Cynllun Adnoddau Coedwig Coed Sarnau - Cymeradwywyd 18 Tachwedd 2022
Lleoliad ac ardal
- Mae Cynllun Adnoddau Coedwigaeth (CAC) Coed Sarnau’n cynnwys prif flociau coedwig Abaty Cwm Hir, Bwlch y Sarnau, Red Lion, the Barnes a Threflyn. Gyda’i gilydd, mae gan y coetiroedd hyn arwynebedd o 2,334 ha ac mae ganddynt gymysgedd o rywogaethau coed conwydd a llydanddail.
- Mae prif flociau coedwig Abaty Cwm Hir, Bwlch y Sarnau a Red Lion wedi’u lleoli y tu fewn i ffin Cyngor Sir Powys ac yn nyffrynnoedd Abaty Cwm Hir a Bwlch y Sarnau. Mae’r goedwig fwyaf gogleddol, o’r enw the Barnes, wedi’i lleoli ar fryn Garn Fach 4km i’r gorllewin o’r A483 ger pentref Crochran. Cyfeirir at floc coedwig mwyaf deheuol y CAC hwn fel Treflyn ac mae wedi’i leoli ar lethrau Rhiw Gwraidd, 3.5km i’r dwyrain o Lanwrthwl ar yr A470.
- Mae’r amgylchedd o gwmpas blociau CAC Coed Sarnau’n cynnwys tir amaeth caeedig wedi’i bori, blociau coedwig masnachol o goed conwydd, sy’n dominyddu’r tir uwch a choetiroedd conwydd/llydanddail cymysg ar y llethrau is a glannau’r afonydd. Nodwedd arall amlwg yn yr ardal hon yw’r nifer o ffermydd ynni gwynt, yn enwedig ffermydd gwynt Dethenydd a Waun Lluestowain.
- Mae blociau coedwig Abaty Cwm Hir yn gymysgedd o goed conwydd a llydanddail ac fe’u rheolir gyda chydbwysedd o amcanion masnachol a chadwraethol. Mae sawl enghraifft dda o goed derw hynafol sydd wedi goroesi ar yr ardaloedd o goetir hynafol yn y coetiroedd hyn. Er bod cymysgedd o goed llydanddail brodorol hefyd yn bodoli yng nghoedwigoedd Bwlch y Sarnau, coed conwydd sy’n fwyaf cyffredin yn yr ardaloedd hyn.
- Mae’r CAC hwn o fewn dalgylch ACA Afon Gwy. Mae’r afon hon yn bwysig ar gyfer y poblogaethau lleol o lysywod pendoll yr afon a’r nant, eogiaid, pennau lletwad a dyfrgwn.
Cyfleoedd a Blaenoriaethau
- Tynnu coed llarwydd ac amrywio rhywogaethau’r coedwigoedd er mwyn cynyddu’u gwytnwch yn erbyn plâu, gan greu coedwig gydnerth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
- Cynyddu amrywiaeth strwythurol drwy warchodfeydd naturiol, cadw clystyrau dros y tymor hir a Choedwigaeth Gorchudd Parhaol.
- Parhau i gynnal cyflenwad cynaliadwy o bren drwy gynllunio’r dewis o rywogaethau i’w cwympo a’u hailstocio.
- Mwy o ardaloedd coetir olynol / torlannol i wella gwytnwch y dirwedd a chysylltiadau rhwng cynefinoedd ar raddfa’r dirwedd.
- Nodi a gwarchod nodweddion treftadaeth pwysig, gan gynnwys yr amgylchedd naturiol hanesyddol.
- Parhau i nodi ac adfer nodweddion safle coetir hynafol.
- Cynnal a gwella profiad ymwelwyr drwy ddarparu amgylchedd amrywiol sy’n ddiogel ac yn ddymunol.
Crynodeb o’r prif newidiadau fydd yn digwydd yn y goedwig
- Tynnu coed llarwydd o’r coetiroedd (175ha) er mwyn rheoli bygythiad clefyd Phytophthora ramorum.
- Gwella ardaloedd sydd o werth cadwraeth uwch drwy reoli ac ehangu’r parthau torlannol a’r coetir olynol (210ha).
- Neilltuo mwy o ardaloedd i’w cadw dros y tymor hir (9ha).
- Neilltuo mwy o ardaloedd ar gyfer statws Gwarchodfa Naturiol (19ha).
- Rheoli mwy o ardaloedd fel ardaloedd o goed llydanddail brodorol (670ha).
- Adfer safleoedd coetir hynafol (50ha) drwy dynnu coed conwydd a chreu cynefin coed llydanddail brodorol.
- Lleihau effaith weledol yr ymylon coed conwydd ar y dirwedd.
- Lleihau nifer sbriws Sitca a chynyddu nifer rhywogaethau coed conwydd a llydanddail eraill er mwyn cynyddu gwytnwch y coetiroedd yn erbyn plâu a chlefydau.
Mapiau
Prif amcanion hirdymor
Systemau rheoli coedwigoedd
Dangosol o’r mathau o goedwigoedd
Sylwadau neu adborth
Os oes gennych sylwadau neu adborth, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwig ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Diweddarwyd ddiwethaf