Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae’r wybodaeth hon yn rhan o’n Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025

Llygredd yw halogion a phethau eraill sy’n achosi niwsans yn yr amgylchedd a all niweidio iechyd pobl, organebau byw, neu’r amgylchedd naturiol neu adeiledig. Gall yr halogion hyn fod ar ffurf sylweddau (e.e. cemegion) neu ynni (e.e. golau, sŵn, ymbelydredd, gwres). Gall yr halogion hyn newid priodweddau biolegol, thermol, cemegol, ffisegol neu ymbelydrol y cyfrwng y maent ynddo (e.e. dŵr, aer, tir) yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol mewn ffordd a all greu perygl. Gall y rhain gael eu cynhyrchu gan brosesau naturiol a gweithgareddau dynol.

Negeseuon allweddol

  • Er bod ansawdd aer yng Nghymru wedi gwella, mae llygredd yn dal i effeithio ar iechyd ac ecosystemau, gan wneud gweithredu cydlynol o dan ddeddfwriaeth newydd yn hanfodol i gyflawni nodau amgylcheddol.
  • Mae llygredd tir a phridd yn cynnwys dyddodiad atmosfferig (e.e. nitrogen, sylffwr), taenu a gwasgaru ar dir neu waredu gwastraff (e.e. metelau trwm, plaladdwyr, microplastigion, maethynnau y tu hwnt i’r angen ar gyfer cnydau, tipio anghyfreithlon), ac o ddyfroedd llygredig (e.e. dŵr ffo, llifogydd). Mae halogion fel sylweddau perfflworinedig a pholyfflworinedig (PFAS), meddyginiaethau milfeddygol a chynhyrchion fferyllol eraill yn destun pryder, ond mae tystiolaeth am eu heffeithiau hirdymor yn gyfyngedig. Er bod rhai llygryddion wedi lleihau, mae eraill yn parhau neu’n cynyddu’n lleol.
  • Mae 40% o gyrff dŵr croyw a morol Cymru yn cyflawni statws da o dan Reoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, ffigur sydd heb newid ers yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol diwethaf. Mae pwysau sylweddol yn cynnwys dŵr gwastraff, trefi a dinasoedd, trafnidiaeth, amaethyddiaeth a mwyngloddiau segur. Mae pryder cynyddol y cyhoedd ynghylch effeithiau ansawdd dŵr gwael yn tynnu sylw at ba mor bwysig yw ein hamgylcheddau dŵr croyw a morol i bobl Cymru. · Mae llygredd sŵn yng Nghymru yn bryder iechyd cyhoeddus, gyda 25% o drigolion yn nodi eu bod wedi cael eu heffeithio, yn enwedig mewn ardaloedd trefol. Nod deddfwriaeth newydd ar seinweddau yng Nghymru yw gwella llesiant drwy hyrwyddo amgylcheddau acwstig iachach a mwy cynhwysol.
  • Mae gan 18.84% o Gymru ddynodiad awyr dywyll. Er bod ymwybyddiaeth o gyfleoedd awyr nos ac effeithiau llygredd golau yn dod yn fwy amlwg, mae llygredd golau yn parhau i fod yn broblem ar draws llawer o Gymru. Mae llygredd golau yn tarfu ar ymddygiadau ecosystemau cyfan ac adar mudol, sy’n dibynnu ar dywyllwch naturiol. Gall llygredd golau lle mae pobl yn byw effeithio ar iechyd a llesiant pobl.
  • Mae ymyriadau strategol, atebion ar sail natur, a rheoli tir a dŵr ar y cyd yn dangos rhywfaint o lwyddiant wrth adfer ecosystemau a lleihau llygredd, ond rhaid cymryd camau gweithredu yn gyflym ac ar raddfa fawr i reoli ffynonellau llygredd a lliniaru ei effeithiau.

Tystiolaeth sylfaenol

Mae asesiad o lygredd Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 wedi’i lywio gan dystiolaeth a nodir yn y pwysau ar gyfer pob adnodd naturiol ac ecosystem. Mae tystiolaeth fanwl ar gyfer ysgogwyr newid a phwysau i’w gweld yn ein hadroddiad Power BI rhyngweithiol yn y ddolen isod. Mae pob ecosystem ac adnodd naturiol yn cael eu heffeithio gan lygredd ac mae tystiolaeth berthnasol ar gael iddynt.

Darllenwch ein hasesiadau ar adnoddau naturiol ac ecosystemau.

Ewch i’n porth tystiolaeth ar gyfer Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 i weld y dystiolaeth fanwl.

Gweld fersiwn sgrin lawn.

 

Ffynonellau tystiolaeth allweddol

Archwiliwch rai o’r dystiolaeth rydyn ni wedi’i defnyddio i lywio ein hasesiad:

Astudiaethau achos

Llonyddwch a Lle

Mae’r adnodd Llonyddwch a Lle daearol, sy’n gyson yn genedlaethol, yn nodi’r adnodd strategol a lleol mewn ardaloedd anghysbell, gwledig, amdrefol a threfol, at ddibenion ei ddefnyddio fel sail dystiolaeth i lywio bwriad polisïau, arferion, a gwasanaethau sy’n gwella llesiant pobl.

Llonyddwch a Lle

Diweddarwyd ddiwethaf