Egwyddor cynnwys
Mae hyn yn rhan o'r llawlyfr cynnwys a chyhoeddi
Bydd ein pum egwyddor cynnwys yn ein tywys wrth gynllunio, cynhyrchu, cyflwyno a llywodraethu cynnwys.
Rhaid i'r cynnwys fod â phwrpas clir
Rhaid i'r cynnwys fodoli am reswm, fel diwallu angen defnyddiwr a/neu nod busnes.
Byddwn yn pasio pob cais am gynnwys drwy'r cynnig.
Rhaid i'r cynnwys ddechrau gyda'r defnyddiwr
Byddwn yn creu cynnwys sy'n diwallu anghenion defnyddwyr fel y gall pobl sy'n dod i'n gwefan wneud yr hyn maen nhw eisiau ei wneud, a hynny’n gyflym ac yn gyfleus.
Mae hyn yn golygu y byddwn yn dechrau trwy ddarganfod:
- pwy yw'r defnyddiwr
- yr hyn y mae angen i'r defnyddiwr ei wybod
Mae cynnwys yn cael ei lywio gan ddata
Bydd anghenion defnyddwyr yn cael eu hategu â data.
Byddwn yn:
- adolygu'r dystiolaeth bresennol (er enghraifft, dadansoddeg, logiau chwilio, data hybiau cwsmeriaid, adroddiadau ymchwil blaenorol ac ati)
- cyfweld ac arsylwi defnyddwyr gwirioneddol neu debygol
- siarad â phobl y tu mewn a'r tu allan i'n sefydliad sy'n gweithio gyda defnyddwyr gwirioneddol neu debygol
Ry’n ni’n ysgrifennu i bawb
Gallai ein cynulleidfa fod yn unrhyw un sy'n byw neu'n gweithio yng Nghymru, neu'n bobl sydd eisiau ymweld.
Mae gan ein defnyddwyr wahanol alluoedd darllen ac anghenion mynediad. Maent yn defnyddio gwahanol ddyfeisiau i ddod o hyd i wybodaeth ar ein gwefan.
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid inni ysgrifennu cynnwys mewn ffordd y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei ddeall, a bod yn rhaid i’r cynnwys hwnnw weithio ym mha fodd bynnag y mae pobl am gael mynediad ato.
Byddwn yn:
Rydym yn profi, ailadrodd a dysgu
Rhaid monitro cynnwys i wybod a yw'n dal i ddatrys y broblem i ddefnyddwyr.
Byddwn yn:
- profi defnyddioldeb gyda defnyddwyr i weld beth sy'n gweithio a pha welliannau sydd angen eu gwneud
- defnyddio dadansoddeg amser real i ddangos sut mae defnyddwyr yn rhyngweithio â'r cynnwys