Perygl llifogydd isel o ddŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach

Mae llifogydd dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach yn digwydd pan nad yw dŵr glaw yn draenio drwy'r systemau draenio arferol nac yn ymdreiddio i'r ddaear, ond yn hytrach yn gorwedd ar y ddaear neu'n llifo drosto.

Beth y mae 'isel’ yn ei olygu?

Mae isel yn golygu bod siawns yr ardal hon, bob blwyddyn, o ddioddef o lifogydd rhwng 1 ym mhob 1000 (0.1%) ac 1 ym mhob 100 (1%).

Mae'n anodd rhagfynegi'r math yma o lifogydd, yn fwy felly na llifogydd o afon neu'r môr, gan ei bod yn anodd rhagweld faint yn union o law fydd yn disgyn mewn unrhyw storm, ac yn lle y bydd yn disgyn.

Mae hyn yn seiliedig ar yr wybodaeth orau sydd gennym, gwybodaeth fel lefelau’r tir a draeniad.

Mae llifogydd yn dinistrio - byddwch yn barod

Peidiwch ag aros nes y bydd hi'n rhy hwyr. Byddwch yn barod ar gyfer llifogydd trwy ddilyn ychydig gamau syml i leihau eu heffaith ar eich cartref neu'ch busnes.

Cynllunio datblygiad

Nid yw'r wybodaeth hon yn addas ar gyfer ei defnyddio wrth gynllunio defnydd tir. Os ydych chi'n cynllunio datblygiad, mae angen i chi ddefnyddio Map Cyngor Datblygu Llywodraeth Cymru. Y rheswm am hyn yw bod angen i chi ddefnyddio gwybodaeth sy'n seiliedig ar lifogydd heb amddiffynfeydd i ddibenion cynllunio.

Rhagor o wybodaeth

Am rhagor o wybodaeth am yswiriant llifogydd, ymweld â’r isod:

Gallwch ddefnyddio'r wybodaeth ym Map Asesu Perygl Llifogydd Cymru i weld yr ardaloedd bras lle y byddai llifogydd.

Os oes gennych fwy o gwestiynau ar sut i baratoi ar gyfer llifogydd, ffoniwch Floodline ar 0345 988 1188.

Gall yr ardal hon fod mewn perygl o fathau eraill o lifogydd.

Diweddarwyd ddiwethaf