Datganiad hygyrchedd

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i cyfoethnaturiol.cymru 


Sut gallwch chi ddefnyddio'r wefan hon

Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n rhedeg y wefan hon. Rydym am i bawb allu defnyddio ein gwefannau, dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i'r testun fynd oddi ar y sgrin
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.


Gwnewch eich dyfais yn haws ei defnyddio

Mae gan AbilityNet gyngor ar sicrhau bod eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.


Pa mor hygyrch yw'r wefan hon?

Gwyddom nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn hygyrch, er enghraifft:

  • nid yw'r rhan fwyaf o ddogfennau yn hygyrch i feddalwedd darllen sgrin. Mae hyn yn cynnwys llawer o'n ffurflenni cais yn Microsoft Word a Microsoft Excel
  • nid oes unrhyw un o'n mapiau yn hygyrch ac nid ydynt yn cynnwys testun amgen yn y rhan fwyaf o achosion
  • nid yw rhai dolenni ar ein gwefan yn hunanesboniadol ar gyfer defnyddiwr darllenydd sgrin
  • nid yw rhywfaint o gynnwys tablau wedi'i farcio'n gywir ar gyfer defnyddiwr darllenydd sgrin
  • efallai y bydd rhywfaint o gynnwys yn cael ei gwtogi wrth gymhwyso CSS personol i'r dudalen
  • nid yw ein baner dewisiadau cwcis yn cefnogi swyddogaethau chwyddo a darllen sgrin eto
  • nid yw adnodd adroddiadau rhyngweithiol Power BI yn hygyrch


Adborth a manylion cyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch o unrhyw un o’n gwefannau mewn fformat gwahanol, megis:

  • PDFs hygyrch
  • print bras
  • hawdd ei ddarllen
  • recordiad sain
  • braille

Gallwch:

Cyfoeth Naturiol Cymru
Canolfan Gofal Cwsmeriaid
Tŷ Cambria
29 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP 

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi ymhen 5 diwrnod gwaith.    


Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'n gwefannau

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd ein holl wefannau. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw:

  • broblemau hygyrchedd heb eu rhestru ar y dudalen hon
  • neu os ydych yn meddwl nad ydym yn bodloni'r gofynion hygyrchedd

anfonwch e-bost at y Tîm Digidol: digidol@cyfoethnaturiol.cymru.gov.uk

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol (Rhif 2) 2018.

Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb.


Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefannau yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.


Statws cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â'r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1, safon AA. Mae hyn oherwydd rhai materion diffyg cydymffurfio ac eithriadau sydd gennym o hyd ar ein gwefan.

Cynnwys anhygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol:

Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd

  • nid oes gan rai delweddau o fewn dogfennau Word neu PDF ddewisiadau testun amgen priodol. Ni all pobl sy'n defnyddio darllenydd sgrin gael mynediad i'r wybodaeth. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.1.1 WCAG 2.1 (cynnwys di-destun). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025.

  • gall rhai delweddau gynnwys testunau amhriodol eraill megis nodau ASCII. Ni all pobl sy'n defnyddio darllenydd sgrin gael mynediad i'r wybodaeth. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.1.1 WCAG 2.1 (cynnwys di-destun). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025

  • mae rhai delweddau sydd heb destun amgen yn cael eu nodi â thestun hygyrch. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.1.1 WCAG 2.1 (cynnwys di-destun). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025

  • mae rhai delweddau addurnol yn cynnwys testun amgen. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.1.1 WCAG 2.1 (cynnwys di-destun). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025

  • ar hyn o bryd nid yw testun trwm a dyfyniadau bloc yn cael eu marcio'n semantig gan ein CMS. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.1 Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025

  • nid yw rhai rhesi a cholofnau tablau data wedi'u marcio'n semantig, ac nid yw'r wybodaeth hon yn cael ei chyflwyno i ddarllenwyr sgrin. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.1 (gwybodaeth a pherthnasoedd). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025

  • nid yw taenlen yr Asesiad Risg Gweithredol yn hygyrch. Oherwydd y ffordd y mae ein ffurflenni wedi'u strwythuro ar hyn o bryd, defnyddio taenlen yw ein hunig opsiwn. Fe wnaethom gyhoeddi’r daenlen cyn mis Medi 2018. Rydym yn gweithio i drosi ffeiliau Excel yn ffurflenni hygyrch ar-lein. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 a 2.4.3. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025

  • wrth chwyddo testun i 200%, gellir gweld problemau wrth i destun gael ei gwtogi ac i gynnwys orgyffwrdd. Mae hyn yn digwydd yn bennaf gyda chynnwys a gefnogir gan drydydd parti ond gellir ei weld hefyd gydag eiconau testun a blychau cynnwys. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.4 WCAG 2.1 Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025

  • daw peth cynnwys map yn anhygyrch wrth chwyddo cynnwys y dudalen i 400%. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.10 WCAG 2.1 Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025

  • nid oes digon o wrthgyferbyniad i eiconau rhannu ac eiconau cymdeithasol ar gyfer twitter. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.11 WCAG 2.1 (cyferbyniad di-destun). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025

  • mae'n bosibl y bydd rhywfaint o destun a geir o fewn dolenni cerdyn yn cael ei gwtogi wrth gymhwyso CSS personol i'r dudalen. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.12 WCAG 2.1 (bwlch rhwng y testun) Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025

  • ceir sawl enghraifft ar draws y safle lle nad oes digon o wrthgyferbyniad gya chefndir y safle. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r copi hwn yn destun cysylltiedig neu'n destun dalfan ac nid yw'n effeithio ar brif destun corff y wefan. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.3 WCAG 2.1 (cyferbyniad (lleiafswm). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025

  • nid yw trefn ffocws cydran adborth 'Hotjar' a chydran Microsoft BI yn rhesymegol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.3 WCAG 2.1 (trefn ffocws) Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025

  • mae rhai dolenni yn defnyddio testun cyswllt cyffredinol fel 'Cliciwch yma' heb unrhyw gyd-destun amgylchynol o ran pwrpas neu gyrchfan y ddolen. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.4 WCAG 2.1 (trefn ffocws) Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025

  • nid oes gan rai dolenni enw hygyrch. Ni fydd darllenwyr sgrin yn darllen yr hyn y mae'r ddolen yn ei wneud felly byddant yn darllen yr URL cyfan yn lle hynny. Mae dolenni gwag yn cael eu cyflwyno ar y wefan ar hyn o bryd ond yn mynd â'r defnyddiwr i'r un lleoliad. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.4 WCAG 2.1 (trefn ffocws) Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025

  • mae sawl dolen ar dudalen yn rhannu'r un enw testun cyswllt ond yn mynd i wahanol gyrchfannau. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.4 WCAG 2.1 (trefn ffocws). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025

  • nid oes gan gydrannau map ESRI ddangosydd ffocws gweledol sy'n ei gwneud hi'n anodd i'r defnyddiwr wybod ble mae ei ffocws bysellfwrdd. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.7 WCAG 2.1 (ffocws yn weladwy). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025

  • efallai na fydd rhai labeli ar gyfer cydrannau rhyngwyneb defnyddiwr yn cyfateb i'r enw gweledol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.5.3 WCAG 2.1 (trefn ffocws) Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025

  • mae manylion adnabod dyblyg yn bresennol ar draws cronfa godau’r safle ar gyfer rheolaethau aria. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 4.1.1 WCAG 2.1 Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025

  • mae metadata XMP ar goll mewn rhai dogfennau PDF a allai arwain at beidio â chyhoeddi rhywfaint o gynnwys i ddarllenwyr sgrin. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 4.1.2 WCAG 2.1 (enw, rôl, gwerth). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025

  • mae rhai elfennau swyddogaethol wedi'u marcio fel rhai cyflwyniadol, sy'n atal darllenwyr sgrin rhag gallu rhyngweithio â nhw. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 4.1.2 WCAG 2.1 (enw, rôl, gwerth). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025

  • mae'r gydran map yn cynnwys elfennau cudd a allai olygu na fydd rhai o'r cynnwys yn cael ei gyhoeddi gan ddarllenwyr sgrin. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 4.1.2 WCAG 2.1 (enw, rôl, gwerth). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025

  • wrth ryngweithio gyda'r gydran map, nid yw’r darllenydd sgrin yn cyhoeddi’r newid yn y cynnwys ar y dudalen wrth ddewis elfen Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 4.1.3 WCAG 2.1 (negeseuon statws) Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025

  • mae rhai o’n dogfennau PDF a Word a gyhoeddwyd cyn mis Medi 2018 yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Erbyn Ionawr 2025, rydym yn bwriadu naill ai trwsio'r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle

  • mae rhai ffurflenni a gyhoeddwyd cyn mis Medi 2018 mewn PDF, Word ac Excel ac nid ydynt yn hygyrch. Rydym yn gweithio i drosi ein ffurflenni Microsoft Word ac Excel yn ffurflenni hygyrch ar-lein. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025

Mapiau wedi'u hymgorffori yn ein gwefan

Nid yw mapiau sydd wedi'u hymgorffori yn ein gwefan yn hygyrch. 

Mae’r rhestr o leoedd i ymweld â nhw yn ddewis amgen hygyrch i'r map diwrnodau allan.

Tab adborth (Hotjar)

Rydym yn defnyddio cynnyrch o’r enw Hotjar i’n helpu i gasglu adborth gan bobl am eu profiad o ddefnyddio ein gwefan.

Mae gan y botwm adborth y problemau hygyrchedd canlynol:

  • wrth chwyddo i 200%, mae'r botwm adborth yn cael ei dorri i ffwrdd ac nid yw'n gwbl weladwy i ddefnyddwyr. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.4 WCAG 2.1

  • pan fydd y botwm 'Adborth' yn cael ei agor gan ddefnyddio'r bysellfwrdd, mae'r bysellfwrdd wedyn yn tabio i frig y dudalen we, yn hytrach nag i mewn i'r botwm adborth. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.3 WCAG 2.1

  • nid yw trefn ffocws cydran y botwm adborth yn rhesymegol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.3 WCAG 2.1 (trefn ffocws)

Rydym wedi gofyn i'r cyflenwr ddatrys y materion hyn.

Os na allwch ddefnyddio ein botwm 'Adborth', defnyddiwch ein ffurflen adborth amgen i ddweud wrthym am eich profiad.

Adroddiadau rhyngweithiol

Rydym yn defnyddio ArcGIS a PowerBI i fewnosod data rhyngweithiol a mapiau ar ein gwefan.

Mae'r adnoddau hyn yn cynnig rhywfaint o hygyrchedd naturiol ond gallant fod yn wahanol i ragosodiadau porwr.

  • nid yw siartiau a data yn hygyrch i bobl sy'n defnyddio meddalwedd darllen sgrin - ac nid oes dewis arall ar gael mewn rhai achosion
  • o edrych arno gan ddefnyddio ffôn symudol neu lechen, gallai’r edrychiad a’r ymarferoldeb newid
  • ni fydd adroddiadau rhyngweithiol yn newid yn ddeinamig gyda'r swyddogaeth chwyddo sgrin
  • nid oes unrhyw un o'n mapiau yn hygyrch ac nid ydynt yn cynnwys testun amgen yn y rhan fwyaf o achosion
  • y swyddogaeth chwilio sy'n chwilio setiau data a chymwysiadau ar ein platfform data gofodol agored, ESRI ArcGIS Ar-lein

Mewn rhai achosion, nid yw'r wybodaeth ar gael i ddefnyddwyr mewn fformat hygyrch. Byddwn yn parhau i wella argaeledd testun amgen a gwneud gwelliannau pellach o ran hygyrchedd.

Os oes angen gwybodaeth arnoch o'r adroddiadau hyn, cysylltwch â ni.

Offer a thrafodion rhyngweithiol

Mae rhai o'n ffurflenni rhyngweithiol yn anodd eu llywio gan ddefnyddio bysellfwrdd. Er enghraifft, nid oes tag ‘label’ ar gael ar gyfer rhai rheolyddion ffurflenni.

Rydym wedi adeiladu a chynnal ein ffurflenni trwy feddalwedd trydydd parti. Mae'r ffurflenni hyn wedi'u llunio i edrych fel ein gwefan.

Baich anghymesur

Rydym wedi edrych ar y gost o drwsio:

Chwilio safleoedd dynodedig

Mae ein chwiliad safleoedd dynodedig yn cynnwys dros 10,000 o ddogfennau hanesyddol. Mae’n bosibl y bydd rhai o’r dogfennau hyn wedi’u heithrio o’r rheoliadau, ond gellir ystyried rhai yn ganllawiau. Byddai'n cymryd cryn dipyn o amser ac arian i adolygu a mynd i'r afael â'r mater hwn. Rydym wedi asesu y byddai hyn yn faich anghymesur ar hyn o bryd.

Byddwn yn sicrhau bod unrhyw ddogfennau newydd a gyhoeddir gennym mor hygyrch â phosibl. ​

Asesiad baich anghymesur

Cynnwys nad yw'n hygyrch - nid yw'r cynnwys o fewn cwmpas y ddeddfwriaeth berthnasol

Nid ydym yn bwriadu trwsio'r canlynol, gan eu bod wedi'u heithrio yn y rheoliadau. 

Dogfennau PDF a dogfennau eraill

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.

Nid ydym yn bwriadu trwsio’r wybodaeth ganlynol os cafodd ei chyhoeddi cyn 23 Medi 2018:

  • adroddiadau tystiolaeth
  • papurau ymchwil
  • strategaethau a chynlluniau
  • papurau bwrdd a phwyllgor
  • ymgynghoriadau
  • dogfennau caniatáu (cofrestr gyhoeddus)
  • cylchlythyrau
  • mapiau lleoliad a thaflenni
  • deunydd addysgiadol (wedi'i gynllunio i'w argraffu)
  • taflenni canolfan ymwelwyr a byrddau arddangos

Bydd unrhyw PDFs neu ddogfennau Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.

Fideo byw

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi'i eithrio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd.

Ategion heb gost

Nid oes gan eiconau rhannu ac eiconau cymdeithasol ar gyfer Twitter (a ddarperir gan ShareThis) ddigon o gyferbyniad. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.11 WCAG 2.1

Nid oes gan yr ategyn sylwadau Disqus (a ddefnyddir ar dudalennau blog) briodoleddau awtolenwi ar gyfer mewnbwn ffurf gyffredin fel enw ac e-bost. Nid yw defnyddwyr bysellfwrdd yn gallu rhyngweithio â phob agwedd ar yr ategyn ac nid oes fformatau sydd eu hangen ar gyfer mewnbwn maes yn bresennol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.5, 2.1.1 a 3.3.2 WCAG 2.1

Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio problemau sy'n ymwneud ag ategion trydydd parti am ddim. Er gwaethaf hyn rydym wedi codi hyn gyda Disqus ac yn gobeithio gweld ateb yn fuan.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn bwriadu gwella hygyrchedd ein gwefan drwy:

  • barhau i wneud dogfennau sy'n cael eu defnyddio'n weithredol yn fformatau hygyrch
  • trosi ffurflenni cais sy'n weddill mewn dogfennau Word yn ffurflenni ar-lein
  • mireinio a thrwsio'r materion datblygu gwe sy'n weddill ymhellach gyda'n templedi
  • parhau i adolygu rhannau o'r wefan, ac ailysgrifennu i fod mewn iaith glir
  • gwella hygyrchedd ar gyfer data rhyngweithiol, gan gynnwys darparu cynnwys mewn fformat amgen
  • adolygu a blaenoriaethu materion hygyrchedd a nodir ar ein gwefannau eraill

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 20 Awst 2020. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 7 Awst 2023.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 1 Awst 2023. Cynhaliwyd y prawf gan Zoonou a'n tîm prawf ein hunain.

Defnyddiodd y profwyr sampl cynrychioliadol o'r gwefannau fel y'u diffinnir gan y Fethodoleg Gwerthuso Cydymffurfiaeth Hygyrchedd Gwefan.

Diweddarwyd ddiwethaf