Strategaeth ddigidol ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru 2022-2025

Cyflwyniad

Mae hon yn strategaeth a fydd yn helpu i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi pobl a'r amgylchedd wrth galon y gwaith o gynllunio gwasanaethau.  Boed hynny’n ddinesydd, yn fusnes, yn sefydliadau partner neu’n ein staff ein hunain sy’n cefnogi’r broses gyffredinol o ddarparu gwasanaethau. Mae'n ymwneud â sut rydym yn gwella bywydau pobl a'r amgylchedd, a sut mae technoleg ddigidol yn offeryn pwerus i wneud hynny.

Mae’n canolbwyntio ar y newidiadau y mae angen i ni eu gwneud fel sefydliad os ydym o ddifrif ynglŷn â thrawsnewid ein gwasanaethau cyhoeddus a sut rydym yn gweithio.

Bydd cyflawni'r strategaeth hon yn gofyn am newid mewn diwylliant, llywodraethu, ffyrdd o weithio, a llawer o wahanol agweddau eraill.

Mae uchelgais gwleidyddol cynyddol ar gyfer darparu gwasanaethau digidol gwell drwy gydweithio yng Nghymru, fel y disgrifir yn y Strategaeth Ddigidol i Gymru.

Beth ydym yn ei feddwl wrth y gair digidol?

“Cymhwyso diwylliant, prosesau, modelau busnes a thechnolegau oes y rhyngrwyd i ymateb i uwch ddisgwyliadau pobl.” Tom Loosemore

Drwy gydol y strategaeth hon, rydym yn defnyddio’r term digidol i gynnwys tair elfen proffesiwn digidol, data a thechnoleg y llywodraeth. Rydym hefyd wedi ystyried yr agweddau ar y Strategaeth Ddigidol i Gymru sydd fwyaf perthnasol i gylch gorchwyl a heriau CNC yn y maes hwn.

Nid yw llawer o’r heriau sy’n wynebu Cyfoeth Naturiol Cymru yn unigryw i’n sefydliad. Wrth gyflawni’r strategaeth hon, byddwn yn gweithio mor gydweithredol â phosibl ag eraill yng Nghymru a thu hwnt i ddysgu o'r arferion gorau a rhannu profiadau.

P’un a yw hynny’n deall perygl llifogydd, cael trwydded rhywogaeth, cyrchu ein tystiolaeth am amgylchedd Cymru i wneud penderfyniadau gwybodus, neu ddefnyddio ein coedwigoedd at ddibenion hamdden. Bydd cael hyn yn iawn yn golygu bod gwasanaethau’n symlach ac yn fwy hygyrch i’r bobl sydd eu hangen.

Bydd hyn yn helpu pobl i wneud y peth iawn, ac yn ein helpu ni i wneud mwy o wahaniaeth – i gyflawni ein gwaith i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur a gwasanaethu pobl Cymru.

Gweledigaeth

Erbyn 2025, bydd CNC yn darparu gwasanaethau gwell a symlach i bobl ac amgylchedd Cymru, ac yn cefnogi ein gwaith i fynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd. Bydd gan ein staff y sgiliau, yr offer a'r hyder i gefnogi hyn.

Y stori hyd yn hyn

Pan grëwyd CNC yn 2013, daeth ynghyd â thri sefydliad a’r holl wasanaethau a ddarparwyd ganddynt i bobl Cymru.

Roedd llawer o'r gwasanaethau hynny'n dibynnu ar gynnwys o'r we, data, systemau, a swyddogaethau technegol a ddarparwyd gan y cyrff gwreiddiol.

Yn ein dyddiau cynnar, canolbwyntiwyd ar adnewyddu systemau, gwefannau a chymwysiadau, ac ar drosglwyddo a chynnal asedau data etifeddol a sefydlu gallu a galluogrwydd annibynnol CNC.

Er mwyn sicrhau bod y sefydliad yn cynnal gwasanaethau sy'n hanfodol i fusnes, roedd pwysau aruthrol i amnewid tebyg at ei debyg a chyflwyno cynhyrchion sylfaenol hyfyw, yn seiliedig ar safbwynt CNC am ofynion yn hytrach nag ymchwil defnyddwyr i anghenion.

Mae’r gwaith hwnnw wedi parhau hyd heddiw. Ond, mewn llawer o achosion, rydym bellach wedi creu sefyllfa o wasanaethau datgysylltiedig, platfformau gwahanol, systemau nad ydynt wedi’u hintegreiddio, a gormod o gynnwys sy’n annealladwy i’n defnyddwyr gwasanaethau, ac mae hyn oll yn creu teithiau gwael i ddefnyddwyr a phrofiad cyffredinol gwael i gwsmeriaid. Mae angen i ni dorri'r cylch ac ail-leoli ein man cychwyn ar gyfer dylunio gwasanaethau, gan roi anghenion defnyddwyr wrth eu calon a dechrau'r daith o ddarganfod a datblygu.

Yn fwy diweddar, rydym wedi dechrau cynllunio gwasanaethau mewn ffordd sy’n canolbwyntio’n fwy ar y defnyddiwr, ac mae’r gwasanaethau llifogydd mwy diweddar – y mae cannoedd o filoedd o bobl yn cael mynediad iddynt yn ystod llifogydd – wedi bod yn cael adborth cadarnhaol gan ddefnyddwyr.

 

Y daith i wireddu ein gweledigaeth

Mae'n ymwneud â derbyn newid ailadroddol.

Byddwn yn dylunio set o feini prawf blaenoriaethu clir, sy’n hawdd eu deall, a map trywydd cyhoeddedig o waith presennol/nesaf/diweddarach.

Byddwn yn ymrwymo i ddylunio ystwyth sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr, gwelliannau ailadroddol, bod yn agored ynghylch sut rydym yn gweithio, ac ymgynghori â chwsmeriaid ar hyd y ffordd. Byddwn yn gweithio i Safonau Gwasanaethau Digidol Cymru ac yn cyfrannu at iteriadau’r safonau hyn yn y dyfodol wrth i ni oll ddysgu o’n profiadau wrth greu gwasanaethau gwell i bobl Cymru.

Y 12 safon ddigidol ar gyfer cyrff cyhoeddus Cymru, yw fel a ganlyn:

Diwallu anghenion defnyddwyr

  1. Canolbwyntio ar lesiant pobl Cymru yn awr ac yn y dyfodol
  2. Hyrwyddo'r Gymraeg
  3. Deall defnyddwyr a'u hanghenion
  4. Darparu profiad cydgysylltiedig
  5. Sicrhau bod pawb yn gallu defnyddio'r gwasanaeth

Creu timau digidol da

  1. Bod â pherchennog gwasanaeth wedi'i rymuso
  2. Cael tîm amlddisgyblaethol
  3. Ailadrodd a gwella'n aml
  4. Gweithio'n agored

Defnyddio'r dechnoleg gywir

  1. Defnyddio technoleg a allai ehangu’n gyflym
  2. Ystyried moeseg, preifatrwydd a diogelwch drwyddi draw
  3. Defnyddio data i wneud penderfyniadau


Cenhadaeth 1 – cynllunio gwasanaethau a chynnwys da

Mae disgwyliadau pobl ynglŷn â gwneud pethau ar-lein wedi codi. Nid yn unig profiadau Amazon, eBay ac Airbnb sydd yn gosod y bar.

Mae gwasanaethau cyhoeddus, fel gwneud cais am basbort, archebu prawf COVID-19, neu rannu eich trwydded yrru, yn gallu cael eu gwneud ar-lein yn hawdd.

Dylai'r rhan fwyaf o'n gwasanaethau weithio i bobl ar-lein. Dylai fod yn hawdd i bobl ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt a chwblhau'r rhan fwyaf o dasgau heb ein ffonio.

Byddai hyn yn rhyddhau meysydd gwasanaeth cwsmeriaid a busnes i ymdrin â gwaith achos mwy cymhleth neu gymorth technegol.

Byddwn yn

  • datblygu rhestr ddiffiniol o wasanaethau CNC a nodi perchnogion gwasanaethau ar gyfer pob un. Byddwn hefyd yn cyfrannu at yr adolygiad o’r dirwedd ddigidol ar gyfer Cymru sy'n cael ei gynnal gan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol

  • adolygu gwasanaethau presennol a blaenoriaethu ôl-groniad i ddatblygu gwasanaethau gwell gan ddefnyddio’r safonau digidol i Gymru

  • blaenoriaethu gwasanaethau ar gyfer gwelliant yn seiliedig ar anghenion defnyddwyr

  • gwneud gwaith ymchwil defnyddwyr helaeth i ddeall y defnyddwyr a'u hanghenion, gan roi'r dystiolaeth gadarn i ni flaenoriaethu ein gwaith

  • datblygu cynnig clir i egluro pwrpas gwefan CNC a’r hyn nad yw’n anelu at ei wneud

  • parhau i ymgorffori arferion gorau ar gyfer datblygu cynnwys da a chlir sy'n diwallu anghenion defnyddwyr

  • ailgynllunio ffurflenni a chanllawiau fel rhan o drawsnewid gwasanaethau’n gyffredinol

  • deall pa ddata sydd ei angen arnom am ein cwsmeriaid i gefnogi pob gwasanaeth, ynghyd â gwybod y safon y mae'n rhaid i ddata ei chyrraedd – er enghraifft, data lleoliad ac amgylcheddol

  • parhau i fonitro ac esblygu sut rydym yn ymgysylltu â phobl ar-lein, er mwyn sicrhau ein bod yn ymateb ar y sianeli y mae pobl yn disgwyl inni eu defnyddio

Canlyniadau bwriedig cynllunio gwasanaethau a chynnwys da

  • mae gwasanaethau ar gael yn hawdd ar-lein ac ar-lein yw dewis y rhan fwyaf o ddefnyddwyr. I'r rhai na allant gael mynediad at wasanaeth ar-lein, byddant yn derbyn cystal gwasanaeth all-lein

  • gall pobl ddod o hyd i'n gwefan a gwybodaeth gysylltiedig a'u deall yn hawdd

  • gall pobl gael mynediad at wasanaethau o ansawdd uchel yn Gymraeg a Saesneg oherwydd eu bod wedi'u cynllunio'n ddwyieithog o'r cychwyn cyntaf

  • mae pobl yn ymddiried yn ein presenoldeb ar-lein, gan ddibynnu ar ddyluniad a chynnwys cyson i wybod eu bod yn rhyngweithio â Cyfoeth Naturiol Cymru

  • gall pobl gwblhau'r dasg y mae angen iddynt ei gwneud – gan gynyddu cydymffurfedd a refeniw a helpu i ddiogelu'r amgylchedd

  • mae mwy o ddefnydd o wasanaethau ar-lein yn cynyddu effeithlonrwydd ac yn lleihau cyswllt diangen ar gyfer staff CNC, gan ryddhau amser ar gyfer gwaith arall

  • gallwn ddadansoddi ac olrhain sut mae pobl yn defnyddio ein gwasanaethau ar draws platfformau, a gallu mesur y defnydd o drafodion ar-lein ac all-lein


Cenhadaeth 2 – datblygu sgiliau a galluogrwydd

Mae angen sylweddol i ddatblygu'r sgiliau a galluogrwydd cywir i'n galluogi i ddarparu gwell gwasanaeth cyhoeddus ar gyfer pobl ac amgylchedd Cymru.

Bydd angen i bawb ddeall ein cwsmeriaid a I’r rhai sy’n gweithio’n uniongyrchol mewn rôl ddigidol, data neu dechnoleg, bydd angen i ni barhau i ddatblygu a chynnal y sgiliau arbenigol hynny a bydd angen i ni ddatblygu sgiliau mwy arbenigol mewn rhai meysydd allweddol, er enghraifft ymchwil defnyddwyr, datblygu, dylunio cynnwys, a dadansoddi data. 

Bydd defnyddio a chyfrannu at wella fframweithiau cenedlaethol ar gyfer galluogrwydd a sgiliau digidol yn helpu i alluogi ein staff i wneud y newidiadau hyn a datblygu.

Byddwn yn

  • datblygu galluogrwydd arweinyddiaeth ddigidol o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru

  • cydnabod y sgiliau sydd eu hangen i ddeall ein defnyddwyr, eu hanghenion, a’r hyn sy'n gwneud gwasanaeth da

  • alinio rolau â’r fframwaith cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau digidol, data a thechnoleg

  • gweithio gyda'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill i rannu dysgu, cydweithio, a gwella sgiliau digidol, data a thechnoleg

  • datblygu staff presennol gyda chyfleoedd ar gyfer hyfforddiant yn y gwaith a chymunedau ymarfer

  • adeiladu timau amlddisgyblaethol o amgylch gwasanaethau, gan gyfuno timau a sgiliau presennol o amgylch gwasanaethau i ddatrys problemau a rennir ac i wella gwasanaethau

  • deall yr hyn sydd ei angen i ddatblygu rhaglen o brentisiaethau digidol, data a dadansoddol, mewn partneriaeth lle bo modd â chyrff eraill yn y sector cyhoeddus

  • tynnu ar gyfleoedd cenedlaethol i adeiladu llwybrau gyrfa ar gyfer ein tîm digidol, technoleg a data, gan sicrhau y gallwn eu cadw, eu datblygu a’u bodloni

  • caffael arbenigedd allanol i gefnogi uwchsgilio a llenwi bylchau sgiliau, yn enwedig yn y cyfnod pontio

Canlyniadau bwriedig datblygu sgiliau a galluogrwydd

  • mae ein harweinwyr yn deall nad yw digidol yn ymwneud â thechnoleg, ond â meithrin y diwylliant cywir

  • mae ein harweinwyr yn deall yr hyn sydd ei angen i arwain timau a dylunio gwasanaethau da

  • gwerthfawrogir y sgiliau i ddarparu gwasanaethau yn seiliedig ar anghenion defnyddwyr a sgiliau digidol a data

  • mae ein pobl yn teimlo'n hyderus yn eu gwybodaeth a'u sgiliau ynghylch y dechnoleg sydd ei hangen arnynt i wneud eu swyddi

  • gallwn gyflogi, cadw a datblygu'r dalent orau, yn lleol ac yn genedlaethol

 


Cenhadaeth 3 – platfformau integredig a chynaliadwy

Bydd gwneud yn siŵr bod pobl yn gallu dod o hyd i’n gwasanaethau, a’u defnyddio a’u llywio, yn golygu y bydd angen i bobl allu teithio’n ddi-dor drwy wasanaethau.

Er mwyn gwneud hyn, ein gwefan, cyfoethnaturiol.cymru, fydd y gyrchfan ar-lein unigol y gellir ymddiried ynddi ar gyfer gwybodaeth CNC ac i gyrchu gwasanaethau, er y tu ôl i’r llenni y gall hyn gynnwys sawl cydran.

Yn y bôn, mae hyn yn ymwneud â sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau da, ond mae cost ariannol ac amgylcheddol i wasanaethau digidol.

Bydd angen inni edrych o ddifrif ar ystyried rôl gwasanaethau digidol wrth gefnogi nodau sero net Llywodraeth Cymru. 

Drwy osgoi dyblygu cynnwys a data ar sawl platfform, a lleihau nifer y platfformau etifeddol, byddwn yn darparu profiad mwy cydgysylltiedig ar gyfer pobl. Bydd gennym bresenoldeb digidol mwy cynaliadwy sy’n fwy diogel, yn haws ei gynnal, ac yn fwy cadarn.

Byddwn yn

  • adolygu ein tirwedd ddigidol bresennol, gan gynnwys platfformau a thechnoleg a ddefnyddir ar hyn o bryd i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus a gwaith CNC - gan gynnwys ôl troed carbon ein hystâd ddigidol gyfan

  • osgoi cyhoeddi gwybodaeth nad oes ei hangen arnom, i leihau faint o le a ddefnyddir ar y gweinydd – gan leihau costau a chyfrannu at dorri allyriadau carbon

  • gwneud penderfyniadau technoleg yn seiliedig ar anghenion defnyddwyr, gan ddilyn canllawiau yn Safonau Gwasanaethau Cymru a Chod Ymarfer Technoleg y DU

  • ystyried cynaliadwyedd a’i fesur ym mhob cam o ddatblygu a rheoli gwasanaethau digidol

  • cynnal adolygiad o’r system cyfrifon ac adnabod cwsmeriaid er mwyn galluogi cwsmeriaid i hunanwasanaethu pan fo hynny’n briodol a rheoli eu dewisiadau cyfrif eu hunain yn unol â GDPR

  • optimeiddio data cwsmeriaid yn system rheoli cysylltiadau cwsmeriaid CNC. Bydd y data nad yw'n cael ei storio yn system rheoli cysylltiadau cwsmeriaid CNC yn cael ei benderfynu gan anghenion cwsmeriaid

  • dechrau'n fach – blaenoriaethu gwasanaethau ar gyfer ailgynllunio o'u dechrau i'w diwedd, gan gynnwys yr holl bobl a thimau cywir

  • ystyried costau oes gyfan gwasanaethau, gan gynnwys costau a strwythurau cymorth a gwella parhaus, a chynllunio yn unol â hynny

Canlyniadau bwriedig platfformau integredig a chynaliadwy

  • byddwn yn gallu dadansoddi ac olrhain sut mae pobl yn defnyddio ein gwasanaethau ar draws platfformau ac yn gallu mesur y defnydd o drafodion ar-lein ac all-lein

  • mae'r gwahanol systemau, cydrannau a blociau adeiladu technegol yn gydgysylltiedig a chaiff data ei drosglwyddo'n ddi-dor ac yn ddiogel

  • caiff cynaliadwyedd ei ystyried a’i fesur ym mhob cam o ddatblygu a rheoli gwasanaethau digidol

  • gall pobl chwilio yn ôl lleoliad (ar draws gwahanol systemau a phlatfformau) i ddod o hyd yn hawdd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt sy'n ymwneud â'r lle hwnnw 

  • cyfrifon cwsmeriaid hawdd eu rheoli – ar gyfer y cwsmer ac CNC


Cenhadaeth 4 – mae gan ein timau’r offer a'r prosesau

Drwy ymrwymo i fabwysiadu’r safonau digidol i Gymru, bydd angen inni newid yn sylweddol sut rydym yn cynllunio, blaenoriaethu a datblygu ein gwasanaethau. 

Mae angen i'r ffordd bresennol o gynllunio, blaenoriaethu, ariannu a rheoli prosiectau a systemau symud i fodel a fydd yn galluogi un perchennog gwasanaeth â grym i fod â’r awdurdod a'r cyfrifoldeb i wneud pob penderfyniad busnes, cynnyrch a thechnegol am wasanaeth.

Mae'r un unigolyn yn atebol ac yn gyfrifol am ba mor dda y mae'r gwasanaeth yn diwallu anghenion ei ddefnyddwyr, a dyna sut bydd ei lwyddiant yn cael ei werthuso.

Bydd angen i ni gael y cymysgedd cywir o sgiliau a phrofiad ar gyfer y cam datblygu presennol. Dylai’r tîm allu egluro sut y gall cyfansoddiad y tîm newid dros amser, a pha gyllid fydd ei angen i gefnogi tîm sy'n gyfrifol am welliant parhaus y gwasanaeth.

Byddwn yn

  • cefnogi timau amlswyddogaethol sy'n canolbwyntio ar berchnogion gwasanaethau ac yn canolbwyntio ar flaenoriaethau y cytunwyd arnynt yn hytrach na strwythurau sefydliadol

  • mabwysiadu arferion gweithio ystwyth wrth ddylunio gwasanaethau i bobl fel y gallwn ailadrodd a gwella ar sail adborth

  • gweithio'n agored a siarad am ein gwaith, gan rannu profiadau i ymgysylltu â defnyddwyr a meithrin ymddiriedaeth

  • mabwysiadu'r offer mwyaf priodol i helpu pobl i wneud eu swyddi a gweithio i'r safonau, e.e. pecyn prototeipio

  • ailgynllunio fframweithiau cyflenwi i gefnogi gweithio i’r 12 safon ac egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, ac yn datblygu meini prawf blaenoriaethu clir ar gyfer gwella gwasanaethau

  • adolygu ein ffyrdd o weithio i sicrhau eu bod yn cefnogi darpariaeth ystwyth a gweithio i'r safonau, e.e. cyllid a llywodraethu

  • gweithio lle bo modd mewn partneriaeth â sefydliadau eraill i rannu ein gwaith a chreu gwasanaethau digidol cydgysylltiedig, unwaith i Gymru

Canlyniadau bwriedig timau’n cael yr offer a phrosesau cywir

  • gall staff gyrchu a dod o hyd i'r offer a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i wneud eu gwaith, a'u defnyddio

  • gall timau amlddisgyblaethol grymus reoli gwasanaethau o un pen i'r llall

  • rydym yn defnyddio llawlyfrau gwasanaeth, offer prototeipio a llyfrgelloedd dylunio (ein rhai ein hunain neu a rennir) i alluogi darpariaeth haws a mwy effeithlon

  • mae ein pobl yn teimlo'n hyderus wrth ddefnyddio technoleg fodern, yn ymwybodol o'r risgiau a'r cyfleoedd sydd ynghlwm wrthi, ac yn gallu cymryd rhan yn llawn wrth greu darpariaeth ystwyth a dylunio gwasanaethau

  • mae ein systemau a'n prosesau (e.e. cyllid a llywodraethu) yn cefnogi dylunio a chyflenwi sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr


Cenhadaeth 5 – data a chydweithio

CNC yw ceidwad casgliad mawr, cymhleth ac unigryw o ddata a gwybodaeth amgylcheddol ar gyfer ac ynghylch amgylchedd Cymru. 

Mae ein sylfaen tystiolaeth amgylcheddol yn llywio ac yn cefnogi ymateb Cymru i'r argyfyngau hinsawdd a natur ac yn darparu cofnod hanesyddol am amgylchedd Cymru.

Bydd rheoli'r sylfaen dystiolaeth hanfodol hon a sicrhau bod data ar gael i bobl mewn ffyrdd sy'n diwallu eu hanghenion yn helpu i gryfhau penderfyniadau amgylcheddol, gwella'r modd y darperir ein gwasanaethau cyhoeddus, helpu busnesau i addasu i'r dyfodol, a gwella bywydau pobl.

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) a’n hymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur yn galw am i’n data gael ei ddadansoddi, ei ddehongli a’i gyflwyno ar raddfeydd gofodol lluosog. Mae angen i'n data gael ei integreiddio, i alluogi penderfyniadau sy'n dod â buddion lluosog, a mwy o rannu a chydweithio. 

Rydym yn wynebu twf sylweddol ym maint a chymhlethdod ein daliadau data a chymhlethdod y gofynion, ynghyd â galw cynyddol am ‘gynhyrchion’ data wedi'u dehongli dros ddata crai.  Nod y genhadaeth hon yw ymateb i'r gofynion hyn.

Byddwn yn

  • darparu data a gwybodaeth fel allbynnau wedi'u dehongli sy'n ystyrlon i'n cwsmeriaid ac sy'n diwallu anghenion pobl

  • rhoi darlun i bobl o’r amgylchedd yn y lleoedd sy’n bwysig iddynt a darparu golwg integredig o’n data i amlygu buddion lluosog ar gyfer neu o amgylch y lle hwnnw

  • galluogi llif a chyfnewid data a gwybodaeth yn awtomataidd rhwng systemau a'r rhai sydd ei angen

  • datblygu ein hymagwedd at gadwraeth ddigidol, ac archifo data a gwybodaeth, i greu arbedion effeithlonrwydd, lleihau costau, ac ystyried ein hôl troed carbon ar gyfer storio

  • datblygu a gweithredu dull CNC o ymdrin â moeseg data, gan ddefnyddio Cynfas Moeseg Data’r Sefydliad Data Agored

  • cefnogi a datblygu arloesedd yn ein gwaith o reoli data i wella gwasanaethau a chreu arbedion effeithlonrwydd. Gallai hyn gynnwys deallusrwydd artiffisial, dysgu peirianyddol, gwyddor data, y rhyngrwyd pethau, a delweddu data, lle maent yn cefnogi anghenion defnyddwyr

  • cysylltu a rhannu ein data, gan ddefnyddio fformatau a strwythurau safonol a darparu metrigau o ansawdd. Adeiladu ar ein ‘polisi agored yn ddiofyn’ presennol, gan anelu at sgôr o bedwar i bum seren yn y safonau data agored i ysgogi’r economi wybodaeth. Byddwn yn mabwysiadu egwyddorion data (Q)FAIR (Ansawdd, Canfyddadwy, Hygyrch, Rhyngweithredol, Ailddefnyddiadwy).

Canlyniadau bwriedig data a chydweithio

  • gall pobl ddod o hyd i ddata a gwybodaeth yn hawdd sy'n gysylltiedig â'r lleoedd sy'n berthnasol iddynt i gefnogi penderfyniadau a chamau gweithredu i helpu i fynd i'r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd

  • gall pobl gael mewnwelediad, dadansoddi, a gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth mewn ffyrdd sy'n diwallu eu hanghenion

  • rydym yn rhannu data a gwybodaeth yn agored ac yn ddi-dor gyda phobl sydd eu hangen, mewn ffyrdd sy’n diwallu eu hanghenion, gan greu canlyniadau gwell i’r amgylchedd a phobl Cymru

  • mae ein data a’n gwybodaeth yn gysylltiedig, ac yn diwallu safonau ac arferion gorau’r diwydiant, fel y gall eraill wneud y defnydd gorau o’n sylfaen dystiolaeth

  • mae pobl yn ymddiried ein bod yn trin eu data a’u gwybodaeth yn gyfrifol, yn eu trin yn ddiogel, ac yn eu defnyddio’n foesegol

  • rydym yn amddiffyn cofnod hanesyddol amgylchedd Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

  • rydym yn manteisio ar dechnoleg newydd sy’n cefnogi CNC i wella gwasanaethau a sicrhau arbedion effeithlonrwydd, gan gynnwys trwy ddefnydd cynyddol o awtomeiddio a gwyddor data

  • rydym yn ystyried ein hôl troed carbon, a sut y gallwn greu arbedion effeithlonrwydd a lleihau costau sy’n gysylltiedig â llif, prosesu a storio ein data a’n gwybodaeth


Casgliad

Mae'r gwaith caled yn dechrau yma.

Mae’r strategaeth hon yn nodi ein huchelgais ar gyfer gwella ein gwasanaethau digidol ac yn egluro beth sydd angen i ni ei wneud – ar ein pennau ein hunain ac wrth weithio gydag eraill – i gyflawni ein gweledigaeth.

Mae yna rwystrau a heriau i fynd i’r afael â nhw wrth inni symud i’r cam cyflawni, sy’n cynnwys:

  • sut gallwn ni ariannu a darparu adnoddau ar gyfer y trawsnewid sydd ei angen?
  • sut mae ein gweithdrefnau llywodraethu yn cefnogi dull mwy hyblyg a sut ydym yn cynllunio o amgylch anghenion defnyddwyr?
  • sut ydyn ni'n adeiladu timau amlswyddogaeth o amgylch perchnogion gwasanaethau/cynhyrchion?
  • sut mae datblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnom?
  • sut mae sicrhau bod ein tystiolaeth yn hygyrch yn y ffyrdd symlaf i'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr wrth ganiatáu i arbenigwyr gyrchu'r manylion?
  • sut mae sicrhau cydbwysedd rhwng dal ati gyda phrosiectau sydd eisoes ar waith yn erbyn gweithio mewn ffordd wahanol?

Byddwn yn gweithio drwy’r heriau hyn wrth inni fynd at y cam cyflawni, gan ganolbwyntio ar ein huchelgais i greu gwasanaethau gwell i bobl Cymru, fel y gallant weithio’n hawddach gyda ni i gyflawni dros yr amgylchedd yng Nghymru.


Fersiwn. 1.1 24 Mawrth 2022

 

 

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf