Maelgwn yng Nghymru – maent angen eich help

Angelshark © Carlos Suarez, Oceanos de Fuego

Beth yw Maelgi?

Gall y siarcod hyn, ag iddynt gyrff fflat, dyfu i fod yn 2.4 metr o hyd. Hefyd fe’u gelwir yn ‘monkfish’ neu ‘angel fish’  ac weithiau maent yn cael eu camgymryd am forgathod neu eu cam-recordio fel cythreuliaid y môr. Mae Maelgwn yn bwydo ar amrywiaeth o bysgod, cramenogion a molysgiaid ac mae ganddynt rôl bwysig wrth gynnal ecosystem forol gytbwys.

Ar un adeg roeddent yn gyffredin  ar hyd Gogledd –ddwyrain Cefnfor Iwerydd a Môr y Canoldir, ond yn dilyn degawdau o leihad, maent wedi diflannu o nifer o’u cynefinoedd.

Mae adroddiadau o Faelgwn wedi’u dal yn ddamweiniol yn dangos eu bod yn dal yn bresennol yma mewn niferoedd isel.

Bydd y wybodaeth a dderbynnir  gennych yn ein helpu i ddeall ecoleg  y Maelgwn yn y dyfroedd o amgylch Cymru.

Sut i gofnodi eich bod wedi eu gweld

Adroddwch eich bod wedi eu gweld. Bydd hyn yn ein helpu i ddarganfod faint o Faelgwn sy’n defnyddio dyfroedd Cymru a ble mae dod o hyd iddynt.

Os fyddwch yn gweld Maelgi danfonwch y manylion at:

https://angelsharknetwork.com/#maps

neu e-bostiwch tom@llynangling.net

Dilynwch y canllawiau

Gwaherddir targedu'r pysgodyn hwn, ond os fyddwch yn dal un yn ddamweiniol wrth bysgota dilynwch ein canllaw arfer gorau i’w ryddhau yn ddiogel.

Sut mae Maelgwn yn cael eu gwarchod yng Nghymru?

  • Gwaherddir tarfu’n fwriadol ar, targedu, anafu neu ladd Maelgwn o fewn 12 môr milltir o arfordiroedd Cymru a Lloegr (Atodlen 5 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981)
  • Gwaherddir pysgotwyr masnachol i dargedu, cadw, cludo neu lanio Maelgwn yn llongau holl wledydd UE a thrydedd wlad yn nyfroedd UE. Rhaid i bob maelgi >50 kg gael eu cofnodi. (Rheoliad y Cyngor (UE) Rhif. 2017/127)

Datblygwyd Canllawiau'r Maelgwn ar y cyd â nifer o bartneriaid gan gynnwys ZSL, Cymdeithas Pysgotwyr Cymru ac Ymddiriedolaeth y Siarcod. 

Logos Maelgwn

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf