Gwaith pwysig er mwyn adfywio twyni tywod ym Merthyr Mawr

twyni tywod Merthyr Mawr

Bydd prosiect cadwraeth bwysig sydd gyda’r nod i adfywio twyni tywod ledled Cymru yn troi ei sylw at Merthyr Mawr yn fuan lle bydd gwaith pwysig yn cychwyn er mwyn gwarchod y cynefin gwerthfawr hwn.

Bydd Twyni Byw, prosiect a arweinir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, yn adfer mwy na 2,400 hectar o dwyni tywod, ar draws pedair Ardal Cadwraeth Arbennig, ar 10 safle gwahanol yng Nghymru.

Bydd gwaith y prosiect ym Merthyr Mawr yn cynnwys creu rhic yn y twyni ar hyd y traeth, tynnu llystyfiant o dopiau’r twyni a chrafu a gostwng lefelau rhai o’r llaciau. Bydd y gwaith yn rhoi hwb i gynefin tywod noeth sydd mor hanfodol i oroesiad rhai o blanhigion a phryfetach prinnaf sydd yma yng Nghymru.

Bydd Twyni Byw hefyd yn torri gwair ar rannau o'r twyni. Bydd hyn yn caniatáu i blanhigion twyni sy'n tyfu'n isel i ffynnu, tra hefyd yn cefnogi peillwyr ac infertebratau eraill ac yn rhoi hwb mawr i boblogaethau cwningod.

Dros yr 80 mlynedd diwethaf, mae tywod agored wedi diflannu o dwyni Cymru ac mae glaswellt trwchus a phrysgwydd wedi cymryd ei le. Mae'r twyni wedi sefydlogi ac nid ydynt yn symud, ac mae bywyd gwyllt prin wedi diflannu. Achoswyd y newid hwn gan ffactorau megis cyflwyno planhigion estron, diffyg pori traddodiadol, poblogaeth cwningod sy’n dirywio a llygredd aer.

Dywedodd Laura Bowen, Swyddog Prosiect a Monitro De Twyni Byw:

“Efallai bod twyni tywod anhygoel Merthyr Mawr yn edrych fel llefydd gwyllt, ond mae dal angen i ni gwblhau rhywfaint o waith ymyrraeth i’w hatal rhag gordyfu â gweiriau a phrysgwydd trwchus sy’n achosi i fywyd gwyllt prin y twyni i ddioddef.
“Bydd y gwaith hanfodol yma yn annog cynefin tywod noeth sy’n rhan hanfodol o nod ein prosiect i adfywio twyni tywod ledled Cymru.
“Wrth gynnal gwaith ar ein rhan, bydd yr holl gontractwyr yn dilyn y canllawiau cadw pellter cymdeithasol cyfredol COVID-19.”

Dywedodd Duncan Ludlow, Uwch Swyddog Rheolaeth Tir Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae hwn yn brosiect cyffrous sydd yn dilyn ymlaen o’r gwaith adnewyddu twyni a wnaed ar y safle yn y gorffennol.
“Bydd y gwaith yma yn helpu i ddiogelu’r nodweddion cadwraeth bwysig sydd gan y warchodfa natur ryngwladol bwysig hon.”

Bydd rhagor o waith Twyni Byw dros yr hydref a'r gaeaf hefyd yn digwydd yng Nghynffig, Twyni Pen-bre, Twyni Lacharn - Pentywyn a Thwyni Chwitffordd, yn ogystal â phum safle yng ngogledd Cymru.

Gellir cysylltu â'r prosiect ar SoLIFE@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.