Blog: Nodiadau’r wythnos - sut dechreuon ni a pham ein bod ni’n eu gwneud nhw…
Mae nodiadau’r wythnos wedi dod yn adnodd defnyddiol ar gyfer ysgrifennu blogiau ac yn archif ardderchog o bopeth mae ein tîm wedi’i gyflawni dros y 2 flynedd ddiwethaf. Yn y blogbost hwn, mae Sophie a Heledd yn ystyried sut dechreuon ni a pham ein bod ni’n eu hysgrifennu.
Gwerth darllen pethau gan dimau eraill fel ni
Rydyn ni wedi elwa ar weld eraill yn gweithio’n agored dros y blynyddoedd. Mae wedi’n hysbrydoli ac wedi’n helpu i lunio beth rydyn ni’n wneud a sut rydyn ni’n ei wneud, ac wedi gwneud i ni deimlo’n rhan o gymuned ehangach.
Fel tîm, roedden ni’n gwybod ers tro bod “gweithio’n agored” yn rhywbeth y dylen ni ei wneud, ac fe ddechreuon ni sawl ymdrech cyn dod i rythm o’r diwedd!
Dosbarth meistr ar weithio’n agored
Yn ôl yn 2021, mynychodd ein tîm weithdy ar ‘weithio’n agored’, dan arweiniad Giles Turnbull, fel rhan o labordy Dysgu trwy Wneud CDPS.
Fe ysgogodd ni i fod yn agored am y gwasanaethau rydyn ni’n eu datblygu a’r technegau rydyn ni’n eu defnyddio i wneud hynny.
Mae i’r cysyniad syml hwn effaith bwerus. Fe aethon ni ati i ddatblygu gwasanaethau ar gyfer ein defnyddwyr, gan weithio’n agored.
Sut aethon ni ati…
Wedi’n hysgogi gan safonau gwasanaeth a beth wnaethon ni ei ddysgu gan eraill, fe ddechreuon ni ychwanegu ein llais ein hunain at ofod gwasanaethau digidol y sector cyhoeddus, a dechrau ysgrifennu am:
- bethau oedd yn ein hysbrydoli a beth roedden ni wedi’i ddysgu gan eraill
- llwyddiannau a phrofiadau ein tîm
- cysylltu â thimau eraill sy’n wynebu heriau tebyg
- datrysiadau a mewnwelediadau a all helpu i oresgyn rhai o’r trafferthion sydd gan nifer yn gyffredin
Sut mae’n mynd…
Ers dechrau ein nodiadau’r wythnos yn 2022, rydyn ni wedi cyhoeddi rhifyn wythnosol dros 2 flynedd, heb fethu wythnos.
Rhai o’r ffyrdd ymarferol rydyn ni wedi gwneud hyn:
- mae gyda ni rota i sicrhau bod pâr penodol yn ysgrifennu, golygu a chyhoeddi nodiadau’r wythnos
- mae pob aelod o’r tîm yn cyfrannu at nodiadau’r wythnos drwy rannu eu huchafbwyntiau yn ein cyfarfod tîm wythnosol, neu drwy e-bost
- rydyn ni’n lletya nodiadau’r wythnos ar GitHub
- does dim rhestr ddosbarthu gyda ni, ond mae Heledd yn rhannu dolen ar LinkedIn a BlueSky, ac weithiau byddwn ni’n rhannu trwy e-bost yn fewnol
Er mwyn achosi cyn lleied o straen â phosib i’n tîm, rydyn ni’n:
- edrych ar ddyddiaduron y tîm i gynllunio o amgylch gwyliau blynyddol sydd wedi’i drefnu
- rhoi pobl gyda’i gilydd i ysgrifennu y mae eu cryfderau’n ategu ei gilydd er mwyn sicrhau ein bod yn fwy cynhwysol
- rhoi nodiadau atgoffa yng nghalendr y tîm i leihau’r straen meddyliol ar y rhai sy’n ysgrifennu nodiadau’r wythnos
Sut rydyn ni’n gweithio gyda nodiadau’r wythnos yn Gymraeg
Mae nodiadau’r wythnos yn fwy difyr pan fyddan nhw wedi’u hysgrifennu yn llais yr awdur, boed hynny yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Ar y cychwyn, roedden ni’n eu hanfon at ein tîm cyfieithu, sy’n ein cefnogi i wneud ein cynnwys yn ddwyieithog. Ond buan iawn y sylweddolon ni fod yr arddull o ysgrifennu yn y person cyntaf a oedd yn rhoi teimlad o ‘lais’ i nodiadau’r wythnos yn achosi llawer o waith i’n tîm cyfieithu wrth iddyn nhw geisio adlewyrchu ein hiwmor a’r nodweddion unigryw eraill rydyn ni’n aml yn eu cynnwys yn ein myfyrdodau wythnosol.
Nawr (pan fo modd) rydyn ni’n rhoi siaradwyr Cymraeg ar y tîm gyda’i gilydd i ysgrifennu fersiwn Gymraeg go iawn o’r cynnwys. Mae ein holl bostiadau blog yn cael eu cyfieithu, ond mae nodiadau’r wythnos yn wahanol – a dydyn ni ddim 100% yn siŵr pwy sy’n eu darllen! Byddwn yn dal ati i gnoi cil a dysgu am y ffordd orau a mwyaf hwylus.
Beth rydyn ni wedi’i ddysgu…
Yn ein hymgeision yn y gorffennol i weithio’n agored gyda nodiadau’r wythnos a blogiau, bydden ni’n pendroni’n hir am beth i’w ddweud a sut i wneud hynny. Ond anogodd Giles ni i:
- fod yn ddewr, i beidio â bod ofn dangos ein personoliaeth
- dangos y peth – casglu lluniau, sgrinluniau a dyfyniadau i ddangos i eraill
- cynllunio llai a chyhoeddi mwy, yn enwedig pan fydd gyda ni rywbeth i’w ddweud neu ei ddangos
- ymlacio a pheidio â phoeni am ddefnyddio arddull gorfforaethol, a jest bod yn ni ein hunain
Syniadau ar gyfer cychwyn arni ar gyfer eich nodiadau wythnos eich hun
Pan fyddwch chi’n cychwyn, mae Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru yn argymell y dylech:
- sicrhau eich bod yn weladwy o fewn eich sefydliad trwy gynnal sesiynau ‘dangos a dweud’ yn rheolaidd a blogio am y daith, ac nid dim ond y canlyniad terfynol
- dathlu llwyddiannau a bod yn agored am ddysgu o bethau sy ddim wedi gweithio cystal
- cyhoeddi cod ffynhonnell, data ac arteffactau eraill lle mae’n ddiogel gwneud hynny
Pethau eraill a’n helpodd ni i fod yn gyson yn ein taith gyda nodiadau’r wythnos?
- gweithio mewn timau
- bod yn onest ac adfyfyriol
- peidio â phoeni am y strwythur na’r cyfrif geiriau
- cael adborth cadarnhaol gan bobl a roddodd wybod i ni eu bod wedi darllen nodiadau’r wythnos!
Llyfr Giles: Mae ‘Working in the Open’ yn ganllaw byr ac ymarferol i bobl a thimau sydd am ddechrau gweithio’n agored.
Rydyn ni hefyd yn hoff o’r canllaw yma sy’n cael ei rannu gan ProMoCymru: Weeknotes: what they are, how to write them
Cael ein cydnabod fel rhan o gymuned ehangach
Bellach mae gyda ni le i rannu ein meddyliau, i gynnal trafodaeth â’r gymuned ehangach o weithwyr proffesiynol digidol ac i ddathlu llwyddiannau ein tîm. Mae’r nodiadau wedi dod yn ffordd gathartig o fwrw golwg dros ein hwythnos, ac yn archif sy’n dogfennu ein llwyddiannau gwaith, y rhai beunyddiol a’r rhai mwy.
Yn amlwg, mae yna lawer o wythnosau a misoedd anodd, ac ar adegau rydyn ni’n cwestiynu ydyn ni ar y trywydd iawn! Mae bod yn agored (ac weithiau’n agored i niwed) yn ffordd dda o gael rhywfaint o adborth gan weithwyr proffesiynol eraill yn y maes digidol y tu allan i’n sefydliad ni – ac mae hynny’n sbardun gwych! Er enghraifft, pan soniodd Giles amdanon ni yn ei ganllaw ar ysgrifennu nodiadau wythnos:
“Mae’r tîm yma wedi bod yn ysgrifennu nodiadau wythnos ers diwedd 2022. Mae’r nodiadau’n benodol iawn i’r tîm, ond maen nhw’n cael eu cyhoeddi ar y we agored, yn y parth cyhoeddus. Fy hoff fath o nodyn yr wythnos.
“Fe gyflawnodd y nodiadau rywbeth arall: fe wnaethon nhw waith mewnol y tîm yn ddigon gweladwy fel bod pobl eraill eisiau ceisio am swyddi yno, am eu bod wedi darllen y nodiadau. Nid yw’n anarferol bod rhywun yn ceisio am swydd am eu bod wedi clywed ar lafar, ar lawr gwlad, bod tîm yn werth gweithio gyda nhw – ond yn yr achos hwn doedd yna ddim llawr gwlad, doedd y neges ddim yn wedi’i lledaenu ar lafar. Roedd y cyfan yn deillio o’r nodiadau wythnos.
“Roedd pobl yn gallu dilyn trywydd y tîm, y llwyddiannau a’r methiannau, drwy’r nodiadau, a phenderfynu drostynt eu hunain: ydy, mae hwn yn dîm rydw i am fod yn rhan ohono."
Rydyn ni’n falch o chwarae rhan mewn meithrin lle agored a chydweithredol o fewn gwasanaethau cyhoeddus digidol, i’n timau a’n sefydliadau dyfu a dysgu oddi wrth ein gilydd.
Ein gobaith yw y bydd mwy o dimau yn dechrau rhannu eu straeon ac y gall ein profiad helpu a thrawsnewid rhywbeth sy’n teimlo’n frawychus braidd ar y cychwyn yn ffordd hwyliog a difyr o gydweithio a thyfu fel tîm.
Mae cymaint i’w ddysgu oddi wrth ein gilydd bob amser.