Dysgwch ragor am ein rôl yn rheoleiddio a gwella ansawdd aer, a’n darpariaeth o wasanaethau cynghori ar aer, modelu ac asesu risg. 

Llygredd aer

Mae llygredd aer yn broblem leol, ranbarthol a rhyngwladol sy'n cael ei hachosi wrth allyrru llygryddion. Mae’n arwain at effeithiau negyddol ar iechyd pobl ac ar ecosystemau, naill ai’n uniongyrchol neu trwy adweithiau cemegol yn yr atmosffer. 

Ein dyletswyddau ynghylch ansawdd aer

Gellir categoreiddio ein rôl wrth ymwneud ag ansawdd aer yn fras fel cynghorydd, rheoleiddiwr a chasglwr/darparwr tystiolaeth. Mae gennym nifer o ddyletswyddau o fewn y rôl hon.

  • Rydyn ni'n sicrhau bod y cyfleusterau diwydiannol sy’n cael eu rheoleiddio gennym yn cydymffurfio â:
    • Gofynion yr UE ar Gymru a'r DU megis Cyfarwyddebau Ansawdd Aer, Cyfarwyddeb Cynefinoedd, y Gyfarwyddeb Uchafswm Allyriadau Cenedlaethol a'r Gyfarwyddeb Allyriadau Diwydiannol
    • Gofynion domestig a gofynion y DU megis Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol, Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru), Strategaeth Ansawdd Aer y DU a'r Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy
  • Rydyn ni'n cefnogi awdurdodau lleol i wella ansawdd aer lleol, sy’n cynnwys y ddarpariaeth o fodelu ansawdd aer yr amgylchedd, cyngor ac arweiniad
  • Rydyn ni'n cydlynu monitro ansawdd aer yr amgylchedd ar gyfer digwyddiadau a all gael effaith ar ansawdd aer
  • Rydyn ni'n darparu gwasanaethau modelu ansawdd aer, dadansoddi, cynghori a chyfarwyddo er mwyn cefnogi gweithgareddau trwyddedu, cadwraeth a chydymffurfedd
  • Yn gyffredinol, dydyn ni ddim yn gyfrifol am fonitro nac asesu ansawdd aer yr amgylchedd

Yr hyn yr ydyn ni’n ei wneud

Cynghori Llywodraeth Cymru

Mae ansawdd aer yn fater datganoledig, ac mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am ei pholisi a'i deddfwriaeth ei hun ar ansawdd aer. Mae llywodraeth y DU yn arwain ar ddeddfwriaeth ryngwladol ac Ewropeaidd.

Cyfoeth Naturiol Cymru yw prif gynghorydd amgylcheddol Llywodraeth Cymru. Rydyn ni'n cefnogi Llywodraeth Cymru yn ei dyletswydd i gyflawni'r terfyn ansawdd aer a'r gwerthoedd targed a osodir gan Gyfarwyddebau Ewropeaidd a rheoliadau domestig. Rydyn ni hefyd yn cefnogi ei dyletswydd i leihau effaith niweidiol llygredd aer ar iechyd pobl a'r amgylchedd. Rydyn ni'n darparu cyngor, arweiniad a thystiolaeth i Lywodraeth Cymru. 

Ein cyfraniad at Ofynion yr UE

Rydyn ni'n gweithredu terfynau llym ar allyriadau, rheolyddion a mesurau ar osodiadau sy’n cael eu rheoleiddio gennym, gyda'r nod o sicrhau nad ydyn nhw’n cyfrannu'n sylweddol at dorri un o werthoedd terfyn yr UE. Mae ein prif gyfraniad at gyflawni gwerthoedd terfyn yr UE yn cynnwys:

Cyfarwyddeb Allyriadau Diwydiannol (IED)Participants involve in the new river restoration qualification

Mae'r Gyfarwyddeb Allyriadau Diwydiannol yn mynnu bod Trwyddedau Amgylcheddol pob gosodiad yng Nghymru yn bodloni'r safonau sy'n deillio o gasgliadau'r Technegau Gorau Sydd ar Gael (BAT). Mae'r casgliadau hyn yn sefydlu pa dechnegau y mae’n rhaid eu defnyddio ac yn gosod terfynau ar gyfer rhai allyriadau.

Mae'r Gyfarwyddeb Allyriadau Diwydiannol yn berthnasol i’r gosodiadau hynny sy'n cael eu rheoleiddio gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â rhai sy'n cael eu rheoleiddio gan yr awdurdod lleol. Cafodd y Gyfarwyddeb Allyriadau Diwydiannol ei throsi i Gyfraith Cymru yn 2013, ac er mis Ionawr 2014, daeth gosodiadau cyfredol o dan reolaeth darpariaethau'r Gyfarwyddeb Allyriadau Diwydiannol.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am osodiadau ar ein tudalennau gwe:

Gwybodaeth ynghylch gosodiadau

Y Gyfarwyddeb Uchafswm Allyriadau Cenedlaethol a Phrotocol Göteborg

Mae gennym amryw o offer i'n helpu i gyflawni ein rhan o rwymedigaethau'r DU o dan Gyfarwyddeb Uchafswm yr UE a Phrotocol Göteborg. Rydyn ni'n adolygu'r llygryddion aer a ryddheir o'r safleoedd sy’n cael eu rheoleiddio gennym. Lle bo hynny'n briodol, rydyn ni'n gosod targedau lleihau blynyddol ar gyfer ein safleoedd trwyddedig er mwyn gostwng swm y llygryddion aer a ryddheir. Rydyn ni hefyd yn defnyddio'r gyfundrefn Trwyddedu Amgylcheddol i weithredu'r Technegau Gorau Sydd ar Gael (BAT), ynghyd â mesurau priodol er mwyn helpu i gyflawni'r targedau hyn.

Manylion y Gyfarwyddeb Uchafswm Allyriadau Cenedlaethol

Mae'r Gyfarwyddeb Uchafswm Allyriadau Cenedlaethol yn creu uchafswm cenedlaethol ar gyfer PM2.5, SO2, NOx, VOCs, NH3 a CH4 er mwyn gwarchod iechyd pobl ac ecosystemau. Mae PM2.5 a methan yn sylweddau newydd yn y Gyfarwyddeb. 

Byddwn yn defnyddio'r Gyfarwyddeb Allyriadau Diwydiannol ac yn gweithio gyda'r sectorau hylosgi, puro, metelau, mwynau, cemegion a ffermio dwys er mwyn cyflawni'r gostyngiadau mewn allyriannau sydd eu hangen er mwyn cyflawni'r uchafsymiau.

Cyfarwyddeb Ansawdd Aer yr Amgylchedd yr UE a 4edd Epil Gyfarwyddeb Ansawdd Aer

Mae gan rai gosodiadau y potensial i gyfrannu'n sylweddol at dorri targed neu derfyn Ansawdd Aer yr UE. Er mwyn mynd i'r afael â hyn rydyn ni'n archwilio pa welliannau sydd angen eu gwneud er mwyn bodloni'r Technegau Gorau Sydd ar Gael neu fesurau priodol, ac yn gofyn i'r gweithredwr eu sefydlu.

Ein cyfraniad at Ofynion y DU a Gofynion Domestig 

Yn debyg i ofynion yr UE, rydyn ni wedi ymrwymo i wneud ein rhan yn llawn yn y gwaith o helpu Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i gyflawni gofynion ansawdd aer domestig. Mae ein prif gyfraniad at gyflawni gofynion ansawdd aer domestig yn cynnwys:

Strategaeth Ansawdd Aer y DU (AQS)

Rydyn ni'n defnyddio'r un dull wrth ymdrin â Strategaeth Ansawdd Aer y DU ag yr ydyn ni gyda therfynau neu dargedau  Ansawdd Aer yr UE. Rydyn ni'n nodi’r hyn sydd angen ei wneud yn y safleoedd sy’n cael eu rheoleiddio gennym er mwyn sicrhau bod y safleoedd yn defnyddio'r Technegau Gorau Sydd ar Gael neu fesurau priodol.

Rheoli Ansawdd Aer Lleol (LAQM)

Mae'r broses Rheoli Ansawdd Aer Lleol yn rhoi cyfrifoldeb statudol ar awdurdodau lleol i adolygu ac asesu ansawdd aer lleol am saith llygrydd: gronynnau, nitrogen deuocsid, sylffwr deuocsid, bensen, 1,3-biwtadïen, carbon monocsid a phlwm. Os nad yw'n debygol y bydd yr amcanion ar gyfer y llygryddion hyn yn cael eu cyflawni, rhaid i'r awdurdod lleol ddatgan Ardal Rheoli Ansawdd Aer. Rhaid iddo wedyn gynhyrchu Cynllun Gweithredu er mwyn gweithio tuag at gyflawni'r amcanion ansawdd aer.

Ein perthynas ag awdurdodau lleol

Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gydag awdurdodau lleol ac i wneud ein rhan wrth Reoli Ansawdd Aer Lleol. Rydyn ni'n parhau i gytuno ag awdurdodau lleol ar welliannau i'r gosodiadau sy’n cael eu rheoleiddio gennym ac sy'n cyfrannu'n sylweddol at dorri unrhyw amcan Strategaeth Ansawdd Aer.

Rydyn ni'n darparu gwybodaeth i awdurdodau lleol sy'n nodi: 

  • allyriadau cyfredol gosodiad(au)
  • unrhyw asesiadau ar effaith yr allyriadau o'r gosodiad ar ansawdd aer lleol
  • unrhyw gynlluniau sydd eisoes wedi'u sefydlu a fydd yn gwella ansawdd aer lleol yn y dyfodol
  • unrhyw offer neu newidiadau wrth weithredu a allai wella ansawdd aer lleol
Diweddarwyd ddiwethaf