Llwybrau ar gyfer defnyddwyr offer addasol
Gwyliwch ein ffilmiau er mwyn penderfynu a yw llwybr yn addas ar gyfer eich offer addasol
Mae llwybrau cerdded sy'n addas ar gyfer pob gallu ar gael yn ein coetiroedd a'n Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol ar draws Cymru.
Mae adrannau o lwybr pren ar rai llwybrau sy'n eich galluogi i brofi amrywiol dirweddau, o gorsydd i wlyptiroedd. Mae llwybrau eraill yn dilyn troedffyrdd gwastad o amgylch llynnoedd neu wrth ymyl afonydd ac mae rhai yn mynd â chi i lecynnau gwylio dros raeadrau.
Mae arwyddbyst ar bob un o'n llwybrau o'u dechrau hyd at eu diwedd a cheir panel gwybodaeth ar ddechrau pob un.
Caiff pob llwybr cerdded yn ein coetiroedd a'n Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol ei raddio er mwyn rhoi syniad o'i anhawster.
Mae'r graddau'n rhoi sylw i arwyneb y llwybr, graddiannau a lefel y ffitrwydd sydd ei angen.
Mae graddau’r llwybrau wedi’u nodi ar y wefan hon ac ar y panel gwybodaeth sydd ar ddechrau'r llwybr.
Dod i wybod mwy am raddau llwybr cerdded.
Mae ein teithiau cerdded gradd hygyrch yn addas i bawb, gan gynnwys pobl sy'n defnyddio cadair olwyn.
Sylwch, os gwelwch yn dda, y gallai fod angen cymorth i wthio cadeiriau olwyn ar hyd rhai adrannau.
Mae'r holl lwybrau cerdded ar y dudalen hon wedi'u graddio fel rhai hygyrch.
Gall rhai o'r llwybrau eraill yn ein coetiroedd a'n gwarchodfeydd fod yn addas ar gyfer defnyddwyr offer addasol.
Rydym wedi cynhyrchu cyfres o ffilmiau i helpu pobl sy'n defnyddio offer addasol (beiciau addasol, cadeiriau olwyn addasol a sgwteri symudedd) i ganfod pa mor addas y gall rhai o'n llwybrau eraill fod cyn iddynt ymweld.
Er mwyn gwylio'r ffilmiau am rai o'n llwybrau eraill, ewch i Llwybrau ar gyfer Defnyddwyr Offer Addasol.
Er mwyn dod o hyd i lwybrau cerdded yn ein coetiroedd a'n gwarchodfeydd eraill ewch i Lleoedd i Ymweld â Nhw.
Y Barcud Coch yw’r enw Cymraeg am Red Kite ac o’r llwybr hwn, naill ai o'r tu mewn i'r guddfan neu yn y llecyn gwylio, y ceir yr olygfa orau o sioe fwydo’r barcutiaid coch sy’n wledd ddyddiol i’r llygaid. Mae hysbysfyrddau ar hyd y llwybr ac arnynt ffeithiau hynod ddiddorol am y barcud coch a cheir gwybodaeth yn y guddfan am y bywyd gwyllt sydd ar y llyn.
Cadwch lygad ar hyd y llwybr am gerfluniau a barddoniaeth sy'n dod â llên gwerin a hanes lleol yn fyw – codwch daflen Llwybr Elenydd yn y ganolfan ymwelwyr.
Mae'r Llwybr Pos Anifeiliaid yn dilyn yr un llwybr â Llwybr y Barcud – codwch daflen Llwybr Pos Anifeiliaid o'r dosbarthwr neu yn y ganolfan ymwelwyr a cheisiwch ddod o hyd i gymaint o’r anifeiliaid ag y gallwch.
Dod i wybod mwy am ymweld â Chanolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian
Cadwch lygad am adar fel y trochwr a'r siglen lwyd sy'n bridio ar lan y llyn, a'r ysgol bysgod ger y bont droed sy'n helpu’r eogiaid i gyrraedd y nentydd.
Dod i wybod mwy am ymweld â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris
Mae'r llwybr byr hwn yn arwain trwy'r coetir ac wrth ochr nant.
Dod i wybod mwy am ymweld â Choed Moel Famau
Dilynwch y llwybr hygyrch i lawr trwy goetiroedd hyd at safle picnic glan yr afon lle mae Afon Eden yn rhuthro dros y creigiau.
Codwch daflen Llwybr Pos Anifeiliaid o'r ganolfan ymwelwyr a gadewch i ymwelwyr iau ddilyn y cliwiau.
Rydym wedi cynhyrchu ffilm i'ch helpu i ganfod pa mor addas yw'r llwybr hwn i chi cyn i chi ymweld.
Person anabl sy’n siarad ar y ffilm wrth deithio ar hyd y llwybr gan ddefnyddio offer personol. Mae'n dangos arwyneb y llwybr, graddiannau a dringfeydd i fyny ac i lawr yr allt a lle y gallai fod angen help arnoch mewn mannau penodol.
Dod i wybod mwy am ymweld â chanolfan ymwelwyr Coed y Brenin
Mae'r llwybr yn croesi dros y bont a thrwy ran isaf gardd y goedwig ar ei ffordd i olygfan sy'n edrych dros y rhaeadr.
Mae gardd y goedwig yn gartref i goed o bob cwr o'r byd – cadwch lygad am yr arwyddion arbennig sy’n cynnwys ffeithiau hynod ddiddorol am rai o'r coed.
Dod i wybod mwy am ymweld â Pharc Coedwig Coed y Brenin – Gardd y Goedwig
Dilynwch yr arwyddion cyfeirio o faes parcio Pont Llam yr Ewig ar hyd hen dramffordd i'r man gwylio uwchben y gweithfeydd mwyngloddio.
Dod i wybod mwy am ymweld â Pharc Coedwig Coed y Brenin – Glasdir
Dewch i weld y coed Douglas godidog, sef y coed mwyaf yng Nghoed y Brenin.
Mae'r llwybr yn dolennu ochr yn ochr â'r afon hyd at y goeden sydd â’r boncyff llydanaf a elwir ‘Y Brenin’.
Dod i wybod mwy am ymweld â Pharc Coedwig Coed y Brenin – Pont Ty'n-y-groes
Mae'r coed gwern gyda’u bonion lluosog yn dystiolaeth o brysgoedio (torri’n agos at y bôn ac ail-egino).
Yn y gwanwyn, cadwch lygad am felyn ysblennydd y gors ac ymbarelau pinc cain Llysiau Cadwgan (valerian) sy’n tyfu ar hyd y llwybr pren, ac aroglwch y clychau'r gog persawrus sy'n tyfu ar hyd rhan hon y llwybr.
Dod i wybod mwy am ymweld â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed y Cerrig
Mwynheuwch weld a chlywed adar y gwlyptir yn y gwely cyrs.
Mae yna fywyd gwyllt i'w weld neu glywed drwy’r amser, bob adeg o'r flwyddyn.
Dod i wybod mwy am ymweld â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Bodeilio
Mae'r llwybr pren yn eich arwain i ganol yr ardal helaeth hon o wlyptir trawiadol.
Mae'r llwybr yn mynd heibio'r guddfan fawr lle gallwch fwynhau golygfa heddychlon (a sych!) o'r dirwedd a’r bywyd gwyllt.
Dod i wybod mwy am ymweld â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron
Dewch ar ymweliad yn y gwanwyn neu'r haf a mwynhewch un o'r dolydd gorau yng Nghanolbarth Cymru sy'n orlawn o flodau gwyllt ac wedi’i lleoli wrth fynedfa'r warchodfa.
Mae'r llwybr pren yn ymdroelli wedyn trwy'r coetir corsiog a heibio'r goedwig o goed crebachlyd.
Dod i wybod mwy am ymweld â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors y Llyn
Ar ei ffordd i'r olygfan dros raeadrau Sychryd, mae'r llwybr yn mynd heibio i graig enfawr Bwa Maen – cadwch lygad am y panel gwybodaeth i gael manylion y nodwedd ddaearegol drawiadol hon.
Dod i wybod mwy am ymweld â Chraig y Ddinas
Mae'r llwybr hwn yn arwain trwy amrywiaeth o goed, o gonwydd tal i goed bedw ifanc, ac yn cyrraedd ardal laswelltog agored wrth ymyl yr afon fyrlymus.
Oedwch am eiliad i wrando am fywyd gwyllt ac i’w gwylio, neu dewch o hyd i'r ‘arwyddion sy’n diflannu’ ar hyd y llwybr sy’n nodi ffeithiau hynod ddiddorol am y coed a'r bywyd gwyllt sy'n byw yma.
Dod i wybod mwy am ymweld â Llyn Crafnant
Mae Taith Gerdded Y Rhaeadrau yn dilyn llwybr pren ar hyd glan yr afon ac ymlaen at y rhaeadrau aflonydd.
Yma mae llwyfan uchel er mwyn i chi fwynhau'r olygfa cyn dychwelyd trwy'r goedwig i'r maes parcio.
Dod i wybod mwy am ymweld â Choedwig Hafren
Dilynwch y llwybr ar draws y safle picnic i'r man gwylio dros lyn cudd y goedwig.
Yno fe welwch wybodaeth am yr adar sy'n byw yma, neu arhoswch wrth un o'r byrddau picnic ac efallai y byddwch yn ddigon ffodus i weld gwiwer goch yn y coed.
Dod i wybod mwy am ymweld â Gwarchodfa Natur a Choedwig Genedlaethol Niwbwrch
Mae'r holl lwybrau o amgylch y gwelyau cyrs yn hygyrch i gadeiriau olwyn a cheir meinciau bron bob 200 metr. Mae'r llwybrau'n wastad gyda rhai llethrau ysgafn a ramp igam-ogam wrth ddringo'r pum metr i fyny i lefelau’r cyforgorsydd.
Cadwch lygad am degeirianau ddiwedd y gwanwyn a dechrau'r haf.
Ewch trwy welyau cyrs, dros y bont arnofio a heibio'r goleudy.
Ewch trwy welyau cyrs, coetir, heibio dŵr agored a'r aber.
Mae'r llwybr hwn yn cyfuno'r llwybr tegeirianau, y llwybr coetir a'r aber a rhan o Lwybr Arfordir Cymru.
Dilynwch y llwybr pren i ganol y gors a chewch weld y gwelyau cyrs a hesg sy'n gartref i amrywiaeth o blanhigion, adar a phryfed y gwlyptir.
Dod i wybod mwy am ymweld â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Pant y Sais.