Safonau ein gwasanaeth rheoleiddio: yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym
I ni, mae ‘Da’ yn golygu:
- cael ein harwain a’n rheoli’n dda, gyda staff â sgiliau a phrofiad addas a systemau a phrosesau creiddiol effeithiol;
- bod yn gwbl glir yn ein penderfyniadau a gwella ein gwasanaeth i’n cwsmeriaid a’n partneriaid yn barhaus, gan osod meincnod uchel i ni ein hunain
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu a chynnig gwasanaeth rhagorol i bob un o’n cwsmeriaid, gan ymfalchïo mewn gwneud gwaith da. Byddwn yn gwneud hyn trwy fod:
Yn angerddol ac yn uchelgeision
- Rydym yn chwilio o ddifrif amsyniadau a dulliau, oddi mewnac oddi allan i CNC
- Rydym yn ceisio bod yn arloesol yn ein gwaith, a chanfod atebion creadigol i broblemau
- Rydym yn cyfathrebu ac yn ymgysylltu’n hyderus, mewn modd amserol, ynglyˆn â’n gwaith
Yn ddibynadwy ac yn broffesiynol
- Rydym yn agored a chlir wrth esbonio ein camau a’n penderfyniadau
- Rydym yn seilio ein camau a’n penderfyniadau ar yr wybodaeth orau sydd ar gael
- Rydym yn parchu barn pobl eraill ac yn trin eraill yn y ffordd y disgwyliem gael ein trin ein hunain
- Rydym yn annog adborth adeiladol ac yn ymateb iddo
Yn defnyddio synnwyr cyffredin
- Rydym yn gweithio gyda’n gilydd a chydag eraill i ddod o hyd i atebion ymarferol a phragmatig, oddi mewn ac oddi allan i’r sefydliad
- Rydym yn canolbwyntio ar y canlyniadau ac yn defnyddio’r broses fyrraf bosibl
Bod yn gyfrifol ac yn atebol
- Pan wnawn gamgymeriadau, rydym yn dysgu yn eu sgîl ac yn gwella,lle gallwn
- Rydym yn atebol am ein camau a’n penderfyniadau
Er mwyn ceisio cyflawni hyn, rydym yn anelu at gyflwyno gwybodaeth glir ynghylch y canlynol:
Ein safonau ar gyfer gwasanaethau penodol
Trwyddedu Amgylcheddol – Sut rydym yn gweithio gyda’n gilydd
Sut i gael gafael ar ein cyngor a’n canllawiau
Ein Cyngor a’n Canllawiau Cyhoeddedig
Canllawiau Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol
Sut rydym yn monitro ac yn cynorthwyo gyda chydymffurfiaeth, a’n dull o wirio cydymffurfiaeth
Gwerthuso Risgiau Gweithredol – OPRA
Sut y byddwn yn ymateb i beidio â chydymffurfio â rheoliadau – ein polisi gorfodi
Beth yw ein ffioedd a’n taliadau a sut y cânt eu cyfrifo
Sut i gwyno neu apelio yn erbyn ein penderfyniadau
Diweddarwyd ddiwethaf