CNC yn gwrthod rhoi trwydded ar gyfer cyfleuster gwastraff

Penderfyniad trwydded

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi gwrthod cais am drwydded amgylcheddol ar gyfer cyfleuster trin gwastraff yn ne ddwyrain Cymru.

Penderfynodd CNC y gallai’r gweithgaredd yn y cyfleuster arfaethedig yng Nghwmfelinfach, ger Caerffili, gael effaith negyddol ar iechyd pobl yr ardal.

Mae CNC wedi hysbysu’r gweithredwr, Hazrem Environmental Limited, ynghylch ei benderfyniad.

Fe fyddai’r gweithgaredd arfaethedig ar y safle’n cynnwys didoli a gwahanu gwastraff ar gyfer ei ailgylchu a chynhyrchu tanwydd. Byddai allyriadau’n sgil llosgi nwy naturiol a ddefnyddid mewn sychwr ar y safle yn cynnwys Nitrogen Deuocsid.

Meddai Jon Goldsworthy, Rheolwr Gweithrediadau yn CNC:

“Un o’n prif swyddogaethau yw amddiffyn cymunedau rhag ansawdd amgylcheddol gwael sy’n niweidiol i iechyd pobl a’r amgylchedd.
“Yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus cawsom dystiolaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch yr effaith bosibl ar ansawdd aer yn yr ardal.
“O ganlyniad i hyn, credwn fod gan y cyfleuster arfaethedig y potensial i effeithio’n negyddol ar iechyd pobl sy’n byw yn yr ardal. Mae hyn oherwydd cynnydd dros dro disgwyliedig mewn crynodiadau Nitrogen Deuocsid yn ystod tywydd arbennig, fel gwrthdroadau thermol.
“Nid oeddem yn fodlon fod cynlluniau manwl y cwmni’n dangos y gallai weithredu heb achosi niwed i bobl.”