SoNaRR 2025: Glaswelltir lled-naturiol
Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae’r wybodaeth hon yn rhan o’n Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025
Mae glaswelltiroedd lled-naturiol yn disgyn i bum categori eang, a ddatblygwyd mewn ymateb i hinsawdd, pridd, hydroleg, daeareg a rheolaeth leol: asidig, niwtral, calchaidd, corsiog, a’r glaswelltir metelaidd prin. Mae glaswelltiroedd lled-naturiol i’w cael mewn lleoliadau ucheldirol ac iseldirol.
Negeseuon allweddol
- Mae glaswelltiroedd lled-naturiol yn hanfodol bwysig ar gyfer bioamrywiaeth ac yn darparu ystod o wasanaethau ecosystemau allweddol fel peillio, aer a dŵr glân, a chyflenwad o fwyd a gynhyrchir yn gynaliadwy. Maent yn dal ac yn storio symiau mawr o garbon pridd ac mae ganddynt y potensial i gadw hyd yn oed mwy os cânt eu rheoli i adfer eu hamrywiaeth naturiol o blanhigion a ffyngau pridd.
- Nid yw gwydnwch glaswelltiroedd lled-naturiol wedi gwella ers 2020. Mae cynefin glaswelltir â blaenoriaeth yn dal i gael ei golli, ac mae cyflwr safleoedd, yn enwedig yn yr iseldiroedd, yn gyffredinol wael, yn bennaf oherwydd tanbori. Glaswelltiroedd lled-naturiol yw’r mwyaf darniog o’r holl ecosystemau o hyd.
- Mae glaswelltiroedd lled-naturiol yn cael eu heffeithio gan ystod eang o bwysau parhaus, yn enwedig tanreoli, yn ogystal â dwysáu amaethyddol, llygredd nitrogen atmosfferig a newid hinsawdd. Mae ardaloedd o gynefin glaswelltir heb eu mapio yn agored iawn i newid defnydd tir, gan gynnwys ar gyfer coedwigaeth, cynhyrchu ynni ac adeiladu tai.
- Mae angen mwy o fuddsoddiad a ffocws ar frys ar gyflwr, amddiffyniad a monitro safleoedd glaswelltir. Mae llawer o safleoedd a nodwyd fel rhai sydd angen ‘gwarchodaeth flaenoriaethol’ ddegawdau yn ôl heb eu gwarchod yn gyfreithiol o hyd; hyd yn oed o fewn safleoedd gwarchodedig, dim ond 9% o’r holl nodweddion glaswelltir sy’n cael eu hystyried mewn ‘cyflwr ffafriol’.
- Bu llwyddiannau nodedig o brosiectau a mentrau glaswelltir lleol, ond gwelwyd hefyd ddiffyg yn y dull cydlynol o wella gwydnwch glaswelltir ar raddfa fawr a thros yr hirdymor. Mae’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn gyfle allweddol i wella gwydnwch glaswelltiroedd ledled Cymru, os bydd digon o adnoddau ar ei gyfer a chaiff ei dargedu’n dda.
Asesu rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol
Mae’r asesiad glaswelltir lled-naturiol hwn yn un o wyth asesiad ecosystem a thri asesiad adnoddau naturiol sy’n llywio Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 yn gyffredinol. Mae’n adeiladu ar ganfyddiadau Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020, gan dynnu ynghyd dystiolaeth wedi’i diweddaru gan arbenigwyr pwnc, setiau data cenedlaethol ac asesiadau. Mae asesiadau cysylltiedig yn cynnwys tir ffermio caeëdig a mynyddoedd, gweundir a rhostir yn ogystal â thystiolaeth am ffactorau sy’n achosi newid amgylcheddol, megis newid mewn defnydd a rheolaeth ar gyfer tir a’r môr.
Mae’r asesiad wedi’i strwythuro o amgylch pedwar nod cydgysylltiedig sy’n tywys cynnydd Cymru tuag at reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, gan helpu i gyfleu’r berthynas rhwng yr amgylchedd, llesiant a’r economi.
Nod 1: Mae stociau o adnoddau naturiol yn cael eu diogelu a’u gwella
Mae glaswelltiroedd lled-naturiol yng Nghymru yn parhau i gael eu colli oherwydd dwysáu amaethyddol, er y credir bod cyfradd y colledion hynny wedi lleihau yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae yna hefyd enghreifftiau diweddar o golli cynefin glaswelltir trwy newid defnydd tir, gan gynnwys oherwydd coedwigo a datblygiadau/seilwaith adeiledig, er bod gwirhau coetiroedd a rheolaethau cynllunio yn gyffredinol yn cyfyngu ar golledion o’r fath.
Tanreoli yw prif achos cyflwr gwael glaswelltiroedd lled-naturiol o hyd, ac mae cynefinoedd glaswelltiroedd dan bwysau parhaus gan rywogaethau goresgynnol, llygredd aer a newid hinsawdd. Mae planhigion anfrodorol fel cotoneaster a jac y neidiwr yn bygwth bioamrywiaeth frodorol, a disgwylir i’w lledaeniad waethygu os nad oes digon o ymyrraeth. Mae llygryddion a gludir yn yr awyr fel amonia ac ocsidau nitrogen yn fwy na’r llwythi critigol ar draws y rhan fwyaf o fathau o laswelltir, gan newid cemeg y pridd a lleihau amrywiaeth rhywogaethau. Mae newid hinsawdd yn tarfu ar gylchoedd bywyd planhigion ac anifeiliaid, gyda thystiolaeth o gamgymhariad rhwng amseroedd blodeuo a gweithgarwch peillwyr a dirywiad ym mhoblogaethau gwyfynod a bryoffytau. Mae’r pwysau hyn gyda’i gilydd yn diraddio cyfanrwydd ecolegol cynefinoedd glaswelltir.
Mae ymdrechion i ddiogelu a gwella glaswelltiroedd lled-naturiol yn cynnwys ymyriadau rheoli ar safleoedd statudol a thrwy gynlluniau amaeth-amgylcheddol, rheoli rhywogaethau goresgynnol mewn modd targedig, lleihau llygredd, a strategaethau addasu i’r hinsawdd – fodd bynnag, mae cynnydd yn aml yn gyfyngedig o ganlyniad i adnoddau annigonol. Dim ond 10% o gynefinoedd glaswelltir â blaenoriaeth sydd o dan warchodaeth statudol, ac mae dynodiadau Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig newydd ers 2020 wedi bod yn gyfyngedig. Mae angen gweithredu gwelliannau rheoleiddiol a chanllawiau cliriach yn llawnach. Heb fwy o fuddsoddiad a rheolaeth, mae’r rhagolygon hyd at 2050 yn parhau i fod yn un o ddirywiad parhaus, yn enwedig yn wyneb effeithiau hinsawdd a phwysau defnydd tir sy’n dwysáu.
Nod 2: Mae ecosystemau’n gallu gwrthsefyll newid disgwyliedig ac anrhagweledig
Caiff gwydnwch mewn glaswelltiroedd lled-naturiol ei asesu trwy amrywiaeth, graddfa, cyflwr a chysylltedd.
Mae glaswelltiroedd lled-naturiol yr iseldir wedi lleihau’n fawr o’i gymharu â llai na 100 mlynedd yn ôl ac maent yn parhau i fod y mwyaf darniog o’r holl ecosystemau. Yn aml, mae’r clytiau o gynefin glaswelltir sy’n weddill yn cael eu heffeithio gan gyflwr gwael, a’r prif achos am hyn yw esgeulustod/tanreoli, a thanbori yn benodol.
Mae meintiau llai, cysylltedd gwael a chyflwr gwael i gyd yn effeithio ar amrywiaeth – er enghraifft, mae cysylltedd isel yn golygu na all rhywogaethau glaswelltir llai symudol symud yn hawdd trwy’r dirwedd. Ar hyn o bryd, mae amrywiaeth yn isel mewn ardaloedd iseldirol ac yn ganolig yn yr ucheldiroedd, gyda’r ddau yn dangos tueddiadau ar i lawr.
Mae maint cynefin glaswelltir mewn ardaloedd ucheldirol yn parhau’n gymharol sefydlog, er mai dim ond tua 1% o gynefin glaswelltir â blaenoriaeth sydd yn yr ucheldiroedd.
Mae camau gweithredu diweddar sydd wedi’u hanelu at wella cyflwr a chysylltedd cynefinoedd yn cynnwys sawl prosiect adfer a ariannwyd trwy’r Gronfa Rhwydweithiau Natur, gwelliannau i reolaeth safleoedd gan dimau lleol yn CNC, a mentrau dan arweiniad Plantlife, i gyd wedi’u cynorthwyo gan fapiau wedi’u diweddaru o rwydweithiau ecolegol. Fodd bynnag, mae angen cynyddu’r gwaith adfer yn sylweddol a’i weithredu dros gyfnodau hirach. Gall y Cynllun Ffermio Cynaliadwy fod yn drobwynt, ond bydd ei lwyddiant yn dibynnu ar nifer y rhai sy’n dewis manteisio arno a’r adnoddau sydd ar gael iddo. At ei gilydd, mae gwydnwch yn parhau i fod yn isel, gyda rhagolygon cymysg ar gyfer gwella.
Nod 3: Lleoedd iach ar gyfer pobl, wedi’u diogelu rhag peryglon amgylcheddol
Mae glaswelltiroedd lled-naturiol yn darparu gwasanaethau hanfodol sy’n amddiffyn ac yn gwella iechyd pobl. Maent yn storio symiau sylweddol o garbon pridd – mwy na glaswelltiroedd wedi’u gwella – a gallant ddechrau atafaelu carbon o fewn dwy flynedd i’w hadfer. Maent hefyd yn hidlo llygryddion aer, gan leihau risgiau iechyd anadlol, yn cynhyrchu llawer llai o lygredd dŵr nag amaethyddiaeth ddwys, ac yn rheoleiddio llif dŵr, gan helpu i liniaru risgiau llifogydd. Mae’r manteision hyn yn arbennig o amlwg mewn glaswelltiroedd gorlifdir, a all gadw symiau mawr o ddŵr yn ystod glaw trwm, fel arfer gyda’r effaith leiaf ar amrywiaeth a thwf porfeydd.
Mae glaswelltiroedd hefyd yn cefnogi llesiant meddyliol a chorfforol trwy ddarparu cyfleoedd hamdden, amwynderau a gwasanaethau diwylliannol. Gwnaed dros 23 miliwn o ymweliadau â’r cynefinoedd hyn yn 2021/22, gan gyfrannu at iechyd y cyhoedd ac economïau lleol. Yn ôl arolygon barn, mae tirweddau sy’n llawn blodau gwyllt ac amrywiaeth adeileddol yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan bobl. Er gwaethaf y manteision hyn, dim ond cyfran fach o laswelltiroedd sy’n cael eu gwarchod, ac mae mynediad teg yn parhau i fod yn bwnc heb ei ddeall yn dda. Mae buddsoddiad parhaus mewn diogelu ac adfer yn hanfodol i gynnal y cynefinoedd hyn, a’r gwasanaethau llesiant maent yn eu darparu, ac i sicrhau eu bod nhw’n hygyrch i bawb.
Nod 4: Cyfrannu at economi adfywiol, gan gyflawni lefelau cynhyrchu a defnydd cynaliadwy
Mae glaswelltiroedd lled-naturiol yn cefnogi economi adfywiol drwy ddarparu gwasanaethau ecosystemau sy’n sail i amaethyddiaeth gynaliadwy. Maent o bwys arbennig i wenyn ac infertebratau eraill sy’n peillio, ac mae ganddynt rôl allweddol mewn rheoli plâu, rheoleiddio ansawdd pridd, a phuro dŵr. Mae glaswelltiroedd lled-naturiol yn lleihau erydiad pridd ac yn cyfrannu at reoli llifogydd yn naturiol. Mae eu rheolaeth mewnbwn isel yn lleihau llygredd ac yn cefnogi bioamrywiaeth, wrth gynhyrchu bwyd o ansawdd uchel sy’n llawn maetholion. Mae arferion traddodiadol fel cynaeafu gwair hefyd yn cadw treftadaeth ddiwylliannol, ac mae cynefinoedd glaswelltir yn adnoddau genetig allweddol ar gyfer bridio cnydau.
Mae pwysau economaidd fel dwysáu amaethyddol, datblygu seilwaith a choedwigo yn parhau i fygwth glaswelltiroedd lled-naturiol. Fodd bynnag, mae ffermio dwyster isel yn cael ei gydnabod fwyfwy fel model economaidd hyfyw. Disgwylir i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy sydd ar ddod ysgogi gwell rheolaeth ond rhaid iddo gael digon o adnoddau a chael ei fabwysiadu’n eang. Gall integreiddio adfer glaswelltir i gynllunio defnydd tir ehangach ddarparu cyd-fuddion i natur, pobl a’r economi, gan gefnogi symudiad o seilwaith llwyd i atebion ar sail natur.
Newidiadau allweddol ers Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020
Ychydig iawn o welliant, os o gwbl, sydd wedi bod yng ngwydnwch glaswelltiroedd lled-naturiol yng Nghymru ers Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020. Mae’r prif ffactorau sy’n sbarduno newid a nodwyd yn 2020, megis dwysáu amaethyddol, tanreoli, llygredd atmosfferig a newid hinsawdd, yn parhau i fod yn arwyddocaol.
Ni chanfuwyd unrhyw welliant gwirioneddol yng nghwmpas na chysylltedd glaswelltiroedd lled-naturiol. Yn yr un modd, nid oes fawr ddim tystiolaeth o welliant diweddar yng nghyflwr glaswelltir lled-naturiol, gydag esgeulustod/tanreoli yn dal i fod y brif broblem. O ganlyniad, mae amrywiaeth glaswelltiroedd wedi parhau i ddirywio.
Mae tystiolaeth newydd yn awgrymu bod cynefinoedd a rhywogaethau glaswelltir hyd yn oed yn fwy agored i effeithiau newid hinsawdd nag a feddyliwyd yn flaenorol. Mae cyfraddau dyddodiad nitrogen atmosfferig wedi parhau i ostwng ond mae pob math o laswelltir lled-naturiol yn parhau i gael ei effeithio gan achosion o fynd y tu hwnt i’r lefelau llwyth critigol, ac mae dyddodiad amonia sych wedi cynyddu mewn rhai ardaloedd.
Bu cynnydd cyfyngedig o ran gwarchodaeth statudol ychwanegol i gynefinoedd glaswelltir ers 2020, er y gallai cynnydd wella o ystyried amcan ‘30 erbyn 30’ Llywodraeth Cymru ar gyfer ‘rhaglen hysbysu SoDdGA gyflymach’. Mae sawl prosiect ar wahân wedi bod o fudd i wydnwch glaswelltiroedd yn lleol ond mae angen cynyddu’r gwaith ar frys a’i weithredu dros yr hirdymor.
Darllenwch ein hasesiad llawn o ecosystem glaswelltir lled-naturiol yn Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025.
Tystiolaeth sylfaenol
Wrth ysgrifennu ein hasesiadau ac er mwyn nodi cyfleoedd gweithredu yn well, rydym wedi casglu tystiolaeth sy’n ein helpu i ddeall yr agweddau allweddol hyn:
- ysgogwyr newid a phwysau ar laswelltir lled-naturiol yng Nghymru
- gwydnwch ecosystemau glaswelltir lled-naturiol yng Nghymru
- y manteision, neu’r gwasanaethau, a gawn o laswelltir lled-naturiol a sut mae newidiadau yng nghyflwr glaswelltir lled-naturiol yn effeithio ar lesiant
Anghenion tystiolaeth
Mae diffyg gwybodaeth ddiweddar am raddfa a chyflwr yn rhwystr mawr i wella gwydnwch glaswelltiroedd lled-naturiol yng Nghymru. Mae’r wybodaeth bresennol am raddfa yn seiliedig yn bennaf ar arolwg o ddiwedd y ganrif ddiwethaf, tra bod asesiad cyflwr diweddar yn cwmpasu lleiafrif o nodweddion SoDdGA glaswelltir ac yn brin iawn ar gyfer safleoedd anstatudol. Mae hefyd angen gwerthuso llwyddiant cynlluniau amaeth-amgylcheddol a phrosiectau creu glaswelltir yn well, a monitro tueddiadau mewn amrywiaeth rhywogaethau glaswelltir, yn enwedig ar gyfer planhigion fasgwlaidd ac infertebratau anghyffredin.
Mae angen mwy o ymchwil i fesur gwasanaethau ecosystemau glaswelltiroedd yn well, fel storio carbon, rheoleiddio dŵr ac atal llifogydd. Mae hyn yn cynnwys deall effaith amrywiol gyfundrefnau rheoli, amrywiaeth rhywogaethau ac adeileddau gwreiddiau ar ddeinameg carbon a dŵr pridd. Mae effeithiau newid hinsawdd ar gyfansoddiad rhywogaethau a darparu gwasanaethau ecosystemau hefyd yn flaenoriaeth. Ceisir rhagor o dystiolaeth ar effeithiau llygredd atmosfferig, plannu coed, a newidiadau defnydd tir ar wydnwch glaswelltir, ac i nodi’r lleoliadau gorau posibl ar gyfer creu glaswelltir newydd i wella cysylltedd a manteision ecosystemau.
Darllenwch am anghenion tystiolaeth SoNaRR 2025.
Ffynonellau tystiolaeth allweddol
Archwiliwch rai o’r dystiolaeth rydyn ni wedi’i defnyddio i lywio ein hasesiad:
- SoNaRR 2020: Glaswelltiroedd lled-naturiol
- Tueddiadau llygredd aer: achosion o fynd y tu hwnt i lwythi critigol a lefelau critigol yn y DU
- Plymio dwfn bioamrywiaeth: argymhellion
- Adroddiad ERAMMP-105: Tueddiadau Cenedlaethol Cymru a Gwerthusiad Glastir
- Adroddiad Cyntaf Rheoliadau Cynefinoedd 9A ar gyfer Cymru 2025 [ar waith]
- Asesiad gwaelodlin safleoedd gwarchodedig 2020
- Ailwerthuso sensitifrwydd cynefinoedd i newid hinsawdd
- Adroddiad State of Nature
- Cyfrifon cyfalaf naturiol y DU
Astudiaethau achos
Prosiectau ysbrydoledig o bob cwr o Gymru sy’n annog ysbryd o newid.
Dolydd gorlifdir yng Nghymru
Ers 2023, mae prosiect dolydd gorlifdir yng Nghymru wedi bod yn datblygu perthnasoedd a gwybodaeth yn ymwneud â dolydd gorlifdir yng Nghymru. Maent yn gweithio i archwilio graddfa hanesyddol a chyfredol dolydd gorlifdir, pennu’r potensial ar gyfer adfer, a chydweithio ag amrywiol grwpiau gyda’r nod o helpu i ddatblygu ymchwil yn y dyfodol a phrosiectau adfer dolydd gorlifdir.
Dolydd gorlifdir yng Nghymru | Floodplain Meadows Partnership
Mapiau rhwydwaith ecolegol: glaswelltiroedd
Cynnydd wrth ailfapio rhwydweithiau ecolegol, sy’n galluogi’r gwaith o greu ac adfer glaswelltiroedd i gael ei dargedu’n fwy gofodol er mwyn gwella rhwydweithiau ecolegol pwysig. Mae mapiau rhwydwaith ecolegol CNC ar gyfer glaswelltiroedd wedi cael eu diweddaru (2022) ac maent ar gael. Mae’r mapiau hyn yn cael eu defnyddio a’u datblygu ymhellach gan dimau lleol CNC (er enghraifft, yn ardaloedd y De-orllewin a Chanol De Cymru). Defnyddir y mapiau rhwydwaith ecolegol yn helaeth hefyd wrth gynllunio gwlad a chreu coetiroedd.
Rhwydweithiau Ecolegol â Blaenoriaeth | MapDataCymru
Prosiect Creaduriaid Cudd y Creuddyn
Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Chadwraeth Gloÿnnod Byw, sef sefydliad amgylcheddol di-elw. Fe’i hariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Rhwydweithiau Natur Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i gryfhau gwydnwch amgylcheddol tir gwarchodedig Cymru. Nod y prosiect yw deall a gwarchod rhywogaethau prin a rhai mewn perygl ar benrhyn Creuddyn yn well trwy lywio rheoli cynefinoedd ar y Gogarth, Bryn Euryn, Nant y Gamar a safleoedd eraill yn yr ardal os yn bosibl.
Prosiect infertebratau yn y Creuddyn yn cofnodi rhywogaeth brin – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy