Cynllun Adnoddau Coedwig Machynlleth – Cymeradwywyd 17 Ebrill 2024

Lleoliad ac ardal

Arwynebedd cynllun adnoddau Coedwig Machynlleth yw 1,809 hectar, yn cynnwys y pum ardal goedwig wahanol o Bennal, Pont Dyfi, Cilgwyn, y Bont-faen a Chomins-coch.

Mae’r cynllun yn ymdrin â blociau coedwigoedd cwbl weithredol a chynhyrchiol sydd nid yn unig yn darparu buddion gwasanaethau ecosystemau lluosog ond yn cyfrannu at ddiwydiant coed canolbarth Cymru a’r economi leol.

Mae’r coedwigoedd yn gorwedd mewn tirwedd sy’n pontio Dyffryn Dyfi, dalgylch afon pwysig sy’n bwydo i mewn i Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA), Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Aber Afon Dyfi ac yn llifo allan i Fae Ceredigion. Mae’r rhain o fewn Gwarchodfa Biosffer Dyfi, dynodiad UNESCO sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol.

Mae rhannau Pennal a Phont Dyfi o'r goedwig o fewn Parc Cenedlaethol Eryri.

Mae dynodiadau pwysig eraill sy'n agos at y blociau coedwig hyn yn cynnwys ACA a SoDdGA Cadair Idris i'r gogledd a SoDdGA Pumlumon, SoDdGA Cwm Llyfnant, SoDdGA Mwyngloddfeydd Esgair Hir ac Esgair Fraith a SoDdGA Pencreigiau'r Llan i'r de, yn agos at y Bont-faen. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn aelod o Bartneriaeth Biosffer Dyfi.

Mae'r boblogaeth fawr agosaf yn byw yng nghymuned tref farchnad Machynlleth (poblogaeth 2,235). Mynediad i'r coedwigoedd: ar gyfer Pennal a Phont Dyfi, ewch ar hyd yr A487; ar gyfer Cilgwyn ar hyd y B4404; ar gyfer y Bont-faen trwy ffordd y Bont-faen i'r de o Fachynlleth; ac ar gyfer Comins-coch ar hyd cefnffordd yr A470.

Map lleoliad

Map Lleoliad Machynlleth

Crynodeb o'r amcanion

  • Rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy i gefnogi’r gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd trwy dyfu amrywiaeth o rywogaethau, dal a storio carbon, ac arfer coedamaeth da – Cefnogir y potensial i dyfu amrywiaeth o rywogaethau ar y safleoedd hyn gan briddoedd da ac uchderau buddiol, felly mae’r cynllun hwn yn awgrymu tyfu amrywiaeth o rywogaethau llydanddail yn unol â’r amcan isod, gydag adferiadau Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol, yn ogystal â thyfu amrywiaeth ehangach o rywogaethau conwydd cynhyrchiol ar briddoedd brown yr ucheldir ar draws mwyafrif y cynllun. Bydd cyfleoedd i sefydlu parthau o goedwig gorchudd di-dor fod yn rhan ychwanegol o'r amcan hwn.
  • Adfer coetir hynafol a chysylltedd llydanddail a rhwydweithiau natur – Mae cyfleoedd i wella coetir hynafol a lled-naturiol ac adfer Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol ar gael ar draws y cynllun ac felly dylid eu gweithredu yn nhrefn y potensial i’w hadfer. Gellid defnyddio ardaloedd lle mae coed llarwydd wedi'u heintio â Phytophthora ac wedi cael eu tynnu ar gyfer cysylltedd llydanddail cyflymach a chreu cynefinoedd. Mae CNC yn datblygu agwedd newydd tuag at Rwydweithiau Natur ar y tir dan ein gofal. Mae’r Cynllun Adnoddau Coedwig hwn wedi cymryd cyfleoedd i gynnwys rhwydweithiau natur drwy gysylltu safleoedd coetir hynafol, ehangu ardaloedd o goedwigoedd llydanddail a choetiroedd glannau afon/olyniaethol, a gwella cysylltedd gyda chynefinoedd agored â blaenoriaeth sy’n ffinio’r coedwigoedd.
  • Rheoli Llifogydd yn Naturiol a monitro llifogydd – Mae cyfleoedd i wella ansawdd dŵr, lliniaru llifogydd ar gyfer poblogaethau i lawr yr afon o unedau coedwig, a monitro gweithgarwch o'r fath ar gael ar draws cynllun Machynlleth. Mae prosiect Pennal 50 wedi’i ariannu i weithredu a monitro rhai adeileddau rheoli llifogydd naturiol a osodwyd yn ddiweddar o amgylch bloc Pennal – gellid hwyluso prosiectau tebyg o fewn oes y cynllun hwn.
  • Rheoli dŵr – Mae ACA Pen Llŷn a’r Sarnau, a dynodiadau AGA a SoDdGA Aber Afon Dyfi yn golygu bod rheoli dŵr yn hollbwysig. Yn ogystal, mae ardaloedd o ddalgylchoedd sensitif i asid yn methu oherwydd gorgyffwrdd asideiddio yn nwyrain Pennal, ymyl gorllewinol Cilgwyn a rhan ddeheuol o'r Bont-faen.
  • Rheolaeth glan yr afon – Mae'r cyrsiau dŵr niferus ar draws y cynllun yn gyffredinol yn llifo i aber afon Dyfi ac felly mae angen lleihau effeithiau cyfunol gweithrediadau coedwigaeth. Bydd rheolaeth a gwaith cynnal a chadw glan yr afon yn gwella bioamrywiaeth y goedwig a chysylltedd cynefinoedd ar hyd yr ardaloedd afonol, wrth gyfrannu at liniaru effeithiau siltio a dŵr ffo wyneb, ac yn cefnogi amddiffyn dŵr.
  • Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop ac adran 7 – Mae’r goedwig yn elwa o amrywiaeth o gynefinoedd, uchderau a chyfansoddiad rhywogaethau, sydd wedi arwain at weld nifer o rywogaethau adran 7 (gan gynnwys pathewod, rhywogaethau o ystlumod, y fritheg berlog fach a grugieir du). Gellid datblygu'r ardaloedd ym Mhennal, Cilgwyn a Phont Dyfi, lle gwelwyd y rhain yn fwyaf diweddar, ymhellach ar gyfer y rhywogaethau penodol hynny.
  • Bele’r coed – Gellid archwilio’r lle ar gyfer datblygu cynefin sy’n addas ar gyfer ailgyflwyno bele'r coed, o ystyried y potensial ar gyfer sefydlu rhywogaethau, gwella bioamrywiaeth a rheoli plâu yn erbyn y wiwer lwyd (a hyrwyddo cynefinoedd gwiwerod coch ymhellach). Gellid ymgysylltu ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent i fynd â'r prosiect hwn ymhellach.
  • Cynhyrchu pren – Bydd hyn yn cael ei gynnal a bydd danfoniadau pren o ardaloedd cynhyrchiol o’r goedwig yn cael eu cyfuno ag amcanion cadwraeth ac adfer. Bydd y goedwigaeth weithredol yn defnyddio systemau llwyrdorri a bydd systemau effaith is yn cael eu defnyddio drwy gydol y cynllun i sicrhau'r budd mwyaf i'r amgylchedd, yr economi leol a'r gymuned.
  • Treftadaeth, tirwedd a hamdden – Dylid diogelu henebion cofrestredig, nodweddion treftadaeth a mannau treftadaeth ddiwylliannol, a'u gwarchod rhag unrhyw weithrediadau coedwigaeth cynhyrchiol er mwyn cynnal gwerth hanesyddol y lleoliadau hyn o fewn y goedwig. Dylid cynnal a gwella hawliau tramwy cyhoeddus sy'n ymledu drwy'r cynllun coedwig lle bo modd er mwyn denu mwy o ymwelwyr i'r goedwig. Bydd y coetiroedd yn cael eu hymgorffori i mewn i rwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru dros y blynyddoedd nesaf.
  • Addysg – Mae cyfleoedd ar gyfer allgymorth cymunedol ac addysg ar gael trwy weithgareddau awyr agored, Outward Bound a sianeli eraill a dylid eu defnyddio i gynyddu buddion addysgol yr adnoddau coedwigaeth hyn.
  • Mynediad a seilwaith – Yn benodol, ar gyfer bloc coedwig Comins-coch, lle bydd angen mynediad ar gyfer torri coed llarwydd heintiedig dan hysbysiad iechyd planhigion statudol a gweithrediadau teneuo lle mae llawer o’r safle yn Blanhigfa ar Safle Coetir Hynafol ac felly o dan reolaeth System Goedamaeth Fach ei Heffaith.
  • Rheoli ceirw – Dylid cynnal a/neu wella’r seilwaith i sicrhau bod mamaliaid yn cael eu rheoli’n ddigonol er mwyn i gnydau gael eu hadfywio a’u sefydlu’n llwyddiannus.

Crynodeb o'r prif newidiadau a fydd yn digwydd yn y goedwig:

  • Drwy gydol cyfnod y cynllun sydd ar y gweill, bydd y blociau amrywiol o Goedwig Machynlleth yn parhau i fod yn goetiroedd cynhyrchiol pwysig, gan ddarparu cyflenwad cynaliadwy o bren i gefnogi cyflogaeth ac economi Cymru.
  • Bydd rhywogaethau ac amrywiaeth strwythurol yn cael eu gwella'n sylweddol, gan ddarparu mwy o wytnwch i blâu, clefydau a newidiadau hinsoddol.
  • Bydd ardaloedd ‘Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol’ yn cael eu trosi'n gyson yn ôl yn goetir llydanddail brodorol, gyda chysylltedd rhwng y nodweddion gweddilliol hyn yn cael ei gadw a'i wella drwy reoli cnydau cyfagos.
  • Bydd ehangu coridorau glannau afon cadarn o goed llydanddail brodorol a choetir olynol yn gwella cysylltedd cynefinoedd ymhellach ac yn darparu tir clustog gwell i ddiogelu ansawdd dŵr a nodweddion dynodedig ymhellach i lawr y dalgylch, ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer rheoli llifogydd yn naturiol.
  • Ffefrir dull ‘System Goedamaeth Fach ei Heffaith’ cynyddrannol lle bynnag y bydd cyfyngiadau ffisegol mynediad, datguddiad a hanes rheoli cnydau cyfagos yn caniatáu, gan ddod â 557 hectar (31%) o’r coetir o dan ryw ffurf o reolaeth gorchudd parhaus. Wrth i gnydau ifanc y dyfodol gael eu cynnwys mewn cylchred o deneuo rheolaidd, bydd y gyfran hon yn cynyddu ymhellach dros amser.
  • Bydd lledaeniad cyflym Phytophthora ramorum yn gofyn am gael gwared ar gnydau coed llarwydd yn gyflym iawn ar draws ardal y cynllun. Gyda 12% o'r goedwig yn cynnwys rhywogaethau coed llarwydd ar hyn o bryd, bydd eu symud yn ffactor arwyddocaol sy'n ysgogi'r rhaglen lwyrgwympo arfaethedig dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
  • Bydd nodi a chadw nodweddion treftadaeth o fewn y goedwig, a darparu cyfleoedd mynediad iach i'r gymuned, yn parhau i fod yn amcanion pwysig.

Mapiau

Gweledigaeth hirdymor

Y strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo coed

Mathau o goedwigoedd ac ailblannu

Diweddarwyd ddiwethaf