Lleoliad a safle

Mae gan Gynllun Adnodd Coedwig Alwen arwynebedd o 1,382 ha i gyd, sy’n cynnwys conwydd yn bennaf. Mae coedwig Alwen yn rhannol o fewn SoDdGA Mynydd Hiraethog ac mae’r rhan fwyaf ohoni yn swatio rhwng ffordd B4501 a ffordd A543 (Pentrefoelas i Ddinbych). Mae cronfa ddŵr Alwen yn ffurfio nodwedd amlwg ar y dirwedd ac wedi’i lleoli ym mhen deheuol y goedwig gyda Llyn Brenig, (cronfa ddŵr ac atyniad i ymwelwyr) yn union i’r dwyrain o derfyn y Cynllun Adnodd Coedwig. Mae’r ddau gorff dŵr a’r seilwaith cysylltiedig yn eiddo i Dŵr Cymru, sydd hefyd yn eu rheoli.

Mae cynefin o amgylch blociau Cynllun Adnodd Coedwig Alwen yn cynnwys tir pori amaethyddol a rhostir agored, blociau o goedwigoedd conwydd masnachol, sy’n dominyddu’r tiroedd uchaf a choetiroedd conwydd/llydanddail ar y llethrau isaf ac ar lannau’r afonydd.

Mae rhannau o goedwig Alwen wedi’u neilltuo ar gyfer mynediad agored ar droed dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy, ac mae’r goedwig hefyd yn cynnwys cyfres o lwybrau troed, llwybrau cerdded a llwybr beicio. Caniateir mynediad i geffylau a beiciau ar ffyrdd y goedwig gyda chaniatâd.

Mae Coedwig Alwen yn perthyn i saith dalgylch afon gwahanol fel sy’n cael ei ddiffinio gan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr sydd, yn ei dro, o fewn dalgylchoedd mwy Dyfrdwy, Clwyd a Chonwy.

Crynodeb o'r amcanion

Cytunwyd ar yr amcanion rheoli canlynol er mwyn cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau a'r manteision y maent yn eu darparu:

  • Cynyddu amrywiaeth strwythurol a chadwraeth Gwiwerod Cochion drwy warchodfeydd naturiol, a Choedwigaeth Gorchudd Parhaus.
  • Cynyddu’r ardaloedd sy’n cael eu rheoli fel mawndir corslyd drwy drawsnewid coedwig gonwydd ac ail-wlychu ardaloedd agored.
  • Parhau i gynhyrchu cyflenwad cynaliadwy o bren drwy gynllunio gwaith cwympo a dewis pa rywogaethau sy’n cael eu hailstocio.
  • Rhagor o ardaloedd o goetiroedd olynol / torlannol er mwyn gwella cydnerthedd cynefinoedd a chysylltiadau cynefinoedd ar raddfa tirwedd.
  • Nodi a diogelu nodweddion treftadaeth pwysig, gan gynnwys yr amgylchedd naturiol hanesyddol.
  • Parhau i nodi ac adfer nodweddion safleoedd coetir hynafol ac ardaloedd o ddiddordeb cadwraethol.
  • Cynnal a gwella profiad ymwelwyr drwy ddarparu amgylchedd amrywiol sy’n ddiogel ac yn rhoi mwynhad. 

Mapiau

Sylwadau neu adborth

Os oes gennych sylwadau neu adborth, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwig ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Diweddarwyd ddiwethaf