Proses yn parhau i sicrhau contractiwr i symud ymlaen gyda chynllun amddiffyn rhag llifogydd Rhydaman

Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Rhydaman

Mae’r broses i sicrhau contractiwr i symud ymlaen gyda’r gwaith ar brosiect gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i wella amddiffynfeydd rhag llifogydd yn Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, yn parhau.

Bydd gwaith adeiladu i wella amddiffynfeydd rhag llifogydd yn Rhydaman, Sir Gaerfyrddin yn cychwyn yn hwyrach na’r bwriad yn wreiddiol, ym mis Ionawr 2023.

Y bwriad oedd dechrau’r cynllun i leihau perygl llifogydd i tua 385 eiddo o afonydd Llwchwr, Marlas a Lash, y gwanwyn hwn.

Fodd bynnag, ni fu modd i Gyfoeth Naturiol Cymru benodi contractiwr yn dilyn proses dendro gychwynnol, a bydd yn tendro’r gwaith eto yr haf hwn.

Dylai’r gwaith adeiladu gychwyn yn y flwyddyn newydd, yn ddibynnol ar benodiad llwyddiannus.

Meddai Susie Tudge, Rheolwr Prosiect i CNC:

“Rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r cynllun hwn i Rydaman, a fydd yn lleihau perygl llifogydd yn ardaloedd Bonllwyn, Heol Aberlash, Tir-y-dail, Gwynfryn a Heol Shands.

“Roeddem wedi bwriadu cychwyn y gwaith adeiladu yn ystod gwanwyn 2022, ond yn dilyn proses dendro gychwynnol, ni fu modd i ni benodi contractiwr.

“Byddwn yn tendro eto dros yr haf, gyda’r nod o benodi contractiwr a dechrau’r gwaith adeiladu ym mis Ionawr 2023.

“Mae’r oedi hwn yn anffodus, ond mae sicrhau’r contractiwr cywir yn gam hanfodol i sicrhau y caiff y gwaith ei gynnal at y safon uchel sy’n ofynnol er mwyn lleihau perygl llifogydd i gymunedau Rhydaman am flynyddoedd i ddod.”

Cafodd Cyfoeth Naturiol Cymru ganiatâd cynllunio i ddatblygu’r cynllun yn 2021, a bydd yn defnyddio nifer o ddulliau mewn lleoliadau allweddol i wneud cartrefi a busnesau yn fwy cydnerth yn erbyn llifogydd.

Yn ôl modelu cyfrifiadurol, rhagwelir bod dros 200 eiddo yn Rhydaman mewn perygl o ddioddef llifogydd ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynyddu i dros 380 eiddo yn y dyfodol yn sgil newid hinsawdd.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y prosiect: Cyfoeth Naturiol Cymru / Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Rhydaman