Ailgysylltu pobl â natur

 

Mae'r thema hon yn ein herio i fod yn fwy creadigol ac egnïol o ran y modd y mae cymunedau yn deall ac yn gwerthfawrogi’r amgylchedd naturiol lleol, ymgysylltu ag ef, ac yn dylanwadu ar eu defnydd ohono.

Mae hyn yn cynnwys sut y gall pobl gael mynediad i fannau gwyrdd a glas, pa gyfleoedd hamdden sy’n bodoli ar dir a dŵr, a sut mae pobl yn dysgu am, ac yn deall, eu hamgylchedd lleol a thu hwnt – a’r gwahanol weithgareddau sy’n digwydd yno, megis ffermio a thyfu bwyd a’r cysylltiadau rhwng y tir, iaith, diwylliant ac iechyd. Mae hefyd yn golygu y dylai'r modd y mae datblygiadau wedi'u cynllunio a'u hadeiladu gysylltu pobl â mannau gwyrdd a glas megis: parciau, yr arfordir, afonydd, llynnoedd, rhandiroedd, a chefn gwlad yn ehangach.  Er mwyn i hynny ddigwydd, mae angen rhoi'r cyfle i bobl gael mynediad at drafnidiaeth werdd megis llwybrau beicio a llwybrau diogel. Dylai mannau cyhoeddus ddiwallu anghenion pobl leol o bob oedran a gallu, felly p'un a fyddant yn y gwaith neu gartref, gall cysylltiad â natur eu helpu i fyw bywyd iachach.

Dylai pobl gael y cyfle i ddeall eu hamgylchedd lleol yn well a'r rôl sydd ganddo yn eu bywydau, hanes a diwylliant. Dylai gwybodaeth fod yn hygyrch ac yn gyfredol. Mae ailgysylltu â natur yn golygu cyfleoedd i fod yn yr awyr agored ymysg natur a sicrhau bod yr amgylchedd yn dod yn rhan bwysig o fywydau pobl sydd i’w chroesawu.

Pam y thema hon?


Er mwyn hwyluso datblygiad y Datganiad Ardal, cynhaliodd Cyfoeth Naturiol Cymru dri gweithdy yng ngogledd-orllewin Cymru yn ystod mis Gorffennaf 2019 yn ogystal â sesiwn ar gyfer staff. Yn seiliedig ar y trafodaethau hyn, roedd yn glir bod cefnogaeth ar gael ar gyfer thema Datganiad Ardal sy'n canolbwyntio ar Ailgysylltu pobl â natur. Yn ogystal, roedd diddordeb gan y cynulleidfaoedd allanol mewn dysgu gydol oes hefyd, felly ymgorfforwyd yr elfen honno yn y thema hon.   Dychwelwyd y themâu a ddatblygwyd i'r rhanddeiliaid ar gyfer eu dilysu yn ein hail rownd o weithdai ymgysylltu ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2019. Ceir rhagor o wybodaeth a manylion ynglŷn â hyn yn Cyflwyniad i'r Datganiad Ardal ac o fewn Thema Ffyrdd o Weithio.

Beiciau mynydd a merlod Gwyllt yn pori ar y Carneddau gyda mynydd anghysbell a garw yn y cefndir

Er mwyn llywio'r thema hon rydym wedi ystyried:

  • Gwybodaeth leol o gyfres o weithdai strwythuredig a gafodd eu hwyluso’n annibynnol ar draws gogledd-orllewin Cymru

  • Y blaenoriaethau a nodwyd yn y Polisi Adnoddau Naturiol; Cyflenwi datrysiadau sy'n seiliedig ar natur, cynyddu ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd adnoddau, defnyddio dull sy'n seiliedig ar le

  • Gwybodaeth o’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol am ecosystemau a'u cydnerthedd, a'r risgiau a'r manteision maent yn eu darparu

  • Yr asesiadau a chynlluniau llesiant, a'r blaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg trwy Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn a Chonwy a Sir Ddinbych

Amlygodd rhanddeiliaid allanol yr angen i:

  • Ailgysylltu pobl â’u hamgylchedd lleol mewn modd creadigol er mwyn gwella iechyd corfforol a meddyliol, hyder a hunan-barch

  • Cydweithio er mwyn sicrhau bod pawb yn deall y budd y gall amgylchedd iach ei roi i gymdeithas, a chael negeseuon cydgysylltiedig a chlir ynglŷn â chyflwr yr amgylchedd

  • Gweithio i sicrhau bod cymunedau’n cael ymdeimlad o gyswllt â’u hamgylchedd naturiol ac yn teimlo wedi’u grymuso a bod ganddynt rôl weithredol yn y modd y caiff ei reoli. Mae hyn hefyd yn cynnwys cyfranogiad y gymuned a mynediad gwell i dir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru a phartneriaid eraill
  • Cydweithio i greu mwy o lwybrau teithio llesol ar gyfer nifer o ddefnyddwyr i gysylltu pobl ag adnoddau naturiol i ffwrdd o ffyrdd prysur. Mae angen bod cyfleoedd mynediad yn rhan o gynlluniau datblygu yn y dyfodol

  • Sicrhau ein bod yn creu cyfleoedd ar gyfer addysg ffurfiol ac anffurfiol fel bod gan gymunedau gysylltiad gwell a dealltwriaeth well o'u hamgylchedd lleol

Mae'r thema hon yn cysylltu â blaenoriaethau a nodau llesiant y Polisi Adnoddau Naturiol drwy wella seilwaith gwyrdd a chysylltu pobl â’u hamgylchedd naturiol lleol. Bydd hyn yn cyfrannu at gymunedau hyfyw, diogel ac sydd wedi'u cysylltu'n dda, sy'n gyson â nod cenedlaethol ‘Cymru o gymunedau cydlynus’  Mae hefyd yn helpu cymunedau i ddod yn fwy cynaliadwy a gwydn.

Materion a nodwyd gan rhanddeiliaid:

  • Gall mynediad at fannau gwyrdd a glas wneud cyfraniad sylweddol at iechyd corfforol a meddyliol poblogaeth gogledd-orllewin Cymru. Gall rhwydweithiau llwybrau hygyrch, parciau, gerddi, traethau a glannau môr a chefn gwlad yn ehangach chwarae rôl bwysig i wella iechyd a llesiant. Fodd bynnag, nid yw'r rhain bob amser wedi'u lleoli’n agos at ble mae pobl yn byw neu nid ydynt yn cael eu rheoli mewn modd sy’n galluogi pobl o bob oedran a gallu i gael mynediad atynt

  • Mae angen cynnwys pobl yn y gwaith cynllunio a datblygu'r cyfleoedd cywir i gael mynediad at ddŵr, mannau gwyrdd trefol a chefn gwlad sy'n diwallu eu hanghenion ac yn cyfrannu at fuddion iechyd a chymdeithasol cymunedau nawr ac yn y dyfodol

  • Gall cael llai o adnoddau ar gyfer rheoli hawliau tramwy cyhoeddus a mannau gwyrdd gael effaith ar ansawdd y profiad a bod yn rhwystr tuag at ddatblygu cyfleoedd creadigol newydd ar gyfer pobl o bob gallu ac yn ystod bob cam allweddol o’u bywyd. Wrth ddod â phobl a sefydliadau at ei gilydd, gall y rheini sy'n cael y budd mwyaf gael rôl weithredol wrth sicrhau bod seilwaith mynediad y dyfodol yn diwallu eu hanghenion
  • Yr angen i annog synnwyr o ddinasyddiaeth, balchder a gwerthoedd cymdeithasol yn ogystal â chydnabyddiaeth o'r rhan rydym i gyd yn ei chwarae o ran deall ein cysylltiad a'n cyfraniad i'r amgylchedd naturiol yn well

Asesiad o gyfleoedd mynediad:

Parciau, gerddi a mannau gwyrdd trefol

Wrth ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar le a gweithio gyda phobl sy'n byw yno, rydym yn cydnabod bod cymunedau yn y sefyllfa orau i ffurfio a deall blaenoriaethau lleol, cyfleoedd a dod o hyd i ddatrysiadau ymarferol sy'n dod â'r buddion ehangaf. Bydd hyn yn sicrhau bod pobl leol yn cael budd llawn o'r adnoddau naturiol sydd yn eu hardaloedd. Mae cyswllt rhwng ardaloedd sydd â mwy o fannau gwyrdd hygyrch ac iechyd meddwl a chorfforol gwell. Mae nifer o'n cymunedau mwyaf difreintiedig yn byw ger asedau naturiol nad oes ganddynt gysylltiad â nhw.

Buddion

  • Gwasanaethau diwylliannol megis hamdden a'r buddion iechyd cysylltiedig

  • Mae mynediad at fannau gwyrdd trefol yn cysylltu pobl â'n hamgylcheddau parciau trefol traddodiadol a gerddi ac mae'n arwain at werthfawrogiad o seilwaith gwyrdd lleol

  • Bydd cynnwys pobl yn y gwaith o gynllunio mannau gwyrdd newydd a chysylltiadau trafnidiaeth gwyrdd fel rhan safonol o'r broses o gynllunio datblygiadau newydd hefyd yn helpu i sicrhau bod hamdden a buddion iechyd cysylltiedig yn dod yn rhan annatod o fywyd bob dydd

Coetiroedd rhywogaethau â chymysgedd o amwynderau

Mae llawer o fuddion yn gysylltiedig â chreu coetir wedi’I leoli’n briodol: storio carbon, rheoliperygl llifogydd yn naturiol, ansawdd dŵr, mesurau lliniaru llygredd sŵn ac aer, amrywiaeth y rhywogaethau, sgiliau cefn gwlad, swyddi, hamdden a gall helpu i gyfrannu at iechyd a llesiant. Bydd cynnwys pobl yn y gwaith o gynllunio a rheoli mannau gwyrdd yn sicrhau eu bod yn diwallu anghenion cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol a helpu pobl i ailgysylltu â natur.

Buddion

  • Gwasanaethau diwylliannol megis hamdden a buddion iechyd cysylltiedig

  • Gall cynnwys cymunedau arwain at gysylltiadau cryfach â choetiroedd rhywogaethau â chymysgedd o amwynderau sy'n agos at ble mae pobl yn byw a gweithio

  • Cysylltiadau â chadwyni cyflenwi lleol fel bod y cyhoedd yn gallu prynu cynhyrchion sydd wedi'u cynhyrchu'n lleol. Gallai hyn gynnwys: crefftau coetir, coed tân a bwydydd gwyllt

  • Defnyddio coetiroedd fel adnodd addysgol ar gyfer dysgu gydol oes ac addysg ffurfiol am y bioamrywiaeth sy'n gysylltiedig â choetiroedd cymysg. Gall coetiroedd amwynder hefyd gefnogi datblygiad sgiliau o fewn cymunedau o amgylch rheoli coetiroedd lleol

  • Mae coetiroedd, felly, yn darparu buddion gwasanaethau darparu, diwylliannol a chynnal

Afonydd a dyfroedd mewndirol

Gwella cyfleoedd mynediad at gyrff dŵr mewndirol fel afonydd a llynnoedd ac o’u hamgylch lle bo hynny’n briodol ar gyfer hamdden a buddion iechyd gan gynnwys gwella hawliau tramwy cyhoeddus presennol a llwybrau newydd lle mae eu hangen.

Buddion

  • Gwasanaethau diwylliannol megis hamdden a buddion iechyd cysylltiedig

  • Gall cynnwys cymunedau yn y gwaith o ddatblygu cyfleoedd hamdden arwain at gysylltiadau cryfach â'r amgylchedd dŵr lleol yn agos at ble maent yn byw a gweithio

  • Gallai creu llwybrau newydd at gyrff dŵr megis llynnoedd ac afonydd ac o’u hamgylch hefyd annog gwell cysylltiad o ran cynefinoedd a rhywogaethau

Gwlypdiroedd a chorsydd

Gwella cyfleoedd mynediad i gynefinoedd gwlypdiroedd a chorsydd ac o’u hamgylch lle bo hynny’n briodol. Dealltwriaeth well o'r rhwystrau at fynediad a chanfyddiadau ynglŷn â lleoedd sydd y tu hwnt i gyrraedd pobl leol boed hynny o ganlyniad i drafnidiaeth, dealltwriaeth, neu werth.

Buddion

  • Gwasanaethau diwylliannol megis hamdden a buddion iechyd cysylltiedig

  • Gall mynediad at brydferthwch cynefinoedd gwlypdiroedd a chorsydd arwain at gysylltiad gwell â’r cynefinoedd amrywiol hyn a'r buddion sydd ganddynt o ran perygl llifogydd naturiol, storio carbon a buddion ar gyfer bywyd gwyllt a gwerthfawrogiad cryfach ohonynt

  • Mae gwlypdiroedd a chorsydd hefyd yn adnodd gwych ar gyfer dysgu gydol oes ac addysg ffurfiol o ran bioamrywiaeth planhigion a rhywogaethau a'r cylch dŵr

  • Gallai creu cysylltiadau a llwybrau newydd i wlypdiroedd a chorsydd ac o’u hamgylch hefyd annog mwy o gysylltiad rhwng cynefinoedd a rhywogaethau

Mynyddoedd, gweunydd a rhostiroedd

Gwella cyfleoedd mynediad i'n hardaloedd ucheldirol megis mynyddoedd, gweunydd a rhostiroedd ar gyfer pob gallu. Dealltwriaeth well o'r rhwystrau at fynediad a chanfyddiadau ynglŷn â lleoedd sydd y tu hwnt i gyrraedd pobl leol boed hynny o ganlyniad i drafnidiaeth, dealltwriaeth, neu werth.

Buddion

  • Gwasanaethau diwylliannol megis hamdden a buddion iechyd cysylltiedig o gael mynediad i ardaloedd mwy gwyllt

  • Gallai gwella mynediad presennol ar gyfer pob gallu i'n mynyddoedd, gweunydd a rhostiroedd hefyd arwain at gysylltiad gwell â’r cynefinoedd amrywiol hyn a'r buddion y maent yn eu darparu a gwerthfawrogiad cryfach ohonynt

  • Mwy o werthfawrogiad o nodweddion hanesyddol a geomorffoleg yr ardaloedd hyn

Yr arfordir a thraethau

Cysylltu llwybr yr arfordir â'n cymunedau a rhwydweithiau hawliau tramwy cyhoeddus eraill. Cynyddu llwybrau teithio llesol / defnyddwyr amrywiol, gan gysylltu cymunedau ag adnoddau naturiol lle bo hynny’n briodol.

Buddion

  • Gwasanaethau diwylliannol megis hamdden a buddion iechyd cysylltiedig sy’n gysylltiedig â chael mynediad i'n harfordir a thraethau

  • Bydd cysylltu llwybr yr arfordir â'r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus ehangach yn helpu i gynyddu cysylltiadau cymunedau â'n harfordir

Teulu yn pysgota mewn coetir cymunedol Rhaeadrau Dolgoch, Tywyn, Meirionnydd

Cyfleoedd a nodwyd sy'n ymwneud â'r thema hon:

Mae pobl yn gwerthfawrogi'r hyn y maent yn ei ddeall – wrth ailgysylltu pobl â'u hamgylchedd naturiol lleol, byddant yn cael dealltwriaeth well o'r rôl bwysig y mae eu hamgylchedd lleol yn ei chwarae yn eu bywydau a'r dylanwad y mae'r amgylchedd wedi ei gael ar eu hanes, eu hiaith a'u diwylliant. Bydd pob un o'r cyfleoedd a nodir isod ond yn cael eu cefnogi mewn lleoliadau amgylcheddol briodol. 

Goresgyn materion gyda'n gilydd

  • Gall cael llai o adnoddau ar gyfer rheoli hawliau tramwy cyhoeddus a mannau gwyrdd gael effaith ar ansawdd y profiad a bod yn rhwystr rhag datblygu cyfleoedd creadigol newydd ar gyfer pobl o bob gallu ac yn ystod pob cam allweddol o’u bywyd. Drwy ddatblygu dulliau cydweithredol ac arloesi wrth ddod â phobl a sefydliadau at ei gilydd, gall y rheini sy'n cael y budd mwyaf chwarae rôl weithredol i sicrhau bod seilwaith mynediad y dyfodol yn diwallu eu hanghenion.
  • Cymunedau sydd yn y sefyllfa orau i lunio a deall blaenoriaethau a chyfleoedd lleol, a dod o hyd i atebion ymarferol sy'n dod â'r buddion mwyaf eang. Helpu i ddatblygu adnoddau o fewn ffiniau'r awdurdodau lleol i ymgysylltu â’r gymuned a gwirfoddoli i gefnogi’r gwaith o gyflwyno Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy (hawliau tramwy a llwybrau a hyrwyddir) a rheoli eu mannau gwyrdd lleol eu hunain yn gynaliadwy.
  • Cefnogi ymwybyddiaeth gymunedol, cefnogi pobl a chymunedau i helpu eu hunain, e.e. ymwybyddiaeth o'u hamgylchedd lleol a'r mannau gwyrdd hygyrch sydd ar gael a materion allweddol eraill fel llygredd, tipio anghyfreithlon a bywyd gwyllt. Helpu cymunedau i ddeall ac ymateb i newid, e.e. newid hinsawdd a llifogydd.
  • Mae cefnogi ymagweddau creadigol at ddiwydiannau cefn gwlad a chyflogaeth/ennill bywoliaeth yng nghefn gwlad yn gysylltiedig â mynediad cynaliadwy a chyfleoedd hamdden. Creu'r cysylltiadau ag eraill i feithrin cyfleoedd cynaliadwy i fusnesau, lle maent yn ystyried cynaliadwyedd amgylcheddol a bod hyn wrth wraidd eu model busnes.
  • Datblygu fforwm ar gyfer darparu a rhannu cyngor, arweiniad a dysgu. Cydweithio’n fwy cydlynol (preifat, cyhoeddus ac elusennau) i ddatblygu cyfleoedd arloesol a chynaliadwy ar gyfer mynediad a hamdden.

Mynediad i fannau glas a gwyrdd (parciau, gerddi, mannau gwyrdd trefol, coetiroedd amwynder, afonydd a dŵr mewndirol, gwlyptiroedd a chorsydd, mynyddoedd, rhostiroedd a gweunydd, arfordiroedd a thraethau)

  • Deall pa gyfleoedd, materion a rhwystrau sy’n bodoli i gael mynediad i dir a dŵr a sicrhau bod pobl yn elwa ar gyfleoedd lleol o ansawdd ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
  • Mae pobl yn cael y cyfle i ddysgu am, ac i ddeall, eu hamgylchedd lleol a thu hwnt a’r gwahanol weithgareddau sy’n digwydd yno, e.e. ffermio, coedwigaeth, tyfu bwyd, a'r cysylltiadau rhwng tir, iaith a diwylliant.
  • Cydweithio i sicrhau bod pawb yn deall y budd y gall amgylchedd iach ei roi i gymdeithas, a chael negeseuon cydgysylltiedig a chlir am hyn ac am gyflwr yr amgylchedd. Gall bod yn yr awyr agored ymysg natur ailgysylltu pobl â’u hamgylchedd lleol mewn modd creadigol er mwyn gwella iechyd corfforol a meddyliol, hyder a hunan-barch.
  • Mae presgripsiynu cymdeithasol a chyfleoedd gwirfoddoli yn yr awyr agored yn helpu i gysylltu pobl â'u hamgylchedd naturiol lleol.
  • Mae llawer o fuddiannau'n gysylltiedig â chreu coetir amwynder cymysg wedi’i leoli’n briodol (storio carbon, rheoli perygl llifogydd yn naturiol, ansawdd dŵr, lliniaru llygredd sŵn ac aer, amrywiaeth y rhywogaethau, sgiliau cefn gwlad, swyddi a hamdden, a gall helpu i gyfrannu at iechyd a llesiant). Bydd cynnwys pobl yn y gwaith o leoli, cynllunio a rheoli coetir amwynder yn sicrhau ei fod yn diwallu anghenion cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol a helpu pobl i ailgysylltu â natur. Er enghraifft, ei ymgorffori fel rhan o fesurau lliniaru cynllunio yn ogystal â bod yn rhan o fentrau posibl y Goedwig Genedlaethol / y Grant Buddsoddi mewn Coetir.
  • Cynnydd yng nghyfranogiad y gymuned a mynediad gwell i dir a reolir gan CNC a phartneriaid cyhoeddus a thrydydd sector eraill.

Cysylltiadau addysgol

  • Sicrhau ein bod yn creu cyfleoedd ar gyfer addysg ffurfiol ac anffurfiol er mwyn i gymunedau gael gwell cysylltiad â’u hamgylchedd lleol, a gwell dealltwriaeth ohono a phwysigrwydd gwytnwch amgylcheddol mewn ymateb i newid hinsawdd a phwysau dynol.
  • Sicrhau bod sgiliau a chrefftau traddodiadol cefn gwlad yn cael eu cynnal – gan sicrhau amrediad o gyfleoedd ymgysylltu lleol ar gyfer addysg ffurfiol ac anffurfiol a dysgu gydol oes.

Cyfathrebu â phobl

  • Cyfathrebu mewn perthynas â gweithgareddau, digwyddiadau a lleoliadau lle gall pobl ymgysylltu â byd natur, e.e. trwy brosiectau partneriaeth a'r cyfryngau cymdeithasol.
  • Cyrchu cyfleoedd i gydweithredu ar gyfer cyfathrebu a hyrwyddo yn lleol a thu hwnt fel y bo’n briodol.
  • Cefnogi a hyrwyddo cadwyni cyflenwi lleol fel bod y cyhoedd a phob busnes a sefydliad lleol yn cyrchu cynhyrchion sydd wedi'u cynhyrchu'n lleol.
  • Gweithio gyda thechnoleg ddigidol a phrofiadau rhithwir fel ffyrdd arloesol o gysylltu pobl.

Dealltwriaeth amgylcheddol well

  • Cydweithio i sicrhau bod pawb yn deall y budd y gall amgylchedd iach ei roi i gymdeithas, a chael negeseuon cydgysylltiedig a chlir am hyn ac am gyflwr yr amgylchedd.
  • Gweithio i sicrhau bod cymunedau’n cael ymdeimlad o gyswllt â’u hamgylchedd naturiol ac yn teimlo wedi’u grymuso a bod ganddynt rôl weithredol yn y modd y caiff ei reoli.

Llesiant

  • Gweithio gyda byrddau iechyd a thirfeddianwyr i helpu i hwyluso cyfleoedd ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol, atgyfeiriadau gan feddygon, a gwirfoddoli.
  • Gwella iechyd a llesiant cleifion, staff a chymunedau trwy gynyddu mynediad i fannau gwyrdd ar dir y GIG neu gerllaw iddo, e.e. Coedwig NHS.

Sicrhau cynllunio datblygiadau yn strategol er mwyn sicrhau cyfleoedd ar gyfer teithio llesol cynaliadwy, gyda chysylltiadau â mannau gwyrdd lleol wedi’u dylunio a'u cynnwys mewn datblygiadau newydd

  • Mae angen i ddatblygiadau newydd ystyried arloesi gwyrdd yn eu dyluniadau tai a, lle y bo'n briodol, ymgorffori mannau gwyrdd a rennir, gerddi digonol a/neu randiroedd lleol.
  • Dylai cynlluniau datblygiadau newydd hefyd gysylltu â mannau gwyrdd a glas, gan gynnwys parciau lleol, yr arfordir, afonydd, llynnoedd, rhandiroedd a chefn gwlad ehangach. Bydd cynnwys pobl yn y gwaith o gynllunio mannau gwyrdd newydd a chysylltiadau trafnidiaeth werdd fel rhan safonol o'r broses o gynllunio datblygiadau newydd hefyd yn helpu i sicrhau bod hamdden a'r buddion iechyd cysylltiedig yn dod yn rhan annatod o fywyd bob dydd, e.e. cerdded i'r ysgol a chymudo gwyrdd.
  • Gwella cyfleoedd a’r gwaith o reoli trafnidiaeth werdd megis llwybrau beicio a llwybrau diogel sy’n cysylltu pobl â pharciau, gerddi, ysgolion, mannau cyhoeddus, traethau, glan y môr a chefn gwlad ehangach mewn ffordd y gall pobl o bob oed a gallu gael mynediad atynt.
  • Datblygu rhwydwaith o lwybrau ar gyfer nifer o ddefnyddwyr sy'n cysylltu cymunedau.

Tynnu sylw at lwyddiannau – yn ddiweddar nodwyd Llyn Parc Mawr yn Niwbwrch fel ystafell ddosbarth awyr agored wedi'i hariannu, sydd wedi'i hadeiladu gan ddefnyddio pren lleol a chyda swyddog Ysgolion Coedwigoedd yn cael ei gyflogi i ymgysylltu ag ysgolion lleol. Dylid gwerthuso ac archwilio'r potensial i ailadrodd hyn mewn cymunedau eraill, gyda phwyslais yn benodol ar annog rhannu a dysgu rhwng cenedlaethau. Amlygwyd y Prosiect Ffeniau am Byth hefyd fel enghraifft dda o archwilio cyfle gan bartneriaid i sicrhau bod pobl yn deall pwysigrwydd newid diwylliannol ac ymddygiadol drwy ddull gwell o reoli cynefinoedd a mynediad gwell at ffeniau Ynys Môn. 

Sut olwg fyddai ar lwyddiant?

Byddwn yn gweithio gyda'r themâu ‘Ffyrdd o weithio’ ac ‘Ailgysylltu pobl â natur’ i ddatblygu ffyrdd o fesur llwyddiant mewn cydweithrediad â fforymau asesu lleol, Fforwm Eryri, a phartneriaethau lleol eraill. Bydd pob un o'r cyfleoedd a nodir isod ond yn cael eu cefnogi mewn lleoliadau amgylcheddol briodol. Mae rhanddeiliaid wedi dweud wrthym y dylai llwyddiant go iawn gael ei brofi gan gymunedau ar draws yr ardal gyfan yn y ffyrdd canlynol:

  • Cyfleoedd mynediad a hamdden awyr agored ar gyfer pobl o bob gallu ac ar bob cam o’u bywyd sy’n agos at ble maent yn byw a gweithio ac sy'n cynnig dewisiadau hygyrch

  • Ailgysylltu pobl â’u hamgylchedd lleol mewn modd creadigol er mwyn gwella eu hiechyd corfforol a meddyliol, hyder a hunan-barch

  • Gweithio mewn partneriaeth er mwyn sicrhau bod pawb yn deall buddion amgylchedd iach ar gyfer cymdeithas

  • Negeseuon cydgysylltiedig a chlir ynghylch cyflwr yr amgylchedd a'r budd y mae'n ei ddarparu

  • Cyfranogiad cymunedol uwch a mynediad gwell i goetir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac eraill wrth sicrhau bod cymunedau yn ymwneud yn fwy â'r broses o wneud penderfyniadau fel eu bod yn cyflawni buddion llesiant ar gyfer mwy o bobl

  • Mae cymunedau’n cael ymdeimlad o gyswllt â’u hamgylchedd naturiol ac yn teimlo wedi’u grymuso a bod ganddynt rôl weithredol yn y modd y caiff ei reoli. Er enghraifft, mapio'r hyn sy’n digwydd o fewn cymunedau yn barod, deall beth yw'r bylchau mewn darpariaeth a chyfleoedd posibl yn ogystal â nodi'r hyrwyddwyr cymunedol sy'n gallu annog camau gweithredu

  • Mwy o orchudd coetir cynhenid a chymysg newydd a mynediad i’r cyhoedd yn yr amgylchedd ehangach, ar ffermydd, yn y dirwedd wledig ac o amgylch ardaloedd trefol

  • Sicrhau cyfleoedd i gysylltu â'r amgylchedd lleol ar gyfer addysg ffurfiol a dysgu gydol oes, gyda phwyslais ar ddeall yr amgylchedd lleol a sut i'w ddefnyddio a chael mynediad ato mewn modd diogel

  • Mynediad at fannau gwyrdd lleol, parciau a gerddi gan bob oedran gan ddarparu eisteddleoedd ffurfiol ac anffurfiol, ffynhonnau dŵr, toiledau, parcio ar gyfer yr anabl, a chysgod

  • Datblygu cyfleoedd hamdden a mynediad cynaliadwy at ddŵr megis: pysgota, nofio gwyllt a chanŵio

  • Cynnwys y bobl a fyddai'n defnyddio ac yn elwa ar welliannau i lwybrau beicio a datblygu llwybrau defnyddwyr amrywiol

  • Cyfleusterau yn diwallu anghenion pobl leol o bob oedran yn agos at ble maen nhw'n byw a gweithio

  • Awdurdodau lleol a sefydliadau partner yn gweithio i sicrhau bod Datganiadau Ardal yn rhan o'u gwaith cynllunio a datblygu mewn perthynas â Chynlluniau Datblygu Gwledig a Chynlluniau Datblygu Lleol. Datblygu dulliau ar y cyd i sicrhau nad yw datblygiadau newydd yn cael effaith negyddol ar lwybrau teithio llesol a'u bod yn darparu ar gyfer yn gynaliadwy, ac yn annog, gwelliannau i’r gwaith o ddatblygu cyfleoedd mynediad fel rhan o'r cynllun

  • Defnyddio offer dehongli ac offer ymgysylltu lleol arloesol, sy'n ymgorffori pwysigrwydd yr amgylchedd naturiol mewn modd effeithiol ac yn ennyn gwell dealltwriaeth ohono

  • Gweithio mewn partneriaeth er mwyn casglu ein holl ddata, gwybodaeth ac astudiaethau achos mewn un lle hygyrch e.e. porth Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy Cyfoeth Naturiol Cymru a chyfleoedd ar gyfer defnyddio gwyddoniaeth dinasyddion sy'n briodol. Rydym am weithio ar y cyd i ganfod beth sydd angen i ni ei wybod er mwyn datblygu’r thema hon, gan gynnwys nodi ymchwil gydweithredol er mwyn ateb cwestiynau sy'n cael eu gofyn

  • Mae angen gwaith pellach i gasglu data a datblygu dull cyson o fesur cynnydd tuag at lwyddiant. Bydd y gwaith hwn yn cael ei ddatblygu gyda'n grwpiau ffocws ar themâu (gweler y camau nesaf) ac ymgynghori ehangach

Pwy fyddai'n cael budd o hyn?

Mae dull Datganiad Ardal gogledd-orllewin Cymru yn ystyried y buddion ar gyfer bywyd gwyllt a phobl o bob oedran a chefndir economaidd-gymdeithasol. Mae ardal gogledd-orllewin Cymru yn cynnwys ardaloedd sydd dan anfantais yn economaidd. Gall mynediad gwell i fannau cyhoeddus, bywyd gwyllt a choetiroedd lle bo hynny'n briodal helpu i hybu iechyd, llesiant a gwella cyfleoedd ar gyfer addysg a gwaith.

Gall llwybrau mynediad llinol greu ymylon a chynefinoedd coridor newydd ar gyfer bywyd gwyllt, gan gynyddu cysylltiadau ar gyfer pobl a bywyd gwyllt. Bydd ymgysylltu pobl â'u hamgylchedd lleol yn greadigol yn sicrhau bod cyfleoedd mynediad yn diwallu anghenion y rheini fyddai'n cael y budd mwyaf ohonynt.

Trwy ein hymgysylltiad, mae rhanddeiliaid wedi rhoi dealltwriaeth dda i ni o'u blaenoriaethau er mwyn dechrau datblygu'r thema hon, ond rydym yn gwybod bod angen datblygu hyn ymhellach drwy grwpiau ffocws cyn ei phrofi a'i hehangu o fewn y gymuned ehangach wrth i ni roi ein syniadau ar waith ar y cyd.

Gyda phwy rydym wedi gweithio hyd yn hyn?

  • Anfonwyd gwahoddiadau i fwy na 450 o bobl ac yn ystod y tri gweithdy a gynhaliwyd, mynychodd 100 o bobl a chyfrannu at y trafodaethau. Rydym wedi datblygu'r thema yn y digwyddiadau hynny ac rydym wedi bod yn ceisio defnyddio ffyrdd gwahanol o gyfathrebu â rhanddeiliaid i annog cyfranogiad a diddordeb parhaus yn y Datganiad Ardal lleol

  • Cynhaliwyd ail rownd o weithdai rhwng mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2019 er mwyn adeiladu ar y trafodaethau blaenorol. Rydym hefyd wedi siarad â phartneriaid a gwrando ar eu syniadau ac adborth gan gynnwys: cyfarfodydd Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, cyfarfodydd undebau ffermwyr a gweithdai'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus er mwyn helpu i ddatblygu cynnwys y themâu

  • Anfonwyd mwy na 500 o wahoddiadau ar gyfer yr ail rownd o weithdai ym mis Tachwedd / mis Rhagfyr 2019 gyda mwy na 100 o bobl yn mynychu

  • Cynhaliwyd cyfres o weithdai ar-lein ym mis Tachwedd a Rhagfyr 2020, lle’r oedd trafodaethau'n canolbwyntio ymhellach ar bob thema.

Beth yw'r camau nesaf?

Byddwn yn datblygu'r weledigaeth ardal gyfan ar gyfer y thema hon gyda rhanddeiliaid– gyda chylch gwaith a chynrychiolaeth eang. Byddwn yn nodi partneriaid posibl ac unigolion/grwpiau â diddordeb, bylchau mewn gwybodaeth, a chysylltiadau â strategaethau a chynlluniau gweithredu lleol, megis Cynlluniau Datblygu Lleol, cynlluniau Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, asesiadau llesiant y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, a Chynlluniau Gwella Hawliau Tramwy.

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd yn ystod y digwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid (allanol, mewnol, gyda phartneriaid fel yr Awdurdod Parc Cenedlaethol) i lywio'r gweithgareddau a dylanwadu ar gynlluniau sefydliadol.

Ar gyfer pob thema, bydd angen i ni adolygu'r wybodaeth a'r data sydd gennym hyd yn hyn, penderfynu ar y bobl y byddwn yn siarad â nhw nesaf, chwilio am ddamcaniaethau newid, nodi rhwystrau a sut i’w goresgyn, ac archwilio cyfleoedd am gamau gweithredu priodol. Bydd y Datganiad Ardal yn iterus ac yn newid ac yn datblygu dros amser.  Bydd grwpiau'n gyfrifol am benderfynu pryd y bydd angen i gynlluniau newid a phwy fydd eu hangen i gymryd rhan yn y broses honno.

O hyn, byddwn yn gallu ennyn diddordeb ac ymgysylltu â grŵp ehangach o randdeiliaid y tu hwnt i'r sector amgylcheddol ehangach mewn ffordd wedi’i thargedu a chyda ffocws cryfach ar gynnwys ac ymgysylltu â grwpiau ac unigolion lleol.  Gallai hyn arwain at amrywiaeth o ddulliau gweithredu, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol, y cyfryngau traddodiadol, cyfarfodydd cymunedol, sesiynau galw heibio a chryfderau ein partneriaid, fel ein bod i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i gyflawni gweledigaeth ac uchelgeisiau'r Datganiad Ardal.

 

Pobl yn cerdded ar hyd promenâd Llandudno

Sut mae'r hyn rydym wedi'i gynnig yn helpu i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy?


Bydd gwella gorchudd coetir cynhenid cymysg yn agos at ble mae pobl yn byw a gweithio yn helpu i wrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth a darparu buddion o ran cysylltiad cynefinoedd coetiroedd. Mae coetiroedd a choedwigoedd yn dda ar gyfer bywyd gwyllt, maent yn helpu i leihau llygredd sŵn ac maent o fudd i ansawdd aer.

Gall plannu coed trefol o fewn datblygiadau newydd ac mewn parciau a gerddi fod yn fodd cost-effeithiol o fynd i'r afael ag ansawdd aer sy'n dirywio a thymereddau trefol sy'n codi.

Bydd cynnwys neu ymgorffori mynediad i gefn gwlad fel rhan o fywyd beunyddiol drwy annog teithio llesol a chynnwys mannau gwyrdd mewn cynlluniau datblygiadau yn helpu i leihau'r defnydd o geir, tagfeydd a llygredd carbon, gan wneud ein cymunedau yn fwy diogel ac yn fannau mwy dymunol i fyw ynddynt.

Gall mynediad at fannau gwyrdd wneud cyfraniad sylweddol at iechyd corfforol a meddyliol poblogaeth gogledd-orllewin Cymru. Gall rhwydweithiau llwybrau hygyrch, parciau, gerddi a chefn gwlad yn ehangach chwarae rôl bwysig i wella iechyd a llesiant. Gall Teithio Llesol a llwybrau diogel i'r ysgol helpu i sicrhau bod mynediad at yr amgylchedd naturiol yn dod yn rhan o fywyd beunyddiol.

Sut all pobl gymryd rhan?


Rydym yn croesawu cyfleoedd i’r cyhoedd gysylltu â ni ar unrhyw gam o'r broses Datganiad Ardal. Rydym yn bwriadu cynnal sesiynau galw heibio a gweithdai yn y gymuned yn ystod 2020 er mwyn ein helpu i ddatblygu ymchwil, ystyried cyfleoedd ac i sôn wrthym am eich syniadau am y gymuned gan ystyried sut y gallant gael eu hariannu.

Ceir hefyd ffurflen adborth a chyfeiriad e-bost: northwest.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk pe byddech am ysgrifennu atom gyda'ch syniadau ar gyfer datblygu camau gweithredu o dan y thema hon..

I helpu fel hwyluswyr y broses hon, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud y canlynol:

  • Gweithio ar rai agweddau ar y sgyrsiau a ddeilliodd o ymgysylltu â rhanddeiliaid y Datganiad Ardal a nododd gyfleoedd a heriau i dreialu gwahanol ddulliau gweithredu a datblygu ffyrdd newydd o weithio.

Rhowch wybod

A ddaethoch o hyd i'r hyn yr oeddech yn edrych amdano?
Ble mae angen eglurhad pellach arnoch chi?
Beth ydych chi'n ei feddwl am ein hasesiad o'r risgiau, blaenoriaethau, a'r cyfleoedd yn yr Ardal hwn?
Oes rhywbeth ar goll? Sut allwn ni eu gwella?
Sut allech chi fod yn rhan o hyn?
Hoffech chi gael ateb?
Eich manylion

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf