Mae’r wybodaeth hon yn rhan o’n Cynllun Corfforaethol hyd at 2030

Cyflwyniad

Mae’r datganiad llesiant hwn yn nodi sut mae ein hamcanion llesiant yn bodloni ein dyletswydd statudol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a dylid ei ddarllen ochr yn ochr â’n cynllun corfforaethol.

Mae’n esbonio’r canlynol:

  • Sut y pennwyd ein hamcanion llesiant, gan gynnwys sut rydym wedi cymhwyso’r pum dull o weithio o dan yr egwyddor datblygu cynaliadwy.

  • Sut mae ein hamcanion llesiant yn cynyddu ein cyfraniad i bob un o saith nod llesiant hirdymor Cymru fel y nodir yn y Ddeddf.
  • Sut y bydd ein gwaith yn darparu buddion lluosog i bobl, yr hinsawdd a byd natur.

Rydym wedi cynnwys gwybodaeth ychwanegol am ein gweledigaeth a’n cenhadaeth, ac wedi ystyried canfyddiadau’r Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol cyntaf, a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ym mis Mai 2020.

Rydym hefyd wedi amlygu sut mae elfennau eraill o’n gwaith, yn enwedig Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020 a’r rhaglen barhaus Natur a Ni, wedi llywio datblygiad ein hamcanion llesiant a’n cynllun corfforaethol.

Ein gweledigaeth

Natur a phobl yn ffynnu gyda’n gilydd

Ein cenhadaeth

Gweithredu ar y cyd, ac yn angerddol, er mwyn:

  • adfer byd natur
  • gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd
  • atal llygredd hyd yr eithaf

a hynny drwy reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Ein hamcanion llesiant hyd at 2030

Erbyn 2030 yng Nghymru, bydd:

  • byd natur wrthi’n gwella
  • cymunedau’n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd
  • llygredd yn cael ei atal hyd yr eithaf

Drwy ganolbwyntio ar y tri amcan llesiant gyda'i gilydd, byddwn yn diogelu a gwella llesiant cenedlaethau’r dyfodol:

  • Natur yw carreg sylfaen llesiant Cymru – mae’n cefnogi cydlyniant a chydnerthedd cymunedol, economïau lleol cryf, cyflogaeth, dysgu, ac iechyd meddwl a chorfforol.

  • Natur yw sail cymunedau gwledig sy’n ffynnu – gyda pherthynas rhwng natur ac amaethyddiaeth gynaliadwy, coetiroedd, a’r bobl sy’n rheoli’r tir. Rhaid meithrin y berthynas hon er mwyn i Gymru gynnal dŵr glân, pridd cynhyrchiol, cyflenwad bwyd a ffeibr.

  • Mae byd natur sy’n ffynnu yn storio carbon ac yn lleihau’r risgiau ac effeithiau a ddaw yn sgil byd sy'n cynhesu. Mae llawer o gamau gweithredu i gefnogi adferiad byd natur hefyd yn darparu atebion a fydd yn ein helpu i liniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, ac addasu iddynt.

  • Mae atal llygredd a gwastraff hyd yr eithaf o fudd uniongyrchol i iechyd a gwytnwch natur a phobl. Gall hefyd fod o fudd i ddiwydiant a busnes, gan eu helpu i ddod yn fwy cyfrifol, gwella eu heffeithlonrwydd, a helpu i leihau costau a gwarchod swyddi a bywoliaethau.

Mae’r dystiolaeth yn dweud wrthym, drwy dargedu gweithredu ar y tri amcan llesiant hyn, y daw cyfleoedd a buddion ehangach ar gyfer y canlynol:

  • llesiant meddyliol a chorfforol
  • dysgu gydol oes a chreadigrwydd
  • creu swyddi a datblygu sgiliau

Yn eu tro, mae’r rhain hefyd yn cyfrannu at y saith nod llesiant ar gyfer Cymru.

Yr uchelgais sy'n rhedeg drwy ein holl ymdrechion fydd sicrhau na chaiff neb ei adael ar ôl wrth i Gymru weithredu er budd natur a'r hinsawdd. Byddai gwaethygu neu ehangu anghydraddoldebau presennol yn ein cymunedau yn groes i'r ymrwymiadau a wnaed yn y Rhaglen Lywodraethu.  Bydd angen i’n ffordd o weithio ddatblygu i sicrhau bod y buddion hyn yn cael eu hystyried o’r cychwyn un.

Am oes y cynllun hwn, a thrwy weithredu i gyflawni ein diben sylfaenol, byddwn yn canolbwyntio mwy ar gyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol, ac ar degwch a chynhwysiant, gan wneud yn siŵr bod cyflawni ar gyfer cymunedau gwledig a threfol ledled Cymru wrth wraidd popeth a wnawn.

Sut y pennwyd ein hamcanion llesiant

Wrth bennu ein hamcanion llesiant, rydym wedi ystyried y cyd-destunau rydym yn gweithio ynddynt – yn fyd-eang, yn y Deyrnas Unedig ac yng Nghymru – gan fyfyrio ar y canlynol:

  • Adroddiadau rhyngwladol nodedig gan y Cenhedloedd Unedig sydd wedi llywio paratoadau ar gyfer COP26, COP27 a COP15, gan gynnwys Making Peace with Nature, yn ogystal â chanlyniadau cynadleddau’r Cenhedloedd Unedig ar hinsawdd a natur ac adroddiadau gan y Platfform Polisi Gwyddoniaeth Rhynglywodraethol ar Wasanaethau Bioamrywiaeth ac Ecosystemau (IPBES) a’r Confensiwn Rhyngwladol ar Ddiogelu Planhigion (IPPC)
  • Rhaglen Lywodraethu ac archwiliadau dwfn Llywodraeth Cymru ar gyfer bioamrywiaeth, creu coetiroedd ac ynni
  • Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020
  • Datganiadau Ardal CNC
  • Proses cynlluniau llesiant Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Natur a Ni

Rydym wedi ystyried yn ofalus argymhellion Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2020, ac wedi gweithredu’r pum dull o weithio, hynny yw, yr egwyddor datblygu cynaliadwy.

Mae sgwrs genedlaethol Natur a Ni ar ba ddyfodol rydym yn dymuno ei gael i fyd natur wedi bod yn rhedeg ochr yn ochr â’r broses hon. Mae wedi cyfrannu at ein ffordd o feddwl am y tymor hwy, ac am effeithiau’r argyfwng hinsawdd a natur ar wahanol gymunedau.

Mae canlyniadau cam cyntaf y gwaith hwn yn gosod y newid yn yr hinsawdd, dirywiad rhywogaethau a llygredd fel y tri phrif fater yr oedd pobl yn poeni yn eu cylch yng Nghymru.

Drwy glywed lleisiau gwahanol o bob rhan o Gymru, mae’n gliriach nag erioed bod angen inni bontio ar draws ffactorau a rhaniadau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd. Mae’r lleisiau hyn yn llunio gweledigaeth ar gyfer Cymru sy’n darparu canolbwynt y gallwn barhau i adolygu cynnydd yn ei erbyn.

Wrth bennu ein hamcanion llesiant, rydym wedi cydnabod bod angen i ni herio ac addasu sut rydym yn gweithio yn y dyfodol, gan symud ymhellach i rôl eirioli a chymryd camau i fod yn feiddgar ac arloesol yn ein huchelgeisiau i gyflawni atebion â buddion lluosog i’r materion rydym yn eu hwynebu.

Mae ein hamcanion llesiant wedi’u gosod yn fwriadol ar lefel uchel ac maent yn gydgysylltiedig, gan gydnabod y bydd camau a gymerwn i fynd i’r afael ag un amcan llesiant fel arfer yn cyfrannu at gyflawni un arall, neu hyd yn oed bob un o’r amcanion. Mae’r camau i’w cymryd yn glir a bwriedir iddynt fod yn rhai CAMPUS ac iddynt ganolbwyntio ar ganlyniadau er mwyn ein galluogi i fonitro ein gwaith a dangos sut rydym yn gwneud gwahaniaeth.

Yr egwyddor datblygu cynaliadwy a’r pum dull o weithio

Mae’r amcanion llesiant wedi cael eu pennu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy a’r pum dull o weithio.

O’r cychwyn un, mae ein Bwrdd a’r Tîm Gweithredol wedi darparu arweinyddiaeth gref wrth i’r cynllun gael ei ddatblygu.

Yn y tymor hir, mae ein hamcanion llesiant yn cydnabod yr heriau allweddol nawr ac yn y dyfodol sy’n wynebu Cymru yn sgil yr argyfyngau hinsawdd a natur, ac mewn perthynas â llygredd. Roedd pennu amcanion llesiant hyd at 2030 gyda golwg ar 2050 yn ganolog i’n ffordd o feddwl ac yn gysylltiedig ag ystyriaethau lleol a thargedau cenedlaethol a rhyngwladol allweddol. Mae canfyddiadau’r rhaglen Natur a Ni hefyd wedi rhoi mewnwelediad allweddol, gan ein galluogi i ystyried senarios posibl a heriau y gallai Cymru eu hwynebu yn y dyfodol.

Mae ein hamcanion llesiant a’r camau i’w cymryd wedi’u cynllunio i fod yn seiliedig ar ganlyniadau er mwyn sicrhau ein bod yn gweithredu nawr i atal niwed pellach i fyd natur, atal y newid yn yr hinsawdd rhag gwaethygu ac atal llygredd rhag digwydd yn y lle cyntaf.

Mae Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020 wedi rhoi sylfaen dystiolaeth gref i ni sy’n nodi ble mae’r heriau, beth y gallwn ni ei wneud ein hunain, a sut y mae angen i ni weithio gydag eraill i sicrhau bod ein hamgylchedd a’n cymunedau ym mhob rhan o Gymru yn gallu ffynnu yn y dyfodol.

Wrth ddatblygu ein hamcanion llesiant rydym wedi ystyried eu heffaith ar draws pob un o’r nodau llesiant a sut maent yn integreiddio â’i gilydd i gynorthwyo llesiant ehangach pobl a chymunedau ledled Cymru. Rydym wedi ystyried y synergeddau rhwng ein Datganiadau Ardal ein hunain a’r cynlluniau llesiant sy’n cael eu datblygu gan y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ac mae hyn wedi ein helpu i nodi buddion a chyfleoedd niferus ar gyfer cydweithredu ac integreiddio.

Ar draws pob maes o’n gwaith, rydym hefyd wedi ystyried sut y gallwn sicrhau manteision niferus ar draws pob un o’r tri amcan llesiant. Rydym yn dogfennu sut mae gweithredu ar atebion ar sail natur yn ysgogi buddion i natur, hinsawdd a phobl. Bydd deall a gwneud y gorau o’r manteision lluosog hyn yn hanfodol bwysig os ydym am gyflawni ein gweledigaeth o natur a phobl yn ffynnu gyda’i gilydd. Bydd targedu ein hadnoddau a gweithio gyda phartneriaid i wneud y gorau o’r buddion hyn yn hollbwysig yn ystod oes y cynllun hwn, a bydd yn llywio ein gwaith cynllunio busnes blynyddol a’n blaenoriaethu.

Rydym wedi cydweithredu â chydweithwyr ar draws CNC, a gyda’n bwrdd a gyda’n partneriaid, i sicrhau bod ein cynllun corfforaethol yn nodi synergeddau ac yn cyflwyno ystod o gyfleoedd lle gallwn gydweithredu’n agos â sefydliadau eraill yn y dyfodol. Byddwn hefyd yn adeiladu ar ein perthnasoedd a’n partneriaethau presennol a luniwyd drwy Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a’n Datganiadau Ardal.

Drwy gydol datblygiad ein hamcanion llesiant, rydym wedi ymgysylltu â’n cydweithwyr a’n partneriaid ar lefel genedlaethol a lleol gan adlewyrchu amrywiaeth Cymru, a rhoi’r cyfle iddynt roi adborth a sylwadau manwl wrth i’r amcanion llesiant ar camau i’w cymryd ddatblygu. Cynhaliom ddau arolwg ar-lein – y cyntaf i gael mewnwelwdiad o ran sut i lunio’n amcanion llesiant, a’r ail i gael adborth ar ein gweledigaeth, ein cenhadaeth ac eglurder ein hamcanion llesiant newydd. Rydym hefyd wedi manteisio ar gyfleoedd i ddod â phobl ynghyd i rhannu eu barn, a profi’n syniadau, a hynny mewn digwyddiadau allanol a gweminarau mewnol i staff.

Wrth gyflawni ein hamcanion llesiant, bydd angen i ni ymgysylltu â phobl a phartneriaid wrth wneud penderfyniadau. Bydd yr ymgysylltu parhaus a gawn â phobl sy’n byw ac yn gweithio yn ein cymunedau a gyda’n partneriaid yn sicrhau bod y mewnwelediad a ddarperir ganddynt yn cael ei adlewyrchu yn y modd rydym yn cyflawni ein gwaith. Am oes y cynllun, a thrwy weithredu ar ein diben, byddwn yn cynyddu’n ffocws ar gyfiawder cymdeithasol ac amgylcheddol, ar degwch a chynhwysiant, gan sicrhau bod cyflawni er budd cymunedau gwledig a threfol ledled Cymru wrth wraidd popeth a wnawn.

Ynghyd â’r ymrwymiadau rydym wedi’u gwneud yn ein gwaith gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus wrth ddatblygu eu cynlluniau llesiant, a’n hymgysylltiad â chymunedau drwy ein Datganiadau Ardal, bydd ein hamcanion llesiant yn helpu i sicrhau llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r egwyddor datblygu cynaliadwy wedi’i gwreiddio’n gadarn yn ein hamcanion llesiant ac yn ein dulliau gwaith yn y dyfodol.

Gwneud y mwyaf o’n cyfraniad at y saith nod llesiant

Mae ein hamcanion llesiant yn canolbwyntio ar yr argyfyngau hinsawdd a natur a atal llygredd hyd yr eithaf ac yn adlewyrchu lle y gallwn wneud y cyfraniad unigol, sefydliadol a chyfunol mwyaf.

Mae’r balchder a’r hyder sydd gennym i ddefnyddio’r Gymraeg yn ein gwaith wedi bod yn flaenllaw yn ein meddyliau wrth i’r cynllun corfforaethol hwn esblygu, gan sicrhau bod ein gweledigaeth, ein cenhadaeth a’n gwerthoedd yn cael eu hysgrifennu mewn modd sy’n atseinio yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Gyda’i gilydd, rydym yn cyfrannu at bob un o’r saith nod llesiant, fel y dangosir gan yr enghreifftiau a ddarperir isod.

1. Cymru lewyrchus

Erbyn 2030 yng Nghymru, bydd byd natur wrthi'n gwella

  • Meithrin gallu a galluogrwydd gweithlu Cymru i gefnogi adferiad byd natur drwy weithio gydag eraill i gefnogi sgiliau a swyddi gwyrdd
  • Sicrhau manteision a chyfleoedd lluosog i natur, pobl a’r economi wledig drwy gefnogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu a gweithredu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, gan ddarparu tystiolaeth ac arbenigedd

Erbyn 2030 yng Nghymru, bydd cymunedau yn gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd

  • Cefnogi datblygiad ynni adnewyddadwy cynaliadwy ar y môr ac ar y tir drwy ein tystiolaeth, ein cyngor a’n rheoliadau, gan feithrin dealltwriaeth gyffredin o’r safonau sy’n ofynnol yn y prosesau cynllunio a thrwyddedu statudol
  • Sicrhau potensial cynhyrchu pren Ystâd Goed Llywodraeth Cymru drwy ddarparu pren y gellir ei gynaeafu sy’n bodloni safonau byd-eang o ran rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy

Erbyn 2030 yng Nghymru, bydd llygredd a’i effeithiau’n cael ei atal hyd yr eithaf

  • Atal llygredd a gwastraff hyd yr eithaf drwy weithio ar y cyd â diwydiant ac eraill i nodi sut mae angen i ddeddfwriaeth a pholisi Llywodraeth Cymru newid
  • Ysgogi cadwyni cyflenwi i ddefnyddio pren a dyfir yng Nghymru drwy ddefnyddio ein safle fel prif gyflenwr pren wedi’i gynaeafu’n gynaliadwy yng Nghymru

2. Cymru gydnerth

Erbyn 2030 yng Nghymru, bydd byd natur wrthi'n gwella

  • Sicrhau bod o leiaf 30 y cant o’r tir, dŵr croyw a’r môr yn cael eu gwarchod a’u rheoli’n effeithiol ar gyfer byd natur drwy nodi cyfleoedd i ehangu a chysylltu’r gyfres o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yn well
  • Diogelu rhywogaethau sy’n wynebu’r perygl mwyaf o ddifodiant drwy ddefnyddio ein hofferynnau cynghori a rheoleiddio, gweithio mewn partneriaeth, a monitro i werthuso effeithiolrwydd

Erbyn 2030 yng Nghymru, bydd cymunedau yn gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd

  • Ar y cyd â phartneriaid cyflawni, adfer mawndiroedd drwy’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, gan gynnwys ar y tir yn ein gofal, gan ddefnyddio ystod o offerynnau cynghori a rheoleiddio a chymhellion ariannol a gwneud gwaith monitro i werthuso effeithiolrwydd
  • Ysgogi’r gwaith o adfer cynefinoedd morol ac arfordirol fel morfa heli, twyni tywod, morwellt a riffau wystrys brodorol drwy weithio gyda phartneriaid cyflawni, defnyddio ystod o offerynnau cynghori a rheoleiddio a chymhellion ariannol, a gwneud gwaith monitro i werthuso effeithiolrwydd

Erbyn 2030 yng Nghymru, bydd llygredd a’i effeithiau’n cael ei atal hyd yr eithaf

  • Sicrhau bod y sectorau rydym yn eu rheoleiddio, gan gynnwys gweithgareddau anghyfreithlon nas caniateir, yn cymryd camau effeithiol i reoli ac atal llygredd a chynyddu effeithlonrwydd adnoddau drwy ddarparu cyngor a chanllawiau sy’n nodi’n effeithiol y safonau y mae eu hangen i sicrhau cydymffurfedd
  • Osgoi llygredd a gwastraff drwy archwilio dulliau arloesol gan ddefnyddio ein holl offer rheoleiddio, gan gynnwys pwerau arbrofol

 

3. Cymru iachach

Erbyn 2030 yng Nghymru, bydd byd natur wrthi'n gwella

  • Ymgysylltu â phobl i weithredu, gan greu cyfleoedd i fod ym myd natur, dysgu amdano a dod yn eiriolwyr drosto (yn ogystal â’r hinsawdd) drwy weithio gyda’r sectorau addysg, gweithgarwch corfforol ac iechyd
  • Cynyddu atebion ar sail natur mewn ardaloedd trefol a gwledig i feithrin cysylltedd rhwng cynefinoedd, gan sicrhau buddion lluosog i bobl a byd natur drwy weithio gyda chynllunwyr a datblygwyr i wreiddio datblygiadau

Erbyn 2030 yng Nghymru, bydd cymunedau yn gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd

  • Lleihau’r perygl i fywyd o lifogydd i bobl a chymunedau o’r prif afonydd, cronfeydd dŵr a’r môr, drwy gyflwyno cynlluniau lliniaru llifogydd
  • Nodi cyfleoedd i wneud y gorau o weithredu ac effaith gyfunol y sector cyhoeddus drwy ddefnyddio’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol a Datganiadau Ardal i weithio gyda’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, awdurdodau iechyd y cyhoedd ac awdurdodau lleol

Erbyn 2030 yng Nghymru, bydd llygredd a’i effeithiau’n cael ei atal hyd yr eithaf

  • Gwella ansawdd aer I bobl a byd natur drwy leihau a gwaredu allyriadau wrth reoleiddio diwydiant.
  • Atal hyd yr eithaf niwed o ddigwyddiadau llygredd amgylcheddol drwy baratoi ar gyfer ac ymateb i ddigwyddiadau blaenoriaeth fel ymatebwr Categori 1

 

4. Cymru sy’n fwy cyfartal

Erbyn 2030 yng Nghymru, bydd byd natur wrthi'n gwella

  • Sicrhau bod cymunedau lleol yn elwa ar fynediad teg i fannau gwyrdd a glas a gweithredu’n gyfrifol drwy ddarparu arweiniad a chymorth, gan gydweithredu â phartneriaid strategol fel Croeso Cymru ac awdurdodau lleol
  • Sicrhau bod cyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol, tegwch a chynhwysiant yn llywio ac yn cryfhau ein penderfyniadau ar gyfer adferiad byd natur drwy adolygu mecanweithiau presennol a datblygu canllawiau

Erbyn 2030 yng Nghymru, bydd cymunedau yn gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd

  • Sicrhau bod pob datblygiad yn y dyfodol yn gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd drwy wneud yr achos dros newidiadau i gynlluniau datblygu a chynghori ar geisiadau cynllunio
  • Sicrhau bod cwmnïau dŵr yn cynnal sicrwydd cyflenwad dŵr i gwsmeriaid drwy waith craffu ac adrodd i Weinidogion ar eu cynlluniau rheoli adnoddau dŵr, eu cynlluniau sychder a’u cynlluniau buddsoddi mewn seilwaith

Erbyn 2030 yng Nghymru, bydd llygredd a’i effeithiau’n cael ei atal hyd yr eithaf

  • Gwella ansawdd amgylcheddol lleol gwael drwy weithio gydag awdurdodau lleol i ddeall y problemau a datblygu cynlluniau gweithredu ar y cyd
  • Diwallu anghenion cynulleidfaoedd penodol i ysgogi gweithredu yn erbyn llygredd drwy gasglu, gwerthuso a chyfathrebu ein tystiolaeth ni a thystiolaeth eraill

 

5. Cymru o gymunedau cydlynus

Erbyn 2030 yng Nghymru, bydd byd natur wrthi'n gwella

  • Cynnwys gwytnwch ecosystemau yn y system gynllunio strategol ar gyfer y tir a’r môr, gan gynnwys Cymru’r Dyfodol a chynlluniau datblygu eraill, Polisi Cyllunio Cymru a Chynllun Morol Cenedlaethol Cymru, a hynny drwy gryfhau’n darpariaeth o gyngor a chanllawiau.
  • Sicrhau bod ystod amrywiol o bobl yn gweithredu dros fyd natur drwy rannu gweledigaeth a chanlyniadau Natur a Ni i ehangu ein rhwydweithiau a chynyddu cyfranogiad

Erbyn 2030 yng Nghymru, bydd cymunedau yn gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd

  • Lleihau’r perygl i fywyd o lifogydd drwy gyhoeddi rhybuddion llifogydd sy’n diwallu anghenion newidiol cymunedau, gan gynnal a gwella’r Gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd 24/7
  • Meithrin gwytnwch cymunedau, awdurdodau lleol a busnesau i’r perygl o lifogydd yn awr ac yn y dyfodol drwy wella a rhannu ein tystiolaeth i ysgogi camau gweithredu

Erbyn 2030 yng Nghymru, bydd llygredd a’i effeithiau’n cael ei atal hyd yr eithaf

  • Atal hyd yr eithaf y niwed o wastraff anghyfreithlon drwy weithredu gydag awdurdodau lleol a phartneriaethau trydydd sector I atal tipio anghyfreithlon
  • Creu cyfleoedd ar gyfer gweithredu unigol a chyfunol ar fyd natur drwy gyflwyno ymgyrch gyfathrebu barhaus

 

6. Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

Erbyn 2030 yng Nghymru, bydd byd natur wrthi'n gwella

  • Cyflymu gweithredu i adfer byd natur ar raddfa tirwedd drwy rannu ein tystiolaeth a’n harbenigedd gyda Pharciau Cenedlaethol, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a phartneriaid eraill
  • Ysbrydoli pobl i weithredu, gan rymuso a thrawsnewid eu perthynas â byd natur drwy weithio gyda diwydiannau creadigol a’r sector diwylliannol

Erbyn 2030 yng Nghymru, bydd cymunedau yn gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd

  • Creu coetiroedd newydd ac adfer rhai hynafol drwy weithio gyda phartneriaid cyflawni, defnyddio ystod o ddulliau cynghori a rheoleiddio, cymhellion ariannol a monitro i werthuso effeithlonrwydd.
  • Cynnal gwella ac adfer cynefinoedd dŵr croyw a chynefinoedd tir i wella cydnerthedd ecosystemau a chyflawni buddion cymdeithasol drwy ddefnyddio’n dulliau cynghori a rheoleiddio a mointro i werthuso effeithlonrwydd

Erbyn 2030 yng Nghymru, bydd llygredd a’i effeithiau’n cael ei atal hyd yr eithaf

  • Atal llygredd hyd yr eithaf mewn dyfroedd gwarchodedig a dynodedig drwy bennu’r camau sydd eu hangen gan ystod o sectorau
  • Cynnwys gwahanol gymunedau a sectorau yn ein gwaith, drwy gymhwyso mewnwelediadau ymddygiadol i lywio ein dulliau

 

7. Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Erbyn 2030 yng Nghymru, bydd byd natur wrthi'n gwella

  • Sicrhau bod adferiad byd natur yn cael ei ysgogi drwy ein cadwyni cyflenwi, rhaglenni grant a chytundebau rheoli tir drwy eu cynnwys yn ein fframweithiau caffael a chyllid
  • Sicrhau bod partneriaid yn cyflawni yn erbyn ein dull masnachol strategol drwy ardystiad natur gadarnhaol mewn cynhyrchion a gwasanaethau masnachol

Erbyn 2030 yng Nghymru, bydd cymunedau yn gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd

  • Cryfhau ein hymagwedd strategol tuag at ddatgarboneiddio drwy ddatblygu a chyflawni cynllun sero net ar gyfer y sefydliad cyfan, gan ddatblygu ar wersisydd wedi’u dysgu gan bartneriaid
  • Cynyddu effeithlonrwydd ynni a defnyddio ynni adnewyddadwy yn ein holl adeiladau ac asedau drwy adolygu systemau cyfredol a chymryd camau

Erbyn 2030 yng Nghymru, bydd llygredd a’i effeithiau’n cael ei atal hyd yr eithaf

  • Gwella perfformiad amgylcheddol y sawl a reoleiddiwn drwy gynghori’r sawl sy’n perfformio’n wael am fesurau atal a pennu perfformwyr da er mwyn iddynt rannu gwersi ac arfer da
  • Sicrhau bod penderfyniadau ariannol a busnes CNC yn integreiddio dim llygredd a gwastraff drwy gymhwyso’r gwersi a ddysgir gan eraill i ddulliau a fframweithiau effeithiol

Ein gwasanaethau galluogi – ein gweithgareddau corfforaethol craidd

Mae gan gydweithwyr sy’n darparu gwasanaethau hanfodol ym maes caffael, llywodraethu, cyfathrebu a chyllid – ein gwasanaethau galluogi – rôl arwyddocaol i’n helpu i gyflawni ein hamcanion llesiant ac wrth gyfrannu at y saith nod llesiant.

Wrth ddatblygu’r amcanion llesiant a’r camau i’w cymryd, mae ein gwasanaethau galluogi wedi cymryd rhan lawn ochr yn ochr â’n timau gweithredol a’n timau polisi, gan nodi eu cyfraniadau penodol. Yn yr adran hon, rydym yn amlygu rhai o’u hymrwymiadau penodol fel y cyfeirir atynt yn y cynllun corfforaethol.

Bydd cynllunio’r gweithlu yn effeithiol yn hanfodol i gyflawni ein cynllun corfforaethol a chyflawni ein hamcanion llesiant. Byddwn yn datblygu cyfres o ddulliau arwain a rheoli i gefnogi cydweithwyr wrth iddynt weithredu’r gwerthoedd. Byddwn yn buddsoddi mewn rhaglen hyfforddi benodol ar gyfer deall yr hinsawdd a byd natur.

Rydym yn cydnabod y gallwn hefyd wneud mwy i harneisio ein pŵer prynu i gael effaith. Rydym yn gwario rhwng £90 miliwn a £100 miliwn bob blwyddyn ar nwyddau a gwasanaethau ledled Cymru, ac mae 80% o’n hôl troed carbon sefydliadol wedi’i wreiddio yn ein cadwyn gyflenwi.

Byddwn yn mynd ymhellach i sicrhau bod ein fframweithiau caffael a chyllid yn ysgogi camau cadarnhaol ar draws ein cadwyni cyflenwi i gyflawni canlyniadau nad ydynt yn niweidio’r amgylchedd naturiol yn y broses, yma yng Nghymru a thramor.

Byddwn yn sicrhau bod penderfyniadau ariannol a busnes CNC yn integreiddio amddiffyniad ac adferiad byd natur, y newid yn yr hinsawdd, a dim llygredd a gwastraff drwy gymhwyso’r gwersi a ddysgir gan eraill i ddulliau a fframweithiau effeithiol.

Mae ein rhaglen Adfywio hefyd yn ein galluogi i reoli ein hasedau yn fwy effeithiol drwy ganiatáu inni archwilio sut y gallwn leihau ein costau a’n hôl troed carbon drwy resymoli ein portffolio o adeiladau ledled Cymru, yn ogystal â lleihau allyriadau carbon ein fflyd. Rydym hefyd am wneud y mwyaf o ailddefnyddio, ailgylchu ac adfer deunyddiau drwy fonitro a chymryd camau wrth amnewid eitemau allweddol megis offer technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a chyfarpar diogelu personol.

Rydym yn cydnabod y bydd y ffocws newydd hwn ar dri amcan llesiant yn gofyn am newidiadau i’r ffordd rydym yn gweithio, ac y bydd yn cymryd amser i’w sefydlu. Caiff nifer o newidiadau llywodraethu eu cyflwyno ym mis Ebrill, gan gynnwys  cael Cyfarwyddwr ar gyfer pob amcan llesiant, i roi trywydd, momentwm a sicrwydd i’r Tîm Gweithredol ehangach a’r bwrdd; caiff Cofrestr Risg ei ddatblygu i adlewyrchu’r amcanion llesiant newydd a’r ffyrdd o weithio; bydd y Tîm Gweithredol yn rhannu eu gwaith duydd-i-ddydd a’u meddwl strategol, tymor hirach; bydd Grŵp y Tîm Arwain yn troi’n fforwm ar gfyer datblygu arweinyddiaeth a rhannu negeseuon allweddol o’r ardaloedd gweithredu. I sicrhau y byddn yn cyflawni’n hamcanion llesiant, caiff Grŵp Cynllunio ac Adnoddau newydd ei sefydlu i fod yn fforwm ar gyfer cynllunio ariannol a busnes integredig a phennu blaenoriaethau ar draws y sefydliad.

Dim ond pan fyddwn yn herio ac yn datblygu arferion gwaith sefydledig, ac yn achub ar bob cyfle i arloesi a gwella, y daw llwyddiant.

Mesur perfformiad

Rydym yn cydnabod bod angen inni ganolbwyntio ar fesur ein perfformiad a’n heffaith ein hunain wrth gyflawni ein hamcanion llesiant a’r camau i’w cymryd, fel y gallwn gael ein dwyn i gyfrif gan Weinidogion a phobl Cymru.

Bydd ein dull rheoli perfformiad a'n dangosyddion, metrigau a cherrig milltir yn darparu'r trywydd o'r cynllun corfforaethol i'r cynllun busnes blynyddol a chytundebau lefel gwasanaeth, a chânt eu hadrodd yn yr adroddiadau perfformiad chwarterol a'r adroddiad blynyddol. Drwy'r broses cynllunio busnes blynyddol byddwn yn adolygu'r camau i'w cymryd ac yn adrodd ar unrhyw newidiadau yn yr adroddiad blynyddol a'r cynllun busnes.

Hierarchaeth y fframwaith perfformiad:

  • Amcanion y Cynllun Corfforaethol: Tri amcan llesiant
  • Dangosyddion strategol y cynllun corfforaethol: Pob amcan llesiant i gael dangosyddion sy’n amlygu’r materion sydd bwysicaf, nid y rhai sy’n hawdd eu mesur.
  • Metrigau a cherrig milltir y cynllun busnes blynyddol (diffinio llwybrau i gyflawni’r dangosyddion strategol): Yn gysylltiedig â phob cam i'w gymryd, gan adlewyrchu cyfuniad o adrodd straeon ansoddol a meintiol.
  • Ymrwymiadau’r adroddiad blynyddol (does dim angen i hyn fod yn fesuradwy): Myfyrio ar ffyrdd o weithio, gan gynnwys gweithio gydag eraill. Naratif disgrifiadol sydd wedi'i adlewyrchu yn ein hadroddiad blynyddol.

Gan adeiladu ar ein gwaith gyda Llywodraeth Cymru drwy’r ymarfer sylfaenol, byddwn yn parhau i weithio gyda nhw i ddatblygu cytundebau lefel gwasanaeth i gwmpasu pob maes o’n gwaith a’u defnyddio i lywio trafodaethau ar gyllidebau. 

Ein disgwyliad yw, ar ôl i ni dderbyn cadarnhad o’r gyllideb flynyddol gan Lywodraeth Cymru, y byddwn yn defnyddio’r cytundebau lefel gwasanaeth i ddyrannu’r gyllideb, lefel y gwasanaeth y byddwn yn ei ddarparu ar draws ein gwahanol wasanaethau, a llywio’r cynllun busnes blynyddol, metrigau perfformiad a cherrig milltir. Byddwn yn defnyddio’r dull hwn yng nghylch cynllunio busnes blynyddol 2024/25.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf