Ailgyflwyno Llygod Pengrwn y Dŵr yng Ngwarchodfa Natur Oxwich

Llygod dŵr Oxwich

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi rhyddhau 200 o lygod pengrwn y dŵr yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Oxwich ym Mhenrhyn Gŵyr, De Cymru, fel rhan o brosiect i ailgyflwyno’r mamaliaid hyn sydd mewn perygl i’r ardal.

Ar un adeg roedd llygod pengrwn y dŵr yn gyffredin yng Nghymru ond bellach maen nhw wedi’u cyfyngu i ychydig o safleoedd ac maen nhw mewn perygl o ddiflannu.

Dechreuodd CNC ryddhau llygod pengrwn y dŵr wedi’u bridio mewn caethiwed yr haf hwn, ar ôl tair blynedd o gynllunio a gweithio i leihau niferoedd y minc - eu prif ysglyfaethwr.

Mae CNC wedi gweithio’n agos â’r Ymddiriedolaeth Natur, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Ystad Penrice, tirfeddianwyr Gŵyr a Chymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain (BASC) ar gynllun manwl i gefnogi adferiad llygod pengrwn y dŵr yn Oxwich yn y ffordd orau posibl.

Mae llygoden bengron y dŵr yn rhywogaeth bwysig yn y gadwyn fwyd, ac yn cynnal nifer o ysglyfaethwyr, e.e. adar ysglyfaethus, dyfrgwn a chrehyrod. Mae’r tyllau mae’r llygod pengrwn yn eu creu hefyd yn rhoi hwb i’r gylched nitrogen, gan wella twf ac amrywiaeth planhigion. Mae’r ymddygiad hwn hefyd yn creu cyfle i rywogaethau eraill ffynnu.

Hoff gynefinoedd llygod pengrwn y dŵr yw pyllau, afonydd sy’n llifo’n araf, ardaloedd corslyd, a ffosydd lle ceir lefelau dŵr parhaol. Mae gan Oxwich ddigonedd o’r cynefinoedd hyn, o ansawdd da, ar gyfer y llygod pengrwn, gan gynnwys llystyfiant uchel sy’n ffynhonnell fwyd a hefyd sy’n cynnig lloches rhag ysglyfaethwyr. Gwyddom hefyd fod y llygod yn bwyta mwy na 227 o wahanol rywogaethau o blanhigion.

Meddai Richard Davies, Swyddog Dyframaethu CNC:

“Mae bywyd gwyllt yn rhan bwysig o’n hamgylchedd, ein treftadaeth a’n diwylliant yng Nghymru, a dyna pam y mae hi mor bwysig diogelu’r rhywogaethau sydd dan fwyaf o fygythiad yng Nghymru.

“Mae cynefin llygod pengrwn y dŵr yn Ne Cymru yn eithaf tameidiog, fodd bynnag mae pocedi o gynefin rhagorol i’w cael, fel sydd yn Oxwich. Gan fod niferoedd y llygod hyn ym Mhenrhyn Gŵyr yn isel mae’n annhebygol y byddai ail-gytrefu naturiol yn digwydd yn Oxwich. Mae gwella cynefin a rheoli mincod yn ddulliau gwerthfawr ar gyfer cadwraeth llygod pengrwn y dŵr a phan fo hyn yn cael ei gyfuno â thrawsleoli gallwn lwyddo i adfer eu poblogaethau os byddwn yn targedu’r safleoedd cywir.”

Cafodd y llygod pengrwn eu bridio yn neorfa CNC yng Nghynrig ac mewn cyfleuster yn Nyfnaint ac yn cael eu rhyddhau i’r gwyllt cyn gynted ag y byddant yn ddigon hen i ofalu amdanynt eu hunain.

Cawsant eu gosod mewn ffaldiau dros dro yn y cynefin newydd am hyd at bum niwrnod er mwyn ymgynefino â’r amgylchedd newydd. Yna, gall y llygod symud oddi yno pan fyddant yn barod.

Bydd yr ardal yn cael ei monitro dros y blynyddoedd nesaf i fesur pa mor effeithiol fu’r prosiect ailgyflwyno.