Caniatâd i sicrhau diogelwch Llyn Tegid

Mae cynlluniau i sicrhau bod llyn naturiol mwyaf Cymru yn parhau i fod yn ddiogel yn y tymor hir wedi cymryd cam ymlaen heddiw (dydd Mercher, 19 Mai), wrth i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri roi caniatâd cynllunio i’r cynllun.

Mae'r gwaith wedi'i gynllunio i sicrhau y gall Llyn Tegid yn Y Bala barhau i wrthsefyll tywydd eithafol nawr ac yn y dyfodol, gan ddod â gwelliannau hamdden ac amgylcheddol yn sgil y gwaith hefyd.

Dywedodd Sian Williams, Pennaeth Gweithrediadau Gogledd Orllewin Cymru ar gyfer CNC:

“Mae argloddiau’r llyn yn rhoi amddiffyniad hanfodol rhag llifogydd i dref y Bala ac mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau bod y dref yn parhau i fod yn ddiogel.
“Rydyn ni wedi bod yn trafod gyda phobl yn lleol dros y ddwy flynedd ddiwethaf i archwilio syniadau ar gyfer lliniaru a chyfleoedd cymunedol ehangach. Bydd y rhain yn cael eu datblygu ochr yn ochr â'r gwaith diogelwch llyn, gan gynnwys gwella llwybrau a chreu cynefinoedd bywyd gwyllt newydd."

Prif ffocws y gwaith ydy cryfhau'r argloddiau ac adnewyddu amddiffyniad tonnau cerrig glan y llyn.

Ychwanegodd Sian Williams:

“Mae'n destun gofid i ni y bydd y gwaith yn cynnwys tynnu coed sydd wedi hunan-hadau - ynn yn bennaf - sy'n tyfu i mewn yn argloddiau’r llyn ac yn eu gwanhau.
“Does dim modd osgoi torri’r coed yma er mwyn i ni allu cryfhau’r argloddiau. Ond rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gadw coed aeddfed lle bynnag y bo modd a byddwn yn plannu tair gwaith mwy o goed yn lleol nag y mae'n rhaid i ni eu tynnu."

Meddai Sara Thomas, Swyddog Cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

“Rydym fel Awdurdod yn falch o gefnogi’r cynllun angenrheidiol hwn fydd yn y pen draw yn diogelu tref Y Bala ac ardaloedd ehanach ar hyd cwrs yr Afon Dyfrdwy rhag llifogydd.
“Mae’n anffodus fod y cynllun yn golygu bod rhaid colli’r coed sydd wedi ymsefydlu ar yr arglawdd, ond rydym yn hyderus y bydd y mesurau lliniaru sy’n cynnwys plannu tair coeden am bob un a gollwyd, ymhen amser, yn golygu gwelliant i’r amgylchedd naturiol ac yn creu cynefin newydd ar gyfer bywyd gwyllt lleol.”

Ymhlith y gwelliannau cymunedol a fydd yn cael eu datblygu mae:

  • Gwella llwybrau troed ar gyfer pob gallu;

  • Creu ardaloedd eistedd newydd;

  • Adfer cynefinoedd gan gynnwys gwelliannau sensitif i faes parcio'r llyn;

  • Creu dolydd blodau gwyllt;

  • Cynhyrchu adnoddau i ysgolion lleol eu defnyddio ar gyfer addysg amgylcheddol.

Yn amodol ar gwrdd ag amodau’r caniatâd cynllunio, disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau yn nes ymlaen eleni a phara am hyd at 2 flynedd. Bydd CNC yn gweithio'n agos gyda'r gymuned a phartneriaid i sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosib yn y cyfnod adeiladu.

Mae CNC hefyd yn parhau i weithio gyda Rheilffordd Llyn y Bala er mwyn ystyried sut y gellid rheoli eu estyniad arfaethedig ochr yn ochr â'r gwaith hwn.

Ychwanegodd Sian Williams:

“Bydd gwerth amgylcheddol enfawr yr ardal a’i phwysigrwydd i’r gymuned leol, ar gyfer hamdden a thwristiaeth yn cael ei ystyried yn llawn trwy gydol y cynllun o’r dechrau i’r diwedd.”

Ceir mwy o fanylion yma