Investing in trees for the future creates attractive places for people – delivering economic, social and environmental benefits

Manteision i bawb

Mae coed yn elfen hanfodol o’n seilwaith gwyrdd trefol, yn cyflawni pob math o wasanaethau i helpu i gynnal bywyd, hyrwyddo lles a chefnogi buddiannau economaidd.

Mae Barn y Cyhoedd ynghylch Arolwg Coedwigoedd 2017 Cymru (gwefan y Comisiwn Coedwigaeth) yn dangos bod pobl yn defnyddio ac yn trysori coetiroedd a choed trefol mewn nifer o ffyrdd gwahanol.

Fe’u gwelwn o’n cwmpas ym mhobman, ar dir cyhoeddus a phreifat, ar hyd strydoedd, ffyrdd ac afonydd. Fe’u gwelwn mewn ardaloedd dinesig, ardaloedd siopa a busnes, mewn parciau, mynwentydd, ysgolion ac yng ngerddi cartrefi. Mae yna hyd yn oed goetiroedd trefol.

Coetiroedd i Gymru

Yn Coetiroedd i Gymru, mae Llywodraeth Cymru’n datgan ei nod i sicrhau fod coed a choetiroedd yn chwarae rhan fwy ac yn cael eu gwerthfawrogi’n fwy mewn trefi a dinasoedd. Bydd hyn gwella ansawdd bywyd ac amgylchedd pobl sy’n byw mewn ardaloedd trefol.

Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac eraill i hyrwyddo coed trefol fel prif elfen mewn Seilwaith Gwyrdd. Rydym yn hyrwyddo dulliau sy’n esgor ar amryfal fuddiannau lles i bobl.

Gorchudd coed yn nhrefi a dinasoedd Cymru

Mae’r astudiaeth hon gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn ein helpu ni i gyd i ddeall mwy am y gorchudd coed yn ein cymunedau fel y gallwn gynllunio a rheoli’r adnodd anhygoel hwn yn well. Dyma’r tro cyntaf i wlad gofnodi’r cyfan o’u gorchudd canopi trefol.

Gallwch ddarganfod lle mae’r gorchudd coed ar ei uchaf a’i isaf ar draws trefi a dinasoedd Cymru. Gweld sut mae cymeriad y tirwedd, cymdogaethau llewyrchus a llai llewyrchus a defnydd tir i gyd yn dylanwadu ar hyd a lled y gorchudd canopy.

Gallwch edrych ar enghraifft dda o gynllun coed a choetir trefol, wedi ei chynhyrchu gan Gyngor Sir y Fflint.

Edrychwch ar y crynodeb neu darllenwch yr adroddiad llawn.


Gallwch ofyn am adroddiad cryno ar ein diweddariad data o 2017-18.

Gallwch lawrlwytho’r data mapio i’w ddefnyddio yn eich meddalwedd eich hun. Byddai chwiliad am “Urban Tree” yn cael canlyniadau o bob un o’n harolygon, o 2006, 2009, 2013 a 2018.

i-Tree Eco

Mae coed trefol yn ffynhonnell werthfawr o wasanaethau ecosystem mewn trefi a dinasoedd, yn darparu atebion cost effeithiol i nifer o’r problemau amgylcheddol sy’n wynebu cymdeithas drefol. Mae mesur y gwasanaethau y mae coed yn eu darparu wrth wella ansawdd aer lleol, dal a storio carbon a lleihau llifogydd yn dangos y buddiannau ariannol sylweddol a ddaw gan goed flwyddyn ar ôl blwyddyn. Darganfyddwch fwy am bwysigrwydd coed trefol i gymdeithas yn achos Pen-y-bont Ar Ogwr, Wrecsam a Dalgylch Tawe. 

Darllenwch am y canfyddiadau yr astudiaethau i-Tree Eco ar gyfer Bwrdeistrefi Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Wrecsam ac ar gyfer Abertawe a Dalgylch Tawe

Prosiect Coed y Dreftadaeth Naturiol

Wnaethom gefnogi Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched (SYM) yng Nghymru i sefydlu prosiect dwy flynedd wedi'i ariannu gan Loteri Treftadaeth i Ddiogelu, Gwarchod a Phlannu Coed Trefol.

Mae'r prosiect yn mynd i galon cymunedau lleol ledled Cymru drwy roi’r pŵer i aelodau SYM i weithredu fel hyrwyddwyr coed yn eu hardal leol. Mae'r prosiect yn helpu aelodau i arolygu, arsylwi, diogelu ac ymgysylltu â chymunedau wrth blannu coed a monitro parhaus. Maent hefyd yn codi ymwybyddiaeth o werth coed i'r cyhoedd yn gyffredinol.  Cewch fwy o wybodaeth o SYM.

Coed Aber

Troi gweledigaeth am goed yn realiti.

Mae’r gyd-fenter hon yn Aberystwyth wedi cyfuno ein brwdfrydedd ac arbenigedd gyda Chyngor Sir Ceredigion, Grŵp Aberystwyth Gwyrddach a Bwrdd Adfywio Aberystwyth i gyflawni prosiect tair blynedd gwerth £375,000. Mae’r brif ffordd i mewn i’r dref wedi cael ei thrawsnewid gyda choed, i wella bywydau pobl a denu buddsoddiad busnes.

Dysgwch fwy, ynghyd â manylion y plannu arloesol Parcio a Theithio, yng nghanllaw Grŵp Gweithredu Coed a Dylunio, Trees in Hard Landscapes.

Gallwch chi hefyd wylio’r fideo a gomisiynwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru i helpu i roi cychwyn i’r weledigaeth.

Grŵp Gweithredu Coed a Dylunio – y Trees and Design Action Group

Ewch i wefan y Trees and Design Action Group i weld dwy ddogfen ganllaw ddiweddar:

  • Mae Trees in the Townscape: A Guide for Decision-Makers yn darparu 12 egwyddor arfer gorau er mwyn sicrhau bod ein trefi a’n dinasoedd yn mabwysiadu agwedd unfed ganrif ar hugain, lle mae coed yn hanfodol ar gyfer gwneud i leoedd weithio, edrych a theimlo’n well.

  • Mae Trees in Hard Landscapes: A Guide for Delivery yn ymchwilio i heriau ac atebion ymarferol cyfuno coed i strydoedd, mannau dinesig a meysydd parcio’r unfed ganrif ar hugain, gan fanylu ynghylch dewisiadau prosesu, cynllunio a thechnegol.

Cysylltu â ni

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: urbantrees@naturalresourceswales.gov.uk

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Coed Trefol Wrecsam Hydref 2016 PDF [1.2 MB]
Coed Trefol Abertawe a Tawe Hydref 2016 PDF [725.6 KB]
Urban Green infrastructure and ecosystem services Saesneg yn unig PDF [552.1 KB]
Diweddarwyd ddiwethaf