Twyni Dynamig
Mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi'u dynodi'n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig dan rwydwaith Natura 2000 o safleoedd bywyd gwyllt gwarchodedig Ewropeaidd.
Maent yn lleoedd prydferth, sydd llawn lliw a bywyd gwyllt ac yn cefnogi planhigion arbenigol a phryfed anghyffredin. Maent yn bwysig i bobl hefyd, yn denu miloedd o bobl ar ddiwrnod braf, ac yn gweithredu fel amddiffynfeydd môr naturiol gan gynnig amddiffyniad i ni yn erbyn stormydd.
Fodd bynnag, mae angen amddiffyn a rheoli'r lleoedd prydferth hyn yn ofalus i sicrhau eu bod yn cael eu cadw mewn cyflwr da er budd bywyd gwyllt a phobl. Mae Rhaglen LIFE Natura 2000 wedi cynhyrchu cynlluniau gweithredu â chostau ar gyfer pob safle Twyni Natura 2000 yng Nghymru, gan gynllunio i'r dyfodol a helpu i sicrhau arian hollbwysig.