Rheolydd Data

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw Rheolydd Data Gwasanaeth Gwybodaeth Rhybuddion Llifogydd Cymru ac mae wedi ymrwymo i ddiogelu hawliau unigolion yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

Swyddog Diogelu Data

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru Swyddog Diogelu Data y gellir cysylltu ag ef drwy e-bostio dataprotection@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu ffonio 0300 065 3000

Gwybodaeth yr ydym yn ei chasglu amdanoch chi

Mae’r datganiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion darparu ein gwasanaeth gwybodaeth rhybuddion llifogydd, gan gynnwys Floodline.

Er mwyn anfon rhybuddion llifogydd at ein cwsmeriaid a darparu’r gwasanaeth Floodline, rydym yn casglu’r wybodaeth ganlynol neu rywfaint o’r wybodaeth:

  • Enw
  • Cyfeiriad ar gyfer gohebiaeth (post ac e-bost)
  • Cyfeiriad yr eiddo sydd mewn perygl o lifogydd
  • Enw eich busnes / sefydliad a theitl eich swydd
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Cyfrinair
  • Dewisiadau Cymraeg neu Saesneg
  • Hanes llifogydd

Rydym yn cael caniatâd i gasglu a phrosesu'r wybodaeth hon pan fydd cwsmeriaid yn cofrestru i'r gwasanaeth gwybodaeth rhybuddion llifogydd. Cawsom ganiatâd i gasglu a phrosesu'r wybodaeth hon pan gofrestrodd cwsmeriaid ar gyfer y gwasanaeth rhybuddion llifogydd blaenorol.

Gall cwsmeriaid ganslo eu cofrestriad ar unrhyw adeg, ac ar ôl hynny byddwn yn storio gwybodaeth bersonol yn ddiogel am chwe blynedd.

Mae'n bwysig ein bod yn cadw'r wybodaeth hon am chwe blynedd ar ôl canslo oherwydd mae hyn yn caniatáu i ni gynnal dadansoddiad ar ôl digwyddiad sydd, yn ei dro, yn ein galluogi i wella ein gwasanaeth.

Gallwch ofyn i'ch gwybodaeth bersonol gael ei thynnu'n gyfan gwbl o'r system.

Cwcis a dadansoddeg

Darllenwch ein hysbysiad cwcis i ddarganfod sut rydym yn defnyddio cwcis.

Sut bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio

Gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol i wneud y canlynol:

  • anfon negeseuon rhybudd llifogydd atoch sy'n eich galluogi i weithredu i leihau effaith llifogydd arnoch chi'ch hun, y bobl yn eich gofal ac ar eich eiddo
  • cysylltu â chi gyda nifer fach o gyhoeddiadau gwasanaeth neu negeseuon gweinyddol am ein gwasanaeth
  • helpu gyda’n gwaith ar rybuddio llifogydd a rheoli perygl llifogydd
  • ymateb i gwynion/ymholiadau
  • mae’n bosibl y caiff rhywfaint o’ch data ei rannu â’r gwasanaethau brys ac awdurdodau lleol i’w helpu i ymateb i lifogydd

Efallai y byddwn yn rhoi eich gwybodaeth i'n hasiantau neu gynrychiolwyr (Floodline), fel y gallant wneud unrhyw un o'r pethau hyn ar ein rhan.

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol

Mae’n ofynnol i Cyfoeth Naturiol Cymru ddarparu’r gwasanaeth rhybuddion llifogydd o dan Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991. Mae hyn yn gofyn am gasglu eich data fel y gallwn anfon rhybuddion llifogydd atoch.

Mae Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i Cyfoeth Naturiol Cymru:

  • rannu gwybodaeth ag ymatebwyr lleol eraill i wella cydgysylltu
  • cydweithredu ag ymatebwyr lleol eraill i wella cydgysylltedd ac effeithlonrwydd.

Pwy sy'n derbyn eich gwybodaeth?

Bydd gan weithredwyr galwadau sy'n darparu ein gwasanaeth Floodline hefyd fynediad at eich gwybodaeth fel y gallant eich cynorthwyo os oes angen.

Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu gwybodaeth bersonol ag ymatebwyr Categori 1 (fel y’i diffinnir yn Neddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004) os bydd perygl i fywyd llifogydd.

Am faint y bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw

Os caiff eich cofrestriad rhybudd llifogydd ei ganslo am unrhyw reswm, caiff eich data ei storio am chwe blynedd i roi cyfle i ni ddadansoddi ar ôl llifogydd.

Eich hawliau unigol

Mae gennych hawl i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol, i wrthwynebu ein bod yn prosesu eich gwybodaeth bersonol, i gywiro, i ddileu, i gyfyngu ac i gludo eich gwybodaeth bersonol. Ewch i'n tudalennau gwe Diogelu Data am ragor o wybodaeth mewn perthynas â'ch hawliau.

Dylid gwneud unrhyw geisiadau neu wrthwynebiadau yn ysgrifenedig at Swyddog Diogelu Data CNC:

E-bost – dataprotection@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Swyddog Diogelu Data
Cyfoeth Naturiol Cymru
Maes y Ffynnon
Ffordd Penrhos
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW

Diogelwch eich gwybodaeth

Bydd eich data yn cael ei storio mewn systemau cyfrifiadurol diogel a weithredir gan adran TGCh CNC mewn canolfannau data yn rhanbarth Gorllewin Ewrop (Dulyn) a rhanbarth Gogledd Ewrop (Amsterdam) ar ein rhan.

Ni chaiff unrhyw ddata ei drosglwyddo y tu allan i’r UE. Mae mynediad i’r systemau hyn yn cael ei reoli’n ofalus a’i gyfyngu i weithwyr CNC hyfforddedig ac asiantau Floodline yn unig.

Sut i wneud cwyn

Os ydych yn anhapus â'r ffordd y mae eich data personol wedi'i brosesu, gallwch, yn y lle cyntaf, gysylltu â Swyddog Diogelu Data CNC gan ddefnyddio'r manylion cyswllt uchod.

Os ydych yn parhau i fod yn anfodlon, mae gennych yr hawl i wneud cais yn uniongyrchol i'r Comisiynydd Gwybodaeth am benderfyniad. Gellir cysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn: 

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth,
Wycliffe House,
Water Lane
Wilmslow,
Cheshire,
SK9 5AF

www.ico.org.uk

Newidiadau i'r polisi hwn

Efallai y byddwn yn newid yr hysbysiad preifatrwydd hwn. Yn yr achos hwnnw, bydd y dyddiad 'diweddaru' ar waelod y dudalen hon hefyd yn newid. Bydd unrhyw newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i chi a'ch data ar unwaith.

Rydym yn eich annog i adolygu’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rheolaidd i ddarganfod sut rydym yn diogelu eich data.

 

Diweddarwyd ddiwethaf