Adar gwyllt: y gyfraith a thrwyddedu yng Nghymru
Y ddeddfwriaeth sy’n gwarchod adar gwyllt a’r mathau o drwyddedau a gyhoeddir gennym.
Y gyfraith sy’n gwarchod adar
Mae pob aderyn gwyllt, eu nythod a’u hwyau wedi’u gwarchod gan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, gan gynnwys eu safleoedd bridio a’u mannau gorffwys.
Mae’n drosedd gwneud y canlynol yn fwriadol:
- lladd, niweidio neu gymryd unrhyw aderyn gwyllt
- cymryd, difrodi neu ddinistrio nyth unrhyw aderyn gwyllt wrth iddo gael ei ddefnyddio neu ei adeiladu (mae nythod eryrod euraid, eryrod y môr neu weilch y pysgod yn cael eu gwarchod drwy gydol y flwyddyn)
- cymryd neu ddifa wy aderyn gwyllt
Mae hefyd yn drosedd meddu’n anghyfreithlon ar:
- unrhyw aderyn gwyllt byw neu farw, neu unrhyw ran neu unrhyw beth sy’n deillio o aderyn o’r fath
- wy unrhyw aderyn gwyllt, neu unrhyw ran o wy o’r fath
Adar â gwarchodaeth ychwanegol
Mae gan adar a restrir yn Atodlen 1 warchodaeth ychwanegol.
Mae’n drosedd aflonyddu’n fwriadol neu’n ddi-hid ar y canlynol:
- aderyn Atodlen 1 wrth iddo adeiladu nyth, neu os ydyw mewn, ar neu ger nyth sy’n cynnwys wyau neu gywion; neu
- cywion dibynnol aderyn Atodlen 1
Trwyddedau rydyn ni’n eu cyflwyno
Gallwn roi trwyddedau at ddibenion penodol, er mwyn i chi ymgymryd â’r weithred berthnasol heb dorri’r gyfraith.
Rydym yn cyflwyno dau fath o drwydded sy’n awdurdodi gweithgareddau penodol sy’n effeithio ar adar gwyllt:
Diweddarwyd ddiwethaf