Gwahodd defnyddwyr Coedwig Brechfa i sesiwn galw heibio am ei dyfodol

Coedwig Brechfa

Gwahoddir pobl leol sy'n mwynhau defnyddio Coedwig Brechfa, Sir Gaerfyrddin, i sesiwn galw heibio i gael gwybod sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn bwriadu rheoli'r coetiroedd dros y 10 mlynedd nesaf.

Ddydd Iau 17 Tachwedd, rhwng 12-7pm, gall aelodau'r gymuned alw heibio yn Neuadd Eglwys Brechfa i ddysgu am amcanion CNC ar gyfer y coetiroedd yn ei Gynllun Adnoddau Coedwig wedi'i ddiweddaru, a rhoi adborth. Mae'r digwyddiad yn cael ei gefnogi gan y grŵp cymunedol lleol, Pobl y Fforest.

Bydd y cynllun yn cefnogi gwaith CNC i reoli’r goedwig yn gynaliadwy ac mae’n nodi amcanion ar gyfer y 10 mlynedd nesaf. Mae'n ystyried manteision y safle i'r gymuned leol ac i ymwelwyr, y rhai sy'n dibynnu ar yr ardal am eu bywoliaeth a chenedlaethau'r dyfodol, gan ddiogelu ei gwydnwch hirdymor mewn perthynas ag argyfyngau’r hinsawdd a natur.

Meddai Andrew Hood, Uwch Swyddog Cynllunio Coedwigoedd ar gyfer CNC:

"Ry'n ni'n gwybod pa mor werthfawr yw ein coetiroedd, ac ry'n ni eisiau sicrhau bod y bobl sy'n eu defnyddio yn cael y cyfle i roi barn ar Gynllun Adnoddau Coedwig Brechfa. Mae mynd i'n sesiwn galw heibio yn gyfle i bobl siarad â staff CNC wyneb yn wyneb.
"Bydd y cynllun hwn yn caniatáu i'r goedwig ddod yn fwy gwydn. Mae coedwig wydn yn dda i natur a phobl, a bydd yn helpu i gynnal adnodd hamdden pwysig a lle arbennig i bobl ymweld ag ef. Bydd ein penderfyniadau rheoli yn ystod oes y cynllun yn seiliedig ar dystiolaeth ac ar waith monitro rheolaidd."

Meddai llefarydd ar ran Pobl y Fforest:

"Mae CNC yn cynnig cyfle i chi ddysgu sut mae’n bwriadu rheoli Coedwig Brechfa. Os ydych chi eisiau gwybod mwy am y rhesymeg y tu ôl i’r cynlluniau a chael rhannu eich sylwadau, dyma gyfle y dylech fanteisio arno."

Mae ymgynghoriad ar-lein CNC wedi cael ei ymestyn hyd at ddydd Gwener 2 Rhagfyr i bobl gael darllen y cynlluniau yn fanwl a gadael adborth.

Gall unrhyw un sy'n dymuno cymryd rhan ond sydd ddim yn gallu gweld y cynigion drwy ymgynghoriad ar-lein CNC gysylltu ar 0300 065 3000 a gofyn am gopi caled.

Gall preswylwyr sy’n dymuno anfon adborth drwy’r post ei anfon at:

Ymgynghoriad Cynllun Andoddau Coedwig Brechfa

Maes Newydd

Llandarcy

Castell-nedd Port Talbot

SA10 6JQ

Rhaid anfon yr holl adborth a’r cwestiynau erbyn dydd Mawrth, 2 Rhagfyr, 2022.