Lleoliad a safle

Mae ardaloedd coedwig Rhydymain i'r gogledd-orllewin a de-ddwyrain o afon Wnion. Mae'n cynnwys dwy ardal goedwig o'r enw Cae’r Defaid a Rhyd-y-main.  Cyfanswm yr arwynebedd yw 1,155 hectar.

Bydd yr ardaloedd hyn gyda'i gilydd bellach yn ffurfio Cynllun Adnoddau Coedwig Rhyd-y-main (gweler y map isod).

Mae wedi’i leoli o fewn parth awdurdod cynllunio Cyngor Sir Gwynedd ac mae'r cyfan ohono o fewn Parc Cenedlaethol Eryri. Yn weladwy, mae'r rhan fwyaf o Gae'r Defaid wedi'i chuddio ond mae rhywfaint o ran ddeheuol Cae'r Defaid a rhannau mawr o floc Rhyd-y-main yn weladwy o nifer o leoliadau, gan gynnwys pentref Brithdir, yr A470 i'r de o Ddolgellau, a chrib mynydd Aran Fawddwy – i'r de, mae rhannau o floc Rhyd-y-main yn weladwy o bentref Rhyd-y-main ei hun.  Mae rhai golygfeydd cyfyngedig yn digwydd o'r A494 rhwng Dolgellau a'r Bala.

Mae'r holl goedwig o fewn dalgylch dŵr afon Mawddach (yn bennaf afon Wnion).

Cae’r Defaid (455 hectar) – Wedi’i leoli yn bennaf mewn ardal ynysig rhwng Rhobell Fawr i'r gorllewin a Dduallt i'r dwyrain, ar ddiwedd ffordd gyngor fach i'r gogledd o bentref Rhyd-y-main.  Mae gwaith cwympo coed sylweddol wedi digwydd o ran y cylchdro cyntaf. Cafwyd gwared ar un nodwedd dirlunio wael i'r de.  I'r gorllewin o ardal fawr Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Ardal Cadwraeth Arbennig ac Ardal Gwarchodaeth Arbennig Migneint–Arenig–Dduallt.

Prif flociau Rhyd-y-main (676 hectar) – Bloc mwy gweladwy rhwng y brif A494 (y rhan rhwng Dolgellau a'r Bala) a chrib mynydd Aran Fawddwy.  Yn eithaf gweladwy ond mae nifer o faterion tirlunio eisoes wedi’u trafod.  Eu cymuned agosaf yw pentref Rhyd-y-main.

Blociau'r Wenallt sy'n gyfagos i'r A494 – Dau floc bach (hefyd sawl ardal fach arall, Esgair Gawr a Llety Wyn, yn union ger yr A494.

Crynodeb o'r amcanion

Cytunwyd ar yr amcanion rheoli canlynol er mwyn cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau a'r manteision y maent yn eu darparu:

  • Cynyddu amrywiaeth oedran, rhywogaethau a strwythur pan fo'n bosib i gynyddu gwydnwch i blâu a chlefydau wrth wella gwytnwch i'r newid yn yr hinsawdd. 

 

  • Gwneir gwaith teneuo rheolaidd i wella amrywiaeth ecolegol a chynyddu opsiynau ar gyfer rheoli yn y dyfodol, gan gynnwys y defnydd posib o systemau coedamaeth bach eu heffaith. Bydd hyn yn mwyafu cynhyrchu pren a chynyddu’r defnydd o brosesau naturiol (adfywio naturiol).

 

  • Ystyried yr holl gyfleoedd i gynyddu amrywiaeth strwythurol o fewn clystyrau drwy fabwysiadu amrywiaeth o systemau coedamaeth bach eu heffaith os yw'n bosib.

 

  • Creu ecosystem a strwythur coedwig parhaol ac amrywiol sy'n cynnwys coetir ar lannau afon a choetir brodorol (newydd), gwarchodfeydd naturiol, dargadwedd hirdymor, coetir dilyniadol, a chlytwaith o gynefinoedd agored, gan gynnwys ffyrdd coedwig a rhodfeydd. Caniatáu am amrywiaeth o drefniadau rheoli coetir lle mae prosesau naturiol yn unig yn digwydd. Bydd hyn nid yn unig o fudd i strwythur y goedwig ond bydd hefyd yn darparu cynefin parhaol pwysig ar gyfer amrywiaeth o ffawna a fflora (fel safleoedd nythu’r gwalch marth a chynefinoedd cen).

 

  • Cynyddu'r defnydd o brosesau naturiol (adfywio naturiol) lle y bo'n briodol wrth sefydlu cnydau newydd, yn enwedig rhywogaethau llydanddail brodorol.

 

  • Parhau i fod yn goedwig gynhyrchiol iawn o ran cynhyrchu pren, gan ddefnyddio, gymaint â phosib, amrywiaeth o rywogaethau coed (pren) a fydd yn ffynnu nawr ac yn y dyfodol yn unol â rhagfynegiadau'r newid yn yr hinsawdd ac a ddylai barhau i gynnal cyflenwad cynaliadwy rheolaidd o bren.

 

  • Parhau i archwilio'r potensial am brosiectau ynni adnewyddadwy cynaliadwy o fewn ardal y goedwig. Parhau i gefnogi cynlluniau hydro cyfredol ym mhrif floc Rhyd-y-main (gan gynnwys y rheiny sydd wedi'u trwyddedu ond heb eu hadeiladu/cwblhau eto).

 

  • Chwilio am gyfleoedd i gefnogi busnesau lleol, marchnata pren lleol a chynhyrchion/gweithgareddau eraill.

 

  • Mae'r goedwig yn ffynhonnell cyflogaeth leol a dylid sicrhau bod hon yn cael ei chynnal a chwilio am gyfleoedd am ragor o gyflogaeth, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, wrth gynhyrchu pren a gweithgareddau eraill yn y goedwig.

 

  • Defnyddio’r cyrsiau dŵr, cynefinoedd coetir brodorol cyfredol, cynefinoedd agored uwchdir fel sail i strwythur coedwig parhaol, gan greu rhwydweithiau cynefinoedd mwy gyda chysylltiadau gwell â choetir hynafol lle y bo'n bosib, a bydd y cysylltiad rhwydwaith hwn o goetir torlannol a choetir brodorol yn gwella ansawdd dŵr ac yn gwella bioamrywiaeth.

 

  • Nodi ardaloedd o fawn dwfn i’w hadfer a gwaredu unrhyw ardaloedd o gnydau masnachol sydd wedi cael eu tyfu'n wael.

 

  • Rheoli ehangder llwyrdorri o fewn dalgylchoedd dŵr, er mwyn lleihau'r effaith ar lifoedd y dŵr (prif lifoedd) a llwythi critigol mewn dalgylchoedd sy'n sensitif i asid. 

 

  • Diogelu a gwella cyflwr ecolegol y Coetir Hynafol a Lled-Naturiol, diogelu holl nodweddion coetir hynafol, a gwella cyflwr holl safleoedd Coetir Hynafol a Blannwyd.

 

  • Creu neu wella mannau agored neu goetir olynol mewn ardaloedd o fawn dwfn (yn bennaf bloc Cae'r Defaid ond hefyd ar wasgar mewn ardaloedd llai mewn mannau eraill, yn cysylltu o bosib â chynefin uwchdir agored (gweler yr ardal ddynodedig gyfagos – Ardal Gwarchodaeth Arbennig, Ardal Cadwraeth Arbennig a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Migneint–Arenig–Dduallt)), coetir brodorol a pharthau torlannol.  Cymryd camau gweithredu i adfer ardaloedd mawn dwfn lle yr argymhellir hynny.

 

  • Creu cynllun priodol i ddiogelu a rheoli'r cynefin rhostir/cors (Ardal Gwarchodaeth Arbennig, Ardal Cadwraeth Arbennig a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Migneint–Arenig–Dduallt) o gonwydd cynhyrchiol a gall hyn gynnwys – creu cynefin coetir brodorol uwchdir, mannau agored newydd (yn gysylltiedig ag adfer mawn), a/neu waith cynlluniedig i waredu rhywogaethau anfrodorol o'r ardaloedd dynodedig rhwng coedwig a rhostir yn rheolaidd. 

 

  • Lleihau effeithiau niweidiol posibl asideiddio trwy gynnal ansawdd dŵr da a gwell trwy gynefin torlannol a chysylltiadau gwell, ardal fwy o goetir brodorol, a rhwydweithiau cynefinoedd gwell yn seiliedig ar y seilwaith torlannol. Dylai’r cynllun anelu at sicrhau bod holl weithrediadau'r goedwig yn ceisio'r safonau uchaf.

 

  • Cynyddu cyfleoedd ar gyfer cynefin pren marw drwy nodi dargadwadau tymor hir a gwarchodfeydd naturiol ond hefyd o fewn yr holl ardaloedd drwy newid arferion gweithredol a gadael pren marw (gwynt) yn ei le, sydd oll yn cynnal bywyd amrywiol o fewn ecosystem y goedwig.

 

  • Mae gweithgareddau i leihau perygl llifogydd yn cynnwys y canlynol – gwella cynefin torlannol, defnydd cynyddol o ardaloedd bach o lwyrdorri, ehangu ardaloedd llwyrdorri cynlluniedig o fewn dalgylchoedd, cynyddu teneuo, cynnal gorchudd y coetir, ac ehangu'r ardal goetir frodorol.

 

  • Gwella amrywiaeth weladwy'r goedwig trwy gynyddu'r amrywiaeth strwythurol ac amrywiaeth y rhywogaethau o fewn clystyrau a rhyngddynt a mwy o goetir brodorol a chynefinoedd torlannol.

 

  • Mae yna nifer o nodweddion hanesyddol bach (gan gynnwys hen ffermydd, waliau cerrig ac ati) y mae angen eu diogelu ac, os yw'n bosib, eu gwella, naill ai drwy ehangu mannau agored neu goetir brodorol.

 

  • Cynnal hawliau tramwy cyhoeddus a sicrhau eu bod yn cael eu hystyried yn ystod gweithgareddau gweithredol a bod rhwystrau’n cael eu hailosod fel y bo'n briodol.

 

  • Cynnal lefel gyfredol o weithgareddau, megis ralïau modur, enduros a digwyddiadau ceffylau, gan gynnal a gwella cysylltiadau â chymunedau lleol i sicrhau bod lefelau mynediad a defnydd cyfredol yn cyd-fynd ag anghenion lleol.

 

Mapiau

Map 1: Gweledigaeth hirdymor

Map 2: Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo

Map 3: Mathau o goedwigoedd ac ailstocio

 

Sylwadau neu adborth

Os oes gennych sylwadau neu adborth, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwig ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Diweddarwyd ddiwethaf