Cynllun Adnoddau Coedwig Hafren - Cymeradwywyd 2 Gorffennaf 2021
Lleoliad a Safle
Mae ardal cynllun adnoddau Coedwig Hafren yn 3513 hectar i gyd sy’n cynnwys prif floc Coedwig Hafren (2875 ha) a phum bloc coedwigaeth ategol. Mae tri o’r rhain tua’r gogledd (Dolgau, Llwynygog Hill a Llwynygog) a dau ohonynt tua’r dwyrain a’r de (Tan Hinon a Maes Y Brynar, yn eu trefn).
Mae Coedwig Hafren yn sefyll ar ymylon Mynyddoedd Cambria, saith milltir i’r gorllewin o dref farchnad Llanidloes. O ganol tref Llanidloes gellir mynd yno ar hyd y ffordd gul i’r Hen Neuadd neu drwy ben gogleddol Llyn Clywedog ar ffyrdd bychain.
Mae’r goedwig yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr oherwydd y nifer fawr o lwybrau cerdded at atyniadau sydd yno gan gynnwys llwybr troed i Raeadr Blaenhafren, llwybr cerdded sy’n arwain at raeadr enwog Dŵr Torri Gwddf a llwybr saith milltir Tarddiad Afon Hafren sy’n mynd drwy’r goedwig hyd at darddiad Afon Hafren ym Mhumlumon, mynydd uchaf Canolbarth Cymru.
Mae Pumlumom yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) oherwydd ei gynefin o fawnogydd a’i boblogaethau o adar yr ucheldir.
Crynodeb o'r prif newidiadau a fydd yn digwydd yn y goedwig
- Bydd CNC yn cynnal neu'n cynyddu'r swm o bren a gynhyrchir er mwyn sicrhau hwb parhaus i economi Cymru wrth i'r galw byd-eang am bren gynyddu yn wyneb dirywiad yn y cyflenwad a fydd ar gael dros y 25 mlynedd nesaf.
- Mae gan Goedwig Hafren rwydwaith torlannol helaeth a fydd yn parhau i gael ei gynnal, ac, ynghyd â hynny, caiff rhannau torlannol newydd eu dethol er mwyn gwarchod ansawdd y dŵr a'r cydbwysedd pH, ac i gynyddu bioamrywiaeth.
- Mae llawer o'r goedwig wedi'i lleoli mewn dalgylchoedd sy'n sensitif i asid, sy'n golygu y caiff gweithrediadau coedwigaeth sy'n agos at gyrsiau dŵr eu hamlygu fel rhai enwedig o sensitif, ac y dylid arfer protocolau lliniaru priodol.
- Archwilir cyfleoedd i gefnogi'r gwaith o greu cynefinoedd coetir gwlyb, ac i hybu bioamrywiaeth a'r manteision lleol posibl o ran rheoli llifogydd.
- Caiff cymysgedd cynyddol amrywiol o goed ei blannu a'i ddatblygu lle mae'r pridd a'r uchder yn addas.
- Mae gwaith rheoli SoDdGA Pumlumon yn gofyn am gyfuniad o fesurau clustogi â chynefinoedd agored, a phlannu coed llydanddail (lle bo'n briodol), a gwaith datblygu ymyl graddol er mwyn atal coed conwydd anfrodorol rhag sefydlu ac er mwyn sicrhau trawsnewid mwy meddal ar draws y dirwedd.
- Dylid diogelu henebion cofrestredig, nodweddion treftadaeth a mannau treftadaeth ddiwylliannol, er mwyn cynnal gwerth hanesyddol y lleoliadau hyn o fewn y goedwig.
- Mae mynediad a gweithgareddau hamdden yn bwysig i'r safle hwn, a dylid sicrhau y gwneir gwaith cynnal a chadw i gyfleusterau, neu eu gwella, lle bônt ar gael (e.e. traciau a llwybrau). Bydd cynyddu nifer yr ymwelwyr â'r safle'n hybu statws y goedwig, yn enwedig gan ei bod wedi'i chydnabod fel safle enghreifftiol ar gyfer Coedwig Genedlaethol Cymru.
- Parhau i warchod nythfaoedd gweilch y pysgod â phroffil uchel er budd ymwelwyr, addysg ac ymchwil.
Cyfleoedd yng Nghoedwig Hafren (yn nhrefn eu blaenoriaeth)
- Cynhyrchu pren i sicrhau y caiff y swm a ddanfonir ei gynnal neu ei gynyddu, ac i sicrhau hwb parhaus i economi Cymru wrth i'r galw byd-eang am bren gynyddu yn wyneb dirywiad yn y cyflenwad a fydd ar gael dros y 25 mlynedd nesaf.
- Manteisio i'r eithaf ar y gwaith rheoli torlannau estynedig diweddar drwy barhau â gwaith cynnal a chadw sydd eisoes yn mynd rhagddo ar rannau torlannol, a dethol rhannau torlannol newydd er mwyn gwarchod ansawdd y dŵr a'r cydbwysedd pH, ac i gynyddu bioamrywiaeth.
- Mae dalgylch y safle, sy'n sensitif i asid (sy'n cynnwys afon Hafren), a'i agosrwydd i isafonydd i lawr afon ACA Afon Gwy Uchaf yn golygu y dylid amlygu bod gweithrediadau coedwigaeth sy'n agos at gyrsiau dŵr yn enwedig o sensitif, a dylid arfer protocolau lliniaru priodol.
- Archwilio cyfleoedd i ddefnyddio technegau rheoli llifogydd naturiol mewn parthau torlannol addas er mwyn hybu cynefinoedd coetir gwlyb, mesurau byffro pH, a bioamrywiaeth, ynghyd â manteision rheoli llifogydd lleol.
- Manteisio ar y topograffi a'r ddaeareg pridd sylfaenol i blannu a datblygu strwythur coed cynyddol amrywiol yn strategol, lle bo hynny'n addas. Dylid archwilio cyfleoedd i ailstocio gyda choed heblaw coed llarwydd (oherwydd y clystyrau o goed heintiedig â Phytophthora a dynnwyd), a hynny'n weithredol.
- Mae sensitifrwydd SoDdGA Pumlumon yn gofyn am gyfuniad o fesurau clustogi â chynefinoedd agored, plannu coed llydanddail (lle bo'n briodol), a gwaith datblygu ymyl graddol lle mae'r blociau coedwigaeth cynhyrchiol yn y gorllewin yn gyfagos i safle dynodedig Pumlumon. Bydd hyn yn cefnogi camau i liniaru gwasgariad hadau coed conwydd a bydd yn sicrhau bod trawsnewid mwy meddal rhwng mathau o dirwedd.
- Dylid diogelu henebion cofrestredig, nodweddion treftadaeth a mannau treftadaeth ddiwylliannol, a'u gwarchod rhag unrhyw weithrediadau coedwigaeth cynhyrchiol er mwyn cynnal gwerth hanesyddol y lleoliadau hyn o fewn y goedwig.
- Mae mynediad a gweithgareddau hamdden yn bwysig i'r safle hwn, a dylid sicrhau y gwneir gwaith cynnal a chadw i gyfleusterau, neu eu gwella, lle bônt ar gael (e.e. traciau a llwybrau). Bydd cynyddu nifer yr ymwelwyr â'r safle'n hybu statws y goedwig, yn enwedig gan ei bod wedi'i chydnabod erbyn hyn fel safle enghreifftiol ar gyfer Coedwig Genedlaethol Cymru.
- Parhau i warchod nythfaoedd gweilch y pysgod â phroffil uchel er budd ymwelwyr, addysg ac ymchwil.
- Cynyddu gweithgareddau allgymorth ac ymgysylltu ym maes coedwigaeth drwy gynnig cyfleoedd i'r gymuned leol gymryd rhan (yn enwedig ym Mhenffordd-las, lle mae bloc Llwyn-y-gog a bloc Dolgau gerllaw).
- Er mai arwynebedd bach y mae Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol yn ei gynrychioli, gwneir ymdrechion i adfer y safleoedd hyn drwy ailstocio â choed llydanddail brodorol, ac i wella'r gorchudd gan rywogaethau llydanddail, a'r cysylltedd, y tu mewn i'r goedwig a'r tu allan iddi.
- Dylid creu seilwaith rheoli ceirw mewn modd cynaliadwy sy'n ystyriol o'r safle fel y gellir dynodi llennyrch ceirw mewn cynefinoedd agored sy'n briodol ar gyfer rheoli mamaliaid.
Mapiau
Map lleoliad
Prif amcanion hirdymor
Systemau rheoli coedwigoedd
Cynefinoedd a mathau o goedwigoedd dangosol