Cynllun Adnoddau Coedwig Nant yr Arian - Cymeradwywyd 10 Medi 2020
Lleoliad a safle
Mae arwynebedd cynllun adnoddau Coedwig Nant yr Arian, tua naw milltir i'r dwyrain o Aberystwyth, ger pentref Ponterwyd ym Mynyddoedd Cambria, yn ymestyn 756 hectar.
Mae'r goedwig yn bennaf yn nalgylch afon Rheidol, gydag ardaloedd bach yn nalgylchoedd afon Clarach ac afon Leri, sydd i gyd yn dod i derfyn ym Mae Ceredigion.
Ceir mynediad i'r goedwig o'r A44 ger Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian a phentref Goginan. Ceir mynediad i'r ardaloedd gogleddol o ffordd gyngor fach rhwng pentref Ponterwyd a phentref Penrhyn-coch.
Mae holl ardal y cynllun adnoddau coedwig yn Awdurdod Cynllunio Lleol Ceredigion.
Crynodeb o'r amcanion
Cytunwyd ar yr amcanion rheoli canlynol er mwyn cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau a'r manteision y maent yn eu darparu:
- Amrywio'r cyfansoddiad o rywogaethau'r goedwig trwy hyrwyddo strategaeth ailstocio fwy amrywiol, a fydd yn cynnwys mwy o amrywiadau ar goed llydanddail a choed brodorol yn ogystal â chonifferau cynhyrchiol, yn enwedig yn yr ardaloedd a gwympwyd yn ddiweddar y mae Phytopthera ramorum wedi effeithio arnynt a'r ardaloedd hamdden craidd o gwmpas y ganolfan ymwelwyr.
- Gwella strwythur mewnol y goedwig trwy ddatblygu amrywiaeth dosbarth oedran ac amrywiaeth o ran maint y coed a’r cymysgedd o rywogaethau trwy amrywiaeth o systemau rheoli coedwig.
- Amrywio'r mathau o goetir yn y goedwig trwy gynyddu'r amrywiaeth o goetir conifferau ac ehangu'r cynefinoedd coetir brodorol ac ar lannau afonydd.
- Cynllunio i waredu unrhyw ardaloedd o goed llarwydd sylweddol sy'n weddill o dan y Strategaeth Lleihau Coed Llarwydd.
- Cynnal cyflenwad cynaliadwy o bren a buddsoddi mewn seilwaith coedwig i ddarparu gwell mynediad er mwyn caniatáu am fwy o Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith a rheoli gwaith teneuo lle bo'n bosibl.
- Creu ecosystem a strwythur coedwig parhaol ac amrywiol sy'n cynnwys coetir ar lannau afon a choetir brodorol, gwarchodfeydd naturiol, dargadwedd hirdymor, coetir dilyniadol a chlytwaith o gynefinoedd agored, gan gynnwys ffyrdd coedwig a rhodfeydd, wrth ganiatáu am amrywiaeth o drefniadau rheoli coetir, gan gynnwys ymyriadau prin ac ardaloedd lle gall prosesau naturiol ddigwydd.
- Cynyddu swm y prennau marw yn y goedwig, sy'n cefnogi bywyd amrywiol yn ecosystem y goedwig.
- Gwella cysylltedd cynefinoedd coetir, yn enwedig ar hyd rhwydweithiau ar lannau afon sy'n cysylltu ochr isaf Cwm Rheidol ag ecosystemau ucheldir Ceredigion ar gyfer rhywogaethau pwysig a warchodir gan Ewrop, megis dyfrgwn a beleod.
- Darparu cynefinoedd agored a chynefinoedd ar lannau afon ar gyfer rhywogaethau o adar a warchodir, megis troellwyr a barcudiaid coch.
- Cynnal yr amodau amgylcheddol gorau o gwmpas SoDdGA Cymsymlog a SoDdGA Craig-y-pistyll er budd y cynefinoedd a mathau prin o lystyfiant ar y safleoedd hyn.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr wrth gynnal gweithgareddau gweithredol trwy ddilyn yr arfer gorau fel y'i nodir yn ‘Safon Coedwigaeth y DU – Canllawiau Coedwigaeth a Dŵr’ i warchod ansawdd y dŵr a'r ecosystemau dŵr croyw yn y goedwig.
- Ehangu'r rhwydwaith presennol o goetir ar lannau afon, sy'n darparu clustogfa rhag gweithrediadau cynaeafu ac yn helpu i wella ansawdd y dŵr mewn ecosystemau dŵr croyw.
- Cynllunio llennyrch cwympo coed llai a defnyddio Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith pan fydd yn bosibl, er mwyn helpu i leihau’r effaith ar ansawdd y dŵr a lleihau'r effeithiau gweledol ar y dirwedd.
- Lleihau effeithiau niweidiol posibl asideiddio ar yr ecosystemau dŵr croyw yn y ddau gorff dŵr sy'n methu cyrraedd, neu sydd dan berygl o fethu cyrraedd, ‘Statws Ecolegol Da’ yn sgil pH yn yr ardal, trwy gadw gwaith llwyrdorri mewn unrhyw gyfnod o dair blynedd islaw 20% o ardal y dalgylch.
- Adfer y safleoedd coetir hynafol yng Nghoedwig Nant yr Arian ac Allt Tyn-y-graig ac o'u cwmpas trwy waredu conifferau yn raddol.
- Cadw pob heneb gofrestredig, megis cloddfa blwm Blaen Cwmsymlog a bryngaer Banc y Castell, yn rhydd rhag llystyfiant prysgwydd a choed ac ymgynghori â Cadw ar eu gwaith rheoli.
- Gwarchod pob heneb a nodwedd hanesyddol yn Ardal Tirwedd Hanesyddol Ucheldir Ceredigion wrth gynnal gweithrediadau rheoli coedwig.
- Gwella gwerth gweledol, gwerth synhwyraidd a gwerth cynefinoedd tirwedd y goedwig trwy gynyddu'r amrywiaeth o rywogaethau, dosbarth oedran a chynefinoedd brodorol a rhannu ffiniau dirybudd a rheolaidd y goedwig.
- Rheoli a chynnal y goedwig o amgylch Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian er budd a gwelliant profiad ymwelwyr.
- Ystyried rhagor o Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith a strwythur coedwigaeth parhaol ar hyd y prif lwybrau hamdden rhwng y Ganolfan Ymwelwyr a llynnoedd ucheldirol Llyn Blaenmelindwr a Llyn Syfydrin.
- Cynnal a gwella'r cyfleoedd hamdden i gerddwyr, beicwyr a marchogwyr ar hyd hawliau tramwy cyhoeddus a ffyrdd poblogaidd eraill yn y goedwig.
- Cynnal hawliau tramwy cyhoeddus ar unrhyw lwybrau y mae gweithrediadau cynaeafu yn effeithio arnynt, megis cwympo, teneuo ac ailstocio coed. Caiff unrhyw hawl dramwy gyhoeddus y plannir drosti am resymau hanesyddol ei hadfer yn ôl y map diffiniol.
- Ymchwilio i gyfleoedd i gydweithio â thirfeddianwyr cyfagos, rhanddeiliaid a phrosiectau er mwyn datblygu blaenoriaethau a chynlluniau a fydd yn gwella gwydnwch hirdymor a chysylltedd yr ecosystemau yn y dirwedd ehangach.
- Parhau i ymchwilio i'r potensial am brosiectau ynni gwynt yn Ardal Chwilio Strategol D TAN 8, sydd ychydig i'r gogledd o'r goedwig, a'r glustogfa 5km o hyd sy'n gorgyffwrdd â'r goedwig.
Mapiau
- Map lleoliad
- Map amcanion hirdymor
- Map systemau rheoli coedwigoedd
- Map dangosol o'r mathau o goedwigoedd
- Map amcanion rheoli 10 mlynedd
- Map gweithgardeddau cynaeafu 10 mlynedd
Sylwadau neu adborth
Os oes gennych sylwadau neu adborth, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwig ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk