Gwahoddiad i ddinasyddion wyddonwyr 'blymio' i ddyfroedd Cymru i helpu i ymchwilio i rywogaethau dyfrol prin 

Gwahoddir pobl o bob oed sy’n caru'r môr i blymio i gadwraeth forol a gwylio bywyd o dan y tonnau yng Nghymru – i helpu gwyddonwyr morol i ddeall y rhywogaethau dyfrol sy’n byw ger arfordir y wlad. 

O heddiw ymlaen (dydd Mawrth 8 Tachwedd), gall dinasyddion wyddonwyr fewngofnodi i blatfform Instant Wild Cymdeithas Sŵolegol Llundain ac archwilio'r byd tanddwr am y tro cyntaf, drwy wylio clipiau o gamerâu tanddwr ac adnabod y rhywogaethau y maent yn eu gweld ar hyd y ffordd. 

Yr alwad i weithredu yw’r diweddaraf gan Brosiect SIARC (Sharks Inspiring Action and Research with Communities), cydweithrediad a arweinir gan ZSL (The Zoological Society of London) a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a gynlluniwyd i ddeall ymhellach y morgwn (siarcod), a’r morgathod (skates / rays) prin sy’n byw yn yr ardal, gyda chymorth pysgotwyr, cymunedau ac ymchwilwyr ledled Cymru – a bellach gyda chymorth dinasyddion wyddonwyr ledled y DU.   

Dywedodd Joanna Barker o ZSL, Uwch-reolwr Prosiect SIARC:

“Mae dyfroedd Cymru yn gartref i amrywiaeth anhygoel o rywogaethau arfordirol prin ac anarferol, gan gynnwys y maelgi a’r ci glas, y ddau wedi’u rhestru fel Mewn Perygl Difrifol ar Restr Goch yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (IUCN) o Rywogaethau Dan Fygythiad. 
“Rydym yn falch iawn o allu dod â'r byd tanddwr hwn i gartrefi pobl; trwy fewngofnodi i Instant Wild ZSL, gall pobl o bob man helpu i ddeall yn well ble mae anifeiliaid morol i’w cael, sut maen nhw’n rhyngweithio â rhywogaethau eraill a sut maen nhw’n defnyddio’r cynefinoedd Cymreig gwarchodedig sy’n gartref iddynt – y cyfan yn wybodaeth hanfodol i helpu i ddiogelu’r rhywogaethau hyn.”  

Mae ap Instant Wild a phlatfform ar-lein ZSL ar gael yn rhad ac am ddim ac yn galluogi pobl o bob oed i ddod yn ddinasyddion wyddonwyr o’u cartref clyd eu hunain, trwy wylio ffilm o gamerâu a osodwyd gan gadwraethwyr yn y gwyllt a chofnodi'r anifeiliaid y maent yn eu gweld, a thrwy hynny arbed amser prosesu gwerthfawr.  

Er mwyn cael y ffilm danddwr newydd, gofynnodd gwyddonwyr Prosiect SIARC am gymorth pysgotwyr lleol arbenigol yr haf hwn i osod camerâu tanddwr a gynhyrchwyd gan Blue Abacus, gydag abwyd, mewn lleoliadau allweddol yn un o ddyfroedd gwarchodedig mwyaf y Deyrnas Unedig, sef Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a’r Sarnau (PLAS). 

Dywedodd Jake Davies, Cydlynydd Prosiect SIARC yn CNC:

“Roedd yn hanfodol i ni gyd-gynllunio’r astudiaeth hon gyda’r gymuned bysgota leol yng Nghymru, cymuned yr ydym wedi gweithio ochr yn ochr gyda hi ers lansio Prosiect SIARC – dim ond trwy gyfuno ei gwybodaeth arbenigol hi o’r ardal â’n technegau gwyddonol ni y llwyddon ni i gasglu'r data pwysig hwn.  
“Ar ôl casglu mwy na 90 awr o ffilm arolwg dros fisoedd yr haf, mae bellach yn nwylo’r cyhoedd i’n helpu ni i barhau â’r ymchwil hanfodol hon – trwy dreulio ychydig funudau yma ac acw yn adnabod morgwn, morgathod a bywyd morol prin arall yn byw eu bywydau beunyddiol ond dirgel. 
“Bydd yr ychwanegiad hwn at Instant Wild ZSL yn rhoi cipolwg unigryw i bobl o bob rhan o’r DU ar fywyd o dan ddyfroedd arfordir godidog Cymru, gan hefyd gynnig budd ychwanegol fel hamdden heddychlon – i gyd er budd gwyddoniaeth.”    

Dywedodd Kate Moses, rheolwr prosiect Instant Wild ZSL:

“Mae dinasyddion wyddonwyr o bob rhan o’r byd wedi helpu cadwraethwyr i adnabod anifeiliaid gwyllt ar dir mewn lleoedd fel Kenya, Croatia, yr Eidal a Mecsico – nawr, am y tro cyntaf, byddwn yn mynd â dinasyddion wyddonwyr o dan y tonnau yng Nghymru, ac yn cynnig fersiwn Gymraeg – i helpu hyd yn oed mwy o bobl i ymgysylltu â chadwraeth. 
“Mae ZSL yn awyddus i gael gwared ar rwystrau i gadwraeth, fel bod mwy o bobl yn gallu cymryd rhan yn ein gwaith yn arbed rhywogaethau – mae Instant Wild yn agored i bob oedran, ac nid oes angen unrhyw brofiad, gan fod tiwtorial syml – yn dysgu pobl sut i adnabod yr anifeiliaid rhyfeddol y gallent fod yn ddigon ffodus i’w gweld ar y sgrin.” 

Mae Prosiect SIARC, a sefydlwyd yn 2021, yn cael ei arwain gan ZSL a CNC, a’i ddarparu mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, Blue Abacus, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Prifysgol Abertawe a'r Shark Trust, ymhlith eraill.

Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar ddatblygu cysylltiadau rhwng pobl leol, gwyddonwyr a’r llywodraeth er mwyn diogelu’r morgwn a morgathod sy’n byw ar hyd arfordir Cymru. Mae’r prosiect wedi derbyn cyllid gan Gronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, ac On the Edge. 

Mae ZSL wedi ymrwymo i warchod rhywogaethau a dod â phobl yn nes at fywyd gwyllt – lawrlwythwch ap InstantWild heddiw, neu dechreuwch dagio ar eich cyfrifiadur yma.