Sut rydym ni’n asesu’r modd mae busnesau’n cydymffurfio

  1. Asesiad Risg sy'n ein helpu i benderfynu pa mor aml y mae angen i ni gadarnhau cydymffurfiaeth
  2. Cadarnhau cydymffurfiaeth â Thrwyddedau Amgylcheddol drwy gynnal ymweliadau ac asesiadau

Nod Cyfoeth Naturiol Cymru yw cymhwyso adnoddau a systemau rheoleiddio tebyg i reoleiddwyr eraill yn y DU, ond mewn ffordd sy'n cefnogi ein canlyniad ehangach, sef sicrhau y caiff Adnoddau naturiol eu rheoli mewn modd cynaliadwy.

Mae perfformiad amgylcheddol da yn allweddol i fusnes llwyddiannus. Rydym yn gweithio'n galed i roi cyngor a chanllawiau i berfformwyr da fel eu bod yn gweithredu mewn ffyrdd sy'n gwarchod yr amgylchedd ac yn ei wella. Rydym yn canolbwyntio ar berfformiad gwael, gan gymryd camau yn erbyn busnesau sy'n methu â chydymffurfio â deddfwriaeth amgylcheddol yn gyson.

1. Asesu Risg

Er mwyn ein helpu i ganolbwyntio ein hadnoddau ar reoleiddio'r risgiau amgylcheddol uwch a/neu fusnesau sy'n perfformio'n wael, rydym yn defnyddio adnodd asesu risg i werthuso risgiau gweithredol (Opra). Mae asesiad Opra yn darparu graddfa, neu broffil, risg a ddefnyddir gennym fel rhan o'n proses asesu cydymffurfiaeth.

Mae proffil Opra ar gyfer gweithgarwch hefyd yn pennu faint y byddwn yn ei godi ar fusnesau am reoleiddio gweithgarwch. Codir hyd at dair gwaith yn fwy ar y safleoedd sy'n perfformio waethaf o gymharu â safle tebyg sy'n perfformio'n dda. Mae hyn yn adlewyrchu faint o ymdrech y mae'n rhaid i ni ei gwneud er mwyn mynd i'r afael â'u perfformiad gwael.

2. Sicrhau cydymffurfiaeth â Thrwyddedau Amgylcheddol

Er mwyn cofnodi manylion ein profion cydymffurfiaeth â thrwyddedau amgylcheddol, rydym yn defnyddio system TG o'r enw Cynllun Dosbarthu Cydymffurfiaeth (CCS). Fe'i cymhwysir at bob sector busnes a reoleiddir o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol. Mae hyn yn sicrhau bod pob achos o ddiffyg cydymffurfio ag amodau trwydded yn cael ei gofnodi mewn ffordd gyson.

Yna, defnyddir y wybodaeth o'r CCS i wneud y canlynol:

  • Categoreiddio achosion o ddiffyg cydymffurfio yn seiliedig ar y posibilrwydd y bydd gweithgarwch yn achosi difrod amgylcheddol
  • Llywio ein hymateb gorfodi i unrhyw achos o dorri amod trwydded
  • Rhoi manylion ynghylch sawl achos o dorri amodau trwydded sy'n digwydd ar safle mewn blwyddyn sy'n cyfrannu wedyn at y broses o ddiweddaru graddfa neu broffil risg Opra y safle hwnnw

Rydym yn defnyddio pedwar categori CCS i ddisgrifio faint o risg sy'n gysylltiedig â phob achos o dorri amodau trwydded:

  • Categori 1 CCS - roedd posibilrwydd o effaith amgylcheddol fawr
  • Categori 2 CCS - roedd posibilrwydd o effaith amgylcheddol sylweddol
  • Categori 3 CCS - roedd posibilrwydd o effaith amgylcheddol fach

Categori 4 CCS - nid oedd unrhyw bosibilrwydd o effaith amgylcheddol

Diweddarwyd ddiwethaf