Mathau gwahanol o risg llifogydd

Mathau gwahanol o risg llifogydd

Rydym yn dangos y risg llifogydd o dri math o lifogydd: 

  • afonydd
  • y môr
  • dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach

Mae'r lefelau risg yn uchel, canolig, isel ac isel iawn. 

Dydyn ni ddim yn rhoi lefel risg ar gyfer llifogydd o gronfeydd. Rydym yn dangos y senario gwaethaf ar gyfer yr ardal all gael ei heffeithio tasai cronfa ddŵr fawr yn methu a rhyddhau ei dŵr. 

Risg llifogydd o afonydd

Mae llifogydd o afonydd yn digwydd pryd nad yw afon yn gallu ymdopi â maint y dŵr yn draenio i mewn iddi o'r tir cyfagos. 

Ar ein map perygl llifogydd, mae 'afon' fel arfer yn draenio ardal o lai na 3km2. Gelwir hon yn 'dalgylch'. 

Mae'r lefel risg hon yn ystyried effaith unrhyw amddiffynfeydd rhag llifogydd a all fod yn yr ardal hon. Mae amddiffynfeydd rhag llifogydd yn lleihau'r siawns o lifogydd, ond nid ydynt yn eu hatal gan y gallant orlifo neu fethu.

Gall yr ardal fod mewn pergyl o fathau gwahanol o lifogydd.

Risg uchel o lifogydd o afonydd

Mae risg uchel yn golygu bod cyfle o lifogydd o fwy na 1 mewn 30 (3.3%) bob blwyddyn. 

Risg canolig o lifogydd o afonydd

Mae canolig yn golygu bod cyfle o lifogydd o rwng 1 mewn 100 (1%) ac 1 mewn 30 (3.3%) bob blwyddyn. 

Risg isel o lifogydd o afonydd

Mae isel yn golygu bod cyfle o lifogydd o rwng 1 mewn 1000 (0.1%) ac 1 mewn 100 (1%) bob blwyddyn. 

Risg isel iawn o lifogydd o afonydd

Mae lliwiau ar y map Asesu Risg Llifogydd Cymru yn dangos y risg o lifogydd o afonydd, y môr a dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach. 

Rydym yn ystyried bod gan bob ardal tu allan i'r ardaloedd sy' wedi'u lliwio gyfle isel iawn o lifogydd. 

Mae isel iawn yn golygu bod gan yr ardal hon gyfle o lifogydd o lai na 1 mewn 1000 (0.1%) bob blwyddyn.

Risg llifogydd o'r môr

Mae'r môr yn gorlifo o ganlyniad i lanwau uchel ac amodau stormus.

Mae'r lefel risg hon yn ystyried effaith unrhyw amddiffynfeydd rhag llifogydd a all fod yn yr ardal hon. Mae amddiffynfeydd rhag llifogydd yn lleihau'r siawns o lifogydd, ond nid ydynt yn eu hatal gan y gallant orlifo neu fethu.

Yn y rhan fwyaf o achosion, dyw lefelau'r risg ddim yn ystyried effaith tonnau mewn ardaloedd arfordirol. 

Gall yr ardal fod mewn pergyl o fathau gwahanol o lifogydd.

Risg uchel o lifogydd o'r môr

Mae risg uchel yn golygu bod cyfle o lifogydd o fwy na 1 mewn 30 (3.3%) bob blwyddyn. 

Risg canolig o lifogydd o'r môr

Mae canolig yn golygu bod cyfle o lifogydd o rwng 1 mewn 200 (0.5%) ac 1 mewn 30 (3.3%) bob blwyddyn. 

Risg isel o lifogydd o'r môr

Mae isel yn golygu bod cyfle o lifogydd o rwng 1 mewn 1000 (0.1%) ac 1 mewn 200 (0.5%) bob blwyddyn. 

Risg isel iawn o lifogydd o'r môr

Mae lliwiau ar y map Asesu Risg Llifogydd Cymru yn dangos y risg o lifogydd o afonydd, y môr a dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach. 

Rydym yn ystyried bod gan bob ardal tu allan i'r ardaloedd sy' wedi'u lliwio gyfle isel iawn o lifogydd. 

Mae isel iawn yn golygu bod gan yr ardal hon gyfle o lifogydd o lai na 1 mewn 1000 (0.1%) bob blwyddyn.

Risg o lifogydd o ddŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach

Mae dŵr wyneb yn digwydd pryd nad yw dŵr glaw yn draenio trwy'r sustemau draenio arferol, neu'n suddo i mewn i'r tir, ond yn gorwedd neu'n llifio dros y tir yn lle. 

Mae cwrs dŵr bach yn siannel sy'n draenio ardal o lai na 3km2. Mae'r rhain yn cynnwys afonydd bach, ffrydiau, nentydd, ffosydd, a draeniau. 

Gall fod yn anodd rhagweld y math hwn o lifogydd, llawer mwy na llifogydd o afonydd neu'r môr. Mae hyn oherwydd ei bod yn anodd rhoi rhagolwg manwl ar faint o law fydd yn disgyn mewn storm a ble bydd e'n disgyn. 

Mae hwn ar sail y wybodaeth orau sydd gennym, fel lefelau tir a sustemau draenio. 

Gall yr ardal fod mewn pergyl o fathau gwahanol o lifogydd.

Risg uchel o lifogydd o ddŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach

Mae risg uchel yn golygu bod cyfle o lifogydd o fwy na 1 mewn 30 (3.3%) bob blwyddyn. 

Risg canolig o lifogydd o ddŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach

Mae canolig yn golygu bod cyfle o lifogydd o rwng 1 mewn 100 (1%) ac 1 mewn 30 (3.3%) bob blwyddyn. 

Risg isel o lifogydd o ddŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach

Mae isel yn golygu bod cyfle o lifogydd o rwng 1 mewn 1000 (0.1%) ac 1 mewn 100 (1%) bob blwyddyn. 

Risg isel iawn o lifogydd o ddŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach

Mae lliwiau ar y map Asesu Risg Llifogydd Cymru yn dangos y risg o lifogydd o afonydd, y môr a dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach. 

Rydym yn ystyried bod gan bob ardal tu allan i'r ardaloedd sy' wedi'u lliwio gyfle isel iawn o lifogydd. 

Mae isel iawn yn golygu bod gan yr ardal hon gyfle o lifogydd o lai na 1 mewn 1000 (0.1%) bob blwyddyn.

Risg llifogydd o gronfeydd dŵr​

Mae llifogydd o gronfeydd dŵr yn annhebygol iawn o ddigwydd.

Defnyddiwch fap Asesu Risg Llifogydd Cymru i weld llifogydd a allai ddigwydd o gronfeydd dŵr.

Mae'r graddliwio ar y map yn dangos y sefyllfa waethaf bosibl ar gyfer yr ardal a allai ddioddef o lifogydd petai cronfa ddŵr fawr yn gollwng ac yn rhyddhau'r dŵr y mae'n ei gronni. Mae cronfa ddŵr fawr yn un sy'n dal 10,000 metr ciwbig o ddŵr, sy’n cyfateb i tua 4 pwll nofio o faint Olympaidd. 

Nid yw mapiau llifogydd y gronfa yn nodi unrhyw debygolrwydd o lifogydd yn digwydd.

Mae llifogydd yn dinistrio - byddwch yn barod

Peidiwch ag aros nes y bydd hi'n rhy hwyr. Byddwch yn barod ar gyfer llifogydd trwy ddilyn ychydig gamau syml i leihau eu heffaith ar eich cartref neu'ch busnes.

Mwy o wybodaeth

Darllenwch Deall eich canlyniadau risg llifogydd am fwy o wybodaeth am risg llifogydd. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am sut i baratoi at lifogydd, ffoniwch Floodline ar 0345 988 1188.

Diweddarwyd ddiwethaf