1. Cyflwyniad

Polisi gorfodi a sancsiynau Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r ddogfen hon. Mae’n nodi’r egwyddorion cyffredinol a ddilynwn mewn perthynas â gorfodi a chyflwyno sancsiynau. Dim ond i Gymru y mae’r polisi hwn yn berthnasol ac mae’n disodli’r holl ddogfennau polisi gorfodi blaenorol.

2. Ein Hegwyddorion Rheoleiddio

Rydym yn defnyddio ein Hegwyddorion Rheoleiddio i arwain ein dull rheoleiddio ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a chyflawni canlyniadau llesiant.

2.1 Gweithredu'n gymesur

Mae rhai digwyddiadau neu achosion o dorri gofynion rheoliadol yn achosi, neu â'r potensial i achosi, niwed amgylcheddol difrifol. Gall eraill ymyrryd â mwynhad neu hawliau pobl, neu ein gallu i gyflawni ein gweithgareddau. Ein hymateb cyntaf fydd atal niwed i bobl a'r amgylchedd rhag digwydd neu barhau. Bydd unrhyw gamau gorfodi a gymerwn yn gymesur â'r risgiau i bobl a'r amgylchedd. Byddwn hefyd yn ystyried difrifoldeb yr achos o dorri’r gyfraith a’i effaith ar fusnesau cyfreithlon.

2.2 Bod yn gyson

Ein nod yw mabwysiadu dull tebyg mewn amgylchiadau tebyg o ran:

  • y cyngor a roddwn
  • sut rydym yn ymateb i lygredd a digwyddiadau eraill
  • sut rydym yn defnyddio pwerau
  • sut rydym yn penderfynu a ddylid erlyn
  • pa gosb allai fod yn briodol.

Bydd ein swyddogion yn ystyried llawer o newidynnau:

  • maint yr effaith amgylcheddol
  • agwedd a gweithredoedd unigolion a rheolwyr busnesau
  • hanes digwyddiadau neu doriadau blaenorol

Mae penderfyniadau ar gamau gorfodi yn fater o farn broffesiynol ac mae angen i'n swyddogion allu arfer disgresiwn.

2.3 Bod yn dryloyw

Byddwn yn parhau i hyfforddi ein staff a datblygu ein gweithdrefnau i sicrhau’r canlynol:

  • lle mae angen camau unioni, rydym yn esbonio’n glir pam mae angen y camau gweithredu a phryd y mae’n rhaid eu cymryd, gan wahaniaethu rhwng cyngor arferion gorau a gofynion cyfreithiol
  • rydym yn rhoi’r cyfle i drafod yr hyn sy’n ofynnol i gydymffurfio â’r gyfraith cyn cymryd camau gorfodi ffurfiol, oni bai fod angen gweithredu ar frys, er enghraifft i ddiogelu’r amgylchedd neu i atal tystiolaeth rhag cael ei dinistrio
  • pan fyddwn yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr gymryd camau brys, byddwn yn darparu nodyn ysgrifenedig yn esbonio’r rhesymau am hyn cyn gynted â phosibl ar ôl y digwyddiad byddwn yn rhoi esboniad ysgrifenedig o unrhyw hawliau apelio yn erbyn camau gorfodi ffurfiol ar yr adeg y cymerir y camau

2.4 Targedu camau gorfodi

Byddwn yn blaenoriaethu ein hymdrech reoleiddiol tuag at weithgarwch sydd â'r potensial i achosi niwed amgylcheddol difrifol. Byddwn yn canolbwyntio gweithredu ar y rhai sy’n torri’r gyfraith neu’r rhai sy’n uniongyrchol gyfrifol am y risg a/neu’r rhai sydd yn y sefyllfa orau i’w rheoli.

2.5 Bod yn atebol

Byddwn yn cymryd cyfrifoldeb am ein penderfyniadau ac yn eu cyfiawnhau lle bo'n briodol. Mae ein hysbysiadau a gwaith papur gorfodi a chosbi yn cynnwys gwybodaeth am sut i apelio a chwyno. Byddwn yn ymgynghori pan fyddwn yn newid ein polisi gorfodi. Byddwn yn cefnogi adolygiadau cyfnodol gan Lywodraeth Cymru o’n gweithgareddau rheoleiddio a gorfodi. Byddwn hefyd yn adrodd ar ein gweithgareddau gorfodi a chosbi, fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth.

2.6 Rhoi sylw i gyfrifoldebau ehangach

Mae ein dull o wneud penderfyniadau ar gosbau sifil o dan y Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau ac mewn perthynas â newid hinsawdd a mercwri (fel y nodir yn atodiadau 1 i 3) yn ystyried ein defnydd o egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Credwn ei fod hefyd yn rhoi sylw i brif ddarpariaethau Deddf Dadreoleiddio 2015 ac i ddymunoldeb hybu twf economaidd. Yn benodol, ni fyddwn yn caniatáu i weithredwyr fynd ar drywydd twf economaidd ar draul diogelu pobl a'r amgylchedd. Byddwn yn sicrhau bod ein camau gorfodi yn cefnogi yn hytrach na rhwystro busnesau cyfreithlon.

3. Gorfodaeth sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau

Gallwn ddefnyddio’r sancsiynau sydd ar gael inni i gyflawni canlyniadau amgylcheddol. Gellir rhannu’r canlyniadau a geisiwn yn dri math cyffredinol:

3.1 Offer i atal troseddu

  • Hysbysiadau
  • Hysbysiad stop
  • Hysbysiad stop dros dro
  • Hysbysiad gwahardd dŵr daear
  • Hysbysiad gwaith gwrthlygredd

3.2 Offer i adfer

  • Hysbysiad adfer
  • Hysbysiad gorfodi
  • Hysbysiad i gael gwared ar wastraff
  • Hysbysiad yn gofyn am ailstocio coedwigaeth
  • Hysbysiad gwaith gwrthlygredd

3.3 Offer i atal a/neu gosbi

  • Cosbau troseddol
  • Cosbau ariannol amrywiadwy, Cosbau ariannol penodedig
  • Cosbau sifil ychwanegol ar gyfer Cynllun yr UE ar gyfer Masnachu Allyriadau
  • Cynllun Effeithlonrwydd Ynni’r Ymrwymiad Lleihau Carbon, a chosbau sifil mercwri

4. Egwyddorion cosbau gorfodi a sancsiynau

Pan fyddwn yn ystyried y camau priodol i fynd i'r afael â throseddu ac i sicrhau cydymffurfedd, byddwn yn dilyn yr egwyddorion cosbau a nodir yn Adolygiad Macrory ac a gynhwysir yng Nghod y Rheoleiddwyr.

5. Opsiynau gorfodi

Mae gorfodi yn golygu unrhyw gamau a gymerwn pan fyddwn yn amau bod trosedd wedi digwydd neu, mewn rhai achosion, ar fin digwydd. Gall hyn amrywio o roi cyngor ac arweiniad, cyflwyno rhybuddion, hyd at erlyn, neu unrhyw gyfuniad sy'n cyflawni'r canlyniad dymunol orau.

Mewn rhai achosion, dan Reoliadau Difrod Amgylcheddol 2009, efallai y bydd angen cymryd camau gorfodi yn absenoldeb unrhyw drosedd a ddrwgdybir, ond yn y rhan fwyaf o achosion, bydd gweithgaredd sy'n arwain at 'ddifrod amgylcheddol' dan y rheoliadau hefyd yn cael ei ystyried yn drosedd dan ddeddfwriaeth amgylcheddol.

O fewn y dull gweithredu cyffredinol hwn, byddwn yn ystyried sut beth yw ymateb cymesur i'r troseddu a gallai hynny fod yn gyngor ac arweiniad ond, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, gall fod yn erlyniad. Lle mae trosedd wedi'i chyflawni, byddwn fel arfer yn ystyried rhoi rhyw fath o sancsiwn yn ogystal â chymryd unrhyw gamau ataliol neu adferol eraill sy'n angenrheidiol i amddiffyn yr amgylchedd neu bobl. Ein nod yw defnyddio cosbau sifil a throseddol mewn modd sy'n briodol i'r drosedd.

Mae’r opsiynau gorfodi sydd ar gael gennym yn cynnwys:

  • rhoi cyngor ac arweiniad
  • cyflwyno rhybudd
  • hysbysiadau gorfodi statudol a hysbysiadau gwaith
  • hysbysiadau gwahardd
  • atal neu ddiddymu trwyddedau amgylcheddol a/neu amrywio amodau trwydded
  • gwaharddebau
  • gwneud gwaith adfer
  • cosbau sifil
  • sancsiynau sifil ac ariannol eraill, gan gynnwys hysbysiadau cosb benodedig
  • rhoi rhybuddiad ffurfiol
  • erlyniad a gorchmynion ategol i erlyn
  • sancsiynau a ddefnyddir ar y cyd

Dewch o hyd i restr lawn o bob toriad a throsedd a reoleiddiwn a'r camau gorfodi sydd ar gael i ni yn yr Opsiynau Ymateb i Droseddu.

5.1 Ymyriadau

5.1.1 Cyngor ac arweiniad – cymorth cydymffurfio

Ein nod yw darparu cyngor ac arweiniad i gynorthwyo gweithredwr neu unigolyn i ddod yn ôl i gydymffurfedd ar unrhyw adeg. Ar gyfer ymateb gorfodi, byddwn fel arfer yn darparu cyngor ac arweiniad ar ôl i drosedd gael ei chyflawni neu pan fyddwn yn ystyried bod trosedd yn debygol o gael ei chyflawni.

Pan fyddwn yn darparu cymorth cydymffurfio o’r math hwn, nid yw’n rhagfarnu unrhyw ymateb gorfodi arall a allai fod yn ofynnol. Gall y cymorth cydymffurfio hwn fod ar lafar neu'n ysgrifenedig ond caiff ei gofnodi. Os bydd achos(ion) o ddiffyg cydymffurfio neu ddiffyg cydymffurfio pellach, gallai hyn ddylanwadu ar y dewis dilynol o ymateb.

Byddwn hefyd yn ceisio, lle bo modd, sicrhau ateb parhaol i'r broblem a achosodd i droseddau gael eu cyflawni.

5.1.2 Rhybuddion

Mae rhybudd yn hysbysiad ysgrifenedig ein bod yn credu bod trosedd wedi'i chyflawni. Gall yr hysbysiad fod naill ai'n:

  • llythyr rhybudd
  • rhybudd safle a roddir fel arfer ar y safle neu fel arall o ganlyniad i ymweliad cydymffurfio â safle neu weithgaredd a drwyddedir

Mewn achos o ddiffyg cydymffurfio pellach, gall rhybudd ddylanwadu ar ein dewis dilynol o sancsiwn.

Gellir defnyddio rhybuddion i gyflawni unrhyw un o'r pedwar math o ganlyniad amgylcheddol y gallem eu ceisio.

5.1.3 Hysbysiadau, pwerau a gorchmynion

Mae llawer o'r cyfundrefnau yr ydym yn eu gorfodi eisoes yn cynnwys pwerau i gyflwyno hysbysiadau penodol sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r derbynnydd roi'r gorau i droseddu, adfer amgylchedd yr effeithiwyd arno, neu gydymffurfio â gofynion rheoliadol.

Gellir defnyddio’r darpariaethau presennol hyn lle bynnag y bo’n briodol. Mae enghreifftiau o’r hysbysiadau, pwerau a gorchmynion hyn yn cynnwys:

  • Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2010
  • Hysbysiadau: hysbysiad amrywio (Rheoliad 20), hysbysiad gorfodi (Rheoliad 36), hysbysiad stop dros dro (Rheoliad 37), hysbysiad dirymu (Rheoliad 22), hysbysiad gwahardd dŵr daear (Atodlen 22, paragraff 9)
  • Gorchymyn llys: gorfodi gan yr Uchel Lys (Rheoliad 42)
  • Pwerau adfer: pŵer i atal neu unioni llygredd ac adennill costau (Rheoliad 57), pŵer i waredu gwastraff ymbelydrol (Atodlen 23, Rhan 3, paragraff 4), ffynonellau amddifad (Atodlen 23, Rhan 4, paragraff 8)
  • Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990
  • Hysbysiad i symud gwastraff (adrannau 59 a 59Z)
  • Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981
  • Gorchymyn llys: adfer SoDdGA a ddifrodwyd o ganlyniad i waith nas caniatawyd
  • Deddf Coedwigaeth 1967 fel y’i diwygiwyd
  • Hysbysiadau: hysbysiad ailstocio (adran 17A) a hysbysiad gorfodi (adran 24)

Mae Deddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 wedi creu pwerau hysbysu newydd i ategu’r hysbysiadau presennol, yn enwedig i ddarparu pwerau i’w gwneud yn ofynnol i droseddwr atal y gweithgaredd anghyfreithlon, sicrhau bod y gweithgaredd yn cydymffurfio â'r rheoliadau, ac adfer y difrod sydd wedi'i wneud. Mae'r hysbysiadau hyn, sef hysbysiadau stop, cydymffurfio ac adfer, ar gael i fynd i'r afael â sefyllfaoedd na all yr hysbysiadau a ddisgrifir yn y paragraff uchod ymdrin â hwy.

5.2 Cosbau Sifil am gynlluniau newid hinsawdd

Mae rhai cynlluniau yn gosod cosbau sifil penodol am droseddau penodol. Yng Nghynllun Masnachu Allyriadau’r DU, mewn perthynas â gosodiadau sefydlog a hedfan, mae'r ddeddfwriaeth yn nodi cosbau sifil ar ffurf cosbau ariannol. Yng Nghynllun Effeithlonrwydd Ynni’r Ymrwymiad Lleihau Carbon, mae’r ddeddfwriaeth yn nodi cosbau sifil amrywiol, ar ffurf cosbau ariannol, cyhoeddi’r toriad, pennu ffigur allyriadau blynyddol, y gofyniad i ildio lwfansau ychwanegol, bod ar waelod tablau cynghrair perfformiad, a rhwystro cyfrif cofrestrfa.

Yn y ddau gynllun uchod, mae lefel y cosbau ariannol wedi’i nodi’n gyffredinol yn y ddeddfwriaeth. Ar gyfer rhai cosbau, mae'n orfodol gosod y gosb. I eraill, rhoddir pŵer i ildio neu addasu'r gosb ond dim ond yn unol â'r disgresiwn cyfyngedig a nodir yn y ddeddfwriaeth.

Mewn perthynas â’r cynllun lwfansau tirlenwi, mae’r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i adrodd i Weinidog Cymru am amheuaeth o ddiffyg cydymffurfio.

5.3 Cosbau sifil o dan y ddeddf gorfodi rheoleiddiol a sancsiynau

Mae’n bosibl y byddwn yn dewis gosod cosb sifil o dan y Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau i gael y canlyniad neu ganlyniadau yr ydym eu heisiau. Nid yw Cosbau sifil o dan y ddeddf gorfodi rheoleiddiol a sancsiynau ar gael ar gyfer pob trosedd. Dewch o hyd i restr lawn o bob toriad a throsedd a reoleiddiwn a'r camau gorfodi sydd ar gael i ni yn y ddogfen Opsiynau Ymateb i Droseddu.

5.3.1 Cosbau ariannol penodedig

Cosbau penodedig yw'r rhain a fydd fwyaf addas ar gyfer troseddau ag effaith amgylcheddol fach neu ddim effaith uniongyrchol o gwbl, megis troseddau gwaith papur a gweinyddu. Byddant yn fwyaf priodol pan fo cyngor ac arweiniad wedi methu â sicrhau'r gwelliannau angenrheidiol. Mae Cosbau ariannol penodedig wedi'u gosod ar £300 i fusnes a £100 i unigolion, gyda gostyngiadau am dalu'n gynnar. Gellir eu defnyddio ar gyfer troseddau lle mae cosb ariannol lefel isel yn fwy tebygol o newid ymddygiad y troseddwr ac o annog cydymffurfedd yn y dyfodol, er enghraifft oherwydd bod cyngor ac arweiniad wedi methu. Gellir eu cyhoeddi ar gyfer mân droseddau y mae angen rhyw fath o gamau gorfodi arnynt ond nad ydynt, yn dibynnu ar ffactorau lles y cyhoedd, yn ddigon difrifol i warantu erlyniad.

5.3.2 Cosbau ariannol amrywiadwy

Cosbau ariannol yw'r rhain y gallwn eu gosod yn uniongyrchol am droseddau mwy difrifol. Byddwn yn dilyn y fethodoleg a gyhoeddwyd (gweler Atodiad 1) i osod lefel y gost ariannol amrywiadwy. Gellir defnyddio Cosbau ariannol amrywiadwy yn lle cosbau troseddol am droseddau lle gallai gosod cosb ariannol newid ymddygiad troseddwyr ac atal eraill a/neu arwain at ddatrysiad cyflymach. Nid yw cosb ariannol amrywiadwy yn dwyn y stigma o euogfarn droseddol. Gall hefyd ddarparu arbediad i’r derbynnydd drwy osgoi’r angen i dalu am gynrychiolaeth gyfreithiol a galluogi’r derbynnydd i gynnig ymrwymiad trydydd parti i wneud iawn i drydydd partïon yr effeithir arnynt yn andwyol, gan gynnwys cymunedau lle

Gall hyn gynnwys, er enghraifft, achosion lle bu difrod amgylcheddol mwy sylweddol, ond mae ffactorau eraill yn awgrymu y gallai fod yn briodol gosod cosb ariannol amrywiadwy. Defnyddir Cosbau ariannol amrywiadwy hefyd, lle bo'n briodol, i ddileu enillion neu arbediad ariannol adnabyddadwy o ganlyniad i'r diffyg cydymffurfio. Mae’n bosibl y byddwn yn dewis defnyddio Cosbau ariannol amrywiadwy lle mae tystiolaeth o esgeulustod a chamreoli.

5.3.3 Hysbysiadau cydymffurfio

Mae'r rhain yn ei gwneud yn ofynnol i'r troseddwr ddod yn ôl i gydymffurfio. Gellir eu defnyddio mewn achos lle mae'r troseddwr wedi bod yn cydymffurfio â gofyniad yn flaenorol, megis cyflwyno datganiadau yn rheolaidd, ond nad yw'n cyflawni ei rwymedigaethau ar hyn o bryd. Dylai'r hysbysiad sicrhau bod y troseddwr yn cymryd camau i atal y diffyg cydymffurfio, yn mynd i'r afael â'r achosion sylfaenol, ac yn dod yn ôl i gydymffurfio. Gellir eu defnyddio lle na ddilynwyd cyngor neu ganllawiau blaenorol i annog cydymffurfedd a lle mae hysbysiad ffurfiol wedi dod yn angenrheidiol i sicrhau cydymffurfedd. Gellir eu cyfuno â chosb ariannol amrywiadwy a hysbysiad adfer.

5.3.4 Hysbysiadau adfer

Mae'r rhain yn ei gwneud yn ofynnol i'r troseddwr gymryd camau i unioni unrhyw ddifrod a achosir o ganlyniad i'r diffyg cydymffurfio a mynd i'r afael ag unrhyw niwed. Gellir defnyddio'r hysbysiadau hyn lle mae difrod wedi'i achosi i'r amgylchedd a gall y troseddwr nodi'r camau a'r gwaith sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r difrod a'i unioni. Gellir eu defnyddio lle nad yw gwaith adfer wedi'i wneud yn wirfoddol neu lle rydym o'r farn bod angen hysbysiad ffurfiol i sicrhau y caiff ei wneud. Gellir eu defnyddio lle nad oes hysbysiad gorfodi addas arall ar gael a lle na ddilynwyd cyngor neu ganllawiau blaenorol i annog gwaith adfer. Gellir eu cyfuno â chosb ariannol amrywiadwy a hysbysiad cydymffurfio.

5.3.5 Hysbysiadau stop

Gellir defnyddio hysbysiad stop mewn dwy set o amgylchiadau:

  • atal ar unwaith weithgaredd sy'n achosi, neu'n cyflwyno risg sylweddol o achosi, niwed difrifol i iechyd dynol neu'r amgylchedd a lle mae trosedd benodedig yn cael ei chyflawni, neu'n debygol o gael ei chyflawni
  • atal ar unwaith weithgaredd sy’n debygol o gael ei gynnal a fydd yn achosi, neu a fydd yn peri risg sylweddol o achosi, niwed difrifol i iechyd dynol neu’r amgylchedd, ac mae’r gweithgaredd sy’n debygol o gael ei wneud yn cynnwys, neu’n debygol o gynnwys, trosedd benodedig yn cael ei chyflawni

5.3.6 Ymgymeriadau gorfodi

Mae'r rhain yn gytundebau gwirfoddol sy'n gyfreithiol rwymol a gynigir gan y rhai a allai fod wedi cyflawni trosedd ac a dderbynnir gennym ni. Gellir derbyn ymrwymiad gorfodi gan rywun lle mae gennym sail resymol i amau bod trosedd benodol wedi’i chyflawni. Dim ond pan fydd gennym ddigon o hyder y caiff telerau’r ymgymeriad gorfodi eu cyflawni y cânt eu derbyn. Rydym yn fwy tebygol o'u derbyn pan gânt eu cynnig yn gynnar. Byddwn yn annhebygol o dderbyn ymgymeriad gorfodi lle rydym eisoes wedi penderfynu bod angen erlyniad mewn achos penodol. Yn yr un modd, byddwn yn annhebygol o dderbyn ymgymeriad gorfodi pan fyddwn eisoes yn trafod lefel y gosb ariannol amrywiadwy mewn achos penodol.

Bydd telerau'r ymgymeriad gorfodi fel arfer yn cynnwys elfen o waith adfer yn ogystal â chamau i sicrhau cydymffurfedd yn y dyfodol, megis buddsoddiad tymor hir mewn systemau rheoli amgylcheddol. Dylai ymgymeriadau gorfodi annog gweithredwyr busnes cyfreithlon i wneud iawn a dechrau cydymffurfio, ac atal hyn rhag digwydd eto.

Gweler Atodiad 2 am ragor o wybodaeth am ymgymeriadau gorfodi a'r opsiynau ymateb i droseddu ar gyfer y troseddau y maent ar gael ar eu cyfer.

5.3.7 Hysbysiadau adennill cost gorfodaeth

Mae’n bosibl y byddwn yn cyflwyno hysbysiadau adennill cost gorfodeth sy’n gofyn am dalu ein costau hyd at adeg gosod y rhan fwyaf o gosbau sifil. Byddwn bob amser yn ceisio adennill ein costau yn unol â'r egwyddor 'y llygrwr sy'n talu' a byddwn yn ceisio asesu ein costau gwirioneddol ac angenrheidiol sy'n gysylltiedig â gosod y sancsiwn ac adennill y rhain gan y troseddwr perthnasol.

Ni ellir cyflwyno hysbysiad adennill cost gorfodaeth lle gosodir cosb ariannol benodedig gan nad yw'r ddeddfwriaeth yn caniatáu hyn. Lle cynigir ymrwymiad gorfodi, nid oes gennym hawl i fynnu taliad o’n costau, ond byddwn yn edrych yn fwy ffafriol ar ymgymeriadau gorfodi sy’n cynnig cyfraniad tuag at y costau sy’n gysylltiedig â throsedd honedig a derbyniad yr ymgymeriad hyd at ei gyflawni o dan tystysgrif gwblhau.

Er y gallwn leihau swm cosb sifil oherwydd anallu troseddwr i dalu'r swm sy'n ddyledus, rydym yn annhebygol o leihau swm hysbysiad adennill cost gorfodaeth. Mae hyn oherwydd y dylai'r hysbysiad adennill cost gorfodaeth adlewyrchu'r costau gwirioneddol sy'n gysylltiedig â'r troseddu a'r sancsiwn a osodwyd ac oherwydd ein dyletswydd i ddiogelu'r pwrs cyhoeddus.

Mae hawl i apelio yn erbyn gosod hysbysiad adennill cost gorfodaeth fel y darperir ar ei chyfer gan yr offerynnau statudol perthnasol.

5.3.8 Hysbysiadau cosb am beidio â chydymffurfio

Mae gennym yr hawl i osod cosb am beidio â chydymffurfio pan fydd troseddwr yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu ymgymeriad trydydd parti. Mae hyn yn wir hyd yn oed lle gosodir cosb ariannol amrywiadwy hefyd am y drosedd berthnasol. Byddwn yn ceisio asesu gwir gost cydymffurfio â'r sancsiwn gwreiddiol neu'r ymgymeriad trydydd parti a byddwn yn seilio ein cosb am beidio â chydymffurfio ar y gost hon a aseswyd. Yna byddwn yn ystyried y rhesymau dros y diffyg cydymffurfio wrth asesu pa gyfran neu ganran o'r gost honno y dylid ei gosod ar ffurf cosb am beidio â chydymffurfio. Os yw'r methiant i gydymffurfio yn fwriadol, yna mae'r ganran yn debygol o fod yn uwch. Os bydd y methiant yn codi oherwydd ffeithiau ac amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y troseddwr, yna bydd y ganran yn llai. Gan fod unrhyw fethiant o'r fath yn debygol o fod yn benodol i'r ffeithiau, byddwn yn defnyddio'r meini prawf ar gyfer budd y cyhoedd i benderfynu pa daliad canrannol sy'n briodol ar gyfer cosb am beidio â chydymffurfio.

Ar gyfer hysbysiadau cydymffurfio a hysbysiadau adfer, gallwn erlyn am ddiffyg cydymffurfio â hysbysiad neu gyflwyno cosb am beidio â chydymffurfio. O dan amgylchiadau arferol, byddem yn dewis naill ai gosod cosb am beidio â chydymffurfio neu erlyn, yn dibynnu ar amgylchiadau penodol y diffyg cydymffurfio. Lle cyflwynir cosb am beidio â chydymffurfio ond nad yw hyn yn arwain at gydymffurfio â'r hysbysiad gwreiddiol, mae'n bosibl y byddwn yn dal i erlyn am y drosedd wreiddiol.

Os cydymffurfir â gofynion y sancsiwn gwreiddiol neu'r ymgymeriad trydydd parti cyn yr amser a bennwyd ar gyfer talu'r gosb am beidio â chydymffurfio, bydd y gosb yn disgyn. Byddem yn rhoi ystyriaeth i ddymunoldeb lleihau swm y gosb am ddiffyg cydymffurfio pe bai ei gosod yn arwain at gynigion prydlon a chynhwysfawr ar gyfer cydymffurfio â thelerau'r hysbysiad gwreiddiol.

Mae'r offerynnau statudol perthnasol ar gyfer cosbau sifil yng Nghymru a Lloegr yn darparu hawl i apelio yn erbyn gosod cosb am beidio â chydymffurfio.

5.4 Achosion Troseddol

Os byddwn yn penderfynu erlyn, byddwn yn:

  • arfer annibyniaeth erlyniadol
  • sicrhau bod unrhyw achos a gyflwynir i'w erlyn yn bodloni'r prawf yn y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron

5.4.1 Annibyniaeth yr erlyniad wrth wneud penderfyniadau

Er mwyn sicrhau proses deg o wneud penderfyniadau, rhaid i'r penderfyniad i erlyn gael ei wneud yn annibynnol ar yr ymchwilydd. Mae hyn yn arbennig o bwysig o fewn CNC, gan fod yr erlynydd yn gweithio i'r un sefydliad â'r ymchwilydd.

Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff mwyaf a noddir gan Lywodraeth Cymru. Mae ein pŵer i erlyn wedi'i nodi yn y gyfraith ac yn cael ei reoli gan ein bwrdd. Pan fyddwn yn penderfynu erlyn, nid ydym yn cael ein dylanwadu gan adran o'r llywodraeth, gweinidog, neu unrhyw drydydd parti. Mae’n benderfyniad annibynnol.

Mae’r bwrdd yn dirprwyo awdurdod o dan y Cynllun Dirprwyo Statudol a Chyfreithiol i gychwyn achos neu gyflwyno rhybuddiad i gymeradwyaeth uwch-reolwr gweithredol ac uwch-gyfreithiwr. Mae gan y ddwy rôl hyn reolwyr llinell ar wahân. Rhaid i'r gymeradwyaeth fod yn seiliedig ar y canlynol:

  • penderfyniad yr uwch-reolwr gweithredol a oes cyfiawnhad dros erlyn neu gyflwyno rhybuddiad yn dilyn yr ymchwiliad
  • adolygiad yr uwch-gyfreithiwr o ffeil yr achos a phenderfyniad bod yr erlyniad neu rybuddiad arfaethedig yn bodloni'r prawf a nodir yn y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron

Mae Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol yn goruchwylio ymddygiad yr holl achosion erlyn ac mae gan ein cyfreithwyr y pŵer i atal achos nad yw bellach er budd y cyhoedd i'w ddilyn. Mae'r rôl hon yn annibynnol ar reolwyr llinell gweithredol.

5.4.2 Hysbysiadau cosb benodedig

Mae hysbysiad cosb benodedig yn gosb ariannol am drosedd a osodir gan y rheoleiddiwr, ac os na chaiff ei thalu, gellir ymdrin â hi drwy erlyniad yn y llysoedd troseddol. Mae hysbysiadau cosb benodedig ar gael i ni am nifer cyfyngedig o droseddau. Lle cyflwynir hysbysiad cosb benodedig, mae talu'r gosb yn rhyddhau'r rhwymedigaeth. Pan fydd hyn yn digwydd, bydd cofnod o dalu’r hysbysiad cosb benodedig yn cael ei gadw a'i drin yn yr un modd â chofnod sy'n deillio o rybudd. Pan fydd hysbysiad cosb benodedig yn cael ei osod gennym ni ond heb ei dalu, bydd y derbynnydd fel arfer yn cael ei erlyn am y drosedd wreiddiol.

5.4.3 Rhybudd ffurfiol

Rhybudd ffurfiol yw derbyniad ysgrifenedig gan droseddwr ei fod wedi cyflawni trosedd ac ni ellir ei ddefnyddio oni bai y gellid bod wedi erlyn yn briodol. I'r graddau hyn, mae'n wahanol i rybudd ffurfiol fel y disgrifir uchod, sydd, yn syml, yn gofnod a rhybudd am drosedd sydd wedi'i chyflawni neu a allai gael ei chyflawni. Mae'r rhybudd ffurfiol yn gosb droseddol ffurfiol wedi'i chofnodi a fydd yn cael ei chyflwyno yn y llys os bydd troseddu pellach. Mae'n wahanol i osod cosb sifil gan fod yr amgylchiadau a arweiniodd at y drosedd wedi'u hystyried yn briodol ar gyfer erlyniad ac, yn wir, byddai cyflawni trosedd debyg eto yn debygol o arwain at ymateb o'r fath.

Bwriedir i rybuddion ffurfiol fod yn ataliad penodol i droseddwr ac maent yn addas ar gyfer achosion lle, er y gellid cychwyn erlyniad, mae ffactorau eraill yn lliniaru yn erbyn hyn. Fodd bynnag, rhaid inni ystyried y prawf o dan y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron, sef a oes digon o dystiolaeth, a hefyd y ffactorau budd y cyhoedd dan sylw. Lle na dderbynnir rhybuddion ffurfiol, byddwn fel arfer yn erlyn am y drosedd wreiddiol.

5.4.4 Erlyniad

Mae cosb erlyniad ar gael ar gyfer pob trosedd yn ôl y gyfraith. Mae'r ddeddfwriaeth sy'n sefydlu'r darpariaethau cosb yn rhoi cryn le i'r llysoedd gosbi troseddwyr ac atal eraill. Mewn rhai achosion, gellir gosod carchar a dirwyon diderfyn.

Pan fyddwn yn penderfynu bod cosb droseddol yn briodol, byddwn yn asesu'r achos yn unol â gofynion y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron cyn cychwyn erlyniad.

Rydym yn cydnabod bod erlyniad yn fater difrifol na ddylid cychwyn arno heb ystyried y goblygiadau a'r canlyniadau yn llawn. Lle penderfynir mai erlyniad yw'r dewis mwyaf priodol o sancsiwn, rhaid i ni fodloni'r prawf a nodir yn y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron, i benderfynu a oes digon o dystiolaeth i roi gobaith realistig o euogfarn. Ym mhob achos lle mae digon o dystiolaeth i gyfiawnhau erlyniad neu i gynnig datrysiad y tu allan i’r llys, rhaid i erlynwyr fynd ymlaen i ystyried a oes angen erlyniad er budd y cyhoedd.

Rhaid inni wedyn benderfynu a yw erlyniad yn ymateb priodol neu a allai dewis arall yn lle erlyn fod yn fwy priodol. Mae’r ffactorau a fydd yn dylanwadu ar yr asesiad hwn wedi’u nodi’n fanylach yn Adran 3 o’r ddogfen ganllaw gan DEFRA / Llywodraeth Cymru ar gosbau sifil ar gyfer troseddau amgylcheddol.

5.4.5 Gorchmynion a osodir gan y llys sy'n atodol i'r erlyniad

Byddwn bob amser yn ystyried a ddylid gwneud cais am ddigollediad neu orchmynion ategol eraill ai peidio. Isod rhestrir y gorchmynion ategol y gall llys eu gwneud yn dilyn euogfarn:

  • diarddel cyfarwyddwyr
  • atafaelu asedau – Deddf Elw Troseddau 2002
  • gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • fforffedu offer a ddefnyddiwyd i gyflawni'r drosedd
  • gwahardd rhag gyrru
  • digolledu
  • atafaelu cerbydau
  • adferiad – o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol

Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn ystyried cymhwysedd rhywun i fod yn ddeiliad rhai trwyddedau o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol neu a fyddai’n ddymunol i rywun barhau i fod yn gludwr neu’n frocer gwastraff cofrestredig.

5.4.6 Camau eraill y gallwn eu cymryd ar ôl euogfarn

Os bydd deiliad trwydded amgylcheddol yn destun euogfarn, gallwn adolygu ac ailystyried ei gymhwysedd i ddal y drwydded honno. Gallwn roi amser iddo brofi ei gymhwysedd neu atal neu ddirymu ei drwydded.

6. Sut rydym yn gwneud penderfyniadau gorfodi

Pan fyddwn yn ystyried ein hymateb i drosedd, fel arfer bydd amrywiaeth o ymatebion cosbi posibl ar gael inni eu defnyddio. Nid yw sancsiynau sifil o dan y Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau ar gael ar gyfer pob trosedd a, lle maent ar gael, ni ellir gweithredu pob un o'r sancsiynau sifil. Yn yr un modd, nid yw hysbysiadau, pwerau a gorchmynion nad ydynt yn ymwneud â’r Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau ar gael ar gyfer pob trosedd. Mae rhestr o'r holl sancsiynau sydd ar gael ar gyfer pob trosedd wedi'i chynnwys yn ein Hopsiynau Ymateb i Droseddu.

Wrth ystyried y dewis o sancsiwn, byddwn hefyd yn ystyried a yw datganiad sefyllfa reoleiddiol wedi'i gyhoeddi ar gyfer y drosedd honno.

Mae'r llywodraeth wedi rhoi cyngor i ni ar osod cosbau sifil a defnyddio ein disgresiwn o dan Gynllun Effeithlonrwydd Ynni’r Ymrwymiad Lleihau Carbon o dan yr enw ‘Cosbau sifil o dan Orchymyn Cynllun Effeithlonrwydd Ynni’r Ymrwymiad Lleihau Carbon 2010’, y byddwn yn ei ddilyn.

7. Ffactorau budd y cyhoedd

7.1 Ffactorau budd y cyhoedd

Gall pwysigrwydd pob ffactor budd y cyhoedd amrywio fesul achos. Nid mater o adio nifer y ffactorau o blaid ac yn erbyn gosod sancsiwn yn unig yw penderfynu ar fudd y cyhoedd. Byddwn yn penderfynu pa mor bwysig yw pob ffactor yn amgylchiadau pob achos ac yn gwneud dyfarniad cyffredinol.

Bydd ystyried y ffactorau hyn fel arfer yn dynodi'r sancsiwn neu sancsiynau priodol sy'n debygol o arwain at y canlyniad a ddymunir. Gall y canlyniadau hyn gynnwys cydymffurfedd parhaol â'r gyfraith, gwneud iawn am niwed amgylcheddol, sicrhau budd da a pharhaol i'r amgylchedd a chymunedau lleol yr effeithir arnynt, a sicrhau chwarae teg i fusnesau ac eraill.

7.1.1 Bwriad

Mae troseddau sy'n cael eu cyflawni'n fwriadol, yn fyrbwyll neu gydag esgeulustod difrifol yn fwy tebygol o arwain at erlyniad. Lle cyflawnwyd trosedd o ganlyniad i ddamwain neu gamgymeriad gwirioneddol, mae hyn yn fwy tebygol o arwain at ddefnyddio cyngor ac arweiniad, rhybudd, neu gosb sifil sydd ar gael.

7.1.2 Rhagweladwyedd

Lle gallai’n rhesymol fod wedi rhagweld yr amgylchiadau a arweiniodd at y drosedd, ac na chymerwyd unrhyw fesurau osgoi a/neu ataliol, yr ymateb fel arfer fydd gosod sancsiwn y tu hwnt i gyngor ac arweiniad neu gyhoeddi rhybudd.

7.1.3 Effaith amgylcheddol

Bydd yr ymateb yn mynd i'r afael â'r niwed posibl a gwirioneddol i bobl a'r amgylchedd. Fel arfer, pan fydd trosedd yn cael ei dosbarthu o dan y Canllawiau Categoreiddio Digwyddiadau fel digwyddiad Uchel – Mawr/Arwyddocaol neu o dan y Cynllun Dosbarthu Cydymffurfedd (neu’r hyn sy’n cyfateb o dan y Cynllun Categoreiddio Risg Argaeau Cronfeydd Dŵr) fel Categori 1 neu 2, byddem yn ystyried erlyniad, rhybuddiad ffurfiol neu gosb ariannol amrywiadwy.

Mae rhai troseddau o fath a gynlluniwyd i atal niwed amgylcheddol, er enghraifft troseddau tynnu dŵr penodol. Lle gallai trosedd o'r fath arwain at naill ai digwyddiad Categori 1 neu 2 o dan y Cynllun Dosbarthu Cydymffurfedd neu ddigwyddiad Uchel – Mawr/Arwyddocaol, byddem fel arfer yn ystyried erlyniad, rhybuddiad ffurfiol neu gosb ariannol amrywiadwy.

7.1.4 Natur y drosedd neu doriad

Lle mae’r troseddu’n effeithio ar ein gallu i fod yn rheoleiddiwr effeithlon ac effeithiol, er enghraifft lle mae ein staff yn cael eu rhwystro rhag cyflawni eu dyletswyddau, lle rydym yn targedu math penodol o droseddu, neu lle rydym yn cael gwybodaeth ffug neu gamarweiniol, rydym yn fel arfer yn erlyn.

7.1.5 Goblygiadau ariannol

Lle mae busnes cyfreithlon yn cael ei dandorri, neu lle mae elw yn cael ei wneud neu gostau yn cael eu hosgoi, megis costau a arbedir trwy beidio â chael trwydded, bydd hyn fel arfer yn arwain at osod cosb ariannol amrywiadwy neu erlyniad. Bydd hyn yn cynnwys troseddau a ysgogir gan elw ariannol.

7.1.6 Effaith ataliol

Wrth ddewis sancsiwn, byddwn yn ystyried yr effaith ataliol, ar y troseddwr ac eraill. Gall erlyniadau, oherwydd eu stigma mwy os ceir euogfarn, fod yn briodol hyd yn oed ar gyfer mân achosion o ddiffyg cydymffurfio lle gallent gyfrannu at lefel uwch o ataliaeth gyffredinol. Lle mae defnyddio sancsiwn yn debygol o leihau hunangofnodi troseddau neu ddiffyg cydymffurfio yn y dyfodol, gall cosb wahanol fod yn briodol.

7.1.7 Hanes blaenorol ac aildroseddu

Bydd graddau troseddu a/neu ddiffyg cydymffurfio (gan gynnwys troseddu safle-benodol neu fethiannau generig gan y troseddwr) yn cael eu cymryd i ystyriaeth. Fel arfer, byddwn yn uwchgyfeirio ein hymateb gorfodi lle mae sancsiynau blaenorol wedi methu â chyflawni’r canlyniad dymunol. Er enghraifft, lle mae rhybuddiad ffurfiol wedi’i ddefnyddio’n flaenorol i ymdrin â throseddu ond wedi methu ag annog newid ymddygiad ac atal y troseddu rhag digwydd eto, mae’n debygol y bydd y troseddwr yn cael ei erlyn neu, os yw ar gael, bydd cosb ariannol amrywiadwy yn cael ei gosod.

7.1.8 Agwedd

Lle mae gan y troseddwr agwedd wael tuag at y drosedd a/neu nad yw'n cydweithredu â'r ymchwiliad neu adferiad, bydd hyn fel arfer yn golygu ein bod yn ystyried erlyniad neu gosb ariannol amrywiadwy. Ar y llaw arall, pan fydd y troseddwr yn rhoi manylion trosedd i ni yn wirfoddol neu drwy fecanwaith hunanadrodd, byddwn yn ystyried hyn wrth benderfynu ar sancsiwn neu a fydd cyngor ac arweiniad yn ddigon.

7.1.9 Amgylchiadau personol

Byddwn yn ystyried amgylchiadau personol y troseddwr (er enghraifft, os yw'r troseddwr yn dioddef o salwch difrifol). Ni fydd trosedd gyntaf gan unigolyn ifanc fel arfer yn arwain at erlyniad.

Pan fyddwn yn ystyried sancsiwn sy'n ymgorffori cosb ariannol neu ofyniad i gyflawni adferiad costus, byddwn yn ystyried yn ofalus allu'r troseddwr i dalu. Pan fydd yr ystyriaeth honno'n dangos bod y gosb y tu hwnt i allu'r troseddwr i'w thalu, caiff ei haddasu i'w gosod o fewn cyrraedd y troseddwr. Ni fyddwn fel arfer yn gosod cosb ariannol benodedig na chosb ariannol amrywiadwy (oni bai fod enillion ariannol sylweddol) ar drosedd lle mae rhywun yn derbyn taliadau o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin y disgwylir iddynt gael eu lleihau oherwydd methiant i gydymffurfio â’r gofynion trawsgydymffurfio perthnasol, ond efallai y byddwn yn dal i gymhwyso cosbau sifil neu droseddol eraill.

7.2 Sut y gallwn ymdrin â sefyllfaoedd penodol

7.2.1 Troseddau difrifol

Pan fyddwn yn ymdrin â throseddoldeb amlwg, esgeulustod difrifol neu ymddygiad di-hid, neu pan fo difrifoldeb trosedd yn mynnu bod y manylion yn cael eu clywed mewn fforwm cyhoeddus, byddwn fel arfer yn dewis erlyn.


Fel arfer, byddwn yn ystyried erlyn, yn amodol ar ystyried ffactorau budd y cyhoedd, o dan un o’r amgylchiadau canlynol:

  • mae'r drosedd wedi bod yn fwriadol, yn ddi-hid neu'n hynod esgeulus, neu'n ymwneud â gweithgarwch troseddol amlwg
  • mae’r troseddu wedi creu niwed difrifol (neu â'r potensial i achosi niwed o'r fath) i'r amgylchedd neu i bobl
  • bu diffyg cydymffurfio ar raddfa fawr ac am gyfnod hirfaith â darpariaethau rheoliadau
  • mae ein staff wedi bod yn destun aflonyddwch, braw, trallod neu ofn trais
  • gwneud datganiad neu gofnod anwir neu gamarweiniol yn fwriadol, yn fyrbwyll neu'n fwriadol
  • rydym wedi cael ein rhwystro yn ein dyletswyddau ac mae’r rhwystr hwn wedi atal ymchwiliad i weithgarwch troseddol posibl neu mae troseddwr wedi dynwared un o swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru
  • lle mae troseddwr wedi methu â chydymffurfio â hysbysiad stop

7.2.2 Mân doriad

Pan fyddwn yn ymdrin â mân achosion o dorri amod trwydded lle nad oes unrhyw effaith amgylcheddol, byddwn fel arfer yn dewis darparu cyngor ac arweiniad i helpu'r busnes i gydymffurfio eto.

7.2.3 Aildroseddu

Lle mae troseddu wedi parhau neu wedi digwydd eto er ein bod wedi cymryd camau gorfodi, byddwn fel arfer yn cynyddu lefel ein hymateb gorfodi ac yn gosod sancsiwn mwy difrifol.

7.2.4 Methiant i gydymffurfio â hysbysiad

Os bydd derbynnydd yn methu â chydymffurfio â hysbysiad, byddwn yn ceisio cosb sy’n debygol o gosbi a/neu atal.

7.2.5 Gweithredu heb drwydded neu awdurdodiad arall

Pan fo unigolyn wedi methu â chael y caniatâd angenrheidiol, yna rydym yn fwy tebygol o osod sancsiwn sy’n debygol o gosbi a/neu atal.

7.2.6 Gweithrediadau lluosog

Byddwn bob amser yn rhoi sylw i hanes cydymffurfio troseddwr. Ni fyddwn fel arfer yn ystyried troseddau a gyflawnwyd ar un arall o safleoedd gweithredwr oni bai eu bod o fath tebyg neu'n dangos methiant rheoli cyffredinol ar ran y gweithredwr.

7.2.7 Corff corfforedig

Byddwn yn cymryd camau gorfodi yn erbyn y bobl hynny sy'n gyfrifol am y

drosedd. Pan fydd cwmni dan sylw, fel arfer caiff camau gorfodi eu cymryd yn erbyn y cwmni os oedd y drosedd yn deillio o weithgareddau'r cwmni. Fodd bynnag, lle mae trosedd wedi’i chyflawni gan gorff corfforedig ac y gellir ei phriodoli i gydsyniad, ymoddefiad neu esgeulustod unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall, gall yr unigolyn hwnnw fod yn euog o drosedd a bydd yn agored i fod yn destun camau gorfodi am y drosedd honno.

Mewn amgylchiadau o’r fath, byddwn yn cymryd camau yn erbyn y corff mwyaf priodol (corfforaethol a/neu unigol) neu mewn cyfuniad, gan ddefnyddio’r ystod lawn o arfau gorfodi sydd ar gael inni. Mewn achosion priodol, byddwn yn ystyried ceisio gwahardd cyfarwyddwyr o dan y Ddeddf Cwmnïau.

7.2.8 Pobl ifanc

Ni fyddwn fel arfer yn erlyn trosedd gyntaf unigolyn ifanc.

7.2.9 Pryd y gallwn gyfuno sancsiynau a throseddau

Ac eithrio lle y caniateir yn benodol gan y ddeddfwriaeth, nid yw fel arfer yn bosibl cyfuno cosbau troseddol a sifil am yr un troseddu.

Bydd cyfuniadau o sancsiynau yn bosibl o dan rai amgylchiadau ond rhaid rhoi ystyriaeth ofalus i'r darpariaethau deddfwriaethol perthnasol. Er enghraifft, mae Deddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 yn caniatáu i ni osod Cosbau ariannol amrywiadwy, hysbysiadau adfer a hysbysiadau cydymffurfio am yr un drosedd.

Pan fydd yn ymddangos yn ddymunol defnyddio cyfuniad o sancsiynau, byddwn yn ystyried yn ofalus i ba raddau y mae hyn yn gyfreithlon ac yn briodol.

Ar gyfer cyfundrefnau sy’n ymwneud â chofrestru blynyddol a chydymffurfedd megis y rhai a sefydlwyd gan rwymedigaethau cyfrifoldeb cynhyrchydd, pan fyddwn yn dewis ymateb cosb sifil, byddwn yn ymdrechu i adlewyrchu pob methiant cydymffurfio trwy ddewis un opsiwn cosb sifil sy’n nodweddu’r troseddau dan sylw yn fwyaf teg, yn hytrach na rhoi nifer o sancsiynau ar gyfer pob cyfnod cydymffurfio.

8. Atebolrwydd am gamau gorfodi

8.1 Sefydlu atebolrwydd

I gychwyn erlyniad, rhaid inni fod yn fodlon ar y canlynol:

  • mae’r achos ger ein bron yn bodloni’r prawf yn y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron, sef bod gobaith realistig o euogfarn
  • rydym yn siŵr mai dyma’r camau gorfodi mwyaf priodol i’w cymryd ar sail y dystiolaeth yn yr achos a’u bod er budd y cyhoedd
  • rydym wedi ystyried y goblygiadau a'r canlyniadau

Ar gyfer y rhan fwyaf o sancsiynau a roddwyd o dan Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008, mae baich prawf uwch. Rhaid inni fod yn fodlon y tu hwnt i amheuaeth resymol bod trosedd wedi’i chyflawni cyn y gallwn roi sancsiwn. Ar gyfer ymrwymiadau gorfodi a dderbynnir o dan y Ddeddf honno, mae’n rhaid i ni fod â sail resymol i gredu bod trosedd wedi’i chyflawni cyn y gallwn dderbyn y cynnig. Byddwn yn dal eisiau gallu sefydlu bod trosedd wedi'i chyflawni rhag ofn y bydd angen cymryd camau gorfodi pellach pan fydd troseddwr yn methu â chydymffurfio â'r ymrwymiad.

Ar gyfer cosbau sifil newid hinsawdd a mercwri, mae angen i ni fod yn fodlon bod toriad wedi digwydd yn ôl pwysau tebygolrwydd (y 'safon prawf' mewn achosion sifil). Mae hyn yn golygu ei bod yn fwy tebygol na pheidio o fod wedi digwydd.

8.2 Pryd y byddwn yn erlyn cwmni neu unigolyn ansolfent

Pan fydd unigolyn neu gwmni yn mynd trwy weithdrefn ansolfedd:

  • gallwn ddal i ddechrau neu barhau i erlyn, lle bodlonir y prawf o dan y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron, ond byddai angen i ni gael caniatâd gan y llys neu ymarferydd ansolfedd
  • ni fyddwn fel arfer yn gosod cosb ariannol lle mae gennym ddisgresiwn, hynny yw lle nad yw'r gosb yn orfodol
  • mae wedi'i eithrio rhag bod yn gymwys ar gyfer y Cynllun Cyfle Arbed Ynni

O dan yr Ymrwymiad Lleihau Carbon, os yw'r corff ansolfent yn gwmni o fewn grŵp, yna mae'r aelodau solfent sy'n weddill o'r grŵp hwnnw yn gyfrifol am ei rwymedigaethau.

8.3 Cymryd camau yn erbyn y Goron

Ni fydd unrhyw achos o dorri unrhyw ddarpariaeth gan y Goron yn gwneud y Goron yn droseddol atebol, ac ni all y Goron fod yn destun cosb sifil o dan y Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau ychwaith. Gall y Goron fod yn agored i gosb sifil newid hinsawdd neu fercwri. Gallwn wneud cais i’r Uchel Lys am ddatganiad bod unrhyw weithred neu anweithred gan y Goron yn anghyfreithlon. Bydd hyn yn dibynnu ar y canlynol:

  • difrifoldeb y digwyddiad neu doriad
  • a addefir atebolrwydd
  • ymateb y corff dan sylw

9. Hawliau, cofnodion ac adennill costau

9.1 Pryd y byddwn yn cyhoedi camau gorfodi

Mae cyhoeddi gwybodaeth yn ein hadroddiad rheoleiddio blynyddol ar ein gweithgareddau gorfodi yn codi ymwybyddiaeth o'r angen i gydymffurfio.

Rydym yn cyhoeddi:

  • manylion camau gorfodi ar gofrestr gyhoeddus ar gyfer rhai cyfundrefnau, er enghraifft, trwyddedu amgylcheddol
  • gwybodaeth benodol am gosbau ar gyfer y cynlluniau newid hinsawdd
  • cosb sifil o dan y Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau sydd wedi’i gosod neu gynnig ymrwymiad gorfodi sydd wedi’i dderbyn, oni bai ein bod yn ystyried bod hyn yn amhriodol

Mae Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 yn ei gwneud yn ofynnol i ni ddileu gwybodaeth gyhoeddedig ar euogfarnau a rhybuddiadau ffurfiol ar ôl cyfnod penodol o amser. Bydd y cyfnod amser yn dibynnu ar natur y drosedd neu gosb.

Byddwn yn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth diogelu data drwy beidio â chyhoeddi gwybodaeth am unigolyn (yn hytrach na chwmni) oni bai fod y gyfraith yn mynnu hynny. Gall y gofrestr gyhoeddus a gofynion eraill fod yn drech na'r eithriad hwn.

Gan ystyried hyn i gyd, ac eithrio lle credwn y gallai camau gorfodi parhaus gael eu peryglu, byddwn fel arfer yn cyhoeddi manylion am y canlynol:

  • pob euogfarn droseddol
  • ymgymeriadau gorfodi
  • hysbysiadau sy'n ymwneud â thorri amodau neu gamau gorfodi ac eithrio hysbysiadau gwybodaeth a hysbysiadau o fwriad

Ni fyddwn yn cyhoeddi manylion hysbysiadau o dan y canlynol:

  • Yr Ymrwymiad Lleihau Carbon, lle'r ydym ond wedi'u defnyddio i ganiatáu i gyfranogwr brynu lwfansau mewn dyraniad arbennig
  • Y Cynllun Cyfle Arbed Ynni, lle mae ymchwiliad parhaus a hyd nes y byddwn yn gwybod bod gweithredwr o fewn cwmpas y cynllun – efallai y byddwn yn defnyddio hysbysiad gorfodi i wirio a yw gweithredwr o fewn cwmpas

Ar gyfer unrhyw gosb sifil o dan y Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau a osodwn, neu mewn perthynas â newid hinsawdd neu fercwri, byddwn fel arfer yn cyhoeddi gwybodaeth am y canlynol:

  • enw’r unigolyn y gosodwyd y gosb neu’r sancsiwn arno
  • gofyniad cyfreithiol na chydymffurfiwyd ag ef
  • swm y gosb

Pan fyddwn yn dirymu trwydded Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU neu gytundeb newid hinsawdd fel cam gorfodi, byddwn yn gyffredinol yn cyhoeddi gwybodaeth gyfatebol am hyn.

Byddwn yn cyhoeddi canlyniadau achosion troseddol cyn gynted ag sy'n rhesymol bosibl. Fel arfer, bydd y rhain ar gael am 12 mis.

Mewn achosion sifil, ni fyddwn yn cyhoeddi gwybodaeth nes bod unrhyw apêl wedi’i phenderfynu neu hyd nes y bydd yr amser ar gyfer apelio wedi mynd heibio. Pan fyddwn yn cyhoeddi'r wybodaeth hon, fel arfer bydd ar gael am 12 mis.

Ar ôl 12 mis, efallai y byddwn yn sicrhau bod gwybodaeth am gosbau ar gael i'r cyhoedd o dan reolau data agored y llywodraeth.

Rydym yn cyhoeddi datganiadau i'r wasg a chyhoeddusrwydd arall yn ymwneud â throseddau a throseddwyr sy'n gymesur â'r sancsiwn.

9.2 Sylwadau ac apeliadau

Fel arfer, gellir apelio yn erbyn camau gorfodi (yn benodol gosod sancsiwn) naill ai drwy broses y llys troseddol neu o ganlyniad i ddarpariaethau apêl penodol. Mae ein hysbysiadau yn nodi’r hawliau i apelio sy’n berthnasol o dan amgylchiadau penodol pob sancsiwn neu ddarpariaeth.

Wrth ystyried unrhyw fath o apêl yn erbyn camau gorfodi a chosbi, fel arfer bydd yn briodol i’r derbynnydd gael cyngor cyfreithiol annibynnol. Ni ellir gosod sancsiynau o dan y Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau yn yr amgylchiadau canlynol:

  • lle na nodir bod gan y drosedd honno sancsiwn ar gael o dan y Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau
  • lle nad oes gan y drosedd honno'r sancsiwn penodol hwnnw ar gael o dan y Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau
  • lle nad oes trosedd wedi'i chyflawni
  • lle nad yw’n bosibl i’r drosedd gael ei phrofi y tu hwnt i amheuaeth resymol neu lle mae sylwadau yn dangos bod amddiffyniad ar gael

Mae cyfeiriadau at droseddau penodedig yn golygu’r rhai a bennir o dan Orchymyn Sancsiynau Sifil Amgylcheddol (Cymru) 2010, a Rheoliadau Sancsiynau Sifil Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2010.

Lle gellir gosod sancsiwn o dan y Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau, bydd ein hysbysiadau yn nodi hawliau apelio. Mae'r rhain yn bellgyrhaeddol iawn. Mae’r Tribiwnlys Haen Gyntaf wedi cyhoeddi ffurflenni a chanllawiau mewn perthynas ag apeliadau o’r fath.

Yn gyffredinol, mae’r seiliau apêl yn erbyn gosod sancsiwn o dan y Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau fel a ganlyn:

  • bod y penderfyniad yn seiliedig ar gamgymeriad ffeithiol
  • bod y penderfyniad yn anghywir yn ôl y gyfraith
  • bod y penderfyniad yn afresymol
  • bod y swm yn afresymol
  • unrhyw reswm arall neu, yng Nghymru, unrhyw reswm tebyg arall

Nodir y rhain yn fanylach yn Atodiad 3.

9.3 Hawl dioddefwr i adolygiad

Lle rydym wedi cwblhau ymchwiliad i drosedd a gwneud y penderfyniad i beidio ag erlyn y parti cyfrifol, gall dioddefwr a nodwyd ofyn i ni adolygu'r penderfyniad hwnnw. Fel arfer, byddwn yn gwybod pwy yw unrhyw ddioddefwyr. Byddwn yn dweud wrth y dioddefwr am ein penderfyniad i beidio ag erlyn ac yn cynghori y gall y penderfyniad hwnnw gael ei adolygu. Bydd angen iddo roi gwybod i ni o fewn pum diwrnod gwaith os yw’n dymuno i ni ei adolygu.

9.4 Pryd y gallwn adennill costau

Pan fo’r gyfraith yn caniatáu, byddwn bob amser yn ceisio adennill costau ymchwiliadau a gweithrediadau gorfodi. Pan ydym wedi mynd i gostau, er enghraifft lle rydym wedi gwneud gwaith adfer, byddwn yn ceisio adennill y costau llawn oddi wrth y rhai sy'n gyfrifol yn unol â'r egwyddor 'y llygrwr sy'n talu’.

Mae darpariaethau manwl ynghylch costau sy'n deillio o gosbau sifil o dan y Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau wedi'u nodi yn Atodiad 1.

Atodiadau

Atodiad 1 -
Atodiad 2 - ymgymeriadau gorfodi
Atodiad 3 - Y Sail dros Apelio yn erbyn Sancsiynau a Osodir o dan y Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf