Datganiad hygyrchedd: gwasanaethau rhybuddion llifogydd a ‘llifogydd – byddwch yn barod’, a pherygl llifogydd 5 diwrnod

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i'r gwefannau canlynol:

https://flood-warning.naturalresources.wales

https://5-day-flood-risk.naturalresources.wales

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy'n cynnal y gwefannau hyn. Rydym am i bawb allu cael mynediad i'r gwefannau hyn. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:

  • Defnyddio dull llywio cyson ar draws y ddwy wefan.
  • Llywio'r tudalennau gan ddefnyddio bysellfwrdd a thab yn unig ar gyfer holl elfennau rhyngweithiol pob tudalen.
  • Llywio'r tudalennau gan ddefnyddio darllenydd sgrin. Mae ein profwyr wedi cael llwyddiant mawr gydag NVDA.
  • Llywio'r tudalennau drwy ffocws gweladwy ar draws y safleoedd (ac eithrio mapiau).
  • Dileu arddulliau a llywio'r safle mewn trefn resymegol.
  • Cael gafael ar wybodaeth glir – mae'r gwefannau'n defnyddio lliw, print trwm a thanlinellu yn briodol i wahaniaethu'r wybodaeth yn erbyn y copi presennol.
  • Mae cyfarwyddiadau testun yn glir ac yn syml i'w deall.

Atebion diweddar i wella hygyrchedd

Nawr dylech chi allu:

  • Neidio i'r prif gynnwys wrth ddefnyddio darllenydd sgrin.
  • Derbyn adborth ‘dim mewnbwn’ wrth ddefnyddio’r swyddogaeth chwilio heb nodi term chwilio.

Mae AbilityNet yn cynnig cyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r gwefannau hyn

Gwyddom nad yw rhai rhannau o'r gwefannau hyn yn hollol hygyrch:

  • Ni allwch lywio'r tudalennau gan ddefnyddio ffocws gweladwy ar draws y safleoedd (ac eithrio mapiau).
  • Nid yw rhai delweddau addurniadol yn cynnwys priodoleddau amgen.
  • Nid yw teclyn adborth Hotjar ar gael.
  • Mae rhai problemau o ran cyferbyniad isel.
  • Mae rhai problemau wrth ddefnyddio darllenwyr sgrin gyda'r map rhybuddion llifogydd byw, mewnbwn chwilio a’r botymau tudalennu.
  • Mewn rhai achosion, ni allwch chwyddo hyd at 200% heb i'r testun oferu oddi ar y sgrin.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y gwefannau hyn mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:

Ffoniwch ni ar 0300 065 3000 (Llun-Gwener, 9am-5pm)

E-bostiwch enquiries@naturalresourceswales.gov.uk

Ysgrifennwch atom yn:

Cyfoeth Naturiol Cymru
Canolfan Gofal Cwsmeriaid
Tŷ Cambria,
29 Ffordd Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP

Byddwn yn anfon ymateb cychwynnol i chi o fewn 5 diwrnod gwaith.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r gwefannau hyn

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y gwefannau hyn. Os gwelwch unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd,

Ffoniwch ni ar 0300 065 3000 (Llun-Gwener, 9am-5pm)

E-bostiwch Dîm Digidol CNC digidol@naturalresourceswales.gov.uk  

Gweithdrefn orfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus â'r ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn,  cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS) .

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni wyneb yn wyneb

Rydym yn darparu gwasanaeth trosglwyddo testun i bobl sy'n F/fyddar, sydd â nam ar eu clyw neu sydd â nam ar y lleferydd.

Mae gan ein swyddfeydd ddolenni sain, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad, gallwn drefnu dehonglwr Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Edrychwch i weld sut i gysylltu â ni.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y gwefannau hyn

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefannau'n hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae'r gwefannau hyn yn cydymffurfio'n rhannol â safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 AA, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Mae'r gwefannau hyn yn llawer mwy hygyrch na'r gwasanaethau hŷn y maent yn eu disodli, sydd â safonau hygyrchedd is. Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch, ond rydym yn gweithio ar drwsio hyn i wneud ein cynnwys yn hygyrch i bawb.

Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd

Dewisiadau testun amgen

Safonau hygyrchedd nas bodlonir:

  • A 1.1.1 Cynnwys Nad yw'n Destun

Enghreifftiau o ddiffyg cydymffurfio:

  • Ni allwch addasu uchder llinellau na bylchau testun.
  • Nid yw rhai delweddau addurniadol yn cynnwys priodoleddau amgen.
  • Tab adborth Hotjar.

Gwahaniaethu

Safonau hygyrchedd nas bodlonir:

  • AA 1.4.3 Cyferbyniad (Isafswm)
  • AA 1.4.4 Ailfeintio Testun
  • AA 1.4.10 Ail-lifo 
  • AA 1.4.11 Cyferbyniad Di-destun 

Enghreifftiau o ddiffyg cydymffurfio:

  • Mae rhai problemau â chyferbyniad isel.
  • Mewn rhai achosion, ni allwch chwyddo hyd at 200% heb i'r testun oferu oddi ar y sgrin.

Llywio

Safonau hygyrchedd nas bodlonir:

  • A: 2.4.1 Osgoi Blociau

Enghreifftiau o ddiffyg cydymffurfio:

  • Ni allwch ddefnyddio'r ffocws gweladwy ar draws y safleoedd i gefnogi llywio i'r rhan fwyaf o dudalennau ac elfennau o'r safleoedd (ac eithrio mapiau).

Cydweddoldeb

Safonau hygyrchedd nas bodlonir:

  • A: 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth

Enghreifftiau o ddiffyg cydymffurfio:

Mae rhai problemau wrth ddefnyddio darllenwyr sgrin gyda'r map rhybuddion llifogydd byw, mewnbwn chwilio a’r botymau tudalennu.

Baich anghymesur

Nid oes unrhyw honiad o faich anghymesur ar gyfer y gwefannau hyn.

Beth rydyn ni'n ei wneud i wella hygyrchedd

Disgwyliwn i rai o'r materion hygyrchedd hyn gael eu datrys erbyn 23 Medi 2020 a byddwn yn parhau i weithio i drwsio cynnwys rhagorol nad yw'n hygyrch.

Noder:  Ni fydd yr ategyn HotJar yn sefydlog erbyn y dyddiad hwn gan ein bod yn ddibynnol ar y gwerthwr i’w atgyweirio.  Fodd bynnag, mae'r Ddolen 'Rhowch Eich Adborth' ar gael ar waelod ein tudalennau fel ffordd fwy hygyrch i roi gwybod am broblemau a brofir ar y wefan.

Rydym yn defnyddio cynnyrch o'r enw Hotjar i'n helpu i gasglu adborth gan bobl am eu profiad o ddefnyddio ein gwefan. Rhaid clicio llygoden i gael mynediad at hwn. Os na allwch ddefnyddio ein botwm 'Adborth', defnyddiwch ein ffurflen 'rhowch eich adborth' i ddweud wrthym am eich profiad.

Rydym wedi gofyn i'r cyflenwr ddatrys y problemau.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 14 Awst 2020. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 22 Medi 2020.

Profwyd y gwefannau hyn ddiwethaf ar 14 Medi 2020. Cynhaliwyd y prawf gan Zoonou Limited. Defnyddiodd y profwyr sampl gynrychioliadol o'r gwefannau fel y'u diffinnir gan Fethodoleg Gwerthuso Cydymffurfiaeth Hygyrchedd Gwefannau (WCAG-EM) .

Diweddarwyd ddiwethaf