Cynllun Adnoddau Coedwig Gethin, Ystad Allen ac Ynysowen – Cymeradwywyd 7 Gorffennaf 2026

Lleoliad ac ardal

Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Llanymddyfri yn cwmpasu tua 765 hectar ar draws un prif floc ym Mhen Arthur a sawl bloc llai o fewn Sir Gaerfyrddin. Mae dwy ardal newydd o goetir o fewn Cynllun Adnoddau Coedwig Llanymddyfri. Coed Abermarlais, coetir coffa COVID-19 ac ardal o blannu newydd ger Pen Arthur fel plannu cydadferol.

  • Pen Arthur
  • Talyllychau
  • Felindre
  • Monument
  • Llwynywermod
  • Cilgwyn
  • Coed Abermarlais

Crynodeb o'r amcanion

 Ymarfer coedwigaeth cyffredinol

Cynhyrchu pren yn gynaliadwy

  • Parhau i gynnal cyflenwad cynaliadwy o gynhyrchiant pren a gwneud y mwyaf o ardaloedd cynhyrchiol trwy ddewisiadau ailstocio a strategaethau rheoli coedwigoedd.
  • Rheoli ceirw (rheoli bywyd gwyllt) – datblygu rhaglen fonitro i ddeall effeithiau posibl ar ailstocio gan lysysorion.
  • Mae cydrannau o larwydd yn dal i fodoli mewn sawl un o Goetiroedd Llanymddyfri, a bydd rhaglen i gael gwared arnynt trwy lwyrgwympo lle bo’n briodol, neu fel arall, eu teneuo.
  • Ymgorffori’r ardaloedd coetir newydd yng Nghoed Abermarlais a Phen Arthur yn y Cynllun Adnoddau Coedwig.
  • Bydd yr holl goetiroedd yn cael eu hymgorffori yn y Goedwig Genedlaethol.

Coedwigoedd a newid hinsawdd

Rhywogaethau ac amrywiaeth strwythurol

  • Parhau i wella gwydnwch coetir trwy amrywio’r rhywogaethau ailstocio mewn ardaloedd lle ceir amodau pridd addas er mwyn eu hamddiffyn rhag plâu a chlefydau, ac i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Coedwigoedd a dŵr

Diogelu dŵr

  • Diogelu nodweddion ardaloedd cadwraeth arbennig - Ymestyn a datblygu rhwydwaith coetiroedd glannau afon er budd ansawdd a maint dŵr er mwyn sicrhau’r effaith leiaf posibl o weithrediadau coedwigaeth ar Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Tywi.
  • Ystyriwch ble y mae angen rheoli rhywogaethau estron goresgynnol ger cyrsiau dŵr, gan flaenoriaethu coetir lled-naturiol hynafol, planhigfeydd ar safleoedd coetir hynafol (PAWS) a safleoedd dynodedig, e.e. ACA Afon Tywi, Coed Abermarlais.
  • Rhaid i gynlluniau rheoli dŵr gweithredol o fewn Coetir Talyllychau ystyried diogelu Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Llynnoedd Talyllychau.
  • Bydd Gweithrediadau Coedwigaeth a Rheoli Tir yn anelu at reoli’r coetir llydanddail ar hyd lednentydd afon Sawdde, o fewn Coedwig Pen Arthur, er budd ecoleg yr afon i gefnogi gwelliannau yn statws y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.

Coedwigoedd a phobl

Iechyd a llesiant

  • Hyrwyddo mynediad a defnydd coedwig ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr er budd llesiant a iechyd meddyliol a chorfforol yn unol â’r cynlluniau gwella hawliau tramwy perthnasol.
  • Cynnal y ddarpariaeth bresennol ar gyfer diddordebau cerdded, marchogaeth, beicio mynydd a chrwydro.

Ymddygiad gwrthgymdeithasol

  • Parhau i weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a pherchnogion tir lle bo’n briodol i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon.

Coedwigoedd a bioamrywiaeth

Adfer planhigfeydd ar safleoedd coetir hynafol

  • Parhau â’n cynllun i adfer planhigfeydd ar safleoedd coetiroedd hynafol i gyflwr coetir lled-naturiol trwy ddefnyddio dulliau adfywio a phlannu rhywogaethau llydanddail a systemau coedamaeth bach eu heffaith, gan gefnogi’r broses o arallgyfeirio dosbarth oedran a strwythur y goedwig.
  • Parhau i gynnal ein coed llydanddail hynafol ac aeddfed, gan gynnwys yr ynn, sy’n gartref i bryoffytau ac ystlumod prin – yn enwedig o amgylch Ceunant Sawdde ger Pontarllechau.
  • Mae angen rheoli rhywogaethau estron goresgynnol i warchod y coetir hynafol a chefnogi adferiad effeithiol ar blanhigfeydd ar safleoedd coetir hynafol.

Cysylltedd cynefinoedd

  • Datblygu rhwydweithiau ardaloedd cadwraeth a hyrwyddo rhwydwaith ecolegol gwydn ehangach i helpu i gyflawni ein huchelgais i gynyddu gwydnwch ecosystemau.
  • Llwynywermod – mae angen cael gwared ar y cellïoedd conwydd sy’n bodoli eisoes ac, ar ôl hynny, ein huchelgais yw gwella rhwydweithiau natur a chynnal gweithrediadau coetir gyda chadwraeth fel y prif amcan yma.
  • Parhau i gefnogi’r gwaith o gysylltu cynefinoedd a chysylltedd mewn ardaloedd addas ochr yn ochr â pharthau glannau afon, ffyrdd coedwig a hawliau tramwy cyhoeddus, gan ddefnyddio dulliau rheoli priodol a rhywogaethau brodorol. 

Rhywogaethau

  • Mae pathewod a dyfrgwn yn bresennol o fewn nifer o goetiroedd Cynllun Adnoddau Coedwig Llanymddyfri. Cynnal, a phan fo modd, chwilio am gyfleoedd i wella cynefinoedd ar gyfer y rhywogaethau hyn o ystyried ein gwaith mapio Cymunedau a Natur.

Coedwigoedd a’r amgylchedd hanesyddol

Nodweddion treftadaeth

  • Parhau i ddiogelu asedau treftadaeth yn ystod gweithrediadau, gan osgoi difrod a nodi nodweddion newydd.
  • Cysylltu â Cadw ar unrhyw waith sy’n rhyngweithio â pharc a gardd gofrestredig Llwynywermod.

Coedwigoedd a phridd

Rheoli priddoedd

  • Parhau i ddilyn arferion da i atal effeithiau negyddol ar briddoedd yn ystod pob gweithrediad coedwigaeth.

Coedwigoedd a thirwedd

Estheteg a thirwedd

  • Cadw cymeriad y goedwig o fewn y dirwedd gyfagos ac ystyried y canfyddiad gweledol er budd ymwelwyr a’r trigolion. Gweithio gyda Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mapiau

Sylwadau neu adborth

Os oes gennych sylwadau neu adborth, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwig ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf