Carbon, coed a choedwigoedd
Mae yna ddwy ffordd o leihau lefel y carbon deuocsid yn yr atmosffer. Gallwn leihau'r swm rydyn ni'n ei gynhyrchu neu gallwn ddatblygu ffyrdd o'i ddal a'i storio. Mae gan goed y gallu unigryw i wneud y ddau beth.
Coedwigoedd a newid yn yr hinsawdd
Mae coedwigoedd yn ein helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd trwy leihau swm y nwyon tŷ gwydr sydd yn yr atmosffer. Maen nhw'n gwneud hyn trwy amsugno carbon deuocsid (CO2). Maen nhw'n defnyddio'r carbon (C) i gynhyrchu siwgrau er mwyn i'r coed dyfu ac maen nhw'n rhyddhau'r ocsigen (O2) yn ôl i'r aer.
Wrth i'r coed dyfu, maen nhw'n storio carbon yn eu dail, eu brigau a'u boncyffion, a hefyd yn y pridd o'u hamgylch. Mae gan Adnodd Coedwigoedd Cymru rôl bwysig i'w chwarae, nid yn unig yn y gwaith hwn o ddal a storio carbon, ond hefyd yn darparu pren a chynhyrchion pren yn lle cynhyrchion eraill fel concrit a dur.
Addasu i newid yn yr hinsawdd
Mae Adnodd Coedwigoedd Cymru a'r miliynau o goed yn ein parciau, ein gerddi, ein trefi a'n tirwedd ehangach yn chwarae rôl bwysig trwy ein helpu i ymaddasu i effeithiau newid yn ein hinsawdd. Rhaid i ni sicrhau bod ein coed ac Adnodd Coedwigoedd Cymru yn gallu ymateb ac ymaddasu i'r newid hinsoddol sy'n cael ei rag-weld.
Gweithredu allweddol ar gyfer y dyfodol Mae yna chwe cham allweddol y gallwn eu gweithredu er mwyn diogelu’r hyn sydd gennym. Bydd y rhain yn sicrhau ein bod yn ymaddasu i'r bygythiadau a'r cyfleoedd newydd a fydd yn dod yn sgil newid yn yr hinsawdd a'n bod hefyd yn parhau i gynnal ac ehangu ar adnoddau coedwigoedd a choetiroedd cynaliadwy:
- Diogelu'r hyn sydd gennym eisoes
- Lleihau datgoedwigo
- Adfer gorchudd coed y byd
- Defnyddio pren ar gyfer ynni
- Defnyddio pren yn lle deunyddiau eraill
- Cynllunio i ymaddasu i'r newid yn ein hinsawdd
Cael gwybod rhagor
Gallwch gael gwybod rhagor trwy ddilyn y dolenni. Mae tudalennau newid hinsawdd y Comisiwn Coedwigaeth yn rhoi'r holl wybodaeth a thystiolaeth ddiweddaraf sy'n berthnasol i rôl coedwigaeth yng nghyd-destun y byd a'r Deyrnas Unedig. Gallwch wylio'r fideo A Convenient Truth sy'n gyflwyniad ardderchog i'r pwnc, ac archwilio'r adnoddau cyfathrebu a dysgu sy'n cael eu darparu.
Gellir gweld buddsoddiad y Deyrnas Unedig a Chymru ar gyfer gwella ein sail tystiolaeth a'n gwybodaeth trwy ymweld â'n tudalennau ymchwil i goedwigaeth a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
Gweithredu yng Nghymru
Yma yng Nghymru rydyn ni'n mynd i'r afael ag allyriadau nwyon tŷ gwydr trwy hyrwyddo rôl creu coetiroedd newydd yn y lleoedd iawn. Rydyn ni hefyd yn hyrwyddo defnyddio pren a chynhyrchion pren yn lle deunyddiau adeiladu carbon-gyfoethog (sy'n cloi carbon yn yr hirdymor) a'r defnydd o ffibr fel ffynhonnell ynni.
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi arloesi â chynhyrchion pren trwy 'Woodsource Wales', rhan allweddol o Bartneriaeth Fusnes Coedwig Cymru.
Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr net
Bydd creu coetiroedd newydd a dod â mwy o goetiroedd o dan reolaeth weithredol yn gwneud cyfraniad positif tuag at liniaru newid hinsoddol. Os yw coed yn cael eu cynaeafu a'u defnyddio ar gyfer adeiladu neu gynhyrchu, bydd y mwyafswm o'r carbon yn aros wedi'i gloi gydol oes y cynnyrch.
Gall carbon fod wedi'i gloi am sawl can mlynedd wrth gael ei ddefnyddio mewn cynhyrchion tebyg i drawstiau hen adeiladau neu ddodrefn. Mae rhai technegau ar gyfer rheoli coetiroedd yn fwy tebygol o sicrhau gostyngiad hirdymor mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Tyfu pren cadarn ar gyfer adeiladu a chynhyrchu
- Defnyddio pren â diamedr llai ar gyfer tanwydd coed
- Amharu llai ar y pridd
Ffyrdd eraill y gall coetiroedd helpu
Gall coed a choetiroedd helpu'n cymunedau i ymaddasu i'r newid yn ein hinsawdd Mae creu coetiroedd newydd yn y lleoedd iawn yn helpu i gyfrannu at reoli'r perygl o lifogydd a llygredd gwasgaredig.
Mae gennym gynllun dŵr â blaenoriaeth ar waith ar Ystâd Goed Llywodraeth Cymru. Mae hwn yn cynnwys 22 dalgylch sydd wedi'u blaenoriaethu ar gyfer buddsoddiad i wella safon cynefinoedd glannau afonydd a seilwaith draenio fel eu bod yn gallu ymdopi â'r mathau eithafol o dywydd y mae disgwyl i ni ei gael yn fwy aml.
Coed mewn amgylcheddau trefol
Mae cynyddu'r gorchudd coed mewn amgylcheddau trefol sy'n agos at gymunedau yn ddewis sy'n golygu bod pawb ar eu hennill. Mae yna gyswllt dwfn rhwng safon byw ac ansawdd ein hamgylchedd, ac mae gan goed a choetiroedd rôl allweddol i'w chwarae.
Ewch i ymweld â'r ddolen ar gyfer ein cyhoeddiad sy'n grynodeb o'n hastudiaeth sy'n casglu tystiolaeth ar fuddion cynyddu [Gorchudd Canopi Coed y Gymru Drefol] a'r gwaith ymarferol rydyn ni'n rhan ohono gydag awdurdodau lleol.
Gwella ein hamgylchedd
Mae coed a choetiroedd sy'n agos at y mannau y mae pobl yn byw ynddyn nhw nid yn unig yn darparu cyfleoedd ar gyfer hamdden awyr agored a gofod ar gyfer addysg ac ysbrydoliaeth, ond maen nhw hefyd yn gwella'r aer rydyn ni'n ei anadlu ac yn darparu lloches a chysgod. Yn ogystal â hyn, maen nhw hefyd yn sicrhau bod gan ein bywyd gwyllt leoedd i fridio a'u bod yn gallu dod o hyd i fwyd a gorffwys.
Rydyn ni'n gweithio'n galed i sicrhau bod y coetiroedd rydyn ni'n eu rheoli yn hygyrch, yn ddiogel ac wedi'u rheoli'n dda, gan olygu bod gennym i gyd leoedd ardderchog i ymweld â nhw.
Bygythiadau i goetiroedd
Mae coetiroedd a choed o dan fygythiad cynyddol o ganlyniad i'r newid yn ein hinsawdd. Mae'r bygythiadau hyn yn cynnwys mwy o berygl oherwydd y newid yn y dŵr sydd ar gael (gormod neu rhy ychydig), difrod gwynt ac amodau sy'n ffafriol ar gyfer plâu a phathogenau, gan felly gynyddu amlder a difrifoldeb afiechydon.
Rhaid i ni sicrhau bod ein coetiroedd presennol, yn ogystal â'r rhai a fydd yn cael eu cynllunio yn y dyfodol, yn gallu parhau i chwarae rhan yn y gwaith o leihau allyriadau carbon net.
Rhagor o wybodaeth
Gallwch ddarganfod mwy ynglŷn â sut i helpu coetiroedd i addasu i'r newid yn ein hinsawdd trwy ddilyn y dolenni ar gynllunio ar gyfer y dyfodol.
Gallwch gysylltu â Thîm Rheoli coedwigoedd a newid hinsawdd y DU trwy anfon eich ymholiad i climatechange@forestry.gov.uk.
Os hoffech gysylltu â'r Tîm Rheoli Coedwigoedd Cynaliadwy yng Nghyfoeth Naturiol Cymru, gallwch anfon eich ymholiad i sfmt@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk