Gwaredu prysgwydd ym Mhen-bre i wella’r twyni ar gyfer bioamrywiaeth

Pantiau Twyni

Mae prysgwydd yn darparu fflach o wyrddni yn ein hardaloedd tywodlyd, ond mae gormod  o brysgwydd yn mygu’r twyni tywod ac yn cael effaith andwyol ar y planhigion arbenigol a’r infertebratau sy’n byw yno. Yn ystod y gaeaf hwn, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwaredu rhywogaethau anfrodorol ymledol o ardaloedd o’r twyni tywod ym Mhen-bre i helpu bywyd gwyllt i ffynnu.

Mae’r arfordir o amgylch Pen-bre yn gartref i 20% o’r holl blanhigion yng Nghymru ac mae’n cynnwys system dwyni tywod eang. Mae twyni tywod yn cael eu rhestru fel y math o gynefin sydd fwyaf mewn perygl o golli bioamrywiaeth yn Ewrop.

Mae’r prosiect Dynamic Dunescapes, a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ac a ddarperir yng Nghymru gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn gweithio ym Mhen-bre gyda Gwasanaethau Hamdden Awyr Agored Cyngor Sir Gâr i wella cyflwr y twyni hyn ar gyfer bywyd gwyllt.

Mae rhywogaethau anfrodorol, megis y planhigyn prysgwydd dwys rhafnwydden y môr, yn ymledol ac maen nhw’n tyfu’n sydyn yn y system dwyni hon - gan ymledu ymhellach ar draws ardaloedd eang o’r twyni bob blwyddyn. Mae llawer o fywyd gwyllt prin ac arbenigol y twyni angen tywod noeth neu gynefin glaswelltir isel i oroesi, ac mae’n mynd ar goll neu’n methu â chystadlu gyda’r prysgwydd. Os nad yw twf prysgwydd yn cael ei reoli, bydd yn achosi i rywogaethau megis madfallod, tegeirianau a thrilliw’r twyni ddioddef ac i ddiflannu o’n twyni tywod.

Bydd gwaredu prysgwydd mewn lleoliadau penodol yn helpu i adfer y mathau o gynefinoedd angenrheidiol ar gyfer y rhywogaethau hyn, a bydd y gwaith hwn yn chwarae rhan mewn sicrhau dyfodol iach llawn bioamrywiaeth i’r twyni tywod ym Mhen-bre. Bydd gwella’r cyflwr ecolegol yma’n cynyddu gwytnwch y dirwedd arfordirol hon i wrthsefyll bygythiadau eraill, megis tywydd eithafol ac amodau cyfnewidiol o ganlyniad i newid hinsawdd yn y dyfodol.

Bydd cam cyntaf y gwaith hwn yn cymryd lle ym Mharc Gwledig Pen-bre o amgylch Maes Parcio 8 a bydd yr ail gam yn cymryd lle ar y twyni blaen o flaen Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru sy’n cael ei  rheoli gan CNC. Disgwylir i’r gwaith ddechrau yn ystod wythnos olaf Tachwedd a bydd yn parhau am bythefnos. Bydd Factory Road yn cau dros dro y tu allan i’r Parc Gwledig am wythnos – gan ail agor ar 5 Rhagfyr.

Dywedodd Ruth Harding, Uwch Swyddog Amgylcheddol gyda Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae rheoli Rhafnwydden y Môr yn bwysig er mwyn gwella cynefinoedd glaswelltir ar y twyni ym Mhen-bre. Mae Cyngor Sir Gâr a Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud y math yma o waith rheoli cynefinoedd dros nifer o flynyddoedd sydd wedi arwain at adfer yr ardal i gynnig glaswelltir twyni sy’n llawn gwahanol rywogaethau planhigion. Gallwch fwynhau’r rhain ar eu gorau yn ystod misoedd yr haf o fewn Gwarchodfa Natur Twyni Tywod a Morfa Pen-bre. Fel rhan o brosiect Dynamic Dunescapes, rydym ni bellach yn parhau gyda’r gwaith hwn, a fydd yn arwain at gynnydd cyffredinol mewn cynefin glaswelltir ar y twyni.”

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, Aelod Cabinet Cyngor Sir Gâr sy’n gyfrifol am hamdden:

“Er bod prysgwydd yn gynefin gwerthfawr, mae angen ei reoli er mwyn ei gadw mewn cyflwr da ar gyfer bywyd gwyllt. Bydd torri’r prysgwydd yn ôl yn sicrhau nad yw’n ymledu i ardaloedd lle nad yw’n ddymunol a/neu le y gallai ddinistrio cynefinoedd eraill.”

Nid Dynamic Dunescapes yw’r unig brosiect sy’n gweithio ar adfer twyni tywod pwysig Pen-bre. Mae prosiect Twyni Byw a ariennir gan gronfa LIFE yr UE, ac a reolir gan CNC, hefyd wedi bod yn rheoli’r twyni tywod er mwyn gwella amodau ar gyfer bywyd gwyllt dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r ddau brosiect yn gweithio’n agos i adeiladu ar waith ei gilydd ac i gefnogi’r gwaith hwnnw.