Troseddau rhwystro
Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949
Adran 108(4)
Rhwystro unigolyn yn fwriadol wrth iddo arfer ei bwerau o dan adran 108(1) Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949.
Trosedd ddiannod yn unig.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Deddf Trefn Gyhoeddus 1986
Adran 4
Defnyddio geiriau neu ymddygiad bygythiol, difrïol neu sarhaus yn fwriadol er mwyn achosi i rywun arall gredu y caiff trais anghyfreithlon ei ddefnyddio yn ei erbyn neu yn erbyn rhywun arall ar unwaith.
Trosedd ddiannod yn unig.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Adran 5
Defnyddio geiriau neu ymddygiad bygythiol, difrïol neu sarhaus neu ymddygiad afreolus neu'n arddangos unrhyw ysgrifen, arwydd neu ymhoniad gweladwy arall sy'n fygythiol, difrïol neu sarhaus, o fewn clyw neu olwg unigolyn sy'n debygol o deimlo aflonyddwch, braw neu drallod.
Trosedd ddiannod yn unig.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Deddf Adnoddau Dŵr 1991
Adran 173 ac Atodlen 20, Paragraff 7
Rhwystro swyddog Cyfoeth Naturiol Cymru rhag arfer ei bwerau mynediad
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Cosb ariannol newidiol
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010.
Deddf yr Amgylchedd 1995
Adran 110(1)
Rhwystro swyddog Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Cosb ariannol newidiol
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010.
Adran 110(2)(a)
Methiant i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan Adran 108.
Trosedd ddiannod yn unig.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae'r sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Cosb ariannol newidiol
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010.
Adran 110(2)(b)
Methiant i ddarparu cyfleusterau neu gymorth y gofynnir yn rhesymol amdanynt gan swyddog Cyfoeth Naturiol Cymru, neu wrthod gwneud hynny.
Trosedd ddiannod yn unig.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae'r sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Cosb ariannol newidiol
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010.
Adran 110(2)(c)
Rhwystro unrhyw unigolyn arall rhag ymddangos gerbron swyddog Cyfoeth Naturiol Cymru, neu ateb cwestiynau ganddo.
Trosedd ddiannod yn unig.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae'r sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Cosb ariannol newidiol
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010.
Adran 110(3)
Esgus bod yn unigolyn awdurdodedig drwy dwyll.
Trosedd ddiannod yn unig.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae'r sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Cosb ariannol newidiol
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010.
Adran 110(3A)
Mynd yn groes i hysbysiad cyfyngu a gyflwynwyd o dan adran 109A (gan gynnwys hysbysiad sy’n parhau i fod mewn grym o dan adran 109E) heb esgus rhesymol.
Trosedd ddiannod yn unig.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Y dyddiad dechrau perthnasol yw 29 Mawrth 2018.
Adran 110(3B)
Mynd yn groes i orchymyn cyfyngu a gyflwynwyd o dan adran 109D, 109F, 109G neu 109I heb esgus rhesymol.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
29 Mawrth 2018.
Adran 110(3C)
Tynnu copi o orchymyn cyfyngu sydd wedi'i osod ar adeilad o dan adran 109H(1), heb esgus rhesymol.
Trosedd ddiannod yn unig.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
29 Mawrth 2018.
Deddf yr Heddlu 1996
Adran 89(1)
Trosedd ddiannod yn unig.
Ymosod ar gwnstabl (ystyrir bod beili dŵr yn gwnstabl at y diben o orfodi Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975) wrth gyflawni ei ddyletswydd.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Adran 89(2)
Rhwystro cwnstabl yn fwriadol (neu unigolyn sy'n cynorthwyo'r cwnstabl) rhag cyflawni ei ddyletswydd.
Trosedd ddiannod yn unig.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000
Adran 40(10)
Rhwystro rhywun sydd ag awdurdod cyfreithiol gan yr awdurdod cefn gwlad priodol rhag cael mynediad i dir yn fwriadol
Trosedd ddiannod yn unig.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Deddf Draenio Tir 1991
Adran 64(6)
Rhwystro neu amharu’n fwriadol ar unrhyw unigolyn a awdurdodwyd gan CNC i weithredu grym mynediad o dan adran 64(1) Deddf Draenio Tir 1991.
Trosedd Ddiannod yn unig.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy'n benodol i’r drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad Ffurfiol
- Erlyniad
Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981
Adran 51(4)
Rhwystro unigolyn sy'n arfer ei bwerau o dan adran 51(1) (pwerau mynediad) yn fwriadol.
Troseddau diannod yn unig.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Am drosedd ddiannod, dirwy nad yw'n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol: 51(4).
Gellir dwyn achos ar gyfer trosedd ddiannod o dan y rhan hon o fewn cyfnod o chwe mis yn dechrau ar y dyddiad y daeth yr erlynydd i wybod am dystiolaeth, a oedd yn ddigonol yn ei farn ef i gyfiawnhau dwyn achos, ac, ymhob achos, o fewn dwy flynedd i gyflawni'r drosedd.
Atodlen 9A, Rhan 3, Erthygl 19(2)
Rhwystro unigolyn rhag cynnal gweithred y gofynnir amdani neu a gynigir o dan Orchymyn Rheoli Rhywogaeth, yn fwriadol.
Troseddau diannod yn unig.
Ymatebion troseddol safonol ac sy'n benodol i’r drosedd:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Am drosedd ddiannod, gellir cael carchar am gyfnod nad yw'n fwy na 51 wythnos, neu ddirwy, neu'r ddau. Lle cyflawnir trosedd cyn y daw adran 281(5) Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003 i rym, ni fydd y carchariad yn parhau mwy na chwe mis. Lle cyflawnir trosedd cyn bod adran 85 Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 mewn grym, dylid dehongli'r cyfeiriad at ddirwy fel dirwy nad yw'n fwy na £40,000.
Mewn grym ar 12 Ebrill 2015.
Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020
Rheoliad 43
Trosedd Ddiannod yn unig
Rhwystro unigolyn, sy'n gweithredu neu'n gorfodi’r Rheoliadau, yn fwriadol, gan fethu rhoi cymorth neu wybodaeth y gall unigolyn awdurdodedig ofyn amdani’n rhesymol neu fethu cynhyrchu dogfen neu gofnod.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy'n benodol i’r drosedd yn cynnwys
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys
- Hysbysiad cydymffurfio
- Hysbysiad adfer
- Cosb ariannol benodedig
- Cosb ariannol newidiol
- Hysbysiad stop
Mae sancsiynau sifil y gellir eu cynnig yn cynnwys
- ymgymeriad gorfodi