How we regulate onshore oil and gas

Polisi Llywodraeth Cymru ar echdynnu petrolewm ar y tir

Gweinidogion Cymru sydd â chyfrifoldeb dros drwyddedu echdynnu petrolewm ar y tir ers 1 Hydref 2018.

Ym mis Rhagfyr 2018 mewn datganiad ysgrifenedig cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei pholisi 'I beidio â gwneud unrhyw waith trwyddedu petrolewm newydd yng Nghymru, na chefnogi ceisiadau am ganiatâd trwydded petrolewm hollti hydrolig.' 

Er gwaethaf polisi Llywodraeth Cymru, mae gan CNC ddyletswydd statudol i gyflawni ei rôl reoleiddio.

Ein rôl fel rheoleiddiwr

Ni yw'r rheoleiddiwr amgylcheddol ar gyfer gweithrediadau olew a nwy ar y tir yng Nghymru. Byddwn yn helpu i sicrhau bod gweithrediadau olew a nwy ar y tir yn cael eu cynnal mewn ffordd sy'n diogelu pobl a'r amgylchedd.

Rydym ni’n asesu cynigion olew a nwy unigol ar y tir yn unol â nifer o ofynion deddfwriaethol gwahanol, y ddeddfwriaeth sylfaenol a ystyriwn wrth ganiatáu ceisiadau am y gweithgareddau hyn yw'r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol. Fel rheoleiddiwr y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol, mae gan CNC ddyletswydd statudol i ystyried yn wrthrychol unrhyw gais am drwydded y mae'n ei dderbyn ar gyfer archwilio am olew a nwy ar y tir. Felly, rydym ni’n parhau i asesu a phenderfynu ar unrhyw gais am drwydded ar gyfer cynlluniau o'r fath a byddwn yn rhoi caniatâd os gellir rheoli pob effaith bosibl yn dderbyniol a bodloni gofynion trwyddedau. Wrth wneud hynny byddwn yn parhau i gyflawni ein rôl reoleiddio i reoli risgiau i bobl a'r amgylchedd wrth benderfynu ar geisiadau sy'n ymwneud ag echdynnu petrolewm yng Nghymru.

Rydym ni’n rheoleiddio allyriadau, defnyddio dŵr, diogelu dŵr daear a rheoli gwastraff fel drilio mwd, hylif sy’n llifo’n ôl (hylif hollti hydrolig sy'n cael ei ddychwelyd i'r wyneb), nwyon ac unrhyw ddeunyddiau ymbelydrol sy'n digwydd yn naturiol (NORM).  Mae’r awdurdod  gennym ni i atal gwaith os daw perygl sylweddol i'r amlwg.

Felly, byddwn yn parhau i ddarparu cyngor cyn ymgeisio i ddatblygwyr ar yr effeithiau posibl ar amgylchedd a thirwedd safleoedd yn unol â'n cynllun codi tâl.

Ar gyfer unrhyw safle y rhoddir trwydded iddo, mae ein rôl monitro a chydymffurfio ym mhob safle yn sicrhau bod y risgiau amgylcheddol yn cael eu rheoli'n briodol drwy archwiliadau, archwiliadau safle, monitro ar hap ac adolygu cofnodion a gweithdrefnau gweithredwyr.

Rydym ni hefyd yn ystyried trwyddedau, caniatâd a chydsyniadau i bennu effaith bosibl cynnig ar Safleoedd a Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop.

Trwyddedau sydd eu hangen

Dewch o hyd i wybodaeth am ofynion trwyddedu ar gyfer olew a nwy ar y tir.

Ein rôl fel cynghorydd yn y system cynllunio gwlad a thref

Mae angen caniatâd cynllunio cyn dechrau unrhyw ddatblygiad archwilio neu echdynnu olew neu nwy.

Os nad yw awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu gwrthod cais am ddatblygiad petrolewm, rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru. Caiff Gweinidogion Cymru ddewis galw'r cais cynllunio i mewn, neu, os yw'n briodol, cyhoeddi cyfarwyddyd na ellir cymeradwyo'r cais hyd nes y ceir penderfyniad gan Weinidogion Cymru. Dylid nodi nad yw hyn yn gwahardd cynlluniau.  Fodd bynnag, mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi amcan Llywodraeth Cymru 'i osgoi parhau i echdynnu a defnyddio tanwyddau ffosil.' Bydd yn rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth gadarn a chredadwy sy'n dangos bod eu cynigion yn cydymffurfio â'r hierarchaeth ynni a sut y maen nhw’n yn cyfrannu at ddatgarboneiddio'r system ynni.

Bydd disgwyl i CNC barhau i roi cyngor i ddatblygwyr ac awdurdodau cynllunio lleol pan ymgynghorir â’r sefydliad ar gyfer cynlluniau o'r fath lle maen nhw’n effeithio ar ein buddiannau. 

Ein rôl fel rheolwr tir

Rydym ni’n rheoli 7% o dir Cymru ar ran pobl Cymru, gan gynnwys 120,000ha o goetiroedd, 42 Gwarchodfa Natur Genedlaethol a phum Canolfan Ymwelwyr. Fel rheolwr tir, rhaid i CNC roi ystyriaeth briodol i unrhyw geisiadau am fynediad i dir y mae'n ei reoli, a bydd pob cais yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau. Fodd bynnag, o dan bolisi cyfredol Llywodraeth Cymru ar echdynnu petrolewm, mae cais am archwilio a/neu ddatblygu petrolewm yn debygol o gael ei wrthod. 

Mae ein dull gweithredu hefyd yn cael ei lywio gan ddatganiad Argyfwng Hinsawdd Llywodraeth Cymru. Datganodd CNC ei gefnogaeth i'r argyfwng hinsawdd ac ymrwymodd i gyflawni ystod o fesurau datgarboneiddio o dan dri maes; lliniaru, addasu a newid ymddygiadol. Mae Bwrdd CNC yn cefnogi camau gweithredu ar y meysydd gwaith canlynol drwy gymeradwyo Cynllun Galluogi'r Prosiect Carbon Bositif:

  • rheoli ein coedwigoedd yn well er mwyn cynyddu storfeydd carbon ac adfer mawndiroedd yn helaeth er mwyn lleihau eu hallyriadau;
  • ystyried coedwigo sylweddol pellach drwy ehangu'r ystad goetir;
  • archwilio mwy o gyfleoedd i gynhyrchu ynni adnewyddadwy ar dir a reolir gan CNC

Gellid ystyried bod rhoi mynediad i dir y mae CNC yn ei reoli at ddiben echdynnu petrolewm yn groes i Bolisi Echdynnu Petrolewm Llywodraeth Cymru a'n gwaith parhaus i wrthdroi'r argyfwng hinsawdd.

Rheoleiddio yng Nghymru

Rydym ni’n cydweithio’n agos â'r cyrff canlynol i reoleiddio gweithgareddau olew a nwy ar y lan.  Drwy gydweithio'n effeithiol, gallwn sicrhau fod gweithgareddau olew a nwy ar y lan yng Nghymru'n cael eu rheol mewn ffordd a fydd yn gwarchod yr amgylchedd a phobl.  

  • Mae’r Awdurdod Olew a Nwy (OGA) yn trwyddedu pob gweithgaredd drilio a datblygu yn Lloegr. O’r 1af o Hydref 2018 ysgwyddod Gweinidogion Cymru'r cyfrifoldeb dros drwyddedu echdynnu petrolewm ar y tir yng Nghymru.  Gweinidogion Cymru sy’n gyfrifol am gynnal y Drwydded Archwilio a Datblygu Petrolewm (PEDL), sy’n rhoi hawliau unigryw i weithredwr chwilio am olew a nwy confensiynol ac anghonfensiynol mewn ardal drwyddedig. Ni all unrhyw waith archwilio na chynhyrchu ddechrau heb  ganiatâd chynllunio a thrwyddedu, PEDL

  • Awdurdodau Cynllunio Lleol sy’n gyfrifol am ganiatáu ceisiadau cynllunio (o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990) ar gyfer datblygiadau cysylltiedig â’r wyneb

  • Yr Awdurdod Glo sy’n gyfrifol am roi caniatâd i weithgareddau sy’n torri ar draws, yn amharu ar neu sy'n mynd i mewn i weithiennau glo

  • Bydd Cymdeithas Ddaeareg Prydain angen gwybodaeth ynghylch unrhyw dwll turio a fydd yn treiddio’n is na 100 troedfedd yn ogystal â gwybodaeth ynghylch dyfnhau ffynnon bresennol

  • Yr Awdurdod Iechyd a Diogelwch sy’n gyfrifol am sicrhau ymarferion diogel wrth ddylunio, sicrhau cyfanrwydd ac adeiladu ffynhonnau ac am ddiogelwch y gwaith drilio

  • Mae Ystâd y Goron yn ymestyn dros tua 115,500 hectar o dir yng ngwledydd Prydain. Mae perchnogaeth yr olew a’r nwy yn y tir hwnnw wedi’i freinio yn y Goron

Map Rheolaethol yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd

Bu Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda’r Adran ac â Llywodraeth Cymru i baratoi Map Rheolaethol. Mae'r map yn rhoi trosolwg defnyddiol o'r broses drwyddedu ar gyfer chwilio am nwy siâl a methan gwelyau glo, mae'n dangos y cyrff rheoleiddio ac ymgynghori, y ddeddfwriaeth a'r rheoliadau allweddol ac mae hefyd yn dangos y gwaith sydd ei angen a'r ymarferion gorau ar wahanol gyfnodau.

Mae nwyeiddio glo o dan ddaear yn dod o dan drefn reoleiddio wahanol i nwy siâl a methan gwelyau glo (gan fod y prosesau a'r peryglon cysylltiedig yn wahanol).

Y Ddeddf Fframwaith 2015 a Diogelwch Ffracio Hydrolig

Mae Deddf Seilwaith 2015 yn cynnwys darpariaethau diogelwch yn benodol ar gyfer chwilio am ynni, gan gynnwys nifer o fesurau diogelwch y mae'n rhaid eu cwblhau cyn y bydd yr Awdurdod Olew a Nwy yn caniatáu i weithredwyr ddechrau ar waith ffracio hydrolig. Mae'n rhaid i weithredwyr gyfarfod â deuddeg o amodau diogelwch i gael caniatad. Mae llawer o’r mesurau diogelwch yn rhai ynghylch amddiffyn yr amgylchedd, er enghraifft, monitro methan mewn dŵr daear am ddeuddeg mis, monitro allyriadau ffo ac asesu a datgelu cemegolion.

Dim ond pan fydd gweithredwr yn gofyn am ganiatâd i gynnal ffracio hydrolig (yn ôl diffiniad y Ddeddf) y mae'r mesurau hyn yn berthnasol, dydyn nhw ddim yn berthnasol i dyllau turio arbrofol nac i weithgareddau methan gwelyau glo. Mae’r mesurau diogelwch yn ychwanegol at y gofynion i gael caniatâd cynllunio a thrwyddedau amgylcheddol perthnasol.

Dylid nodi, fodd bynnag, nad yw hollti hydrolig yn cael ei gefnogi yng Nghymru.

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â ni drwy e-bost ar nrwonshoreoilandgas@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf