Trên nwyddau’n dod oddi ar y cledrau yn Llangennech gan arwain at arllwysiad diesel

Llun o wagenni tren wedi dod oddi ar y trac

Ymddiheuriadau fod rhannau o'r dudalen hon heb gael ei gyfieithu eto.

Beth ddigwyddodd?

Tua 11:15pm nos Fercher 26 Awst 2020, daeth trên nwyddau â 25 wagen tanciau, a phob un o’r tanciau’n cynnwys hyd at 75,0000 litr o ddiesel, oddi ar y cledrau gerllaw Llangennech, Sir Gaerfyrddin. Achosodd y ddamwain a’r difrod dilynol i’r wagenni i swm sylweddol o ddiesel ollwng, ac i dân mawr gynnau. Roedd 10 o’r 25 wagen wedi dod oddi ar y cledrau ar ollwng 330,000 litr o ddisel ac amcangyfrifiad o tua 116,000 litr o ddisel a losgodd mewn tân. Ar y 5 Medi, ein amcangyrfif yw bod rhan sylweddol o'r disel wedi anweddu a phydru drwy prosesau naturiol. Mae timoedd glanhau yn arolygu'r ardal yn ddyddiol i ganfod a weithio ar ardaloedd sydd angen eu glanhau.

Mae ymchwiliad i’r digwyddiad yn cael ei gynnal gan y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffyrdd, a gellir cael mwy o fanylion ar wefan Network Rail.  

Roedd swyddogion CNC ar y safle o 5am fore Iau, i gynghori ynghylch rheoli’r arllwysiad diesel i geisio atal llygredd, ond oherwydd y tân mawr ni fu’n bosib cael mynediad i’r union safle wrth i griwiau o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru weithio i’w ddiffodd.

Cafodd ymdrechion cychwynnol i reoli’r arllwysiad diesel yn ei ffynhonnell eu cyfyngu gan y tân a diffyg mynediad. Y flaenoriaeth ar y pryd oedd diffodd y tân. Serch hynny, gwnaed rhywfaint o waith lliniaru o bellter diogel a hygyrch i’r lleoliad, er mwyn ceisio cyfyngu ar arllwysiad y diesel i Aber Llwchwr.

Fore dydd Gwener 28 Awst, pan ddiffoddwyd y tân ac y rhoddwyd caniatâd gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i fynd i’r safle, roedd pob ymdrech wedi digwydd ar ran yr asiantaethau perthnasol i atal unrhyw lygredd pellach, gyda’r pwyslais yn cael ei roi ar adfer a rheoli’r disel mor agos at y safle â phosib.

Beth sy’n digwydd ar y safle lle daeth y trên oddi ar y cledrau?

Mae Puma Energy, sydd biau’r tanwydd yr oedd y trên nwyddau DB Cargo yn ei gludo, wedi contractio arbenigwyr amgylcheddol Adler and Allen i gydlynu’r gwaith o reoli ac adfer y diesel, ynghyd ag adfer y safle yn yr hirdymor.

18 Medi

Mae lleoliad y digwyddiad wedi newid yn sylweddol. Mae tîm o arbenigwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru, Network Rail, a chontractwyr arbenigol Adler & Allan a Jacobs, wedi bod yn gweithio’n galed i symud y cerbydau a’r traciau a ddifrodwyd, ac i reoli a chael gwared â’r diesel a thir halogedig oddi ar y safle.

Gyda chyngor a chefnogaeth gan Grŵp Amgylchedd Cymru, maent yn parhau i fonitro’r ardal a lliniaru’r perygl y bydd mwy o lygredd diesel yn lledaenu trwy adeiladu argloddiau dros dro, defnyddio rhwystrau pwrpasol ar gyfer sugno’r olew a swigod aer, a monitro symudiad y diesel yn y tir gyda thwll turio.

8 Medi

Mae’r wagenni i gyd wedi cael ei symud oddi ar y safle. Defnyddiwyd camera teledu cylch cyfyng (CCTV) er mwyn gwirio bod dim tanwydd ar ôl ynddynt fel bod dim risg o ollyngiad pellach wrth eu cludo yn ôl i’r perchnogion.

Mae gwastraff arall sydd wedi ei gasglu yn cael ei gludo oddi ar y safle ar gyfer cael ei waredu yn ddiogel gan arbenigwyr gwastraff priodol.

Mae Network Rail a chontractwyr Adler and Allan wedi dod a pheirannau cloddio ychwanegol i’r safle. Maent yn cloddio a’n clirio llystyfiant ar ochr yr aber o’r trac ac ar hyd y nant bychan. 

Mae hyn er mwyn gosod mesurau ychwanegol ar gyfer rhagod olew er mwyn paratoi ar gyfer y llanw uchel ar ddydd Mercher a dydd Iau.

Mae’r nant yn cael ei gronni gyda bagiau tywod a matiau amsugnol. Mae rhwystrau pwrpasol ar gyfer sugno’r olew a swigod aer hefyd wedi cael eu gosod.

Y cam nesaf ar gyfer y rhaglen glanhau i’r safle bydd tynnu’r balast halogedig a’i ddanfon i ganolfan dosbarthiad Network Rail yn Whitmoor er mwyn cael ei lanhau a sgrinio ar gyfer cael ei ail-ddefnyddio.

Nawr bod y wagenni wedi cael ei symud a’r llystyfiant wedi’i glirio, bydd ymchwiliad trylwyr o’r safle  yn cael ei gyflawni.

2 September 

The lifting and removal of the derailed wagons by crane started yesterday, which are then moved from the site by road. The lifting is being monitored closely and spill baths in place to catch any diesel or fire water. It’s expected that all the wagons will be removed by the beginning of next week.

Contractors are continuing to remove diesel contained by the pipe dams, with 16,400 litres of product recovered within the past 24 hours.

One of the challenges the contractors are having is the tidal influence on the watercourses in the area, which is impacting the stability of the pipe dams and how well they’re containing the diesel. However, work is ongoing to improve their stability with bracing struts and boards put in place.

The bubble barrier installed to improve containment of the diesel at the pipe dam adjacent to the wetland when the tidal influence is strong is working well and is being monitored around the clock.

Boat surveys will be carried out tomorrow to assess the diesel impact within the estuary at hard to reach locations, as well as the continued monitoring and sampling on the ground.

1 September

The recovery of diesel from the derailed wagons has now been completed, with about 400,000 litres removed from the site and transported to Puma Energy.

Work to clear vegetation continues. This is to make space for the crane to move the wagons from 2 September, and to provide further safe access points to the site. The work is being overseen by an ecologist to minimise the impact on wildlife in the area.

Removal of diesel contained around the track within the ditches and by pipe dams across water courses continues with 21,600 litres of product recovered from these locations within the past 24 hours.

A temporary bubble barrier has been installed to hold back the product at the pipe dam adjacent to the wetlands due to the volume of product within this area. These areas are continuously monitored, with booms and absorbent mats replaced when required.

31 Awst

Dros y penwythnos, bu’r safle’n brysur wrth i beiriannau a cherbydau gael eu defnyddio, felly bydd cartrefi lleol wedi gweld cynnydd mewn traffig o gwmpas yr ardal.

Mae gwaith yn parhau bob dydd i ddraenio’r diesel o’r wagenni er mwyn paratoi i’w symud. Mae Network Rail, Puma Energy, DB Cargo a’u contractwyr wedi llwyddo eisoes i bwmpio miloedd o litrau o’r tanciau a’r ffos gyfagos.

Byddan nhw’n gwneud gwaith torri llystyfiant er mwyn creu lleoliad diogel i osod Craen Kirow, a fydd yn cael ei ddefnyddio i symud y wagenni nwyddau. Bydd y gweithgaredd hwn yn dechrau nos Lun ac yn parhau tan ddydd Mawrth. Rhagwelir y bydd modd symud dwy wagen y dydd.

Edrychwch ar wefan Network Rail i gael y diweddaraf.  

30 Awst

Mae gwaith yn parhau i adfer y diesel o’r wagenni a ddaeth oddi ar y cledrau, a’r diesel a arllwysodd. Cloddiwyd ffosydd i ddargyfeirio’r diesel ac mae gweithgareddau sugno a sgimio’n digwydd. Mae gwaith yn parhau i fonitro’r dyfrffyrdd lleol, a defnyddir bwmau a phadiau amsugno er mwyn dal cymaint â phosibl o’r diesel; mae’r rhain yn cael eu newid yn gyson. Ymddengys bod y technegau hyn yn effeithiol ac maent yn tynnu llawer iawn o ddiesel o’r dyfrffyrdd.

Mae Network Rail yn trefnu i graen ddod i’r safle nos Lun (31 Awst) er mwyn dechrau symud y wagenni o ddydd Mawrth (1 Medi).

Mae gwastraff hylifol a solet yn cael ei gasglu ac yn cael ei ddwyn i safleoedd trin gwastraff sy’n meddu ar y trwyddedau priodol.

Sut mae’r effaith amgylcheddol ar yr ardal ehangach yn cael ei asesu?

Mae Grŵp Amgylcheddol Cymru wedi dod ynghyd ac mae’n gweithio i fonitro a modelu’r effaith ehangach ar yr amgylchedd ac iechyd cyhoeddus. Defnyddir yr wybodaeth hon i lywio gweithredodd y sefydliadau er mwyn lleihau effeithiau ar bobl a natur oddi ar y safle.

Cadeirir y grŵp gan CNC ac mae’n cynnwys cynrychiolwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr Asiantaeth Safonau Bwyd, awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Sir Benfro, Adran Bysgodfeydd Llywodraeth Cymru, Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau, Canolfan Gwyddorau'r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu (CEFAS), yr RSPCA a Gweithredwyr sy’n gweithio ar y safle.

Beth yw hyd a lled y llygredd olew o gwmpas yr aber?

8 Medi

Rydym ni a’n partneriaid amddiffyn y cyhoedd yn parhau i fonitro’r pysgod cregyn. Anfonir samplau i’r labordy Centre for Environment, Fisheries and Aquaculture Science (Cefas) yn Lowestoft ar gyfer dadansoddiad. Bydd yn cymryd hyd at bythefnos hyd nes byddwn yn derbyn y canlyniadau oherwydd cymhlethdod y dadansoddiad.

 

Mae Cefas yn parhau gyda’i fodelu dyddiol o’r lledaeniad tebygol o ddisel o amgylch yr aber gan ddefnyddio data cyfredol ar wynt, llanw a llif afon.

 

Mae modelu diweddar Cefas yn amcangyfrif bod dros hanner o’r disel a wnaeth ddianc i mewn i’r aber naill ai wedi anweddu neu bioddiraddio.

31 Awst

Mae ein tîm monitro morol wedi bod yn brysur dros y penwythnos yn ymateb i’r arllwysiad diesel ger Llangennech. Maen nhw wedi bod yn archwilio er mwyn gweld pa ardaloedd y mae olew wedi effeithio arnynt, ac yn cymryd samplau o waddodion i edrych ar yr effaith ar fywyd gwyllt Aber Llwchwr. Tynnwyd y lluniau hyn gerllaw Pont Llwchwr lle canfuwyd y diesel ar linell y llanw uchel a hefyd o fewn y gwaddodion arwyneb.

Mae Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau wedi cynnal arolwg o’r awyr yn ogystal er mwyn helpu i fonitro symudiad y diesel o gwmpas yr aber. Bydd gwaith archwilio’n debygol o barhau dros yr wythnosau nesaf, a bydd yn helpu i nodi ardaloedd lle bydd angen gwneud gwaith glanhau.

30 Awst

Mae timau monitro’n parhau i wneud arolygon dyddiol o gwmpas Aber Llwchwr, gan gynnwys yn ardal y pysgodfeydd lleol a safleoedd dŵr ymdrochi.

Nid yw’r diesel wedi’i gyfyngu i ardal uchaf yr aber mwyach (o gwmpas Pont Llwchwr ac i fyny’r afon), ac fe’i gwelwyd mewn sawl lleoliad mor bell i ffwrdd â Crofty.

Mae Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau wedi gwneud arolygon o’r awyr i helpu gyda’r gwaith o fonitro’r llygredd.

Dengys y map isod leoliad diesel a welwyd yn Aber Llwchwr ar 29 Awst 2020. Mae’r aber yn system ddeinamig iawn, y dylanwedir arni drwy’r amser gan y llanw a’r gwynt, a bydd hynny’n dylanwadu ar symudiad y disel.

Ar hyn o bryd, mae gweithredwyr ar y safle’n gweithio i reoli a symud diesel o’r ardal lle daeth y trên oddi ar y cledrau, ac maen nhw’n llunio cynlluniau adfer mwy hirdymor er mwyn glanhau’r safle a delio ag effeithiau’r diesel ar ardal ehangach yr aber. Bydd y Grŵp Amgylcheddol a sefydlwyd mewn ymateb i’r digwyddiad yn cefnogi ac yn cynghori’r unedau ymateb o ran nodi a gosod blaenoriaethau ar gyfer gwaith glanhau.

Beth yw’r effaith ar y pysgodfeydd pysgod cregyn yn yr ardal?

Mae Aber Llwchwr yn gartref i bysgodfeydd pysgod cregyn a gwelyau cocos pwysig. Bydd yr ardal yn gwagio bron yn llwyr gyda’r trai, gan ddatgelu ardaloedd tywodlyd eang sy’n cynnal diwydiant cocos ffyniannus.

Caewyd y gwelyau cocos a’r pysgodfeydd pysgod cregyn fel rhagofal, o ganlyniad i gyngor gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Mae’r Grŵp Amgylchedd yn cydlynu gwaith samplu a phrofi rheolaidd ar y gwaddodion a’r cocos yn yr ardaloedd hyn.

Beth y dylid ei wneud os gwelir olew yn yr aber?

Rhowch wybod os gwelwch unrhyw arwyddion o lygredd olew o gwmpas Aber Llwchwr drwy ein ffonio ar 03000 65 3000. Nodwch yr union leoliad os gwelwch yn dda, a thynnwch luniau os gallwch, i’w hanfon atom.

Beth yw’r cyngor o ran iechyd cyhoeddus?

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n datgan ei bod hi’n annhebygol y bydd unrhyw un sy’n dod i gyswllt â’r diesel am gyfnod byr yn profi unrhyw sgileffeithiau iechyd andwyol, ond serch hynny, mae’n dal yn synhwyrol osgoi dod i gyswllt â diesel neu ddŵr mewn ardaloedd a halogwyd.

Gall diesel gynhyrchu nwyon sy’n ddrewllyd. Fel arfer, gellir eu harogleuo ar grynodiadau sydd ymhell islaw’r hyn a fyddai’n achosi niwed, ond gall crynodiad uchel achosi’r bendro, syrthni a chur pen. Os ydych chi’n gallu arogleuo nwyon, symudwch o’r ardal i rywle lle mae’r awyr yn iach.

Os bydd unrhyw un yn cael diesel ar eu croen, dylent dynnu unrhyw ddillad a effeithiwyd ac ymolchi gan ddefnyddio dŵr a sebon, a cheisio cymorth meddygol os ydyn nhw’n dechrau teimlo’n anhwylus.

Cynghorir hefyd i beidio â gadael i anifeiliaid anwes ddod i gyswllt â’r diesel, ac ni ddylai aelodau’r cyhoedd afael mewn unrhyw adar neu anifeiliaid eraill a effeithiwyd gan y diesel o’r glannau.

Darllen datganiad Iechyd Cyhoeddus Cymru

31 Awst

Yn seiliedig ar gyngor a ddarparwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae cynghorau Abertawe a Sir Gaerfyrddin yn cynghori pobl sy’n mynd i’r traeth ei bod hi’n annhebygol y bydd unrhyw un sy’n dod i gyswllt â’r diesel am gyfnod byr yn profi unrhyw sgileffeithiau iechyd andwyol, ond serch hynny, mae’n dal yn synhwyrol osgoi dod i gyswllt â diesel neu ddŵr arfordirol neu aberol lle mae disel i’w weld neu lle gellir sylwi ar ei arogl.

Beth y dylid ei wneud os gwelir bywyd gwyllt wedi’i halogi gan olew?

Os gwelwch unrhyw adar neu anifeiliaid sydd wedi’u halogi, ffoniwch yr RSPCA ar 0300 1234 999.

Mae angen cyfleusterau golchi arbenigol ar fywyd gwyllt a halogwyd. Peidiwch â golchi anifeiliaid ac adar eich hunain, os gwelwch yn dda.

Datganiadau

18 Medi 2020

Mae tair wythnos wedi mynd heibio ers i’r trên newyddau ddod oddi ar y cledrau yn Llangennech, Sir Gaerfyrddin gan arwain at arllwysiad diesel (26 Awst 2020).

 

Mae lleoliad y digwyddiad wedi newid yn sylweddol. Mae tîm o arbenigwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru, Network Rail, a chontractwyr arbenigol Adler & Allan a Jacobs, wedi bod yn gweithio’n galed i symud y cerbydau a’r traciau a ddifrodwyd, ac i reoli a chael gwared â’r diesel a thir halogedig oddi ar y safle.

 

Gyda chyngor a chefnogaeth gan Grŵp Amgylchedd Cymru, maent yn parhau i fonitro’r ardal a lliniaru’r perygl y bydd mwy o lygredd diesel yn lledaenu trwy adeiladu argloddiau dros dro, defnyddio rhwystrau pwrpasol ar gyfer sugno’r olew a swigod aer, a monitro symudiad y diesel yn y tir gyda thwll turio.

 

Meddai Stuart Thomas, Rheolwr Adfer Digwyddiad CNC:

“Mae’r contractwyr, Adler & Allan a Jacobs, yn parhau gyda’r gwaith o reoli a gwaredu’r diesel o’r safle ac mae’n ymddangos fod eu hymdrechion yn gweithio’n dda.
“Mae’r gwaith monitro, modelu ac asesu yn dal i fynd rhagddo ac wrth i ni symud i’r cyfnod adfer wedi’r digwyddiad byddwn yn dysgu mwy am effeithiau hirdymor posibl yr arllwysiad diesel ar yr amgylchedd a’r economi lleol yn ogystal â’r camau nesaf y gallwn eu cymryd i leihau’r effaith dros y misoedd nesaf.”

 

Mae’r gwelyau cocos yn parhau i fod ar gau fel rhagofal diogelwch. Mae casglwyr cocos yn cael eu diweddaru’n gyson am y sefyllfa.

 

Meddai llefarydd ar ran yr FSA:

“Ein blaenoriaeth yw sicrhau nad yw pysgod cregyn o welyau Aber Llwchwr yn peri perygl i iechyd y cyhoedd. O’r herwydd, rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid i bennu a oes unrhyw oblygiadau o ran pysgod cregyn a chocos yn y lleoliad hwn o ganlyniad i’r digwyddiad.
“Mae’r holl welyau pysgod cregyn yn parhau i fod ar gau fel rhagofal er mwyn caniatáu i samplo a phrofi cychwynnol ddigwydd mewn perthynas â gwaddodion, dŵr a chnawd pysgod cregyn. Disgwylir i ganlyniadau’r samplo hwnnw roi darlun cliriach o effeithiau’r digwyddiad ar y gwelyau, a bydd hyn yn dylanwadu ar benderfyniadau ynglŷn ag ailagor.”

28 Awst2020

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gweithio'n agos gyda phartneriaid i asesu a chynghori ar effaith amgylcheddol y tân trên cludo nwyddau a'r gollyngiad diesel Llangennech.

Mae swyddogion CNC ar y safle i gynghori ddal a symud y diesel er mwyn atal unrhyw lygredd pellach o’r Aber Llwchwr.

Mae Grŵp Amgylchedd Cymru wedi ymgynnull ac mae'n gweithio i fonitro a modelu'r effeithiau ar yr amgylchedd ac iechyd y cyhoedd.

Defnyddir y wybodaeth hon i lywio camau gweithredu sefydliadau i leihau'r effeithiau ar bobl a natur.

Cadeirir y grŵp gan CNC ac mae'n cynnwys cynrychiolwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr Asiantaeth Safonau Bwyd, cynghorau sir Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Sir Benfro, Adran Pysgodfeydd Llywodraeth Cymru, Asiantaeth Gwylwyr y Glannau Morol a Chanolfan Gwyddorau’r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu (CEFAS).

Mae gwelyau cocos a physgodfeydd pysgod cregyn wedi'u cau yn dilyn cyngor gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Dywedodd Ben Wilson, rheolwr digwyddiadau ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i liniaru effeithiau'r digwyddiad hwn. Ein blaenoriaeth ar hyn o bryd yw gweithio gyda'n partneriaid i gynnwys y gollyngiad diesel a’i symud yn ddiogel i atal llygru Aber Llwchwr ymhellach.
"Mae gennym hefyd dimau monitro sy'n asesu pa mor eang mae’r llygredd. Bydd eu gwaith yn helpu Grŵp Amgylchedd Cymru i asesu'r effaith amgylcheddol ehangach ar safleoedd fel y pysgodfeydd a dyfroedd ymdrochi lleol, ac unrhyw effaith ar fywyd gwyllt yn yr ardal.
"Mae modelu cychwynnol yn awgrymu bod llygredd olew wedi'i gyfyngu ar hyn o bryd i ben uchaf yr aber o amgylch Pont Llwchwr. Cefnogir hyn gan arsylwadau ar y safle. Rydym hefyd wedi gweld symiau sylweddol o olew dair milltir i lawr yr afon o'r fan hon.
"Rydym hefyd yn rhoi gwybod i phartneriaid a phobl sydd â buddiannau yn yr ardal, megis ffermwyr a deiliaid trwyddedau cocos, am y sefyllfa."