Dull, rhestr termau, cyfeiriadau ac atodiad technegol Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025

Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae’r wybodaeth hon yn rhan o’n Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025

Dull

Nododd yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol interim ym mis Rhagfyr 2024 y dull rydym wedi'i ddefnyddio i asesu pa mor dda mae Cymru wedi rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 yn cymhwyso'r dull trwy lens ddeuol ecosystemau a'r prif adnoddau naturiol, sef dŵr, aer a phridd.

Dechreuon ni drwy ddiweddaru'r dystiolaeth a oedd yn y penodau technegol yn Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020.

Y tro hwn, rydym wedi nodi'r dystiolaeth ar gyfer pob ecosystem eang ac adnodd naturiol o fewn gofod ar-lein i chi ei archwilio. Mae hyn yn cynnwys y pwysau, y cyflwr, ac effeithiau ar lesiant sy'n rhwystrau i gyflawni rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Rydym wedi asesu tueddiadau pob elfen ac wedi cynnwys asesiad hyder yn seiliedig ar farn arbenigol, sy'n dibynnu ar faint o dystiolaeth sydd ar gael a’r cytundeb sy’n bodoli yn ei chylch.

Yn ogystal, mae'r adroddiad yn cynnwys diweddariadau i'r dystiolaeth am y pum sbardun newid amgylcheddol ar raddfa Cymru.

Rydym wedi defnyddio'r dystiolaeth hon i asesu cynnydd yn erbyn pob un o bedwar nod rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ar raddfa ecosystem ac adnodd ac ar raddfa genedlaethol dros Gymru gyfan. Defnyddiwyd tystiolaeth ehangach sydd ar gael, fel adroddiadau a chyhoeddiadau rhyngwladol, yn yr asesiadau hyn lle bo'n berthnasol. Mae pob asesiad rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yn argymell cyfleoedd i weithredu i reoli'r materion a ddisgrifir.

Fel mewn adroddiadau blaenorol, mae'r dystiolaeth yn Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 yn dilyn y model Ysgogwyr–Pwysau–Sefyllfa–Effaith–Ymateb – fframwaith ar gyfer adrodd ar yr amgylchedd drwy gasglu tystiolaeth a gydnabyddir yn rhyngwladol.

Mae’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol yn adeiladu ar fodel Ysgogwyr–Pwysau–Cyflwr–Effaith–Ymateb ac yn defnyddio'r strwythur hwnnw i asesu cynnydd tuag at reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a nodau llesiant Cymru.

Rydym wedi dilyn dull mwy rhagnodol y tro hwn i sicrhau bod pob agwedd ar reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yn cael sylw mewn ffordd gyson. Mae'r dull a gymerwyd o fewn Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 wedi'i nodi isod.

  1. Adolygiad o ysgogwyr newid a phwysau, eu maint, tueddiadau cyfredol, ac effeithiau ar bob ecosystem yn Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020. Rydym wedi cynnwys asesiad hyder sy'n gysylltiedig â'r dystiolaeth.
  2. Diweddaru'r cyflwr (y cyflwr cyfredol, tueddiadau, a rhagolygon). Ar gyfer ecosystemau, mae hyn yn defnyddio metrigau allweddol ar gyfer amrywiaeth, graddfa, cyflwr a chysylltedd. Mae hyn yn llywio asesiad nodau 1 a 2. Rydym wedi cynnwys asesiad hyder sy'n gysylltiedig â'r dystiolaeth.
  3. Adolygu a diweddaru'r dystiolaeth sy'n disgrifio gwasanaethau ecosystemau a pha mor bwysig yw’r manteision i bobl a'r economi a gyfrannir gan yr ecosystem. Hefyd, diweddaru’r effeithiau ar y manteision hyn a nodwyd drwy'r asesiad pwysau a chyflwr. Rydym wedi trefnu'r gwasanaethau ecosystemau gan ddefnyddio rhestr gyfeirio ar gyfer gwasanaethau ecosystemau SEEA EA, gan ddiweddaru Asesiad Ecosystemau Cenedlaethol y DU a ddefnyddiwyd yn flaenorol. Mae hyn yn llywio asesiad nodau 3 a 4.
  4. Adolygu a diweddaru statws yr ymatebion cyfredol: beth sydd wedi digwydd ers Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020? Rydym hefyd wedi nodi cyfleoedd i weithredu, gan ystyried synergeddau a chyfaddawdau.
  5. Gan ddefnyddio'r dystiolaeth o gamau 1 i 4, diweddaru’r asesiad o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yn erbyn y pedwar nod ar gyfer pob ecosystem ac adnodd naturiol.
  6. Gan ddefnyddio'r asesiadau o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ar draws ecosystemau ac adnoddau naturiol, ynghyd â thystiolaeth yr ysgogwyr newid a thystiolaeth berthnasol ychwanegol ar gyfer Cymru, y DU a byd-eang, diweddaru'r pedwar asesiad o nodau Cymru gyfan.
  7. Dwyn ynghyd y cyfleoedd ar gyfer gweithredu, gan gydnabod synergeddau a chyfaddawdau.

Gweithio ar y cyd

Mae’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol yn ymwneud â Chymru, nid Cyfoeth Naturiol Cymru. Er mwyn sicrhau bod darlun eang o'r pwnc yn cael ei gynrychioli, cyfathrebwyd yn uniongyrchol â rhanddeiliaid wrth ddiweddaru'r dystiolaeth.

Rydym wedi dilyn ein proses adolygu tystiolaeth drwyddi draw. Mae’r holl dystiolaeth o ran Ysgogwyr–Pwysau–Cyflwr–Effaith–Ymateb wedi bod trwy broses adolygu gan gymheiriaid academaidd.

Mae'r asesiadau rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ar raddfa ecosystem ac adnoddau naturiol wedi cael eu hadolygu gan randdeiliaid, ynghyd ag asesiadau nodau Cymru gyfan yn erbyn y pedwar nod.

Rhestr termau

Er mwyn rhoi mwy o eglurder, rydym wedi dwyn ynghyd gasgliad o ddiffiniadau ar gyfer termau, acronymau a thalfyriadau a ddefnyddir yn aml o fewn Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025.

Lawrlwythwch restr termau Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 (PDF) - Yn dod yn fuan

Cyfeiriadau

Mae llinyn clir i'r ffynonellau a ddefnyddir o fewn unrhyw adroddiad amgylcheddol yn hanfodol i ddarparu adroddiad tryloyw a thrylwyr wedi'i seilio ar dystiolaeth. Cyfeirir at ein tystiolaeth drwyddi draw.

Lawrlwythwch restr gyfeiriadau Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 (PDF) - Yn dod yn fuan

Atodiad technegol

Mae'r rhan fwyaf o'r dystiolaeth rydyn ni wedi'i defnyddio wedi'i chyhoeddi ac ar gael i'w harchwilio ymhellach drwy'r cyhoeddiadau gwreiddiol. Cyfeirir ati drwy gydol yr adroddiad, gan gynnwys porth tystiolaeth yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol, ac mae'r atodiad technegol yn cynnwys data nad yw ar gael yn rhwydd yn unman arall.

Lawrlwythwch atodiad technegol Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 (PDF) - Yn dod yn fuan

Diweddarwyd ddiwethaf