Cynllun Adnoddau Coedwigaeth Abergele - Cymeradwywyd 28 Ebrill 2023

Lleoliad a safle

Mae Cynllun Adnoddau Coedwigaeth Clocaenog yn cynnwys bloc coedwig Clocaenog sy’n cwmpasu ardal o 4,126 ha ac yn cynnwys coed conifferaidd yn bennaf. Mae coedwig Clocaenog wedi’i lleoli o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Mynydd Hiraethog, rhwng ffyrdd B4501 a B5105 Cerrigydrudion i Ruthun. Mae Llyn Brenig, cronfa ddŵr a chyrchfan ymwelwyr Dŵr Cymru, wedi’i leoli i orllewin ffin coedwig Clocaenog.

Mae’r cynefin o amgylch blociau Cynllun Adnoddau Coedwigaeth Clocaenog yn cynnwys tir pori caeedig a rhostir agored, blociau coedwig conifferaidd masnachol, sy’n dominyddu’r tir uchaf a choetiroedd conifferaidd/llydanddail ar y llethrau isaf a glannau’r afonydd. Erbyn hyn, ceir fferm wynt ar raddfa fawr o fewn coedwig Clocaenog. Mae coedwig Clocaenog wedi’i ddynodi ar gyfer mynediad agored ar droed dan y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy, ac mae hefyd yn caniatáu mynediad i geffylau a beiciau gyda chaniatâd. Ceir rhwydwaith o Hawliau Tramwy Cyhoeddus o fewn y goedwig ac mae rhan Cyffylliog i Lanfihangel Glyn Myfyr o lwybr hir Hiraethog yn mynd drwy’r goedwig.

Mae Coedwig Clocaenog wedi’i lleoli o fewn dalgylchoedd yr afonydd canlynol:

  • Clywedog – Corris i Ryd Galed
  • Brenig – cronfa ddŵr a’r dalgylch dwyreiniol
  • Alwen – Ceirw i’r Brenig a Chlwyd Clywedog uchaf (Corris)
  • Clwyd – i fyny’r afon Hesbin

Mae pob un o’r dalgylchoedd hyn wedi cael eu graddio’n “Gymedrol” o dan asesiad y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, heblaw’r Afon Clwyd – i fyny’r afon Hesbin, sydd wedi cael ei raddio’n “Dda”.

Crynodeb o'r amcanion

Cytunwyd ar yr amcanion rheoli canlynol er mwyn cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau a'r manteision y maent yn eu darparu:

  • Tynnu coed llarwydd ac arallgyfeirio cyfansoddiad rhywogaethau’r goedwig i wella’r gallu i wrthsefyll plâu a chlefydau gan hefyd adeiladu coedwig gadarn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

  • Cynyddu amrywiaeth strwythurol a chadwraeth Gwiwerod Coch trwy gronfeydd naturiol, cadwraeth hirdymor a Choedwigaeth Gorchudd Parhaus.

  • Parhau i gynnal cyflenwad cynaliadwy o gynnyrch pren trwy ddylunio gweithgareddau cwympo coed a’r dewis o rywogaethau i’w hail stocio.

  • Mwy o ardaloedd coetir olynol/glannau afon er mwyn gwella gwydnwch cynefinoedd a chysylltu cynefinoedd ar raddfa’r dirwedd.

  • Adnabod a diogelu nodweddion treftadaeth pwysig, gan gynnwys yr amgylchedd naturiol hanesyddol.

  • Parhau i adnabod ac adfer nodweddion safleoedd coetir hynafol ac ardaloedd o ddiddordeb cadwraeth.

  • Cynnal a gwella profiad ymwelwyr trwy ddarparu amgylchedd amrywiol sy’n ddiogel ac yn braf.

 

Mapiau

Map 1: Gweledigaeth hirdymor - Coedwig Castell Gwrych
Map 2: Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo coed - Coedwig Castell Gwrych
Map 3: Mathau o goedwigoedd ac ailstocio - Coedwig Castell Gwrych

Map 1: Gweledigaeth hirdymor - Coed y Geufron
Map 2: Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo coed - Coed y Geufron
Map 3: Mathau o goedwigoedd ac ailstocio - Coed y Geufron

Map 1: Gweledigaeth hirdymor - Coed Bron-haul, Coed Tan-y-gaer a Choed Pen-y-gribin
Map 2: Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo coed - Coed Bron-haul, Coed Tan-y-gaer a Choed Pen-y-gribin
Map 3: Mathau o goedwigoedd ac ailstocio - Coed Bron-haul, Coed Tan-y-gaer a Choed Pen-y-gribin

Sylwadau neu adborth

Os oes gennych sylwadau neu adborth, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwig ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Diweddarwyd ddiwethaf