Ymchwiliad i dân ar safle tirlenwi wedi dod i ben

Tirlenwi Chwarel Hafod

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi rhoi rhybudd i Enovert North Ltd (Enovert), perchnogion safle tirlenwi, yn dilyn tân ar eu safle yn Johnstown fis Mai y llynedd.

Daw hyn yn dilyn ymchwiliad i’r digwyddiad ar safle tirlenwi Chwarel Hafod ar 27 Mai, lle cafwyd ymateb amlasiantaethol yn cynnwys yr awdurdod lleol a gwasanaethau brys.

Yn dilyn y digwyddiad hwn, daeth Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i’r casgliad ei bod yn debygol fod y tân wedi ei achosi gan ymlosgiad digymell yn dilyn cyfnod hir o dywydd sych.

Ers hynny mae CNC, fel rheolydd y safle tirlenwi, wedi cynnal ei ymchwiliad trylwyr ei hun er mwyn canfod a ddigwyddodd y tân oherwydd methiant Enovert i gydymffurfio ag amodau eu trwydded amgylcheddol. Ni chafwyd unrhyw dystiolaeth i awgrymu mai gweithrediadau Enovert a achosodd y tân. Er hynny, nododd yr ymchwiliad fod angen gwneud gwelliannau i’r ffordd yr oedd deunyddiau gorchuddio yn y safle tirlenwi yn cael eu defnyddio, a oedd wedi arwain at ddiffyg cydymffurfio â’r drwydded.

Mae CNC wedi anfon llythyr i Enovert i’w rhybuddio am y tor-rheol hwn, ac wedi gofyn iddynt gyflawni nifer o gamau cywiro er mwyn sicrhau eu bod y cydymffurfio â’r drwydded.

Meddai Julia Frost, Arweinydd Tîm Rheoleiddio Diwydiant CNC:

“Roedd hwn yn ddigwyddiad difrifol a gafodd ei reoli’n effeithiol gan fod yr holl bartneriaid wedi ymateb yn gyflym. Mae Enovert eisoes wedi cwblhau nifer o’r gwelliannau a amlygwyd yn yr ymchwiliad, ac rydym yn disgwyl am eu camau cywiro er mwyn sicrhau bod y gwaith wedi’i ddogfennu’n gywir.”
“Fel rheolydd y safle, rydym wedi ymrwymo i weld y perchennog yn cydymffurfio â’r drwydded, a byddwn yn parhau i weithio â’r cwmni i sicrhau bod y perchenog yn cyflawni gofynion y drwydded.”

Er mwyn rhoi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol cysylltwch â llinell gymorth CNC drwy ffonio 0300 065 3000, 24 awr y diwrnod, saith niwrnod yr wythnos.