Gwaith diogelwch Llyn Tegid
Beth yw’r gwaith sy’n digwydd yn Llyn Tegid?
Mae'r gwrthgloddiau yn cael eu cryfhau fel y gallant wrthsefyll digwyddiadau llifogydd eithafol yn fwy effeithiol.
Mae'r gwrthgloddiau sydd wedi'u cynnwys yn y prosiect wedi'u lleoli ar hyd glan y llyn o Ganolfan Antur a Champau Dŵr y Bala, o amgylch y Parc Menter sy'n ffinio ag afon Dyfrdwy cyn belled â’r fan y mae'n cwrdd ag afon Tryweryn. Mae'r gwaith yn cynnwys newid yr amddiffynfeydd carreg ar hyd glannau'r llyn ac ychwanegu ysgafell fach (codi lefelau'r tir presennol y tu hwnt i waelod y gwrthgloddiau ar ochr y tir). Bydd rhaid cael gwared â rhai coed, yn bennaf coed ynn sydd wedi’u hadu eu hunain, sy'n tyfu yn y gwrthgloddiau ac yn eu gwanhau. Bydd wal gynnal newydd ger Clwb Rygbi’r Bala yn galluogi gwaith posibl i ehangu Rheilffordd Llyn y Bala i’r dref.
Byddwn hefyd yn cyflwyno nifer o fesurau lliniaru a gwella er budd yr amgylchedd a’r gymuned, gan gynnwys plannu coed a gwrychoedd, ailwampio a thirlunio’r maes parcio gorlif ar lan y llyn a’r lle eistedd y tu allan i Ganolfan Hamdden Penllyn, a’i gwneud yn haws i bobl gerdded ar hyd y llwybrau gerllaw.
Pryd ddechreuodd y gwaith ar y safle?
Dechreuodd y gwaith ar y safle yng nghanol mis Tachwedd 2021 pan sefydlodd ein contractwr ei brif gompownd i mewn i fis Rhagfyr. Yn ystod mis Ionawr a mis Chwefror 2022, rydym wedi cwblhau’r gwaith o dynnu coed a oedd wedi hunan-hadu, - coed ynn yn bennaf – sy’n tyfu yn arglawdd y glannau ac yn ei wanhau. Rydym hefyd wedi tynnu coed penodol ar hyd cefn arglawdd afon Dyfrdwy, gan lwyddo i gadw’r llwybr troed ar agor yn ystod y cyfnod hwn.
Pam fod angen cynnal y gwaith?
I sicrhau bod Llyn Tegid yn parhau i fodloni gofynion Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 ac yn aros yn ddiogel yn yr hirdymor. Mae Llyn Tegid yn cael ei reoleiddio o dan y ddeddf hon, sy'n ei gwneud yn ofynnol i archwiliadau rheolaidd gael eu cynnal gan beirianwyr archwilio cronfeydd dŵr cymwysedig. Ar sail archwiliadau yn 2014 a 2019, gwnaed rhai argymhellion statudol y mae'r cynllun hwn yn deillio ohonynt.
Pwy sy’n gwneud y gwaith?
Mae’r gwaith adeiladu’n cael ei wneud gan William Hughes Civil Engineering Ltd, un o’r contractwyr o ogledd Cymru sydd ar ein fframwaith. Mae’r gwaith tirlunio’n cael ei wneud gan gontractwr tirlunio, Ground Control. Mae cwmni ymgynghori Binnies yn darparu cefnogaeth ddylunio ac amgylcheddol arbenigol ac mae Arcadis yn darparu gwasanaethau arolygu.
Pryd fydd y gwaith yn cael ei gwblhau?
Disgwylir i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn Gwanwyn 2023; ar ôl hynny, bydd gwaith cynnal a chadw ar y tir yn parhau. Bydd rhaid cau llwybrau troed drwy gydol 2022 gan gynnwys misoedd yr haf, i gadw’r cyhoedd yn ddiogel ac i sicrhau ein bod yn cyrraedd targed y dyddiad hwn.
A fydd y prosiect yn effeithio ar y perygl o lifogydd yn y Bala?
Ni fydd y prosiect yn cynyddu'r perygl o lifogydd yn y Bala. Byddwn yn sicrhau bod gwrthgloddiau’r gronfa ddŵr yn cael eu diogelu 24 awr y dydd yn ystod y cyfnod adeiladu trwy weithredu gweithdrefnau diogelwch ar gyfer cronfeydd dŵr a rhaglennu’r gwaith yn ofalus.
Pan fydd y gwaith wedi’i gwblhau, byddwn mewn gwell sefyllfa i reoli'r perygl o lifogydd yn y Bala yn yr hirdymor ac i wella diogelwch y gwrthgloddiau. Mae'r rhain yn helpu i ddarparu amddiffyniad rhag llifogydd i'r dref ochr yn ochr â rheolau gweithredu Afon Dyfrdwy (gweler Sut mae'r broses o reoleiddio dŵr yn gweithio yn Llyn Tegid?), nad yw wedi gweld llifogydd ers y 1960au.
A fydd rhaid tynnu coed?
Yn anffodus, bydd. Mae'r gwaith yn cynnwys cryfhau'r gwrthgloddiau a gosod amddiffynfeydd carreg newydd ar lan y llyn. Drwy gydol mis Ionawr a Chwefror 2022, rydym wedi tynnu oddeutu 290 o goed (coed ynn sydd wedi eu hadu eu hunain yn bennaf) sydd wedi ymsefydlu yn y gwrthgloddiau a'u gwanhau. Rydym wedi diogelu’r coed iachaf a mwyaf gwerthfawr lle mae modd inni weithio o’u cwmpas. Fel rhan o’r cyfnod cyntaf o waith plannu ym mis Mawrth 2022, byddwn yn plannu mwy o goed na’r nifer a fydd yn cael eu torri – oddeutu tair coeden am bob un a gaiff ei thorri.
Faint o aflonyddwch sy’n debygol?
Oherwydd y gwaith peirianneg sylweddol, mae rhannau o lwybrau cerdded yn dal ar gau dros dro i gadw’r cyhoedd yn ddiogel drwy gydol 2022. Mae arwyddion wedi’u gosod ar gyfer llwybrau cerdded eraill. Bydd yna hefyd draffig adeiladu o ganlyniad i'r gwaith a gallai rhai gweithrediadau gynnwys gweithgareddau swnllyd. Mae compownd y contractwr wedi cael ei leoli o fewn y gymuned er mwyn helpu i reoli symudiadau. Bydd mesurau rheoli traffig unffordd yn cael eu rhoi ar waith ar hyd Stryd Tegid yn ystod misoedd yr haf.
Mae’r gwaith adeiladu’n cael ei reoli er mwyn sicrhau cyn lleied o anghyfleustra â phosib i’r gymuned leol. Lle bo modd, mae’r gwaith yn cael ei gyflwyno'n raddol ac rydym yn ymgynghori â rhanddeiliaid yr effeithir arnyn nhw ymlaen llaw. Mae’r contractwr yn gyfrifol am gadw ei safleoedd yn ddiogel bob amser yn cynnwys ar benwythnosau. Mae hyn yn golygu gosod ffensys ac mae’n bosib y bydd cerbydau’r contractwr i’w gweld, a gallai hynny gael effaith dros dro ar harddwch yr ardal.
Sut ydych chi'n ystyried ansawdd eithriadol amgylchedd y llyn a'r tir o’i amgylch?
Lleolir Llyn Tegid ym Mharc Cenedlaethol Eryri ac mae'r gwrthgloddiau o fewn ardaloedd amgylcheddol sensitif o bwysigrwydd rhyngwladol. Mae mesurau ystyriol wedi'u datblygu gyda'r nod o wella'r amgylchedd yn unol â gofynion Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Yn ystod y gwaith, byddwn yn parhau i weithio’n agos gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, ein tîm adnoddau naturiol ein hunain sy'n gyfrifol am y safleoedd gwarchodedig a effeithir, a rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau bod y cynllun yn cael ei gyflawni mewn modd priodol, gan leihau'r effaith ar y gymuned a'r amgylchedd.
Beth am yr effaith ar ddefnydd hamdden o'r llyn a'r glannau?
Mae’n annhebygol y bydd y prosiect yn effeithio ar fwyafrif y defnydd hamdden o'r llyn. Bydd digwyddiadau chwaraeon blynyddol a gynhelir gan y dref, megis Bash Fawr y Bala, yn gallu parhau drwy gydol y cyfnod adeiladu. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r trefnwyr i sicrhau bod trefniadau addas yn cael eu gwneud. Bydd rhannau o'r llwybrau cerdded yn cael eu hailgyfeirio dros dro, ond byddwn yn ailgyfeirio cyn lleied â phosibl. Bydd llwybrau cerdded yn cael eu hadfer yn llawn i'w cyflwr presennol, neu well, yn dilyn y gwaith adeiladu. Rydym hefyd yn cynnig gwneud gwelliannau i lethrau a rhwystrau ar hyd llwybrau cerdded ar lan y llyn, a fydd yn gwella mynediad i bobl o bob gallu.
Beth am yr effaith ar dwristiaeth?
Mae’r gwaith yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y gwrthgloddiau’n parhau i wrthsefyll llifogydd eithafol. Bydd y gwaith adeiladu yn cael ei reoli mewn modd sensitif er mwyn lleihau unrhyw effeithiau posibl ar dwristiaeth, er enghraifft drwy atal y contractwyr rhag defnyddio’r Stryd Fawr ar gyfer cludo nwyddau. Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda’r gymuned leol a rhanddeiliaid allweddol i sicrhau bod pawb yn cael cyfle i leisio barn a bod y prosiect yn cael ei weithredu mewn modd sensitif.
Yn y tymor hir, y gobaith yw y bydd y cynllun yn cael effaith gadarnhaol ar dwristiaeth a'r economi leol. Mae cynnal mynediad ar hyd glannau'r llyn a pheidio ag amharu ar y golygfeydd gwych wedi bod yn ystyriaeth allweddol yn ystod datblygiad y gwaith dylunio.
Sut ydych chi wedi gwrando ar ein safbwyntiau?
Lluniwyd crynodeb o’r adborth a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyn cyflwyno’r cais cynllunio, y sesiynau galw heibio a gynhaliwyd fis Gorffennaf 2018 ac ym mis Tachwedd 2019, a’r holl drafodaethau a gafwyd ers hynny gydag unigolion a grwpiau lleol. Ymhlith y pwyntiau a godwyd roedd:
- Pwysigrwydd ymgysylltu â'r gymuned leol wrth ddatblygu’r cynlluniau lliniaru a gwella sy'n gysylltiedig â'r cynllun
- Yr awydd i gadw rhai o'r coed aeddfed o fewn y cynigion lle bo hynny'n bosibl
- Pryder ynghylch effaith y gwaith adeiladu ar y Bala yn ystod yr haf a'r effaith ar draffig lleol
- Y potensial i wella hawliau tramwy cyhoeddus presennol
- Y cyfle i sefydlu ardaloedd blodau gwyllt ar hyd Afon Dyfrdwy ac Afon Tryweryn.
Yn dilyn cyflwyno cais cynllunio ym mis Tachwedd 2021 a chanlyniad cadarnhaol ym mis Mai 2021, rydym wedi parhau i weithio’n agos gyda rhanddeiliaid allweddol i fynd i'r afael â'r pwyntiau hyn. Ymhlith y rhain mae Cyngor Tref y Bala, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Gwynedd, warden y llyn a busnesau lleol i enwi rhai.
Rydym wedi derbyn syniadau sy'n cynnwys gwelliannau i lwybrau cerdded a mynediad (gan gynnwys gwella mynediad i bobl o bob gallu drwy leihau rhwystrau, gwella arwynebau a lleihau pa mor serth yw rampiau, a gwelliannau o amgylch Canolfan Hamdden Penllyn), mannau eistedd cyhoeddus newydd, gwelliannau i feysydd parcio, gwaith adfer cynefinoedd, a phlannu coed a gwrychoedd newydd.
Pam y caniatawyd i goed dyfu yn y gwrthgloddiau?
Er bod rhai o'r coed mwyaf aeddfed yn hŷn na'r cynllun a sefydlwyd yn y 1950au, mae nifer fawr ohonynt (coed ynn yn bennaf) wedi hadu eu hunain o fewn yr amddiffynfeydd carreg rhag y tonnau ac ar hyd crib y gwrthgloddiau. Gellid dadlau, mewn byd delfrydol, y byddai wedi bod yn well rheoli’r tyfiant mewn modd mwy llym yn y gorffennol trwy gynnal gwaith clirio rheolaidd er mwyn osgoi'r angen am y gwaith cynnal a chadw sy’n angenrheidiol erbyn hyn. Mae'r gwaith rheoli coed yr ydym wedi'i gynnal hyd yma wedi canolbwyntio ar fonitro iechyd a ffurf y coed, ac mae unrhyw waith i drin neu gael gwared â choed wedi'i flaenoriaethu yn unol â diogelwch y cyhoedd.
Rydym yn gwybod bod rhywfaint o’r coed ynn wedi'u heintio â chlefyd coed ynn (‘Chalara’); mae hyn, ynghyd â'u gwreiddiau ac amgylchedd tyfu llai na delfrydol o fewn y gwrthgloddiau a rhwng y slabiau cerrig llechi, yn golygu nad ydynt yn iach iawn yn gyffredinol. Bydd trefniadau cynnal a chadw'r gwrthgloddiau yn y dyfodol yn rheoli twf glasbrennau ac yn sicrhau nad yw'r un sefyllfa yn digwydd eto.
A fydd hyn yn cael effaith ar y prosiect rheilffordd a allai ddigwydd yn y dyfodol?
Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda Rheilffordd Llyn Tegid ac rydym wedi cynnwys gwaith galluogi lleol fel rhan o’r prosiect. Mae ein cynlluniau yn cynnwys diogelu'r gwrthgloddiau ar gyfer y dyfodol fel eu bod yn barod ar gyfer y traciau newydd pe bai prosiect yn cael ei gymeradwyo yn y dyfodol. Mae gweithredwr y rheilffordd yn y broses o wneud cais am y caniatâd angenrheidiol.
A fydd capasiti'r llyn yn cael ei gynyddu?
Na, ni fydd capasiti'r llyn yn cael ei gynyddu.
A fydd uchder y gwrthgloddiau yn cael ei gynyddu?
Ni fydd y gwrthgloddiau yn cael eu codi – ond byddant yn cael eu cryfhau a bydd yr amddiffynfeydd carreg rhag tonnau ar lannau'r llyn yn cael eu gwella.
Sut olwg fydd ar yr ardal yn sgil y cynllun newydd?
Bydd y newid amlycaf yn digwydd o ganlyniad i glirio llystyfiant a choed, a fydd yn rhoi golygfeydd agored o’r llyn. Tra bydd y cyfuniad o golli coed ar ymylon y gwrthgloddiau a gwella'r amddiffynfeydd carreg rhag tonnau yn newid golwg yr ardal, fe fydd ymddangosiad y gwrthgloddiau, mewn gwirionedd, yn gymharol debyg eto i sut ydoedd pan sefydlwyd Cynllun Llyn Tegid yn y 1950au.
Sut mae'r broses o reoleiddio dŵr yn gweithio yn Llyn Tegid?
Daeth Llyn Tegid, llyn naturiol mwyaf Cymru, yn gronfa ddŵr am y tro cyntaf yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. I sicrhau cyflenwad dŵr i Gamlas y Shropshire Union, adeiladodd Thomas Telford lifddorau wrth allfa Llyn Tegid. Câi dŵr ei ryddhau drwy'r llifddorau hyn a’i dynnu i mewn i'r gamlas yn Rhaeadr y Bedol, Llangollen.
Yna, yn y 1950au, adeiladodd Bwrdd Afon Dyfrdwy ac Afon Clwyd Gynllun Llyn Tegid. Gostyngwyd allfa naturiol y llyn (gan osgoi llifddorau gwreiddiol Telford), ac adeiladwyd llifddorau newydd i lawr yr afon o’r fan lle mae'r afon yn cwrdd ag afon Tryweryn. Adeiladwyd gwrthgloddiau i ddal y dŵr a oedd yn cael ei storio y tu ôl i'r llifddorau ac i amddiffyn tref y Bala rhag llifogydd.
Darparodd y gwaith hwn 21,000,000 m3 (metr ciwbig) o ddŵr wedi'i storio y gellid ei reoli yn Llyn Tegid. Oherwydd y capasiti storio hwn, mae Llyn Tegid yn cael ei ystyried yn gronfa ddŵr o dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975.
Heddiw, mae'r gronfa ddŵr hon yn cael ei gweithredu, ar y cyd â Llyn Celyn a Llyn Brenig, er mwyn sicrhau bod cyflenwad dŵr parhaus yn cael ei gyflenwi i Afon Dyfrdwy fel y gellir tynnu dŵr ohoni. Gall hyn gyrraedd hyd at 800 ML/d (megalitr y dydd), gan dri chwmni dŵr a’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd. Mae gollyngiadau hefyd yn cynnal llifoedd isaf mewn lleoliadau allweddol ar hyd afon Dyfrdwy er mwyn diogelu'r amgylchedd.
Yn ogystal, cedwir dŵr ffo o lifogydd yn Llyn Tegid, am gyfnod byr ac mewn modd rheoledig. Mae hyn er mwyn lleihau pa mor aml y ceir llifogydd yn Nyffryn Dyfrdwy i lawr yr afon o'r Bala, a pha mor eang yw’r llifogydd hynny.
A fydd rheolau gweithredu Afon Dyfrdwy yn cael eu newid fel rhan o'r cynllun?
Na, ni fydd y rheolau gweithredu yn newid.
Sut mae modd cysylltu gyda CNC?
Gallwch gysylltu gyda thîm y prosiect trwy anfon e-bost at LlynTegid@naturalresources.wales
Gallwch hefyd gael sgwrs gyda ni dros y ffôn, trwy gysylltu â Sharon Parry, Swyddog Cefnogi Tîm y Prosiect (Siaradwr Cymraeg) ar 03000 65 5264 neu Andrew Basford (sy’n dysgu Cymraeg) ar 03000 65 3846.
I wylio ein fideo newydd ynglŷn â’r prosiect ac am y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i cyfoethnaturiol.cymru/llyntegid