Cyfoeth Naturiol Cymru yn tynnu sylw at ei ddewis o lefydd gorau ar gyfer taith gerdded hydrefol

Dau berson yn cerdded drwy goetir yn yr hydref

Wrth i wyliau hanner tymor mis Hydref nesáu, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dewis pump o’r coetiroedd a’r gwarchodfeydd natur y mae’n eu rheoli ledled Cymru lle gall pobl o bob oed fwynhau taith gerdded yn llawn lliwiau tymhorol yr hydref hwn.

Mae’r teithiau cerdded yn cynnwys llwybrau byr mewn coedwig ar dir gwastad, sy’n ddelfrydol i deuluoedd â phlant bach, ynghyd â dringfa serth at olygfan ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae arwyddbyst ar hyd pob taith, maent wedi’u graddio i roi syniad o lefel yr her, ac mae panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Meddai Mary Galliers, Ymgynghorydd Arbenigol CNC ar gyfer Hamdden ar yr Ystad a Hyrwyddo Mynediad:

“Mae’r awyr yn ffres ac mae’r lliwiau’n llachar yn yr hydref, sy’n golygu mai dyma’r adeg berffaith o’r flwyddyn i fwynhau golygfeydd syfrdanol a thirweddau godidog.
“Mae’r hydref hefyd yn amser gwych i ymweld â safleoedd sydd wedi bod yn brysurach yn ystod misoedd yr haf.
“Mynd am dro ar droed yw’r ffordd orau o werthfawrogi’r amrywiaeth o liwiau tymhorol ond nid dim ond er mwynhad y mae taith gerdded hydrefol; mae pobl sy’n egnïol ac yn mwynhau’r awyr agored yn fwy tebygol o gael bywydau hirach, iachach a hapusach.”

Dyma’r pum taith gerdded hydrefol mae CNC wedi’u dewis:

  • Rhyfeddwch at y golygfeydd o Ddyffryn Conwy dan fantell o liwiau hydrefol ar Lwybr Arglwyddes Fair, ger Llanrwst
  • Mwynhewch liwiau cyfoethog yr hydref ar y daith drwy Goedwig Crychan ar Lwybr Nant y Dresglen, ger Llanymddyfri
  • Dringwch drwy’r grug a’r llus at garnedd ble mae golygfeydd o Ben y Fan ar Lwybr y Cerrig Gleisiad, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Craig Cerrig Gleisiad a Fan Frynych, ger Aberhonddu
  • Ymhyfrydwch yn lliwiau’r hydref o’r golygfannau dros Ddyffryn Gwy ar lwybr Rhyfeddodau Whitestone, ger Cas-gwent
  • Ymdrochwch yn lliwiau copr y coed ffawydd a derw coch ar Lwybr Mynwar, ger Hwlffordd.            

Mae CNC yn annog pobl i edrych ar y dudalen ar gyfer y coetir neu’r warchodfa natur cyn cychwyn, ac i fod yn ymwelwyr cyfrifol drwy ddilyn y Cod Cefn Gwlad.

I gael rhagor o wybodaeth am y pum taith gerdded hyn neu wybodaeth am ymweld â choetiroedd a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol eraill a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ewch i: www.cyfoethnaturiol.cymru/llwybrau-cerdded-yr-hydref