Morydau Arbennig
Mae pob un o'r rhain wedi'u diogelu dan rwydwaith Natura 2000 o safleoedd o bwysigrwydd Ewropeaidd.
Yn enwedig yn y gaeaf ac ar adegau ymfudo maent yn lleoedd prysur iawn ac mae llawer o'r rhywogaethau sy'n dibynnu ar y bwyd maent yn dod o hyd iddo yno, angen amddiffyniad. Yn ogystal â bod yn bwysig i fywyd gwyllt a rhywogaethau planhigion, mae aberoedd hefyd yn bwysig i bobl, maent yn lleoedd gwych ar gyfer hamdden ac maent yn ffurf naturiol o amddiffyn rhag y môr ac yn lleihau llygredd.
Felly mae'n bwysig ein bod yn diogelu'r lleoedd arbennig hyn ar gyfer y dyfodol. Mae Rhaglen LIFE Natura 2000 wedi cynhyrchu cynlluniau gweithredu â chostau ar gyfer pob safle Aberol Natura 2000 yng Nghymru, gan gynllunio i'r dyfodol a helpu i sicrhau arian hollbwysig.