Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff rhestredig adolygu eu hamcanion cydraddoldeb presennol o leiaf unwaith bob pedair blynedd.

Yn unol ag argymhellion y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a Llywodraeth Cymru, mae'r ddyletswydd yn cynrychioli cyfle i gyrff sector cyhoeddus yng Nghymru weithio gyda'i gilydd i nodi a sicrhau eu bod yn cael dylanwad ar y cyd dros yr heriau a nodwyd yn yr adroddiad 'A yw Cymru'n decach?', 2018.

Mae Partneriaeth Cydraddoldeb Cyrff Cyhoeddus Cymru yn cynrychioli grŵp o gyrff cyhoeddus sydd wedi ymrwymo i weithio gyda'i gilydd i uno y tu ôl i amcanion cydraddoldeb ar y cyd. Mae'r dull hwn o weithredu yn hyrwyddo gweithio doethach ac yn creu cyfleoedd i ymgysylltu ar y cyd, dysgu a chydweithio pellach gan hyrwyddo effaith ehangach ar draws y sector cyhoeddus a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru gan gyfrannu'n sylweddol at gydraddoldeb.

Partneriaeth Cydraddoldeb Cyrff Cyhoeddus yng Nghymru - Amcanion Hirdymor

Cynyddu amrywiaeth a chynhwysiant y gweithlu

  • Nod 1. Dileu anghydraddoldeb sy'n deillio o dlodi.
  • Nod 2. Mesurau amddiffyn cydraddoldeb a hawliau dynol cryf a blaengar i bawb yng Nghymru.
  • Nod 4. Bydd Cymru yn arwain y byd o ran cydraddoldeb rhywedd.
  • Nod 5. Dileu difrïo, aflonyddwch, troseddau casineb a bwlio sy'n seiliedig ar hunaniaeth.
  • Nod 7. Gall pawb yng Nghymru gyfranogi mewn bywyd gwleidyddol, cyhoeddus a bywyd bob dydd.
  • Nod 8. Bydd y sector cyhoeddus yng Nghymru yn arwain y ffordd fel sefydliadau a chyflogwyr cynhwysol ac amrywiol sy'n dangos esiampl.

Eliminate pay gaps

Engage with the community

  • Nod 1. Dileu anghydraddoldeb sy'n deillio o dlodi.
  • Nod 2. Mesurau amddiffyn cydraddoldeb a hawliau dynol cryf a blaengar i bawb yng Nghymru.
  • Nod 3. Bydd anghenion a hawliau pobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig yn flaenllaw yn y broses o gynllunio a darparu pob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.
  • Nod 4. Bydd Cymru yn arwain y byd o ran cydraddoldeb rhywedd.
  • Nod 5. Dileu difrïo, aflonyddwch, troseddau casineb a bwlio sy'n seiliedig ar hunaniaeth.
  • Nod 6. Cymru o gymunedau cydlynus sy'n gydnerth, yn deg ac yn gyfartal.
  • Nod 7. Gall pawb yng Nghymru gyfranogi mewn bywyd gwleidyddol, cyhoeddus a bywyd bob dydd.
  • Nod 8. Bydd y sector cyhoeddus yng Nghymru yn arwain y ffordd fel sefydliadau a chyflogwyr cynhwysol ac amrywiol sy'n dangos esiampl.

Ensure equality is embedded into the procurement / commissioning process and is managed throughout delivery

  • Nod 1. Dileu anghydraddoldeb sy'n deillio o dlodi.
  • Nod 2. Mesurau amddiffyn cydraddoldeb a hawliau dynol cryf a blaengar i bawb yng Nghymru.
  • Nod 4. Bydd Cymru yn arwain y byd o ran cydraddoldeb rhywedd.
  • Nod 5. Dileu difrïo, aflonyddwch, troseddau casineb a bwlio sy'n seiliedig ar hunaniaeth.
  • Nod 8. Bydd y sector cyhoeddus yng Nghymru yn arwain y ffordd fel sefydliadau a chyflogwyr cynhwysol ac amrywiol sy'n dangos esiampl.

Ensure service delivery reflects individual need

  • Nod 1. Dileu anghydraddoldeb sy'n deillio o dlodi.
  • Nod 2. Mesurau amddiffyn cydraddoldeb a hawliau dynol cryf a blaengar i bawb yng Nghymru.
  • Nod 3. Bydd anghenion a hawliau pobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig yn flaenllaw yn y broses o gynllunio a darparu pob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.
  • Nod 4. Bydd Cymru yn arwain y byd o ran cydraddoldeb rhywedd.
  • Nod 5. Dileu difrïo, aflonyddwch, troseddau casineb a bwlio sy'n seiliedig ar hunaniaeth.
  • Nod 6. Cymru o gymunedau cydlynus sy'n gydnerth, yn deg ac yn gyfartal.
  • Nod 8. Bydd y sector cyhoeddus yng Nghymru yn arwain y ffordd fel sefydliadau a chyflogwyr cynhwysol ac amrywiol sy'n dangos esiampl.

Cynllun Cydraddoldeb Strategol - Canlyniadau a Mesuriadau Canlyniadau

Cynyddu amrywiaeth a chynhwysiant y gweithlu.

  • Canlyniad hirdymor

    Bydd ein sefydliad yn adlewyrchu amgylchedd teg a chynhwysol, ble gall pawb deimlo’n werthfawr a chael yr un cyfleoedd i wireddu eu potensial yn y sefydliad.

  • Canlyniad arfaethedig erbyn 2024
    • Erbyn 2022, byddwn wedi cydweddu y modd y byddwn yn adrodd ar ein data cyflogaeth i gyd-fynd â dull Llywodraeth Cymru o ran fformat a dyddiadau adrodd.
    • Erbyn 2024 bydd gennym dystiolaeth o sut yr ydym yn estyn allan i grwpiau lleiafrifol a’r rhai hynny sy’n byw mewn tlodi er mwyn dod i weithio gyda ni.
  • Mesuriad canlyniad
    • Data cyflogaeth
    • Data proffil ymgysylltu
  • Camau y byddwn yn eu cymryd i gyrraedd y canlyniad arfaethedig
    • Safoni prosesau casglu data i alluogi meincnodi i sicrhau cysondeb wrth ddadansoddi ac adrodd ar ddata.
    • Dileu rhwystrau a gwella polisïau, gweithdrefnau ac arferion recriwtio a dethol drwy lens cydraddoldeb.
    • Sicrhau bod gwerthoedd ac ymddygiad yn hyrwyddo amgylchedd teg, cyfartal a chynhwysol drwy'r sefydliad.
    • Datblygu mentrau ar y cyd i dargedu grwpiau heb gynrychiolaeth i gynyddu cyflogadwyedd e.e. profiad gwaith, cyfleoedd mentora, prentisiaeth, academi, interniaethau.

Dileu bylchau cyflog

  • Canlyniad hirdymor

    Datgelu gwybodaeth yn rhan o ddiwylliant y sefydliad, staff yn deall pam bod data yn cael ei gasglu, sicrhau mai dim ond data sydd ei angen sydd yn cael ei goladu (GDPR).

  • Canlyniad arfaethedig erbyn 2024

    Data cywir ar draws y sector cyhoeddus yn darparu dadansoddiad ar draws nodweddion gwarchodedig.

  • Mesuriad canlyniad
    • Data proffil cyflogaeth
    • Methodoleg a dadansoddi bylchau cyflog.
    • Cyfleoedd Datblygiad Proffesiynol
    • Gwybodaeth ynghylch niferoedd staff ar wahanol batrymau gwaith ar wahanol lefelau.
  • Camau y byddwn yn eu cymryd i gyrraedd y canlyniad arfaethedig
    • Rhannu a safoni systemau ar gyfer coladu a dadansoddi data ar draws y cyrff, cefnogi staff i ddatgelu gwybodaeth.
    • Cytuno ar fethodoleg safonol ar gyfer diffinio a choladu bylchau cyflog, dehongli / cyfathrebu.
    • Methodoleg talgrynnu safonol.
    • Rhannu strategaethau ar gyfer cynllunio'r gweithlu.
    • Cydweithio i greu cyfleoedd datblygu'r gweithlu.
    • Hyfforddiant rheoli ac arwain ar y cyd (Grŵp AD).
    • Rhannu arferion patrymau gwaith a ffyrdd o weithio.

Ymgysylltu â’r gymuned.

  • Canlyniad hirdymor

    Byddwn yn ymgysylltu’n weithredol gyda chymunedau amrywiol ledled Cymru yng ngwaith ein sefydliadau. Bydd strategaethau, polisïau a phenderfyniadau yn cael eu cydgynhyrchu gydag unigolion amrywiol. Bydd profiadau a safbwyntiau pobl yn siapio ein sefydliadau.

  • Canlyniad arfaethedig erbyn 2024

    Erbyn 2024 byddwn yn gallu dangos a darparu tystiolaeth o gydgynhyrchu ein strategaethau, polisïau, newidiadau gwasanaeth a’n penderfyniadau.

  • Mesuriad canlyniad
    • Data proffil ymgysylltu.
    • Ymgysylltu a chyfranogi - data nodweddion gwarchodedig yn cael ei gynhyrchu / gyhoeddi, gan gynnwys tystiolaeth atodol fel arolygon, astudiaethau achos fel y bo'n briodol.
  • Camau y byddwn yn eu cymryd i gyrraedd y canlyniad arfaethedig
    • Cynnig digwyddiadau a chyfleoedd ymgysylltu ar y cyd.
    • Ymgysylltu'n uniongyrchol â chymunedau amrywiol i alluogi cynrychiolaeth mewn digwyddiadau ar y cyd.
    • Byddwn yn nodi cyfraniadau o'r ymgysylltu a'r cydgynhyrchu yn benodol yn ein strategaethau, ein polisïau a'n penderfyniadau. (fe ddywedoch wrthym – fe wnaethom ni).

Sicrhau bod cydraddoldeb yn rhan o’r broses gaffael / comisiynu ac yn cael ei reoli drwy’r broses ddarparu drwyddi draw.

  • Canlyniad hirdymor

    Mae cydraddoldeb wedi'i ymgorffori yn yr egwyddorion caffael sy'n weithredol ac y mae tystiolaeth ohonynt.

  • Canlyniad arfaethedig erbyn 2024
    • Mae egwyddorion ar waith gyda pholisïau sefydliadol wedi'u diweddaru.
    • Bydd data caffael ar waith ac yn dangos tystiolaeth o amrywiaeth wrth gaffael.
  • Mesuriad canlyniad

    Cyhoeddi egwyddorion caffael cytunedig a data caffael.

  • Camau y byddwn yn eu cymryd i gyrraedd y canlyniad arfaethedig
    • Cytuno ar gyfres o egwyddorion caffael i sefydliadau ymrwymo iddynt.
    • Adolygu polisïau sefydliadol i adlewyrchu egwyddorion.
    • Cydweithio i hyfforddi a chefnogi staff i gyflawni'r egwyddorion.
    • Rhannu arferion

Sicrhau bod gwasanaethau yn adlewyrchu anghenion unigol.

  • Canlyniad hirdymor

    Pobl ac arferion da a rennir yn dylanwadu’n weithredol ar ddarparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion unigol.

  • Canlyniad arfaethedig erbyn 2024
    • Erbyn 2024, byddwn yn gallu tystio i systemau gweithredol a ffyrdd o weithio sy'n sicrhau bod anghenion unigol yn cael eu deall a'u parchu wrth ddefnyddio a derbyn gwasanaethau.
    • Erbyn 2024 bydd gennym systemau cydweithredol ar waith er mwyn cydgynhyrchu.
    • Fframwaith ar gyfer mabwysiadu a rhannu arferion da.
  • Mesuriad canlyniad
    • Byddwn yn monitro cwynion, pryderon ac adborth gan bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau i adnabod meysydd i'w gwella ac yn adrodd ar hyn .
    • Arolygon
    • Holiaduron
    • Taith y Dinesydd
    • Tystiolaeth cydgynhyrchu.
  • Camau y byddwn yn eu cymryd i gyrraedd y canlyniad arfaethedig
    • Rhannu enghreifftiau o newidiadau cadarnhaol i wasanaethau a’r hyn a ddysgwyd, gan ddangos urddas, parch a dealltwriaeth o anghenion cyfathrebu a mynediad.
    • Sicrhau bod mecanwaith ar y cyd ar gyfer cydgynhyrchu.
    • Sicrhau bod fframwaith ar waith i gofnodi enghreifftiau o rannu a mabwysiadu arferion da.
    • Cynnig hyfforddiant ymwybyddiaeth cydweithredol ar ddeall defnyddwyr gwasanaethau.

Gweithredu’r pum ffordd o weithio - Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)

Atal

Mae’r amcanion wedi’u llunio ar sail ein dealltwriaeth o wybodaeth ar anghydraddoldeb a welwyd drwy ‘A yw Cymru’n Decach?’ - Cyflwr cydraddoldeb a hawliau dynol, sef adolygiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol o ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn 2019, a gwybodaeth a gymerwyd gan ein sefydliadau ar y cyd. Roedd y broses ymgynghori yn cynnwys ymgysylltu â phobl o ystod o gymunedau a chefndiroedd gwahanol.

Hirdymor

Cydnabyddir yr amcanion lefel uchel fel amcanion hirdymor a fydd yn bodoli y tu hwnt i gylch pedair blynedd y CCS, bydd sefydliadau sy'n uno gyda'i gilydd y tu ôl i'r amcanion yn cael mwy o effaith ar genedlaethau'r dyfodol wrth fwynhau cymdeithas decach a Chymru mwy cyfartal.

Cydweithio

Bydd Cyrff Cyhoeddus yn uno y tu ôl i amcanion a rennir ac maent wedi ymrwymo i weithio gyda'i gilydd i gyflawni'r amcanion. Mae’r cyrff partner wedi llofnodi ‘memorandwm cyd-ddealltwriaeth’ sy’n amlinellu eu hymrwymiad i weithio ar y cyd.

Integraddio

Mae'r amcanion lefel uchel wedi'u llywio trwy fewnwelediad, maent yn cyd-fynd â nodau cydraddoldeb hirdymor Llywodraeth Cymru ac yn cyfrannu at Gymru fwy cyfartal (DLlCD) a chymdeithas decach (Deddf Cydraddoldeb, 2010). Mae gweithredu’r pum ffordd o weithio wedi ategu’r broses o integreiddio ar draws y dyletswyddau. Bydd pob un o’r cyrff partner yn integreiddio’r cydamcanion yn eu strategaethau a’u gwaith cynllunio.

Cynnwys

Mae rhanddeiliaid a defnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus wedi cymryd rhan yn natblygiad amcanion. Drwy wireddu’r amcanion mae’r bartneriaeth wedi ymrwymo i ymgysylltu â phobl a chymunedau wrth gynllunio gwasanaethau a fydd yn sicrhau canlyniadau cyfartal a gwasanaethau sy’n diwallu anghenion pobl.

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Diweddarwyd ddiwethaf