Adolygiad o gyflwr nodweddion naturiol gwarchodedig Cymru yn annog galwadau am dull partneriaeth i greu dyfodol lle mae natur yn ffynnu

Cyfoeth Naturiol Cymru logo

Bydd dull partneriaeth cryf, Cymru gyfan i ddiogelu rhywogaethau a chynefinoedd mwyaf gwerthfawr Cymru yn dyngedfennol os yw’r genedl am drechu heriau cysylltiedig newid hinsawdd a’r dirywiad mewn bioamrywiaeth.

Dyna'r alwad daer gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sydd heddiw wedi cyhoeddi canlyniadau prosiect sydd â’r nod o ddeall iechyd a chyflwr rhywogaethau a chynefinoedd ar safleoedd gwarchodedig Cymru.

Yn sgil gyhoeddi Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol 2020 yn gynharach eleni, mae CNC heddiw wedi cyheoddi canlyniadau ei adolygiad Gwerthusiad Gwaelodlin o Safleoedd Gwarchodedig. Sefydlwyd y prosiect mewn ymateb i gyhoeddi cyfeiriad strategol CNC ar gyfer bioamrywiaeth, Natur Hanfodol, sy'n nodi uchelgais y sefydliad i wella'r sylfaen dystiolaeth ar draws yr ystod lawn o safleoedd gwarchodedig.

Trwy wella’r dealltwriaeth o iechyd rhywogaethau a chynefinoedd ar Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) Cymru, gall CNC dargedu mesurau gwella yn well a chefnogi perchnogion a rheolwyr y safleoedd hynny. Y safleoedd hyn yw trysorau bioamrywiaeth Cymru ac maen nhw’n hanfodol wrth sicrhau iechyd ehangach ecosystemau Cymru.

Mae canlyniadau’r Gwerthusiad Gwaelodlin yn cadarnhau bod angen mwy o wybodaeth am bron i 50% o'r rhywogaethau a'r cynefinoedd o ddiddordeb ar ein safleoedd gwarchodedig. Lle mae gennym y wybodaeth am nodweddion diddordeb, mae'r canlyniadau hefyd yn dweud wrthym fod tua 60% mewn cyflwr anffafriol.

Bydd angen mynd i’r afael â’r diffyg gwybodaeth trwy ddatblygu rhaglenni monitro arloesol a mwy cydweithredol, gan ddefnyddio’r wybodaeth a gafwyd i helpu i lywio rheolaeth safleoedd gwarchodedig yn y dyfodol.

Mae CNC nawr am ennyn cefnogaeth y sector amgylcheddol, awdurdodau cynllunio ac awdurdodau cyhoeddus eraill, tirfeddianwyr a chymunedau ar draws Cymru i helpu i lunio a chyflawni cynllun gweithredu arloesol ar gyfer natur, er mwyn sicrhau iechyd ehangach ecosystemau Cymru a'r buddion y maent yn eu darparu.

Dywedodd Ruth Jenkins, Pennaeth Rheoli Adnoddau Naturiol CNC:

“Mae Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Cymru yn gwarchod yr enghreifftiau gorau o'n hamgylchedd naturiol a bywyd gwyllt gwerthfawr ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Er bod casglu’r wybodaeth hon o bob rhan o'r wlad yn dipyn o gyrhaeddiad, rydym ni’n derbyn yn llwyr fod cyfyngiadau i raddau ein tystiolaeth o gyflwr rhai o rywogaethau a nodweddion arbennig y safleoedd hyn ac rydym yn ymrwymo i fuddsoddi mewn, ac i gefnogi eraill, i wneud gwelliannau.
“Mae gan CNC ystod eang o arbenigedd gwyddonol ac ymarferol, a mae llawer o ymyriadau llwyddiannus i gefnogi gwaith cadwraeth ar y safleoedd hyn eisoes ar waith.
“Mae llawer o'r safleoedd yma yn eiddo i ac yn cael eu rheoli gan unigolion a phartneriaid a fydd angen ystod o gefnogaeth gan CNC ac eraill. Oherwydd hynnu, bydd datblygu rhaglen fonitro ar gyfer ein safleoedd gwarchodedig sy'n addas ar gyfer y dyfodol hefyd yn gofyn am wybodaeth a phrofiad hanfodol ein rhanddeiliaid.
“O ystyried maint yr her sydd o’n blaenau, ac fel rhan o'n hymdrech i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, rydym ni eisiau ymuno â'n partneriaid i droi ein huchelgais i wella ein rhaglenni monitro a'n sylfaen dystiolaeth yn gamau gweithredu a chefnogi ymyriadau effeithiol ar safleoedd yn y dyfodol.”

Disgwylir i'r cynllun gweithredu arfaethedig gael ei roi ar waith yn y flwyddyn y bydd sylw’r byd ar ddigwyddiadau byd-eang pwysig ar gyfer gweithredu dros natur a’r hinsawdd - COP15 dros Natur yn Tsieina ym mis Hydref, a COP26 dros yr Hinsawdd yn Glasgow ym mis Tachwedd.

Daw hefyd yn y flwyddyn wnaeth CNC gyhoeddi Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol 2020. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y pwysau cymdeithasol y mae'r amgylchedd naturiol yn eu hwynebu o amgylch darnio cynefin, gor-ecsbloetio adnoddau naturiol a llygredd, yn ogystal ag effeithiau newid yn yr hinsawdd. Yna mae'n mynd ymlaen i gynnig cyfleoedd i weithredu i fynd i'r afael â'r heriau systemig hyn ar draws phob agwedd ar fywyd Cymru.

A gyda Chymru eisiau cyflawni adferiad gwyrdd yn sgil pandemig Covid-19, bydd CNC nawr yn defnyddio canfyddiadau'r adolygiad gwaelodlin fel man cychwyn i geisio cydweithio â’i bartneriaid i ddatblygu'r cynllun ar gyfer monitro yn y dyfodol a fydd yn chwarae rhan allweddol yn y cynllun achub trosfwaol ar gyfer natur a'r blaned.

Parhaodd Ruth Jenkins:

“O waith perchnogion tir unigol a wirfoddolwyr, drwodd i'r prosiectau tir mawr a thirlun fel cynllun adfer twyni tywod Twyni Byw, a’r gwaith i drawsnewid Afon Dyfrdwy, mae llu o waith cadwraeth ac adfer eisoes ar waith. Mae rhain eisoes yn cael effaith sylweddol ond mae angen i ni wneud mwy yn yr ymdrech i wyrdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. (Gweler astudiaethau achos yn y nodiadau i olygyddion).
“Bydd y cynllun gweithredu rydym ni eisiau ei ddatblygu yn adeiladu ar brosiectau sydd eisoes ar waith, ond yn hanfodol bydd yn defnyddio gwybodaeth ac arbenigedd amhrisiadwy ein partneriaid, tirfeddianwyr a'r rhai sy'n byw ac yn gweithio yn y lleoedd arbennig hyn.
“Er y bydd angen rhagor o adnoddau ar y gwaith i ddatblygu a gweithredu’n llawn, rhaid i’r cyfrifoldeb fod ar ddylunio’r newid sydd ei angen nawr, yn hytrach nag ymateb iddo mewn blynyddoedd i ddod. Y safleoedd hyn yw'r lleoedd y gall natur wella ac sydd angen ein sylw arbennig.”
“Dim ond trwy weithio ar draws sectorau, ar draws meysydd polisi ac ar draws ein cymunedau y gallwn wneud hynny a thrwy adael i’r adolygiad gwaelodlin fod yn gatalydd ar gyfer y camau cydweithredol sy’n ofynnol i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur dirfodol y mae amgylchedd Cymru yn eu hwynebu.”

Ewch i Asesiad gwaelodlin safleoedd gwarchodedig 2020